
Llythyr yr Esgob i'r esgobaeth
26 Medi 2020 | Coffád Lancelot Andrewes
Annwyl gyfeillion
Pob gras a thangnefedd i chi.
Arfer gostyngeiddrwydd
Mae'r rhan o'r ysgrythur a gaiff ei alw weithiau'n Emyn i Grist wedi'i gynnwys yn llythyr Paul at y Philipiaid, a dyma'n darlleniad o'r Testament Newydd y Sul hwn.
Mae'r emyn yn ein gwahodd i fodelu gostyngeiddrwydd Iesu ac i fod yn anhunanol fel yr oedd ef.
Mae'n hawdd wfftio hyn fel lled-barchusrwydd hen ffasiwn, ymhell o realiti bywyd cyfoes. Ond rydym wedi gweld cynnydd mewn agweddau cymdeithasol gwael, yn ogystal â deall o'r newydd pa mor gyflym y gall cysyniadau ac ymddygiadau croes droi'n gamau sy'n arwain at drais.
A yw rhinweddau Cristnogol yn ddim ond gwyriad rhyfedd oddi wrth realiti cras bywyd, neu a ydyn nhw'n cynnig opsiwn arall, pwerus sy'n gwahodd ystyriaeth newydd a difrifol? Rwy'n myfyrio ar hyn yr wythnos hon.
Un myfyrdod ddwyieithog wedi'i recordio a geir yr wythnos hon. Mae'r testun ar gael yn llawn yn y ddwy iaith, ynghyd â'r deunydd yr wyf yn ei ddarparu i gefnogi addoliad y Sul ar yr aelwyd, gan gynnwys trefn gwasanaeth dwyieithog ar gyfer Litwrgi y Gair a thestun y darlleniadau.

Bro Peblig a Bro Eifionydd
Rwy’n falch iawn bod Dylan Williams wedi derbyn swydd Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Peblig, gan wasanaethu cymunedau Caernarfon, y Felinheli a’r cylch.
Rwyf hefyd yn falch iawn y bydd Kim Williams yn olynu Dylan fel Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Eifionydd, gan wasanaethu cymunedau Porthmadog, Cricieth a'r cylch.
Gweddïwch dros Kim, Dylan ac eglwysi Bro Eifionydd a Bro Peblig yn ystod y dyddiau trawsnewidiol hyn.
Canllawiau ac addasiadau coronafirws
(1) Cyhoeddi a chnawdoli cariad Duw yng Nghrist
Mae wedi teimlo yr wythnos ddiwethaf hon ein bod wedi cychwyn pennod anodd arall yn hanes y pandemig. Bu’n rhaid rhoi o'r neilltu am y tro ein gobeithion ein bod ar lwybr yn ôl i fath o normalrwydd; ac fe ofnwn unwwaith eto bod gwaeth i ddod.
Mae galwad yr Eglwys yn parhau’n gyson - i gyhoeddi a chnawdoli cariad Duw yng Nghrist i bawb yn ein cymunedau. Nid yw hon yn alwad hawdd, ac mae ei chyflawni ar hyn o bryd yn mynnu meddylgarwch ac amynedd.
Gadewch inni barhau i gynnig y cariad hwnnw’n ffyddlon ac yn ddiogel, gyda gofal ond heb bryder, dros yr wythnosau i ddod.
Rwy’n ddiolchgar i bawb ledled yr esgobaeth sy’n gweithio’n ddiflino i gefnogi a chynnal cenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys mewn sawl ffordd wahanol yn ystod y dyddiau anodd hyn.
(2) Canllawiau cenedlaethol a rheoliadau "Profi, Olrhain, Diogelu"
Mae'r canllawiau ar safle cenedlaethol yr Eglwys yng Nghymru yn parhau i gael ei ddiweddaru'n rheolaidd.
Rwy’n rhagweld y bydd canllawiau newydd yn cael eu cyhoeddi ddechrau’r wythnos nesaf hon ynglŷn â rheoliadau "Phrofi, Olrhain, Diogelu" Llywodraeth Cymru a’u goblygiadau i eglwysi, a byddaf mewn cysylltiad eto pan fydd y rhain ar gael.
(3) Cyfarfodydd a dogfennaeth gyfansoddiadol
Mae canllawiau’r Eglwys yng Nghymru ar Gyfarfodydd Festri, cyfarfodydd CAW a’r Rholau Etholwyr bellach wedi’i diwygio, ac mae ar gael yma.
Bydd cydweithwyr am nodi pwyntiau allweddol:
- Gall Cyfarfodydd Festri, dan amgylchiadau gofalus a hygyrch, gael eu cynnal yn electronig ac wyneb-yn-wyneb; ond nad oes angen iddynt ddigwydd eleni, os nad yw'n bosibl eu cynnal yn ofalus ac yn hygyrch yn electronig nac wyneb-yn-wyneb.
