
Mae'r Esgob yn cyhoeddi llythyrau rheolaidd am ein hymateb i'r coronafirws.
Llythyr yr Esgob i'r esgobaeth
5 Mai 2020 | Gŵyl Asaff Sant, Esgob
Annwyl gyfeillion
Pob gras a thangnefedd i chi.
“Llawenycha fy nghalon, a rhof foliant ar gân”
Mae'r salm i'w defnyddio yn y Cymun heddiw, Dydd Gŵyl Asaff Sant, yn gyfran o Salm 28:
Bendigedig fyddo'r Arglwydd am iddo wrando ar lef fy ngweddi. Yr Arglwydd yw fy nerth a'm tarian; ynddo yr ymddiried fy nghalon; yn sicr caf gymorth, a llawenycha fy nghalon, a rhof foliant iddo ar gân. (28:6-7)
Dyma eiriau all fod yn anodd eu dweud a’u gweddïo ar hyn o bryd, a ninnau wedi ein rhwymo gan ofod ac amser a gwendid, ar goll mewn môr o ddinistr a dioddefaint a thristwch. Rydyn ni'n gwybod nad rhywbeth syml a hawdd yw’r ffordd y mae Duw yn gwrando ar lef ein gweddi ac yn rhoi inni ei gymorth.
Ond rydyn ni hefyd yn adnabod grym bywyd yn nyfnder pethau - y grym hwnnw sy'n ein clymu ni oll â'n gilydd, â'r greadigaeth gyfan, ac yn y pen draw â Duw ein crëwr a'n tynged. Ac fe wyddom ni bod y grym hwnnw, y bywyd hwn, yn llifo atom ni oddi wrth Iesu Grist, y clywfedig a’r atgyfodedig, yn hwn sy’n cyfrannu o’n dynoliaeth, a’r hwn ddaw â gras undeb â Duw agos atom ni. Ac felly “llawenycha fy nghalon, a rhof foliant iddo ar gân.”
Yn y llythyr byr hwn ar ddechrau'r wythnos hon, rwyf am ganolbwyntio ar ychydig o bethau sy’n foddion bywyd, gobaith a ffyddlondeb ar hyn o bryd.

Wythnos Cymorth Cristnogol
Cynhelir Wythnos Cymorth Cristnogol ar 10-16 Mai, felly mae'n cychwyn y dydd Sul nesaf.
Mae Cymorth Cristnogol yn bartner pwysig i ni yn yr esgobaeth, ac mae iddo wreiddiau dwfn yn ein heglwysi a'n capeli yng Nghymru. Mae galwedigaeth Cymorth Cristnogol i garu'r byd yn y lleoedd mwyaf anghenus o werth drudfawr.
Mae Wythnos Cymorth Cristnogol yn bwysig iawn er mwyn cynnal y gwaith gwerthfawr hwnnw, ac rwy’n siŵr y bydd gan Cymorth Cristnogol bryderon ariannol ar hyn o bryd.
A gaf felly annog pob un ohonom i wneud yr hyn a allwn i gefnogi eu cenhadaeth a'u gweinidogaeth yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol eleni.
Ceir ar wefan Cymorth Cristnogol:
- Ffordd hawdd o roi rhodd. Rwy’n falch ein bod wedi gallu rhoi rhodd frys cymedrol oddi wrth Fwrdd Cyllid yr Esgobaeth eleni.
- Ffordd o anfon Amlen-e at ffrindiau a theulu i annog eraill i wneud rhodd flynyddol. Mae hyn yn ffordd wych o gadw ysbryd ac egni y casgliad Wythnos Cymorth Cristnogol blynyddol yn fyw.
- Adnoddau i nodi'r Wythnos. Mae adnoddau addoli a gweddi dwyieithog ar y dudalen hon (gweler y adran New resources), ynghyd â dolenni i'r gweithgareddau ar-lein cenedlaethol arloesol y mae Cymorth Cristnogol yn eu cynnal eleni.
Byddaf yn gwneud Wythnos Cymorth Cristnogol yn ganolbwynt fy myfyrdod y dydd Sul hwn, ac anogaf bob un ohonom i gofio Cymorth Cristnogol yn ein haddoliad, ein pregethau, ein myfyrdodau e-bost a'n gweddïau y penwythnos hwn.

