
Llythyr yr Esgob i'r esgobaeth
10 Hydref 2020
Annwyl gyfeillion
Pob gras a thangnefedd i chi.
Siarad â Duw
Mae'r newydd am gynyddu cyfyngiadau cloi mewn rhannau o'r esgobaeth yn ein hatgoffa unwaith eto bod newid ac ansicrwydd yn rhan enfawr o'n bywyd ar hyn o bryd. Mae'r dewisiadau yr ydym wedi'u cymryd yn ganiataol cyhyd naill ai wedi diflannu neu wedi cael eu cyfyngu, hyd yn oed os yw hynny am reswm da.
Pan oedd Sant Paul yn y carchar yn Rhufain ysgrifennodd at ei chwiorydd a'i frodyr yng Nghrist yn Philippi a'u gwahodd i beidio â theimlo'n bryderus am unrhyw beth ac i adnabod tangnefedd Duw.
Mae pryder yn ymateb sy'n gyffredin i bawb pan fyddwn ni'n teimlo ein bod dan fygythiad. Ond heb ei wylio'n ofalus, mae pryder yn ddinistriol.
Mae cynnig Paul yn adleisio'r hen emyn i blant, ‘Dod ar fy mhen’, oherwydd gall popeth ddod at Dduw mewn gweddi. A phan ddown ni fel hyn, mae Duw ei hun yn cynnig inni ei dangnefedd. Rwy'n myfyrio ar hyn yr wythnos hon.
Un myfyrdod ddwyieithog wedi'i recordio a geir yr wythnos hon. Mae'r testun ar gael yn llawn yn y ddwy iaith, ynghyd â'r deunydd yr wyf yn ei ddarparu i gefnogi addoliad y Sul ar yr aelwyd, gan gynnwys trefn gwasanaeth dwyieithog ar gyfer Litwrgi y Gair a thestun y darlleniadau.

Cynhadledd yr Esgobaeth 2020
Rwy'n edrych mlaen at sesiynau Cynhadledd yr Esgobaeth nes mlaen y mis hwn. I'ch hatgoffa:
- Felly bydd pedair sesiwn i Gynhadledd yr Esgobaeth ar Zoom eleni.
- Bydd un sesiwn 90 munud ym mhob un o'r archddiaconiaethau, a sesiwn ar y cyd fyrrach wedi hynny i'r holl aelodau.
- Er mwyn mynychu, bydd angen i unigolion gofrestru trwy wefan yr esgobaeth, trwy'r dolenni uchod.
Holi cwestiwn
Yn y sesiynau archddiaconiaethol, byddaf yn traddodi fy anerchiad llywyddol. Ar ôl hyn, bydd sesiwn i holi cwestiynau.
Rwyf am annog cwestiynau ata'i sy'n holi am unrhyw a phob rhan o'n bywyd esgobaethol a chenhadaeth yr Eglwys.
Bydd yn bosibl holi cwestiynau yn ystod y sesiwn ei hun, mewn ymateb i'r drafodaeth, ond mae hefyd yn bosibl cyflwyno cwestiynau o flaen llaw. Gellir eu hanfon trwy e-bost at Robert Jones.
Bydd cyflwyno cwestiynau cyn y sesiynau yn ein helpu i strwythuro'r drafodaeth - felly da fyddai bod mewn cysylltiad ymlaen llaw.
Y dyddiadau a'r amseroedd yw:
Sesiwn Cynhadledd yr Esgobaeth ar gyfer Archddiaconiaeth Ynys Môn
20 Hydref am 4pm
Sesiwn Cynhadledd yr Esgobaeth ar gyfer Archddiaconiaeth Bangor
21 Hydref am 6pm
Sesiwn Cynhadledd yr Esgobaeth ar gyfer Archddiaconiaeth Meirionnydd
20 Hydref am 11am
11 Tachwedd am 2pm
Mae aelodaeth ffurfiol y Gynhadledd yn cynnwys tri chynrychiolydd lleyg o bob Ardal Weinidogaeth, hyd at dri gweinidog lleyg trwyddedig o bob Ardal Weinidogaeth, a'r cyfan o'r clerigion trwyddedig. Fodd bynnag, mae croeso cynnes i unrhyw un sy'n cymuno yn yr esgobaeth fynychu'r sesiynau.