- Mae penderfyniad ffurfiol gan Gyngor yr Ardal Weinidogaeth i fabwysiadu Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr gyda’i Ddatganiadau Ariannol ar gyfer 2019 yn angenrheidiol cyn diwedd mis Hydref ar gyfer yr Ardaloedd Gweinidogaeth hynny sydd wedi’u cofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau.
A gaf hefyd annog cydweithwyr i roi sylw i Adroddiadau Blynyddol 2019 dros yr wythnosau nesaf. Mae gwybodaeth am gwblhau'r ffurflenni yn electronig wedi'i chylchredeg gan dîm y dalaith, ond mae cefnogaeth bellach yn lleol yn cael ei chynnig gan Owain Pritchard.
Manylion cyswllt Diogelu
A gaf i annog cydweithwyr i sicrhau bod posteri, dogfennau a gwefannau sy'n cynnwys manylion cyswllt Diogelu yn cael eu diweddaru'n gyson. Mae'n ddefnyddiol i wybodaeth gyswllt gynnwys manylion cyswllt ar gyfer:
- Cydlynydd Diogelu'r Ardal Weinidogaeth, y dylid cyfeirio ymholiadau Diogelu cyffredinol atynt
- Wendy Lemon (Swyddog Diogelu Taleithiol), y dylid hysbysu pryderon, honiadau neu ddatgeliadau Diogelu iddi, a'i rhif ffôn sydd ar gael i'r cyhoedd yw 07392 319064

Cynhadledd yr Esgobaeth 2020
Dyma'n hatgoffa o drefniadau Cynhadledd yr Esgobaeth eleni:
- Bydd pedair sesiwn i Gynhadledd yr Esgobaeth ar Zoom eleni.
- Bydd un sesiwn 90 munud ym mhob un o'r archddiaconiaethau, a sesiwn ar y cyd fyrrach wedi hynny i'r holl aelodau.
- Prif gydran y sesiynau archddiaconol fydd sesiwn holi gyda'r Esgob.
- Yn y sesiwn ar y cyd, byddwn yn ymgymryd â'r busnes ffurfiol sy'n ofynnol yn y Gynhadledd.
Y dyddiadau a'r amseroedd yw:
Sesiwn Cynhadledd yr Esgobaeth ar gyfer Archddiaconiaeth Ynys Môn
20 Hydref am 4pm
Sesiwn Cynhadledd yr Esgobaeth ar gyfer Archddiaconiaeth Bangor
21 Hydref am 6pm
Sesiwn Cynhadledd yr Esgobaeth ar gyfer Archddiaconiaeth Meirionnydd
20 Hydref am 11am
11 Tachwedd am 2pm
Er mwyn mynychu, bydd angen i unigolion gofrestru trwy wefan yr esgobaeth, trwy'r dolenni uchod.
Mae aelodaeth ffurfiol y Gynhadledd yn cynnwys tri chynrychiolydd lleyg o bob Ardal Weinidogaeth, hyd at dri gweinidog lleyg trwyddedig o bob Ardal Weinidogaeth, a'r cyfan o'r clerigion trwyddedig. Fodd bynnag, mae croeso cynnes i unrhyw un sy'n cymuno yn yr esgobaeth fynychu'r sesiynau.
Rwy’n ddiolchgar, ymlaen llaw, i bawb a fydd yn ymuno â mi yn yr ymgynnull pwysig hwn.
Cofiwch y gweddïir drosoch bob dydd yn Nhŷ Esgob: chi, eich teuluoedd a'ch Ardaloedd Gweinidogaeth. Gras a thangnefedd i chwi oll.
Gweddïwn, O Dduw, dros ein heneidiau a'n cyrff, ein meddwl a'n meddyliau, ein gweddïau a'n gobeithion, ein hiechyd a'n gwaith, ein bywyd a'n marwolaeth. Gweddïwn dros ein teuluoedd a'n ffrindiau, ein cymunedau a'n cartrefi, ein cymdogion a'n gelynion, ein taith ar dy ffyrdd, ein gorffwysfan ynot ti. Amen.
Yn seiliedig ar weddi gan Lancelot Andrewes (1555-1626)
Y Gwir Barchg Andy John
Esgob Bangor
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Lythyr yr Esgob a chyhoeddiadau esgobaethol
The Bishop's letter to the diocese
26 September 2020 | Commemoration of Lancelot Andrewes
Dear colleagues and friends
All grace and peace to you.
Practising lowliness
The piece of scripture we sometimes call the Hymn to Christ is contained in Paul’s letter to the Philippians and is our New Testament reading this coming Sunday.
The hymn invites us to model the humility of Jesus and to be selfless as he was.