Diwrnod VE
Mae’n 75 mlynedd ers Diwrnod Buddigoliaeth yr Ewrop ddydd Gwener, 8 Mai.
Er na fydd y digwyddiadau cenedlaethol a gynlluniwyd ar gyfer y diwrnod hwn bellach yn gallu cymryd lle, mae'n bwysig peidio ag anghofio’r foment hon.
Mae'n gyfle i goffáu gwasanaeth, gwytnwch ac aberth cenhedlaeth yr Ail Ryfel Byd, ac i weddïo am heddwch yn ein dyddiau ni.
- Rwy'n ddiolchgar i Ruth Hansford sydd rhsannu deunydd addoli a gweddi y bu iddi ei lunio i'w ddefnyddio ym Mro Ystumanner, ac sydd wedi'i gynnwys yn ein hadran o adnoddau a gasglwyd o bob rhan o'r esgobaeth.
- Mae yna hefyd gyfoeth o adnoddau ar gael ar wefan y Lleng Brydeinig Frenhinol, gan gynnwys deunyddiau dysgu i blant, a newyddion am y digwyddiadau ar-lein a theledu a fydd yn eu cynnal.
Mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn galw ar bobl ledled y wlad i ymuno mewn moment o fyfyrio a Choffáu am 11am ddydd Gwener, ac oedi am Dawelwch Dau Funud. Byddaf yn cadw'r Tawelwch Dau Funud, ac yn gobeithio y byddwch yn gallu ymuno â mi i wneud hynny ledled yr esgobaeth.

Llan
Rwy’n falch iawn o rannu’r newydd bod tîm staff craidd ein prosiect Cronfa Efengylu, Llan, wedi dechrau ar ei waith dros yr wythnosau diwethaf.
Penodwyd James Tout yn Gyfarwyddwr Llan i arwain y prosiect. Rydym hefyd wedi penodi Jules Burnand fel Cyfarwyddwr ar y Cyd i weithio ysgwydd yn ysgwydd â James, gan helpu i sefydlu'r fenter newydd a chyffrous hon.

James Tout | Cyfarfwyddwr Llan
Hyfforddodd James fel athro ysgol uwchradd ar ôl cwblhau ei radd baglor ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cyn ymuno â'r esgobaeth, bu James yn gweithio yn Ysgol y Gororau yng Nghroesoswallt fel Cyfarwyddwr Gwyddoniaeth a Phennaeth Cynorthwyol ar y Cyd.
Ordeiniwyd James yn Ddiacon ym mis Mehefin 2019 ac ar hyn o bryd mae’n cynorthwyo yn Eglwys Plwyf Sant Silyn yn Wrecsam fel Curad Cynorthwyol Hunan-Gynhaliol.
Rwy’n falch iawn o groesawu James fel rhan o Dîm Deiniol. Mae ei gefndir proffesiynol ynghyd â’i brofiad o fewn yr Eglwys yn gyfuniad ardderchog o sgiliau i lansio a datblygu’r gwaith pwysig hwn.
Jules Burnand | Cyfarfwyddwr ar y Cyd Llan
Bydd Jules yn gyfarwydd i lawer ohonom, am iddi ymuno â'r esgobaeth ar gontract tymor penodol o fewn Tîm Deiniol bron i flwyddyn yn ôl. Cyn hynny bu Jules yn gweithio mewn swyddi uwch yn y sector addysg awyr agored a Llywodraeth Cymru.
Bydd ei phrofiad mewn cynllunio a rheoli prosiect yn hynod werthfawr wrth i ni sefydlu a datblygu cydrannau niferus y prosiect ar draws sawl safle a thîm yn yr esgobaeth.
Rydym yn falch iawn bod Jules wedi dewis parhau i weithio gyda ni ac i gyflawni'r rôl bwysig hon.
Sylwch, yn ystod yr argyfwng cyfredol hwn, bydd Jules yn parhau i ddarparu cymorth gweinyddol o ddydd i ddydd am dri diwrnod yr wythnos.
Dechrau'r gwaith
Nid dyma ddechrau'r prosiect yr oeddem wedi'i ragweld.
Fodd bynnag, law yn law â heriau'r dyddiau hyn fe ddaw hefyd rhyw ychydig o ofod i fyfyrio a chynllunio.
Ac felly mae modd i’r cyfnod cychwynnol hwn yng ngwaith James a Jules ganolbwyntio’n ffrwythlon ar sefydlu’r tîm, adeiladu partneriaethau cryf a gosod sylfeini cadarn ar gyfer gwaith y saith mlynedd a ddaw.
Rwy'n gobeithio gallu darparu diweddariadau rheolaidd yn y llythyrau hyn am waith datblygol y prosiect. Bydd tîm Llan hefyd yn adrodd yn ôl yn rheolaidd i Gyngor yr Esgob, ac i bob cyfarfod o gyfarfod Cyngor yr Esgobaeth, gan ddechrau gyda’i gyfarfod nesaf ar ddiwedd mis Gorffennaf

