minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Anerchiad Lywyddol Cynhadledd yr Esgobaeth 2020


Y Gwir Barchg Andy John
Esgob Bangor

"Y fath amser â hwn" 

Esther 4:14


Annwyl gydweithwyr a chyfeillion

Cyfarchion. Gras fo i chi a heddwch oddi wrth Dduw ein Tad, yr Arglwydd Iesu Grist a nerth yr Ysbryd Glân.

Rydym ni'n dod at ein gilydd fel Esgobaeth mewn ffordd wahanol eleni, fel y gwelwch chi. Er ein bod ni wedi dod i arfer â dod at ein gilydd ar lein, fel sydd raid i ni ar hyn o bryd, dyma’r tro cyntaf i ni geisio mewid y ffurf o ymgasglu yn ogystal â'r cyfrwng ar gyfer y Gynhadledd. Wrth i mi gofio am fis Mawrth, sydd i’w weld ymhell iawn yn ôl erbyn hyn, mae’n amheus gen i a fyddai unrhyw un wedi meddwl y byddem ni’n cyfarfod fel hyn, nac ein bod ar drothwy cyfnod clo cenedlaethol arall. Mae fy meddyliau gyda’r rhai sy’n ystyried y newid hwn gydag ofn a dychryn. Fe fyddaf i'n gweddïo drosoch drwy’r wythnos. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun.

Wrth gwrs, roedd y cyfnod clo cyntaf yn adeg o ofn a dychryn i lawer. Roedd eraill yn pryderu am eu busnesau neu am eu bod yn cael eu cadw oddi wrth eu ffrindiau a’u teulu. Ond i rai hefyd, roedd yn rhyddhad rhag gwaith caethiwus a blinderus. I rai eraill eto (ac rydw i’n dweud hyn yn gydymdeimladol) daeth yn rhywbeth i'w feio neu'n ffordd o guddio. Diflannodd pwysau chwerw-felys bywyd pob dydd ac yn ei le daeth penbleth a methiant i ganfod diben, ystyr na gweithgaredd buddiol. Daeth bywyd bob dydd yn ddiffrwyth.

Aeth ein darlleniadau o’r Beibl yn gynharach yn y flwyddyn drwy lythyr Sant Paul at y Philipiaid a gafodd ei ysgrifennu, fel y gwyddoch, mewn carchar yn Rhufain. Mae’r llythyr yn llawn o’r tensiwn sy’n cynnwys nid yn unig bryder dealladwy am les ond hefyd y darganfyddiad o ffydd yng Nghwrist, pethau newydd a bywiol. Mewn mannau eraill, mae Paul yn ymlafnio gyda’r ddeinameg o golli ac ennill: yn ei lythyr at y Corinthiaid, mae’n ysgrifennu sut nad yw bywyd a marwolaeth yn realiti ysbrydol sy’n dilyn ei gilydd, ond ,yn hytrach, yn wirionedd tragwyddol sy’n agos iawn at ei gilydd yn y sefyllfaoedd rydym ni’n eu hwynebu(Corinthiaid 4:12). Weithiau, mae’r enillion, arwyddion bywyd, yn cael eu darganfod yn hollol oherwydd ei bod yn ymddangos fod yna golled neu galedi y mae'n rhaid ei ysgwyddo.

Ar ddechrau’r anerchiad hwn, fel hoffwn i dalu teyrnged i'n gwahanol gymunedau a'n cymdeithasau. Yn gyntaf oll, y rhai sydd wedi cadw’r ffydd gyda’r eglwys a Christ ac sy’n dyheu am ganfod sut y gallwn ni i gyd ddod at ein gilydd eto i addoli’n ddiogel. Diolch i chi am ein dyfalbarhad a’ch ymrwymiad. Fe hoffwn i ddiolch i swyddogion yr eglwys hefyd am ddal ati ynghanol amhendantrwydd sydd wedi bod yn frawychus. Diolch am eich gwaith.Fe hoffwn i ddiolch i gydweithwyr – yn glerigion ac yn lleyg fel ei gilydd – am ddal ati pan oedd mor hawdd anobeithio. Yn fwyaf oll, fe hoffwn i ddiolch i gydweithwyr yng Nghyngor yr Esgob a oedd yn ceisio dangos llwybr gobaith gyda mi pan nad oeddem ni’n gallu gweld yr ‘olygfa bell’ chwedl y Cardinal Newman.Mae ein camau wedi bod yn betrus ac yn amodol, ond bob tro’n bositif, bob tro'n obeithiol.

