
Mae'r Esgob yn cyhoeddi llythyrau rheolaidd am ein hymateb i'r coronafirws.
Llythyr yr Esgob i'r esgobaeth
Gŵyl Iago, 25 Gorffennaf 2020

Annwyl gyfeillion
Pob gras a thangnefedd i chi.
Deled dy Deyrnas
Mae darlleniad yr Efengyl y Sul hwn o Mathew 13 yn cynnwys casgliad o ddywediadau am Deyrnas Dduw.
Maent i gyd yn weledol iawn ac wedi eu gwreiddio ym mywyd beunyddiol Galilea a'r ardal gyfagos.
Mae Iesu'n defnyddio'r delweddau hyn i ddangos bod Teyrnas Dduw yn ein plith ac yn gwahodd ymateb gennym ni.
Boed yn had mwstard bach sy'n tyfu'n lwyn, neu'n furum sy'n troi cynhwysion yn dorth ar gyfer y wledd, grym trawsnewidiol pob llun sy'n eu gwneud yn gymhellol.
Mae dirnad presenoldeb y Deyrnas, ymgysylltu â hi ac yna ymateb mewn ffydd yn her mor allweddol nawr, ag ar unrhyw adeg ym mywyd yr eglwys. Rwy'n myfyrio ar hyn yn fy myfyrdod yr wythnos hon.
Caiff fy myfyrdod ein chynnig ynghyd â'r deunudd ryw'n ei ddarparu i gefnogi addoli ar yr aelwyd ar y Sul, y Seithfed Sul wedi'r Drindod. Mae trefn wasanaeth ddwyieithog ar gyfer Litwrgi'r Gair, ynghyd â thestun y darlleniadau, y myfyrdod wedi'i recordio yn Gymraeg a Saesneg, a'i thestun dwyieithog.

Ail-agor adeiladau eglwysig
Rwy’n ddiolchgar am yr holl waith caled sy’n parhau i ddigwydd i ganiatáu i’n hadeiladau eglwysig ail-agor yn ddiogel, ac i alluogi ail-gynnau addoliad o’u mewn.
Wedi cyfnod o newid sydyn a swmpus, ni fu newidiadau sylweddol yng nghyngor y llywodraeth yr wythnos hon. Mae'n canllawiau cenedlaethol yn gyfredol a chynhwysfawr.
Gweinidogaeth ddigidol
Mae llawer ohonom yn arbrofi gydag “Eglwys ar-lein” ar hyn o bryd.
Yn ein cyfarfodydd diweddar o Grŵp Cadfan a Chyngor yr Esgobaeth, rydym wedi dechrau archwilio'r ffyrdd y gall technoleg ein galluogi i addoli, gofalu am ein gilydd, ymestyn allan ac addysgu'r ffydd.
Rwy’n falch bod Athrofa Padarn Sant - adran hyfforddi genedlaethol yr Eglwys yng Nghymru - yn cynnal cyfres o Weminarau Gweinidogaeth Ddigidol dros fisoedd yr haf.
Gallwch gofrestru i fynychu fan, ac mae penodau o'r archif ar gael i'w gwylio eto (ar waelod y dudalen).
Arweiniwyd y ddau weminar gyntaf gan:
Bob Jackson
a Peter Philips

Gofalu amdanom ein hunain a’n gilydd
- Mae St Luke’s, yr elusen sy’n cefnogi lles clerigion, yn cynnig deunydd rheolaidd i fyfyrio arno. Yn y bedwaredd bennod ar ddeg, "Liminality in a time of Covid", mae Michèle Hampson yn ein helpu i feddwl am sefyll ar y trothwy, ei nodi a'i groesi.
- A gaf i gymeradwyo’r deunydd hwn, ochr yn ochr â’n hadnoddau Llwybr Deiniol esgobaethol, gan annog pob un ohonom i ofalu amdanom ein hunain a’n gilydd gydol y dyddiau heriol hyn.
Cofiwch y gweddïir drosoch bob dydd yn Nhŷ Esgob: chi, eich teuluoedd a'ch Ardaloedd Gweinidogaeth. Gras a thangnefedd i chwi oll.
Yn y y dyddiau gofidus hyn, eneinia dy Eglwys o’r newydd fel y bo i'th bobl dystio i'r grym i adfer a'r cariad afradlon a dywelltir ohono ef, dy Grist, sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi yn undod yr Ysbryd Glân, un Duw, yn awr ac am byth.
O litwrgïau newydd yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer eglwysi sy’n dymuno nodi, drwy ddefod neilltuol, ail-agor eu hadeiladau
Y Gwir Barchg Andy John
Esgob Bangor
The Bishop is publishing regular letters about our response to coronavirus.
The Bishop's letter to the diocese
St James's Day, 25 July 2020

Dear colleagues and friends
All grace and peace to you.
Thy Kingdom come
This Sunday's Gospel reading from Matthew 13 contains a collection of sayings about the Kingdom of God.
They are all strongly visual and drawn from the everyday life of Galilee and the surrounding area.
Jesus uses these pictures to show the Kingdom of God is in our midst and invites a response from us.
Whether a small mustard seed which grows into a large bush or yeast that turns ingredients into bread, it is the transformative power of each picture that makes them compelling.
How we discern the Kingdom’s presence, engage with it and then respond with faith is as key a question now, as at any time in the life of the church. I reflect on this in my meditation this week.
My meditation is accompanied by the material that I am making available to support worship at home on Sunday, the Seventh Sunday after Trinity. There is a bilingual order of service for the Liturgy of the Word, along with the text of the readings, the recorded meditation in Welsh and English, and its bilingual text.

Re-opening church buildings
I am grateful for all the hard work that continued to take place to allow our church buildings to re-open safely, and to enable worship to be offered within them.
Following a period of swift and major change, there have been no substantive alterations to government advice this past week. The detailed national guidance is up-to-date and comprehensive.
Digital ministry
Many of us are experimenting with “online Church” at the moment.
An our recent Grŵp Cadfan and Diocesan Council meetings, we've begun to explore the ways in which technology can enable us to worship, care for one another, reach out and teach the faith.
I am pleased that St Padarn's Institute - the national training department of the Church in Wales - is running a series of Digital Ministry Webinars over the summer months.
You can sign up to attend here, and past episodes are available to watch again (at the bottom of the page).
The first two webinars were led by:
Bob Jackson
and Peter Philips

Taking good care of ourselves and one another
- St Luke’s, the charity that supports clergy wellbeing, is continuing to offer regular material for reflection. In the fourteenth instalment, "Liminality in a time of Covid", Michèle Hampson helps us to think about standing on the threshold, taking note and moving on.
- May I commend this material to you, alongside our diocesan St Deiniol’s Way resources, and encourage all of us to take good care of ourselves and one another at this pressured time.
Please remember you are prayed for each day in Ty’r Esgob: you, your families and Ministry Areas. Grace and peace to you all.
In these anxious times, anoint your Church anew that your people may be signs of your restoring power and witnesses to your extravagant love poured out through your Christ, who lives and reigns with you in the unity of the Holy Spirit, one God, now and for ever. Amen.
From the new Church in Wales liturgies for churches wishing to mark, through a distinctive rite, the re-opening of their buildings
The Rt Revd Andy John
Bishop of Bangor