Llanelwy ar Ddydd Gŵyl Asaff Sant
At Ddydd Gŵyl Asaff Sant, ymunwch â’m gweddi i dros Esgob Gregory a holl glerigion a phobl Esgobaeth Llanelwy, gan ddiolch am ein partneriaeth yn yr Efengyl ac am yr holl waith arloesol sy'n digwydd yn Llanelwy i gyfrannu yng nghenhadaeth Duw.
Hollalluog a thragwyddol Dduw, a elwaist Asaff i fod yn esgob yn dy Eglwys ac i gyhoeddi’r efengyl i’r genedl hon: dyro i ni, dy weision, y fath ffydd a grym cariad, fel, wrth i ni lawenhau yn ei oruchafiaeth, y byddwn yn elwa ar ei esiampl; trwy Iesu Grist ein Harglwydd, yr hwn trwy nerth yr Ysbryd Glân a gyfodaist i fywyd gyda thi, ei Dduw a’i Dad, byth bythoedd. Amen.
Y Gwir Barchg Andy John
Esgob Bangor
The Bishop is publishing regular letters about our response to coronavirus.
The Bishop's letter to the diocese
5 May 2020 | The Feast of St Asaph, Bishop
Dear colleagues and friends
All grace and peace to you.
“My heart exults, and with my song I give thanks”
The psalmody for use at the Eucharist today, the Feast of St Asaph, is a portion of Psalm 28:
Blessed be the Lord, for he has heard the sound of my pleadings. The Lord is my strength and my shield; in him my heart trusts; so I am helped, and my heart exults, and with my song I give thanks to him. (28:6-7)
They can be hard words to say and pray at the moment, bounded as we are by space and time and powerlessness, drowned as we can so often feel by devastation and suffering and sorrow. We know that there is nothing glib or simplistic about the way in which God hears our pleadings and comes to our help.
But we also know the power of life that is at the depth of things – that power which connects us to one another, to the whole of creation, and ultimately to God our creator and our destiny. And we know that this power, this life, flows to us from Jesus Christ, wounded yet resurrected, sharing our humanity and bringing to us the grace of union with God. And so “my heart exults, and with my song I give thanks to him.”
In this short letter at the beginning of this week, I want to focus on a few things that speak of life, hope and faithfulness at the moment.