Fe hoffwn i edrych ychydig yn fanylach ar y camau hynny'r tro hwn, os caf i?Ac rwyf eisiau dechrau gyda'r dywediad y 'normal newydd', sy’n rhyw fath o gamenwi, rwy'n meddwl. Y demtasiwn yw ceisio disgrifio rhywbeth sy’n sylweddol, set o newidiadau sy’n cael eu hachosi gan Covid ac sy’n cynhyrchu newid sy’n barhaol ac yn rhagweladwy. Rydym ni’n meddwl ‘Felly, dyma sut y bydd bywyd yn edrych nawr’. Ond mae’n debyg nad felly y bydd hi. Nid yw’n amlwg eto a yw hwn yn gyfnod a aiff heibio ai peidio, a fydd yn diflannu ond gadael ychydig o lanast ar ei ôl a fydd yn cymryd peth amser i'w glirio, neu, a ydyn ni erbyn hyn mewn cyflwr o newid parhaus. Rwy’n ddiolchgar i gydweithiwr a roddodd ddywediad i mi rwy’n ei weld yn hynod o ddiddorol: ‘anghyfforddusrwydd parhaol’. Mae’n awgrymu mai diffyg sicrwydd yw'r unig sicrwydd a pha mor anodd yw addasu i hynny.

Ond nid yw disgrifio ein sefyllfa fel hyn yn golygu ein bod yn anobeithio. Ac rwyf eisiau pwysleisio hyn wrth fy nghydweithwyr. Mae yna ffordd o ymateb yn dda i'n sefyllfa, rheoliadau ac ati sy'n gallu un ai ein dinistrio neu ein dyrchafu. Felly, beth yw'r ymateb yn y ffydd i’n sefyllfa ar hyn o bryd?Yn gyntaf, gadewch i mi gyfarch ein calonnau a'n meddyliau:

‘Edrychwch ar adar yr awyr, nid ydynt yn hau nac yn medi nac yn casglu i ysguboriau, ac eto mae eich Tad nefol yn eu bwydo. Onid ydych chwi yn llawer mwy gwerthfawr na hwy?Prun ohonoch a all ychwanegu un funud at ei oes trwy bryderu?Peidiwch felly â phryderu a dweud, ‘Beth yr ydym i’w fwyta?’neu ‘Beth yr ydym i’w yfed?’neu ‘Beth yr ydym i’w wisgo?’Dyma’r holl bethau y mae’r Cenhedloedd yn eu ceisio, y mae eich Tad nefol yn gwybod fod arnoch angen y rhain i gyd. Ond ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw a’i gyfiawnder ef, a rhoir y pethau hyn i gyd yn ychwaneg i chwi’. (Math 6:22 talfyrwyd)

Gallwn ddiystyru hyn yn rhy hawdd. Rydym ni’n gosod ein problemau mewn ffrâm rhy gul ac yn anghofio’r darlun mawr. Nid osgoi ysbrydol yw hyn. Mae’n rhoi’r cyd-destun priodol i feddwl am yr hyn o bryd a sut i aros yn gadarn pan fydd amgylchiadau'n symud i gyfeiriad gwahanol. Os byddwn ni’n aros yn agos at Dduw yn ein gweddïau a’n meddyliau fe fyddwn, mi wn i, yn canfod gras o dan bwysau.