It is easy to dismiss this is old fashioned piety and out of touch with the realities of modern life. But we have seen an increase in poor social attitudes, as well as how quickly unchecked thoughts and behaviours become actions which lead to violence.
Are Christian virtues simply a quaint diversion from the brute realities of life or do they offer a powerful alternative which invite new and serious consideration? I reflect on this in my meditation.
My recorded meditation this week is a single, bilingual meditation. Fully bilingual versions of the texts are available, as is material that I am making available to support Sunday worship at home, including a bilingual order of service for the Liturgy of the Word and the text of the readings.

Bro Peblig and Bro Eifionydd
I am delighted that Dylan Williams has accepted the post of Ministry Area Leader of the Bro Peblig Ministry Area, serving the communities of Caernarfon, y Felinheli and the surrounding area.
I am also delighted that Kim Williams will be succeeding Dylan as Ministry Area Leader of Bro Eifionydd, serving the communities of Porthmadog, Cricieth and the surrounding area.
Please keep Kim, Dylan and the churches of Bro Eifionydd and Bro Peblig in your prayers at this time of transition.
Coronavirus guidance and adaptations
(1) Proclaiming and showing the love of God in Christ
It has felt this past week that we have begun another difficult chapter in the history of the pandemic. Our hopes that we were on a pathway back to a form of normality have had to be set aside for the time being; and we find ourselves fearing that worse is to come.
The Church’s calling remains constant - to proclaim and show the love of God in Christ to all in our communities. This is not an easy calling, and fulfilling it at this moment in time requires thoughtfulness and patience.
Let us continue to offer that love faithfully and safely, with care but without anxiety, over the weeks ahead.
I am grateful to all across the diocese who are working tirelessly to support and sustain the mission and ministry of the Church in many different ways during these difficult days.
(2) National guidance and "Test, Trace, Protect" regulations
Guidance on the Church in Wales’s national site continues to updated regularly.
I anticipate new guidance being issued at the beginning of this coming week regarding the Welsh Government’s "Test, Trace, Protect" regulations and their implications for churches, and I will be in touch again when this is available.
(3) Constitutional meetings and documentation
The Church in Wales’s guidance on Vestry Meetings, MAC meetings and the Electoral Roll has now been amended, and is available here.
Colleagues will want to note to key points:
- Vestry Meetings can, in careful and accessible circumstances, take place electronically and in person; but that they also need not take place this year, if it is not possible to hold them carefully and accessibly electronically or in person.
- A formal Ministry Area Council decision to adopt the Trustees’ Annual Report with its Financial Statements for 2019 is necessary before the end of October for those Ministry Areas registered with the Charity Commission.
May I also encourage colleagues to attend to the 2019 Annual Returns over coming weeks. Information about electronic completion of the returns will have been circulated from the provincial team, but further support locally is being offered by Owain Pritchard.
Safeguarding contact information
May I encourage colleagues to ensure that posters, documents and websites that contain Safeguarding contact information are kept up-to-date. It is helpful for contact information to include contact details for:
- The Ministry Area Safeguarding Coordinator, to whom general Safeguarding enquiries should be directed
- Wendy Lemon (Provincial Safeguarding Officer), to whom Safeguarding concerns, allegations or disclosures should be made known, and whose publicly-available telephone number is 07392 319064

2020 Diocesan Conference
A reminder of this year's Diocesan Conference arrangements:
- There will be four Diocesan Conference sessions on Zoom this year.
- There will be one 90 minute session in each of the archdeaconries, and a final, shorter plenary session for all members.
- The main component of the archdeaconry sessions will be a question time session with the Bishop.
- At the plenary session, we will undertake the formal business required of the Conference.
The dates and times are:
The Archdeaconry of Anglesey Diocesan Conference session
20 October at 4pm
The Archdeaconry of Bangor Diocesan Conference session
21 October at 6pm
The Archdeaconry of Meirionnydd Diocesan Conference session
20 October at 11am
11 November at 2pm
In order to attend, individuals will need to sign up via the diocesan website, at the links above.
The formal membership of the Conference includes three lay representatives from each Ministry Area, up to three licensed lay ministers from each Ministry Area, and all licensed clerics. However, there is a warm welcome for any communicant member of the diocese to attend the sessions.
I am grateful, in advance, for all who will join with me in this important time together.
Please remember you are prayed for each day in Ty’r Esgob: you, your families and Ministry Areas. Grace and peace to you all.
We pray, O God, for our souls and our bodies, our minds and our thoughts, our prayers and our hopes, our health and our work, our life and our death. We pray for our families and our friends, our communities and our homes, our neighbours and our enemies, our journey along your ways, our resting place in you. Amen.
Based on a prayer of Lancelot Andrewes (1555-1626)
The Rt Revd Andy John
Bishop of Bangor