minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
“Hwn yw fy nghorff, sydd er eich mwyn chwi. Gwnewch hyn er cof amdanaf.” | “This is my body that is for you. Do this in remembrance of me.”
English

Mae'r Esgob yn cyhoeddi llythyrau rheolaidd am ein hymateb i'r coronafirws.


Llythyr yr Esgob i'r esgobaeth


13 Mehefin 2020


Annwyl gyfeillion

Pob gras a thangnefedd i chi.


Cymuned wirioneddol Ewcharistaidd

Yn ei lythyr cyntaf at y Cristnogion yng Nghorinth, ysgrifennodd Paul:

“Bob tro y byddwch yn bwyta'r bara hwn ac yn yfed y cwpan hwn, yr ydych yn cyhoeddi marwolaeth yr Arglwydd, hyd nes y daw” (1 Corinthiaid 11:26).

Ddydd Iau diwethaf efallai y byddem wedi dymuno cadw gwledd y Diolchgarwch am y Cymun Bendigaid a byddwn wedi darllen y geiriau hynny. Maen nhw'n sail i'm myfyrdod ar gyfer y dydd Sul hwn, y gallwch ei ganfod yma.

Wrth imi weld y dicter parhaus ledled y byd am yr anghyfiawnderau dwfn sy'n wynebu pobl ddu, rwyf wedi ystyried y geiriau hynny eto.

Honiad Paul yw ein bod yn cyhoeddi gwaith achubol Duw yng Nghrist bob tro rydyn ni’n cymryd y bara a’r cwpan. Mae ei farwolaeth a'i atgyfodiad yn cael eu cyfleu mewn ffordd benodol bob tro rydyn ni'n rhannu'r Cymun.

Yn y Swper Olaf cymerodd Iesu yr hyn a oedd mor gyfarwydd i’w ddisgyblion a’r stori am sut y gwnaeth Duw achub pobl a’u dwyn o gaethwasiaeth i ryddid.

Ond fe ailadroddodd stori iachawdwriaeth a rhyddid gan gyfeirio at ei farwolaeth ei hun sydd ar ddod. Mae'n ailadroddiad rhyfeddol o stori hynafol yn y ffordd y mae'n gosod canolbwynt ei fywyd, ei farwolaeth a'i atgyfodiad rhagfynegol.

Ni all fod yn wir bod y cyhoedd hwn yn fater o eiriau yn unig. Rhaid i Gymuned wirioneddol Ewcharistaidd fyw'r bywyd hwnnw, y farwolaeth honno, a'r atgyfodiad hwnnw, a hynny'n feunyddiol. Ac mae hyn yn golygu cyfeirio pobl oddi wrth bopeth sy'n doredig ynom ni a'n cymdeithas, a thuag at y rhyddid a addawyd gan Grist.

Efallai na fyddwn yn gallu derbyn bara a gwin cysegredig ar hyn o bryd - ond nid yw'r groes a'r atgyfodiad yn ddarostyngedig i'r gwaharddiadau yr ydym yn eu profi ar hyn o bryd.

Nid ydym ychwaith yn cael ein rhyddhau o'n dyletswydd i gyhoeddi a byw y neges hon o her a gobaith ger bron yr holl fyd.


Gweddi ac addoliad

Ar y dudalen hon, fe welwch ddeunydd yr wyf yn ei ddarparu i gefnogi addoli ar yr aelwyd ddydd Sul, gŵyl Diolchgarwch am y Cymun Bendigaid. Mae trefn gwasanaeth ddwyieithog ar gyfer Litwrgi y Gair, ynghyd â thestun y darlleniadau, myfyrdod wedi'i recordio yn Gymraeg a Saesneg, a'i thestun dwyieithog.


Eglwys Cwyfan Sant, Llangwyfan | St Cwyfan's Church, Llangwyfan

Adeiladau eglwysig

Mae llacio mewn Rheoliadau cyfyngu symud yn Lloegr yn golygu bod adeiladau eglwysig dros y ffin yn gallu cael eu hagor ar gyfer gweddi breifat o heddiw ymlaen.

Rydym wedi gallu arsylwi dros y dyddiau diwethaf ar y gymysgedd o deimladau ac ymatebion yn Lloegr: 

  • y llawenydd a ddaw o allu cynnig y rhodd o le cysegredig i bawb yn y gymuned unwaith eto; 
  • y rheidrwydd i wneud hynny'n ddiogel; 
  • y pryder ynghylch asesu risg a diogelu clerigion a gwirfoddolwyr; 
  • y gwahaniaeth rhwng yr hyn a ganiateir, yr hyn sy'n bosibl, a'r hyn sy'n briodol
  • yr angen i arfer dirnadaeth ddoeth, realistig ac ar y cyd ynghylch y camau nesaf.

