Llythyr brys yr Esgob i'r esgobaeth
Coffád Henry Martyn | 19 Hydref 2020
Annwyl gyfeillion
Rydym bellach wedi clywed gan Brif Weinidog Cymru y byddwn yn mynd i mewn i cyfnod clo cenedlaethol byr a llym o'r dydd Gwener hwn 23 Hydref tan ddydd Llun 9 Tachwedd.
Mae hyn yn golygu na fydd eglwysi yn gallu bod yn agored ar gyfer gwasanaethau arferol, gweddi breifat ac ymweld yn ystod y cyfnod hwn, er y bydd modd cynnal angladdau a phriodasau o fewn cyfyngiadau llym a phenodol. Ni fydd gweithgareddau cymunedol mewn neuaddau eglwys yn gallu digwydd chwaith.
Mae canllawiau cenedlaethol yr Eglwys yng Nghymru yn cael eu diwygio yn sgil cyhoeddiad y llywodraeth, a byddaf mewn cysylltiad eto unwaith y bydd y rhain ar gael - ond mae’n rhesymol nawr i wneud trefniadau priodol o ystyried yr hyn sydd eisoes yn hysbys.
Mae hwn yn gyfnod anodd i bob un ohonom, yn enwedig i'r rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau. Nid yw ein galwedigaeth Gristnogol byth dan glo, ac rwy’n ddiolchgar am bopeth a fydd yn digwydd i rannu ffydd, gobaith a chariad ledled yr esgobaeth dros yr wythnosau anodd sydd i ddod.
Rwyf hefyd yn falch y byddwn yn gallu cyfarfod gyda'n gilydd mewn sesiynau archddiaconiaethol o Gynhadledd yr Esgobaeth yr wythnos hon. Mae manylion cofrestru ar gyfer y sesiynau hynny ar gael yn Llythyr yr Esgob ddydd Sadwrn diwethaf.
Cofiwch eich bod yn fy ngweddïau beunyddiol yn Nhŷ’r Esgob. Gras a thangnefedd i chi i gyd.
Y Gwir Barchg Andy John
Esgob Bangor
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Lythyr yr Esgob a chyhoeddiadau esgobaethol
An urgent Bishop's letter to the diocese
The Commemoration of Henry Martyn | 19 October 2020
Dear colleagues and friends
We have now heard from the First Minister of Wales that we will go into a national "firebreak" lockdown from this Friday 23 October until Monday 9 November.
This means that churches will not be able to be open for normal services, private prayer and visiting during this period, though funerals and weddings will be able to be held within strict and specific restrictions. Community activities in church halls will also not be able to take place.
National Church in Wales guidance is being amended in light of the government’s announcement, and I will be in touch again once this is available - but it is reasonable now to being to make appropriate arrangements given what is already known.
This is a difficult time for all of us, especially for the most vulnerable in our communities. Our Christian discipleship is never locked down, and I am grateful for all that will happen to share faith, hope and love across the diocese over the difficult weeks ahead.
I am also glad that we will be able to meet together in archidiaconal Diocesan Conference sessions this week. Registration details for those sessions are available in last Saturday’s Bishop’s Letter.
Please remember you are held in prayer at Ty’r Esgob. Grace and peace to you all.
The Rt Revd Andy John
Bishop of Bangor