Yn ail, fe allwn ni ganfod gwersi da i’n helpu ni hefyd. Gadewch i mi gyfeirio’n ôl at Sant Paul yn y carchar. Mewn cadwynau fel ag yr oedd, fe sylweddolodd fod yna gyfleoedd yn codi oherwydd ei fod yn y carchar. Dyma ei eiriau:‘Yr wyf am i chwi wybod, frodyr, fod y pethau a ddigwyddodd i mi wedi troi, yn hytrach, yn foddion i hyrwyddo'r Efengyl, yn gymaint â'i bod wedi dod yn hysbys, trwy'r holl Praetoriwm ac i bawb arall, mai er mwyn Crist yr wyf yng ngharchar, a bod y mwyafrif o'r brodyr, oherwydd i mi gael fy ngharcharu, wedi dod yn hyderus yn yr Arglwydd ac yn fwy hy o lawer i lefaru'r gair yn ddi-ofn',(Phil 1:12-14)

Dysgodd Paul o’i brofiadau sut i weld ei sefyllfa mewn goleuni gwahanol. Efallai ein bod ni’n gweld hynny fel camau bychan, ond roedden nhw'n cael effaith. Drwy ail ddychmygu’r hyn oedd yn bosibl, roedd eraill yn gallu clywed am Grist. A dyna pam fy mod wedi gofyn i bob Ardal Weinidogaeth i bwyso a mesur, i ystyried hyn ac i ymateb yn glir. Rwyf wedi gofyn i bob un ohonoch ffurfio grŵp bychan i feddwl ychydig, yn enwedig sut y gallwn ni gyfathrebu a datblygu ffyrdd newydd o addoli ond hefyd gan gadw ein ffyrdd safonol a thraddodiadol. Rwyf eisiau gofyn i chi eto ystyried gydag egni y tri chynllun sy’n hanfodol ar gyfer ein dyfodol:Cenhadaeth, Cyllid ac Eiddo. Rwy’n deall yn iawn y gallai fod yn rhaid i’n hatebion fod yn amodol ond nid yw hynny’n rheswm dros oedi. Mae’n rhaid i ni gofio ein bod wedi’n galw i addoli Duw, tyfu’r eglwys a charu byd sydd angen gobaith a phwrpas.

Yn drydydd, rwyf hefyd eisiau i chi gynnal archwiliad llawn a phriodol o’ch cyllid. Rydym ni’n hynod ddiolchgar i’r Corff Cynrychioliadol sydd wedi rhoi symiau arwyddocaol sydd wedi galluogi esgobaethau i dalu am eu gweinidogaeth eleni. Ond ddylem ni ddim rhagdybio y bydd hyn yn parhau. Mae Ardaloedd Gweinidogaeth sydd wedi dibynnu ar godi arian i gyfrannu a Gronfa Weinidogaeth yr Esgob yn darganfod bod yn rhaid iddyn nhw daflu’r rhwyd yn ehangach drwy gynyddu debydau uniongyrchol a Rhoi yn Syth drwy gynllun y Corff Cynrychioliadol. Bydd yn rhaid i Ardaloedd Gweinidogaeth sy’n gwneud dim mwy na dibynnu ar y casgliad ar y Sul ofyn sut y gallan nhw gynnal eu bywyd hefyd:disgrifo’r broblem mae dweud fod y coffrau’n wag. Rydym ni angen atebion, rhai sy’n codi o haelioni ac ymrwymiad.

Rwy’n gofyn i’n Cyfarwyddwr Systemau a Stiwardiaeth (Mr Owain Pritchard) ail lenwi ein Blwch Offer Haelioni er mwyn gallu dosbarthu amrywiaeth o fentrau lleol mewn eglwysi unwaith eto. Dydw i ddim eisiau byw mewn hinsawdd o argyfwng pan mae o fewn ein gallu ni i ymdrin â hyn yn gadarn. Felly, rwy’n gofyn i Drysoryddion ac arweinwyr Ardaloedd Gweinidogaeth roi blaenoriaeth i hyn.