Y sefyllfa yng Nghymru

Llywodraeth Cymru sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch Rheoliadau cyfyngu symud ac adeiladau eglwysig yng Nghymru. 

Mae Archesgob Cymru, gyda chefnogaeth staff o dîm y dalaith, ac yn gweithio ar y cyd ag arweinwyr yr enwadau a chymunedau ffydd eraill yng Nghymru, wedi bod yn rhan o drafodaethau manwl gyda Llywodraeth Cymru dros yr wythnosau diwethaf. 

Mae'r trafodaethau hynny'n parhau. Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo dan arweiniad staff tîm y dalaith, gyda chefnogaeth archddiaconiaid o bob rhan o'r dalaith, i baratoi canllawiau sy'n benodol i'r eglwys.

Camau nesaf

Mae'n debyg mai'r cam ffurfiol nesaf fydd cyhoeddiad gan Brif Weinidog Cymru a fydd yn pennu dyddiad pan y caniateir i adeiladau eglwysig fod ar agor ar gyfer gweddi breifat. Mae'n debygol y bydd rheoliadau llywodraethol manwl yn cyd-fynd â'r cyhoeddiad.

Fy nisgwyl yw y bydd yr Eglwys yng Nghymru, yn syth ar ôl hyn, yn cyhoeddi ei chanllawiau ei hun ynghylch agor eglwysi ar gyfer gweddi breifat. Bydd hyn yn cynnwys:

  • rhestr o'r ystyriaethau y bydd yn rhaid i bob Ardal Weinidogaeth feddwl amdanyn;
  • yr asesiadau risg y bydd angen eu cwblhau;
  • manylion y deunyddiau hylendid y bydd angen iddynt fod ar gael ac arwyddion y bydd angen eu harddangos.

Dim ond wedyn y bydd hi'n bosibl cynnal sgyrsiau penodol rhwng Arweinwyr Ardaloedd Gweinidogaeth ac Archddiaconiaid ynghylch agor adeiladau eglwysig ar gyfer gweddi breifat. 

Bydd angen i ni feddwl yn ofalus, ym mhob cyd-destun lleol, am yr hyn a ganiateir, yr hyn sy'n bosibl, a'r hyn sy'n briodol.

Gwneud penderfyniadau doeth a realistig

Fel y gwelsom mewn mannau eraill, mae lleddfu cyfyngiadau symun yn fwy cymhleth na'u cychwyn. 

Rwy'n gwerthfawrogi y bydd hwn yn gyfnod o bryder i rai ohonom. A gaf fi ein hannog i fod yn amyneddgar a charedig gyda'n gilydd. 

Ac a gaf fi hefyd eich sicrhau o'r gefnogaeth a fydd ar gael - gan dimau'r dalaith a'r esgobaeth, ac oddi wrth archddiaconiaid - i'n helpu ledled yr esgobaeth i wneud penderfyniadau doeth a realistig pan ddaw'r amser.


Mynwent Llanbeblig | Llanbeblig cemetery

Claddu lludw

Deallaf fod nifer o geisiadau yn cael eu derbyn gan drefnwyr angladdau sy'n dymuno trefnu claddu lludw.

Fy nealltwriaeth i yw y gall claddu lludw mewn mynwent agored ddigwydd.

Fodd bynnag, mae canllawiau Mainc yr Esgobion ynghylch gwasanaethau ar lan y bedd yn berthnasol i gladdu lludw. Yn benodol:

