
Mae'r Esgob yn cyhoeddi llythyrau rheolaidd am ein hymateb i'r coronafirws.
Llythyr yr Esgob i'r esgobaeth
1 Awst 2020
Annwyl gyfeillion
Pob gras a thangnefedd i chi.
Bendith i eraill
Yn darlleniad o'r Efengyl y Sul hwn, o Mathew 14, clywn am un o’r gwyrthiau enwocaf, sef porthi'r pum mil.
Mae'n hawdd mind ar goll ynghanol y cwestiynau ynglŷn â sut y digwyddodd hyn. Aiff fy sylw i at y ffordd y mae’r Efengyl yn pwysleisio tri pheth yn y stori:
Yn gyntaf, sut y bu i Iesu dosturio tuag at y torfeydd. Yn ail, sut yr heriodd y disgyblion i fod yn rhan o'r ateb ac nid yn han o'r broblem! Ac yn olaf, y modd y gwnaeth Iesu i ychydig o bethau fynd yn bell.
Mae'r agweddau hyn ar y stori yn gwahodd myfyrdod newydd ar yr hyn sy'n dwyn ein calonnau, yn ysbrydoli ein cynllunio ac yn cyfarwyddo ein hadnoddau ar gyfer gweinidogaeth.
Mae'n destun arwyddocaol i Eglwys sydd am ymgysylltu â chenhadaeth Iesu yn y byd mewn cyd-destun newydd lle mae ansicrwydd yn fwy sicr nag erioed, ac rwy'n ehangu ar hyn i gyd yn fy myfyrdod yr wythnos hon.
Caiff fy myfyrdod ein chynnig ynghyd â'r deunudd ryw'n ei ddarparu i gefnogi addoli ar yr aelwyd ar y Sul, yr Wythfed Sul wedi'r Drindod. Mae trefn wasanaeth ddwyieithog ar gyfer Litwrgi'r Gair, ynghyd â thestun y darlleniadau, y myfyrdod wedi'i recordio yn Gymraeg a Saesneg, a'i thestun dwyieithog.
Wythnosau i ddod
Yn ystod mis Awst, bydd fy myfyrdodau wythnosol ar y Sul, ynghyd ag adnoddau addoli, yn parhau, gan ddilyn y calendr:
- 9 Awst: Gweddnewidiad ein Harglwydd (trosglwyddwyd o 6 Awst)
- 16 Awst: Mair, Mam ein Harglwydd (trosglwyddwyd o 15 Awst)
- 23 Awst: Unfed Sul ar ddeg ar ôl y Drindod
- 30 Awst: Deuddegfed Sul ar ôl y Drindod

Ail-agor adeiladau eglwysig
Rwy’n ddiolchgar am yr holl waith caled sy’n parhau i ddigwydd i ganiatáu i adeiladauelwysig ailagor yn ddarbodus ac yn bwrpasol.
Neuaddau eglwys
Mae'r canllawiau ynghylch defnyddio neuaddau eglwys wedi'u hymelhaethu dros yr wythnos ddiwethaf.
Rydym yn parhau i ddigwyl am arweiniad gan Lywodraeth Cymru ynghylch defnyddio neuaddau at ddibenion cymunedol. Ar hyn o bryd, ni ddylid defnyddio neuaddau oni bai ei fod wedi'i awdurdodi gan yr awdurdod lleol neu Lywodraeth Cymru.
Fodd bynnag, mae'n eglur bellach y gellir defnyddio neuaddau eglwys fel man addoli yn unig, os yw'n well defnyddio neuadd eglwys yn hytrach nag adeilad eglwys.
Er mwyn gwneud hynny:
- mae angen fy nghaniatâd i fel Esgob
- byddai angen cwblhau asesiad risg fel petai ar gyfer adeilad eglwys
Ni all priodasau, wrth gwrs, ddigwydd mewn neuadd eglwys.
Y Parchg Ken Wilson
Bu angladd Ken Wilson yr wythnos diwethaf. Rwy'n ddiolchgar i'r Parchg Griff Jones, Ficer ar y Cyd Bro Tysilio, am bennu'r deyrnged ganlynol i Ken.
Rydym yn parhau i gynnal Sylvia a’r teulu yn ein gweddïau, ac i ddiolch am y cariad a’r trugaredd a dderbyniodd Ken gan Dduw. Llewyrched goleuni gwastadol arno.
Ysgifenna'r Parch Griff Jones:
Yn ei angladd disgrifiodd ei deulu fywyd Ken fel ‘antur’ ac fe gofleidiodd bob her a oedd yn ei wynebu.
Yn ei yrfa cynnar roedd Ken yn wyddonydd bwyd a rheolwr llwyddiannus yn Roberts o Port Dinorwic ond penderfynodd ildio gyrfa broffidiol i ddilyn ei alwad i'r weinidogaeth ordeiniedig.
Ar ôl astudio Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor ordeiniwyd Ken ym 1988 a gwasanaethodd ym mhlwyf Caergybi cyn dod yn gaplan yn yr RAF. Gwasanaethodd gyda rhagoriaeth ledled y byd - o Valley i'r Alban, o'r Falklands i Bosnia. Lle bynnag y gwasanaethodd, ei flaenoriaeth fel offeiriad oedd lles ei gymrodyr, o ba bynnag reng.
Ar ôl gadael yr RAF daeth Ken yn gaplan i ymddiriedolaeth Iechyd Meddwl GIG Swydd Lincoln ac roedd yn allweddol wrth sefydlu gwasanaethau cwnsela i fynd i'r afael â phroblem y cyfraddau hunanladdiad uchel, yn enwedig ymhlith pobl ifanc.
Yna ymddeolodd Ken i Ynys Môn a daeth yn Offeiriad-â-Gofal plwyfi yn ardal Moelfre - lle ymgollodd unwaith eto i waith plwyf.
Gwerthfawrogwyd ei weinidogaeth yn fawr gan bawb y daeth i gysylltiad â hwy a bydd colled fawr ar ei ôl.
Mae Ken wedi ei oroesi gan ei wraig annwyl Sylvia, ei feibion Ian a Stephen a phump o wyrion.