Ymhen ychydig wythnosau byddwn yn cychwyn ar yr Adfent unwaith eto ac yn paratoi am Nadolig sy’n debyg o fod yn un tra gwahanol i’r blynyddoedd diwethaf. Mae ein cwrs Adfent ni (‘Tirweddau Cyfnewidiol’) ar fin cael ei lansio a bydd yn ein gwahodd ni i gysylltu â daearyddiaeth yr ardal hon ac ystyried sut beth yw ffydd yn y byd go iawn. Mae’r Adfent hefyd yn gyfnod o edrych a disgwyl, fel y Grawys.

Ac at hyn yr hoffwn i dynnu eich sylw:nid y math o ddisgwyl sy’n ddiffrwyth a heb ddim creadigedd ond sy’n ystyried o ddifrif ein sefyllfa bresennol ac sy’n gweld sut y gallwn ni symud ymlaen gyda ffydd fywiog ac ymrwymiad cadarn. Mae hwn yn gyfnod pan allwn ni wneud argraff yn union oherwydd ein bod yn wynebu her. Fel yng nghyfnod Esther, yn wynebu heriau amhosibl o ddychrynllyd, cafodd ei hatgoffa pam ei bod yno, yr adeg hynny. Mae angen i ni glywed mai yn ‘y fath amser â hwn’ y byddwn ni hefyd yn cael ein galw i wasanaethu Duw a'r byd. Dyma ein tasg a dyma’n cyfnod – neb arall, ac mae’n rhaid i ni fwrw ati gyda’n holl egni, ffydd a dychymyg.

Amen.

Cymraeg

2020 Diocesan Conference Presidential Address


The Rt Revd Andy John
Bishop of Bangor

"Such a time as this" 

Esther 4:14


Dear colleagues and friends,

Greetings. Grace to you and peace from God our Father, the Lord Jesus Christ and the power of the Holy Spirit.

We are gathering as a Diocese differently this year as you now see. Although accustomed to the online gatherings which have been necessary for some time, this is the first occasion we have attempted to shift the lines of gathering as well as the medium for the Conference. As I think back to March, which seems a very long time ago, I don’t think anyone would have thought we would be engaged in meeting like this nor would we be on the verge of a second national lockdown. My thoughts are with those who contemplate this shift with dread and worry. I pray for you throughout the week. You are not alone.

Of course the period of the first lockdown was marked for many by these emotions. For others, it was the concern for their businesses or isolation from friends and family. For others it has been something of a relief because the treadmill stopped for a while. For others still (and I say this with understanding) it became a prop or couch behind which to hide. The bittersweet pill of pressure removed has stood alongside a disorientation and inability to find either purpose, meaning or fruitful activity. Paralysis has become the order of the day.

Our Bible readings earlier in the year took us through St Paul’s letter to the Philippians which you will know was written from a jail in Rome. The letter is marked by that tension which holds together a legitimate concern for well-being and also the discovery through faith in Christ, new things which were life giving. Elsewhere Paul wrestles with this dynamic of loss and gain: in his letter to the Corinthians he writes how life and death are not sequential spiritual realities but rather eternal truths which sometimes sit very closely together in the situations we face (2 Corinthians 4:12). Sometimes the gains, the signs of life are discovered precisely because there seems to be a loss or hardship to bear.

At the beginning of this address, I want to pay tribute to our different communities and constituencies. Firstly all of those who have kept faith with the church and Christ and are longing to find how we can again gather safely in worship. Thank you for your steadfastness and commitment. I want to thank officials in the church too for sticking with an uncertainty which has been unnerving. Thank you for your work. I want to thank colleagues – lay and clerical alike for holding steady when the temptation has been to despair. Most of all I wish to thank colleagues in the Bishop’s Council who have attempted to chart a hopeful course with me when we have not been able to see the ‘distant scene’ as Cardinal Newman put it. Our steps have been tentative and contingent but always positive, always hopeful.

I want to unpack some of those steps a little more in this time if I may? And I want to begin with that phrase the ‘new normal’, a kind of misnomer I think. The temptation is to try and describe something which has solid form, a set of changes, occasioned by Covid, which produces a change which is permanent and predictable. We think ‘So this is what life will now look like’. But that is probably not the case. Whether this is a passing phase, whether this leaves some debris along the way which will take time to clear or whether we are now in a permanent state of change, is not yet clear. I am grateful to a colleague for giving me a phrase I find particularly intriguing: ‘continuous uncomfortability’. It suggests a lack of certainty as the only certainty and how adjusting to this is challenging.

