
Llythyr yr Esgob i'r esgobaeth
1 Hydref 2020
Annwyl gyfeillion
Pob gras a thangnefedd i chi.
Dros y bythefnos ddiwethaf, mae wedi dod yn fwyfwy amlwg y byddwn yn byw gyda heriau cyfyngiadau'r pandemig am gryn amser.
Daethpwyd â hyn i'n stepen drws gyda'r cyhoeddiad yr wythnos hon am gyfyngiadau cloi lleol newydd yn rhai o siroedd gogledd Cymru.
Rwyf eisiau sicrhau ffrindiau a chydweithwyr sy'n byw, gweithio ac addoli yn sir Conwy o'm gweddïau wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y cyfyngiadau llymach a ddaw i rym yno heno.
Rwyf hefyd yn gweddïo dros gyfeillion yn Esgobaeth Llanelwy, lle bydd rhannau helaeth o'r esgobaeth dan gyfyngiadau cloi lleol o heno mlaen, gan feddwl yn arbennig am y rhai sydd i'w hordeinio yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy ddydd Sadwrn a'r holl darfu a fu i'w cynlluniau yn sgil y cyfyngiadau newydd hyn.
Er gwaetha'r heriau hyn, yr un yw galwedigaeth yr Eglwys - sef cyhoeddi gobaith Duw i'n byd.
Rwy’n ddiolchgar iawn i bawb, ledled yr esgobaeth, sy’n rhannu'r neges obeithio honno ar yr adeg hon, mewn addoliad, mewn gofal bugeiliol, ac mewn gweddi ddi-baid.
Rhaid i bopeth a wnawn fod yn ddiogel ac yn ddarbodus; ac eto mae'n rhaid i ni hefyd fod yn bobl obaith, ac nid yn bobl o bryder, o fewn ac er mwyn ein cymunedau.
Fel y clywodd Eseia, felly fe wrandawn ninnau ar lais Duw'n dweud wrthym:
Paid ag ofni, oherwydd gwaredaf di. Galwaf ar dy enw; eiddof fi ydwyt. (Eseia 43:1)
Ar nodyn ymarferol, mae canllawiau’r Eglwys yng Nghymru ar gyfyngiadau cloi lleol ar gael ar wefan genedlaethol yr eglwys, ochr yn ochr â chanllawiau eraill ynghylch addasiadau yn ystod y pandemig. Mae'r canllawiau ar gyfyngiadau cloi lleol yn amlinellu'r sefyllfa ar gyfer y rhai sy'n mynychu addoliad, a'r eithriadau sydd ar gael i'r rhai sy'n arwain addoliad.
Y Gwir Barchg Andy John
Esgob Bangor
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Lythyr yr Esgob a chyhoeddiadau esgobaethol
The Bishop's letter to the diocese
1 October 2020
Dear colleagues and friends
All grace and peace to you.
Over these last two weeks, it has become increasingly clear that we will be living with the challenges of pandemic restrictions for a considerable time.
This has been brought close to home with the announcement this week of new local lockdown restrictions in some north Wales counties.
I wanted to assure friends and colleagues who live, work and worship in the county of Conwy of my prayers as they prepare for stricter restrictions to come into force there this evening.
I am also praying for colleagues in the Diocese of St Asaph, where large parts of the diocese will be in a local lockdown from this evening, thinking in particular of those to be ordained at St Asaph Cathedral this coming Saturday whose plans will have been affected by these new restrictions.
Amid these challenges, the Church’s call to proclaim a message of hope remains primary.
I am very grateful to all across the diocese who are making this message of hope heard at this time, in worship, in pastoral care, and in ceaseless prayer.
All that we do must be safe and prudent; yet we must also be people of hope, and not people of anxiety, in and for our communities.
As Isaiah heard, so we listen to the voice of God who says to us:
Fear not, for I have redeemed you. I have called you by name; you are mine. (Isaiah 43:1)
On a practical note, the Church in Wales’s guidance on local lockdowns is available on the church's national website, alongside other guidance about adaptations during the pandemic. The guidance on local lockdowns outlines the position for those attending worship, and the exceptions available to those leading worship.
The Rt Revd Andy John
Bishop of Bangor