Ordinasiwn 2020
Oherwydd y pandemig, mae'r gwasanaethau Ordeinio yr haf hwn yn digwydd ledled yr esgobaeth, yn hytrch nac yn yr Eglwys Gadeiriol.
Bydd y rhai sydd i'w hordeinio'n ddiacon ac offeiriad yn cael eu hordeinio yn ystod ail a thrydedd wythnos Awst mewn eglwys yn Ardal Weinidogaeth lle byddant yn arfer eu gweinidogaeth newydd, a bydd yr encil cyn-ordeinio yn digwydd ar Zoom.
Rwy'n ddiolchgar i bawb, yn anad dim yr Ardaloedd Gweinidogaeth fydd yn cynnal gwasanaethau, am y gwaith sy'n cael ei wneud i alluogi'r digwyddiadau llawen hyn i gymryd lle.
Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth ymarferol bwysig ar gyfer Ardaloedd Gweinidogaeth sy'n croesawu un o'r defodau a'r rhai sydd i'w hordeinio.
Cynhaliwch Eryl, Martyn, Andy, Siôn, Steve, George a Pam yn eich gweddïau yn ystod y dyddiau nesaf.
“Ar adegau o newid a chythrwfl”
Mae Fred Drummond, o Eglwys yr Alban, a’r gweinidog ieuenctid, Phil Knox, ill dau wedi cyhoeddi erthyglau diddorol dros y dyddiau diwethaf am arweinyddiaeth eglwysig ar hyn o bryd. Rwy'n eu canmol ar gyfer fy nghydweithwyr.

Gofalu amdanom ein hunain a’n gilydd
- Mae St Luke’s, yr elusen sy’n cefnogi lles clerigion, yn cynnig deunydd rheolaidd i fyfyrio arno. Yn y bymthegfed bennod, "Easing out of Lockdown – what next?", mae Hilary Ison yn ein helpu i feddwl am ein profiad yn y drycin.
- A gaf i gymeradwyo’r deunydd hwn, ochr yn ochr â’n hadnoddau Llwybr Deiniol esgobaethol, gan annog pob un ohonom i ofalu amdanom ein hunain a’n gilydd gydol y dyddiau heriol hyn.
Cofiwch y gweddïir drosoch bob dydd yn Nhŷ Esgob: chi, eich teuluoedd a'ch Ardaloedd Gweinidogaeth. Gras a thangnefedd i chwi oll.
Hollalluog a thragwyddol Dduw, sydd trwy dy Ysbryd yn llywodraethu ac yn sancteiddio holl gorff yr Eglwys: gwrando ein gweddi a offrymwn dros dy holl bobl ffyddlon, iddynt allu dy wasanaethu mewn sancteiddrwydd a gwirionedd yn eu galwedigaeth a’u gweinidogaeth er gogoniant i’th enw; trwy ein Harglwydd a’n Hiachawdwr Iesu Grist, sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân, yn un Duw, yn awr ac am byth. Amen.
Y Gwir Barchg Andy John
Esgob Bangor
The Bishop is publishing regular letters about our response to coronavirus.
The Bishop's letter to the diocese
1 August 2020
Dear colleagues and friends
All grace and peace to you.
A blessing for others
In the Gospel reading this Sunday, from Matthew 14, we read one of the most famous of miracles, the feeding of the five thousand.
It is easy to become caught up in questions about how this occurred. I am struck again by the way the Gospel emphasises three things in the story:
First, how Jesus had compassion on the crowds. Secondly, how he challenged the disciples to become a part of the solution and not the problem! Lastly, how Jesus made a few things go a long way.
These invite a fresh reflection on what stirs our hearts, inspires our planning and directs our resourcing of ministry.
It’s a significant text for a Church wanting to engage with Jesus’s mission in the world in a new context where uncertainty is more certain than ever, and I reflect on all of this in my meditation this week.
My meditation is accompanied by the material that I am making available to support worship at home on Sunday, the Eighth Sunday after Trinity. There is a bilingual order of service for the Liturgy of the Word, along with the text of the readings, the recorded meditation in Welsh and English, and its bilingual text.
Future weeks
During August, my weekly Sunday meditations. accompanied by worship resources, will continue, following the calendar:
- 9 August: The Transfiguration of our Lord (transferred from 6 August)
- 16 August: Mary, Mother of our Lord (transferred from 15 August)
- 23 August: Eleventh Sunday after Trinity
- 30 August: Twelfth Sunday after Trinity