To describe our situation like this, does not mean we are thrown into paralysis. And I want to emphasize this to colleagues. There is a way of responding well to our situation, regulations et al which can either defeat or dignify us. So what is a faithful response to our current situation? Firstly, let me speak to our hearts and minds:

‘Look at the birds of the air; they do not sow or reap or store away in barns, and yet your heavenly Father feeds them. Are you not much more valuable than they? Can any one of you by worrying add a single hour to your life? So do not worry, saying, “What shall we eat?” or “What shall we drink?” or “What shall we wear?” For the pagans run after all these things, and your heavenly Father knows that you need them. But seek first his kingdom and his righteousness, and all these things will be given to you as well. (Matt 6:26f abridged)

We can skip pass this too easily. We frame our problems very narrowly and forget the big picture. This is not spiritual avoidance. It provides the appropriate context for thinking about the immediate and how to hold a steadiness when the circumstances move in the opposite direction. If we are staying close to God in our prayers and thoughts we will, I know, find grace under pressure.

Secondly we can find good lessons too to help us. Let me refer back to St Paul in prison. Chained as he was, he discovered opportunities created only because of the prison. These are his words: ‘Now I want you to know, brothers and sisters that what has happened to me has actually served to advance the gospel. As a result, it has become clear throughout the whole palace guard and to everyone else that I am in chains for Christ. And because of my chains, most of the brothers and sisters have become confident in the Lord and dare all the more to proclaim the gospel without fear’. (Phil 1:12-14).

Paul’s experience taught him how to see his situation differently. We might see these as little steps but they had impact. A re-imagining of what was possible allowed others to hear about Christ. And it is for this reason I have asked each Ministry Area to now take stock, to reflect on this and to respond clearly. I have asked all of you to bring a small group together to do a piece of thinking, especially in relation to how we communicate and develop new ways of worshipping alongside our received and traditional ways. I want to ask you again to engage with energy the three plans that are critical to our future: Mission, Finance and Property. I fully realize our answers might need to be contingent but this is no reason for delay. We need to remember that we are called to worship God, grow the church and love a world which needs hope and purpose.

Thirdly, I also want you to make a full and proper audit of your finances. We are immensely grateful to the Representative Body who have provided significant sums to enable dioceses to pay for their ministry this year. But we ought not to assume this will continue. Ministry Areas which have relied on fundraising to pay the Bishop’s Ministry Fund are discovering they need to broaden their base of giving by increasing direct debits and Gift Direct through the RB scheme. Ministry Areas which do nothing more than rely on Sunday plate will need to ask how they can sustain their life too: pleading the coffers are empty describes the problem. We need solutions, ones which speak of generosity and commitment.

I am asking our Director of Systems and Stewardship (Mr Owain Pritchard) to replenish our Generosity Tool-Box so that a suite of local church based initiatives can be distributed again. I do not want us to inhabit a climate of crisis when it is within our sphere of influence to attend to this robustly. So I am asking Treasurers and Ministry Area leaders to make this a priority.

In a few weeks we will begin Advent once more and prepare for a Christmas that is likely to be quite different from previous years. Our own Advent course (‘Changing Landscapes’) will soon be launched which will invite us to engage with the geography of this area and reflect on what a real world faith looks like. Advent is also a time of watching and waiting, like Lent.

And it is to this I wish to now call your attention: not a waiting which is inactive and void of creativity but a serious engagement with our current situation and a faith which sees how we can navigate the way ahead with vibrant faith and robust commitment. This is a time when we can make an impact precisely because we face challenge. As in the time of Esther, facing impossibly daunting challenges, she was reminded why she was there at that time. We need to hear it is ‘for such a time as this’ we too are called to serve God and the world. This is our task and our time – nobody else’s and we must set ourselves to it with all our energy, faith and imagination.

Amen.