Grwp Elen
Yn hwyr y llynedd, cyfarfu ein Swyddog Gweinidogaeth Plant a Theuluoedd, Naomi Wood, â phob Ardal Weinidogaeth i fyfyrio ar weinidogaeth deuluol.
Un o'r cwestiynau a ofynnodd Naomi oedd “Beth all yr Esgobaeth ei wneud i gefnogi'ch gweinidogaeth gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd?"
Dywedodd llawer o Ardaloedd Gweinidogaeth y byddai'r gallu i rwydweithio ag eraill o bob rhan o'r esgobaeth i rannu syniadau ac i weddïo gyda'n gilydd yn ddefnyddiol.
Mewn ymateb i hyn rydym wedi sefydlu Grwp Elen i roi cyfle i ymgynnull gydag eraill o bob rhan o'r esgobaeth er mwyn:
- rhannu – syniadau; newyddion da; adnoddau
- gweddïo – dros ein gilydd; dros ein plant, ein bobl ifanc a'n teuluoedd; dros ysgolion
- derbyn – y wybodaeth ddiweddaraf; hyfforddiant
Mae croeso i unrhyw un sy’n arwain ac yn gwirfoddoli mewn plant gweinidogaeth, pobl ifanc a theuluoedd fynychu sesiynau Grwp Elen.
Mae'r cyfarfod cyntaf ar 12 Tachwedd 2020 am 7.30pm ar Zoom. Byddwn yn edrych ar sut y gallwn ddathlu'r Nadolig gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd.
Cofiwch y gweddïir drosoch bob dydd yn Nhŷ Esgob: chi, eich teuluoedd a'ch Ardaloedd Gweinidogaeth. Gras a thangnefedd i chwi oll.
Y Gwir Barchg Andy John
Esgob Bangor
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Lythyr yr Esgob a chyhoeddiadau esgobaethol
The Bishop's letter to the diocese
10 October 2020
Dear colleagues and friends
All grace and peace to you.
Talking to God
The news of increasing lockdowns in parts of the diocese are reminding us once more that this time is marked by change and uncertainty. The choices we have taken for granted for so long have either disappeared or been constrained even if of necessity.
When St Paul was in prison in Rome he wrote to his sisters and brothers in Christ at Philippi and invited them not to feel anxious about anything and to know the peace of God.
Anxiety is a response common to all when we feel we are under threat. But left unchecked, anxiety is destructive.
Paul’s offer echoes an old gospel hymn, ‘What a friend we have in Jesus’, because everything can come to God in prayer. And when we come like this, God’s own offer is a peace which passes all understanding. I reflect on this in my meditation.
My recorded meditation this week is a single, bilingual meditation. Fully bilingual versions of the texts are available, as is material that I am making available to support Sunday worship at home, including a bilingual order of service for the Liturgy of the Word and the text of the readings.

2020 Diocesan Conference
I’m looking forward to our Diocesan Conference sessions later this month. A reminder that:
- There will therefore be four Diocesan Conference sessions on Zoom this year.
- There will be one 90 minute session in each of the archdeaconries, and a final, shorter plenary session for all members.
- In order to attend, individuals will need to sign up via the diocesan website, at the links below.
Asking questions
At the archdeaconry sessions, I will be delivering my presidential address. After this, there will be a question time session.
I want to encourage questions to me that range across our diocesan life and the Church’s mission.
It will be possible to submit questions during the session itself, in response to the discussion, but it is also possible to submit questions ahead of the sessions, which can be done by emailing them to Robert Jones.
Submitting questions ahead of the sessions will help us to structure the discussion - so please do think about being in touch beforehand.
The dates and times are:
The Archdeaconry of Anglesey Diocesan Conference session
20 October at 4pm
The Archdeaconry of Bangor Diocesan Conference session
21 October at 6pm
The Archdeaconry of Meirionnydd Diocesan Conference session
20 October at 11am
11 November at 2pm
The formal membership of the Conference includes three lay representatives from each Ministry Area, up to three licensed lay ministers from each Ministry Area, and all licensed clerics. However, there is a warm welcome for any communicant member of the diocese to attend the sessions.

Grwp Elen
Late last year our Children & Family Ministry Officer, Naomi Wood, met with every Ministry Area to reflect on family ministry.
One of the questions Naomi asked was “What can the Diocese do to support your ministry with children, young people and families?”
Many Ministry Areas commented that the ability to network with others from across the diocese to share ideas and to pray together would be helpful.
In response to this we have established Grwp Elen to provide an opportunity to gather with others from across the whole diocese to:
- share – ideas; good news; resources
- pray – for each other; for the children, young people and families; for schools
- receive – up to date information; training
Anyone who leads and volunteers in ministry children, young people and families is welcome to attend Grwp Elen’s sessions.
The first gathering is on 12 November 2020 at 7.30pm on Zoom. We will be looking at how we can celebrate Christmas with children, young people and families.
Please remember you are prayed for each day in Ty’r Esgob: you, your families and Ministry Areas. Grace and peace to you all.
The Rt Revd Andy John
Bishop of Bangor