Re-opening church buildings
I am grateful for all the hard work that continues to take place to allow our church buildings to re-open prudently and purposefully.
Church halls
Guidance regarding the use of church halls has been clarified over the past week.
We continue to await guidance from the Welsh Government regarding the use of halls for community purposes. At present, use of halls should not happen unless authorised by the local authority or Welsh Government.
However, it is now clear that church halls may be used exclusively as a place of worship, if it is preferable to use a church hall rather than a church building.
In order to do so:
- my permission as Bishop is required
- a risk assessment would need to be completed as though for a church building
Weddings, of course, cannot take place in a church hall.
The Revd Ken Wilson
Ken Wilson’s funeral took place last week. I’m grateful to the Revd Griff Jones, Associate Vicar of Bro Tysilio, for penning the following tribute to Ken.
We continue to hold Sylvia and the family in our prayers, and to give thanks for the grace and mercy Ken received from God. Let light perpetual shine upon him.
The Revd Griff Jones writes:
At his funeral his family described Ken’s life as an ‘adventure’ and he embraced every challenge that faced him.
In his early career Ken was a successful food scientist and manager at Roberts of Port Dinorwic but decided to forego a lucrative career to follow his calling to the ordained ministry.
Having studied Theology at Bangor University, Ken was ordained in 1988 and served in the parish of Holyhead before becoming chaplain in the RAF. He served with distinction all over the world - from Valley to Scotland, from the Falklands to war-torn Bosnia. Wherever he served, his priority as a priest was the welfare of his comrades, of whatever rank.
After leaving the RAF, Ken became chaplain to Lincolnshire NHS Mental Health trust and was instrumental in setting up counselling services to address the problem of the high suicide rates, especially among young people.
Ken then retired to Anglesey and became Priest-in-Charge of parishes in the Moelfre area - where once again he immersed himself into parish work.
His ministry was much valued by all with whom he came into contact and will be greatly missed.
Ken is survived by his beloved wife Sylvia, sons Ian and Stephen and five grandchildren.

2020 Ordinations
Due to the pandemic, Ordination services this summer are taking place across the diocese, instead of at the Cathedral.
Those to be ordained deacon and priest will be ordained during the second and third weeks of August in a church within the Ministry Area in which they will be exercising their new ministry, and the pre-ordination retreat will take place on Zoom.
I am grateful to all, not least the Ministry Areas concerned, for the work that is being undertaken to enable these joyful events to take place.
This page contains important practical information for host Ministry Areas and those to be ordained.
Please hold Eryl, Martyn, Andy, Siôn, Steve, George and Pam in your prayers during the coming days.
“In times of change and upheaval”
Fred Drummond, from the Church of Scotland, and the youth minister, Phil Knox, have both published interesting articles over recent days about church leadership at this present moment. I commend them to colleagues.

Taking good care of ourselves and one another
- St Luke’s, the charity that supports clergy wellbeing, is continuing to offer regular material for reflection. In the fifteenth instalment, "Easing out of Lockdown – what next?", Hilary Ison helps us to think about our experience in the storm.
- May I commend this material to you, alongside our diocesan St Deiniol’s Way resources, and encourage all of us to take good care of ourselves and one another at this pressured time.
Please remember you are prayed for each day in Ty’r Esgob: you, your families and Ministry Areas. Grace and peace to you all.
Almighty and everlasting God, by whose Spirit the whole body of the Church is governed and sanctified: hear our prayer which we offer for all your faithful people, that in their vocation and ministry they may serve you in holiness and truth to the glory of your name; through our Lord and Saviour Jesus Christ, who is alive and reigns with you in the unity of the Holy Spirit, God for ever and ever. Amen.
The Rt Revd Andy John
Bishop of Bangor