  • Mae'r Esgobion yn annog yn gryf na ddylai gweinidogion sy’n perthyn i unrhyw un o ddosbarthiadau Llywodraeth y DU o bobl sydd mewn mwy o berygl o salwch difrifol yn sgil y coronafirws ymgymryd â gweinidogaeth o’r fath ar hyn o bryd, gan yn hytrach ei dirprwyo i gydweithwyr.
  • Yn unol â Rheoliadau diweddaraf Llywodraeth Cymru, rhaid cyfyngu presenoldeb yn y claddu i’r person sy’n gyfrifol am drefnu’r claddu a nifer fach o alarwyr (a all fod yng nghwmni gofalydd os oes angen) sydd wedi eu gwahodd gan y person sy’n gyfrifol am drefnu’r claddu. Ein barn ni o hyd yw na ddylai’r ‘nifer fach’ fod yn fwy na deg. Rhaid i bawb sy’n mynychu angladd gymryd pob mesur rhesymol i aros oleiaf dau fetr i ffwrdd oddi wrth rywun nad yw o’u haelwyd hwy.
  • Rydym yn annog clerigion i gyfathrebu’n ofalus â threfnyddion angladdau, ac i gadarnhau y bydd y trefnydd angladdau yn arddel y cyfrifoldeb o gydymffurfio â’r Rheoliadau, gan gynnwys gwahodd galarwyr i fod yn bresennol a sicrhau bod mesurau pellhau cymdeithasol yn cael eu dilyn. Dylai’r gwasanaeth claddu fod yn fyr.
  • Mae’r Eglwys yng Nghymru yn caniatáu hepgor, mewn amgylchiadau eithriadol, y ffioedd sy’n ddyledus o dan Ddeddf Eglwys Cymru (Claddfeydd) 1945. Rydym yn sicr y bydd clerigion yn sensitif i’r amgylchiadau presennol, ac atgoffir clerigion y caniateir iddynt hepgor eu ffioedd gweinidogaeth os ydynt o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny.

Y Gynhadledd Glerigol

Dyma'ch hatygoffa ein bod weds gohirio'r Cynhadledd Glerigol 2020, Diwinydda campus, oedd i'w chynnal yn Rhydychen ar 14-17 Medi.

Rydym bellach yn bwriadu cynnal y Gynhadledd Clerigion ar yr wythnos gyfatebol yn 2021.

Mae mwy o fanylion ar wefan yr esgobaeth, a ffurflen i gofrestru ar-lein. A wnewch chi gofrestru o'r newydd, hyd yn oed os oeddech chi eisoes wedi cofrestru ar gyfer digwyddiad 2020.


Gofalu amdanom ein hunain a’n gilydd

Mae St Luke’s, yr elusen sy’n cefnogi lles clerigion, yn cynnig deunydd rheolaidd i fyfyrio arno. Yn yr wythfed set o ddeunyddiau, a geir yma, mae'r Parchg Ganon Carla Grosch-Miller yn edrych ar bwysigrwydd galarnad.

A gaf i gymeradwyo’r deunydd hwn, ochr yn ochr â’n hadnoddau Llwybr Deiniol esgobaethol, gan annog pob un ohonom i ofalu amdanom ein hunain a’n gilydd gydol y dyddiau heriol hyn.


Cofiwch y gweddïir drosoch bob dydd yn Nhŷ Esgob: chi, eich teuluoedd a'ch Ardaloedd Gweinidogaeth. Gras a thangnefedd i chwi oll.


Y Gwir Barchg Andy John
Esgob Bangor


Cymraeg

The Bishop is publishing regular letters about our response to coronavirus.


The Bishop's letter to the diocese


13 June 2020


Dear colleagues and friends

All grace and peace to you.


A truly Eucharistic Community

In his first letter to the Corinthian Christians, Paul wrote: 

“For as often as you eat this bread and drink the cup, you proclaim the Lord’s death until he comes” (1 Corinthians 11:26).

Last Thursday we might have wished to keep the feast of the Thanksgiving for the Holy Communion and will have read those words. They form the basis of my meditation for this Sunday, which you can find here.

As I have witnessed the ongoing outrage across the world at the deep rooted injustices faced by black people I have pondered those words again.

Paul’s assertion is that we proclaim the saving act of God in Jesus each time we take the bread and the cup. His death and resurrection are conveyed in a particular way each time we share the Eucharist. 

In the Last Supper Jesus took what was so familiar to his disciples and the story of how God rescued people and brought them from slavery to freedom. 

But he retold the story of salvation and liberation with reference to his own impending death. It is an astonishing retelling of an ancient story in the way it places centre-stage his life, death and predicated resurrection.

It cannot be the case that this proclamation is a matter of words only. A truly Eucharistic Community must live that life, death and resurrection each day. And this means pointing people away from all that is broken and twisted in us and society into the freedom promised by Christ.

We might not be able to receive consecrated bread and wine at present - but the cross and resurrection are not subject to the inhibitions we experience at the moment. 

Neither are we released from the obligation to take this message of challenge and hope into the world.


Worship and prayer

On this page, you will find material that I am making available to support worship at home on Sunday, the feast of Thanksgiving for the Holy Communion. There is a bilingual order of service for the Liturgy of the Word, along with the text of the readings, a recorded meditation in Welsh and English, and its bilingual text.