Christian Aid Week
Christian Aid Week takes place on 10-16 May, so begins this coming Sunday.
Christian Aid is an important partner for us in the diocese, and has deep roots in our churches and chapels. Their work of loving the world in the neediest of places is of great value.
Christian Aid Week is of great importance in sustaining that valuable work, and I am sure that Christian Aid will be feareful about financial pressures at the moment.
May I therefore encourage all of us to do what we can to support their mission and ministry this Christian Aid Week.
The Christian Aid website includes:
- An easy way to make a donation. I am glad that we have been able this year to make a modest emergency donation from the Diocesan Board of Finance.
- A way of sending an e-envelope to friends and family to encourage others to make an annual donation. This seems like a great way to keep alive the spirit of the Christian Aid Week collection.
- Resources to mark the Week. There are bilingual worship and prayer resources on this page (see the New resources section), as well as links to the innovative national online activities that Christian Aid are holding this year.
I will be making Christian Aid Week the focus of my reflection this Sunday, and I urge all us to remember Christian Aid in our worship, sermons, emailed reflections and prayers this coming weekend.

VE Day
The 75th anniversary of VE Day falls this Friday 8 May.
Even though the national events planned for this day will now not be able to go ahead, it is important not to let this moment go unmarked.
It is an opportunity to call to mind the service, resilience and sacrifice of the Second World War generation, and to pray for peace in our day.
- I am grateful to Ruth Hansford who has made available worship and prayer material that she had compiled for use in Bro Ystumanner, and which is included in our section of resources gathered from across the diocese.
- There is also a wealth of resources available on the Royal British Legion website, including learning materials for children, and news about the online and televised events that are now to take place.
The Royal British Legion is calling on people across the UK to join in a moment of reflection and Remembrance at 11am on Friday, and pause for a Two Minute Silence. I will be keeping the Two Minute Silence, and hope that you will be able to join me in doing so across the diocese.

Llan
I am very pleased to share the news that the core staff team of our Evangelism Fund project, Llan, has begun its work over recent weeks.
James Tout has been appointed as the Director of Llan to lead the project. We have also appointed Jules Burnand as the new Associate Director for Llan to work alongside James, helping set up this exciting new venture.

James Tout | Director of Llan
James trained as a secondary school teacher after completing his bachelor’s degree at Cardiff University.
Before joining the diocese, James worked at The Marches School in Oswestry as the Director of Science and Associate Assistant Headteacher.
James was ordained Deacon in June 2019 and is currently assisting at St Giles’ Parish Church in Wrexham as an NSM Assistant Curate.
I are delighted to welcome James as part of Tîm Deiniol. His professional background together with his experience within the Church are exactly the right mix of skills that we need to launch and develop this important work.
Jules Burnand | Associate Director of Llan
Jules will be familiar to many as us, as she joined the diocese on a fixed-term contract within Tîm Deiniol almost a year ago. Jules has previously held senior positions within the outdoor education sector and the Welsh Government.
Her experience in planning and project management will be extremely valuable as we set up and develop the numerous components of the project across several sites and teams within the diocese.
We are very pleased that Jules has chosen to continue to work with us and to fulfil this important role.
Please note that during this current emergency, Jules will be continuing to provide day-to-day administrative support for three days a week.
Starting our work
This is not the start to the project that we had envisaged.
However, with the challenges of these days comes also the gift of space to reflect and plan.
And so there is scope here for this initial phase of James and Jules’s work to be fruitfully focused on establishing the team, building strong partnerships and laying firm foundations for the work of the next seven years.
I hope to be able to provide regular updates in these letters about the developing work of the project. The Llan team will also be regularly reporting to the Bishop’s Council, and to each meeting of the Diocesan Council meeting, beginning with the Diocesan Council’s next scheduled meeting at the end of July.

St Asaph’s Day
On St Asaph’s Day, please join me in praying for Bishop Gregory and for the clergy and people of our neighbouring diocese, giving thanks for our partnership in the Gospel and for all the innovative work that is taking place in the Diocese of St Asaph to share in God’s mission.
Almighty and everliving God, who called Asaph to be a bishop in your Church and to proclaim the gospel to this nation: give us, your servants, such faith and power of love, that, as we rejoice in his triumph, we may profit by his example; through Jesus Christ our Lord, whom by the power of the Spirit you raised to live with you, his God and Father, for ever and ever. Amen.
The Rt Revd Andy John
Bishop of Bangor