Eglwys Tanwg Sant, Llandanwg | St Tanwg's Church, Llandanwg

Church buildings

A relaxation in lockdown Regulations in England means that church buildings across the border are able to be open for private prayer from today onwards.

We have been able over recent days to observe the mix of feelings and responses in England: 

  • the gladness at being able to offer once again the gift of sacred space to all in the community; 
  • the imperative of doing so safely; 
  • the anxiety about assessing risk and safeguarding clergy and volunteers; 
  • the difference between what is permitted, possible and appropriate
  • the need to exercise wise, realistic and shared discernment about next steps.

The situation in Wales

Decisions about lockdown Regulations and church buildings in Wales are made by the Welsh Government. 

The Archbishop of Wales, supported by staff from the provincial team, and working in collaboration with leaders of the other denominations and faith communities in Wales, has been involved in detailed discussions with the Welsh Government over recent weeks. 

Those discussions are continuing. Work is also ongoing led by staff from the provincial team, and supported by archdeacons from across the province, to prepare church-specific guidance.

Next steps

The next formal step is likely to be an announcement made by the First Minister that will fix a date from which church buildings will be allowed to be open for private prayer. The announcement is likely to be accompanied by detailed governmental regulations.

My expectation is that, immediately following this, the Church in Wales will publish its own guidance about opening churches for private prayer. This will include: 

  • a list of the considerations that each Ministry Area will have to think about;
  • the risk assessments that will need to be completed; 
  • details of the hygiene materials that will need to be available and signage that will need to be displayed.

Only then will it be possible for specific conversations to take place between Ministry Area Leaders and Archdeacons about the opening of church buildings for private prayer. 

We will need to think carefully, in each local context, about what is permitted, what is possible, and what is appropriate.

Making wise and realistic decisions

As we have seen elsewhere, easing lockdown is more complicated than imposing lockdown. 

I appreciate that this will be a time of anxiety for some of us. Can I encourage us to be patient and kind with one another. 

And can I assure you of the support that will be available – from the provincial and diocesan teams, and from archdeacons – to help us across the diocese to make wise and realistic decisions when the time comes.


Mynwent Llanbeblig | Llanbeblig cemetery

Burial of ashes

I understand that a number of requests are being received from funeral directors wishing to arrange the burial of ashes.

My understanding is that the burial of ashes in an open churchyard may take place. 

However, the Bench of Bishops’ guidance about services at the graveside apply to burial of ashes. Specifically:

  • The Bishops strongly urge ministers who fall into any of the UK Government’s categorisations of persons at increased risk of severe illness from coronavirus not to undertake such ministry personally, and to delegate to colleagues instead.
  • In accordance with the most recent Welsh Government Regulations, attendance at the burial of ashes must be limited to the person responsible for arranging the burial and a small number of mourners (who may be accompanied by a carer if necessary) invited to attend by the person responsible for arranging the burial. Our view remains that the ‘small number’ should not exceed ten. Everyone attending a burial must take all reasonable measures to stay two metres away from someone not of their household.
  • We encourage clergy to communicate carefully with funeral directors, and to confirm that the funeral director will assume responsibility for compliance with the Regulations, including inviting mourners to be present and ensuring that social distancing measures are observed. The burial should be kept brief.
  • The Church in Wales permits fees due under Welsh Church (Burial Grounds) Act 1945 to be waived in exceptional circumstances. We are sure that clergy will be sensitive to the current circumstances, and clergy are reminded that they are permitted to waive their ministry fees if they consider it appropriate to do so.


Clergy Conference

A reminder that we have postponed our 2020 Clergy Conference, Doing theology excellently, which due to take place in Oxford on 14-17 September. 

We now intend to hold the Clergy Conference on the equivalent week in 2021. 

There are further details on the diocesan website, and a form to register online. Please register anew, even if you had already registered for the 2020 event.


Dr Carla Grosch-Miller

Taking good care of ourselves and one another

St Luke’s, the charity that supports clergy wellbeing, is continuing to offer regular material for reflection. In the eighth instalment, available here, the Revd Canon Carla Grosch-Miller explores the the theme of lament.

May I commend this material to you, alongside our diocesan St Deiniol’s Way resources, and encourage all of us to take good care of ourselves and one another at this pressured time.


Please remember you are prayed for each day in Ty’r Esgob: you, your families and Ministry Areas. Grace and peace to you all.


The Rt Revd Andy John
Bishop of Bangor