minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
"Am hynny, calonogwch eich gilydd, ac adeiladwch bob un ei gilydd" | "Therefore encourage one another and build up each other"
English

Llythyr yr Esgob i'r esgobaeth


Coffád Dyfrig Sant | 14 Tachwedd 2020

Dyfrig Sant yn Eglwys y Santes Farged, Aberpennar

Annwyl gyfeillion

Pob gras a thangnefedd i chi.


Cyrraedd cariad Duw

Ar Drydydd Sul y Deyrnas rydym yn cyfuno dwy thema yn fy myfyrdod.

Mae’r cyntaf wedi'i gwreiddio yng ngeiriau Sant Paul at y Thesaloniaid mai "nid i ddigofaint y penododd Duw ni;” ac mae’r ail yn canolbwyntio ar weddïau dros garcharorion.

Yr hyn sy'n eu cysylltu yw argyhoeddiad nad oes neb y tu hwnt i gyrraedd cariad Duw.

Pan fyddwn yn amgyffred hyn ac yn caniatáu i ni gael ein siapio gan ras, caiff ein canfyddiad o Dduw ei drawsnewid, ac fe gawn ninnau ymateb yn ein tro â ffydd a chariad.


Un myfyrdod ddwyieithog wedi'i recordio a geir yr wythnos hon. Mae'r testun ar gael yn llawn yn y ddwy iaith, ynghyd â'r deunydd yr wyf yn ei ddarparu i gefnogi addoliad y Sul ar yr aelwyd, gan gynnwys trefn gwasanaeth dwyieithog ar gyfer Litwrgi y Gair a thestun y darlleniadau. Mae materion technegol yn golygu y gallai fod oedi cyn lanlwytho fy myfyrdod wedi'i recordio yr wythnos hon - ond bydd ar gael erbyn gyda'r nos heddiw.


Songs of Praise

Mae Songs of Praise y Sul hwn yn dilyn taith ffydd Aled Jones, gan gynnwys ei fagwraeth yng ngogledd Cymru a'i amser yng Nghôr y Gadeirlan. Bydd yn cael ei ddarlledu am 1.15pm, ac ar gael ar ôl ei ddarlledu fan hyn.


Addasiadau'r pandemig

Mae'n dda y gall ein hadeiladau eglwysig agor unwaith yn rhagor ar gyfer addoli, gweddi breifat ac ymwelwyr, y gall cynulliadau cyfyngedig ddigwydd yn yr awyr agored, ac y gall gweithgareddau cyfyngedig ddigwydd mewn neuaddau eglwys.

Erbyn hyn, bydd cydweithwyr ordeiniedig yn gyfarwydd â'r saith dogfen allweddol, sydd ar gael yma, sy'n ffurfio canllawiau yr Eglwys yng Nghymru ar:

  1. ail-agor eglwysi i addoli (canllawiau cynhwysfawr, gan gynnwys ynghylch Profi, Olrhain, Diogelu; cadw pellter 2 fetr; gwresogi ac awyru; canu clychau)
  2. priodasau ac angladdau
  3. dathlu'r Cymun Bendigaid
  4. Bedyddiadau
  5. cerddoriaeth a chwarae organau
  6. ail-agor neuaddau eglwys
  7. ail-agor eglwysi i ymwelwyr

A gaf i ddiolch unwaith eto i’n clerigion, ein harchddiaconiaid a swydd-ddeiliaid eraill ledled yr esgobaeth sy’n gweithio mor galed ar hyn o bryd i sicrhau y gallwn gynnig gweinidogaeth ac addoliad yno ddiogel, ond gyda chroeso cynnes a chalon angerddol.


Llan

Bydd llawer ohonoch yn ymwybodol o’r gwaith sydd wedi bod yn digwydd dros y misoedd diwethaf i lansio ein prosiect Llan, a ariannwyd o Gronfa Efengylu genedlaethol yr Eglwys yng Nghymru.

Mae “Llan” yn brosiect saith mlynedd, gwerth £3m, a fydd yn gweld gweinidogaethau newydd yn datblygu ledled yr esgobaeth, wrth i ni ganolbwyntio ar estyn allan mewn ffyrdd newydd i’n cymunedau gyda chariad Duw yng Nghrist. Bydd Llan yn ein galluogi i ddatblygu ein gweinidogaeth bererindod ym mhob cwr o’r esgobaeth, i dyfu cymuned eglwysig Gymraeg newydd a datblygu adnoddau efengylaidd yn Gymraeg, ac i lansio pedair menter gymdeithasol a fydd yn arloesi math newydd o bresenoldeb a thsytiolaethu Anglicanaidd mewn pedair o'n trefi a'n pentrefi.

Ers y Pasg, mae ein gwaith ar Llan wedi cael ei gydlynu a’i arwain gan Gyfarwyddwr Llan, James Tout, a Chyfarwyddwr ar y Cyd Llan, Jules Burnand. Mae cychwyn prosiect newydd yn ystod pandemig yn waith caled - ond rwy’n ddiolchgar i’r ddau ohonyn nhw am gadw pethau ar y trywydd iawn a gweithio’n egnïol i osod y sylfeini ar gyfer cenhadaeth a gweinidogaeth y blynyddoedd i ddod.

Rwy’n falch iawn fy mod heddiw yn gallu gwneud cyfres o gyhoeddiadau am ddwy o ffrydiau Llan.

Pererindod

Bydd pwyslais Llan ar Bererindod yn caniatáu inni ddathlu lleoedd, adeiladau a thirnodau sy'n mynegi ehangder ein treftadaeth Gristnogol. Byddwn yn buddsoddi mewn llwybrau pererindota hen a newydd ym mhob cwr o’r esgobaeth. Yn bwysicach fyth, byddwn hefyd yn buddsoddi mewn pobl trwy hyfforddi croesawyr a thywyswyr i adrodd ein stori Gristnogol, a gwahodd ymwelwyr i ddod yn wir bererinion trwy gydblethu eu stori eu hunain â stori fyw ffydd.

Elfen hanfodol o'r ffrwd Pererindod yw ffurfio chwe chanolfan ragoriaeth newydd o fewn yr esgobaeth. Ein cynllun yw, mewn chwech o brif eglwysi'r pererin, i wella ansawdd y croeso ysbrydol, hanesyddol ac efengylaidd y gallwn ei gynnig i bererinion o bob cefndir ac oedran. Yn y chwech o brif eglwysi'r pererin, rydym am roi cyfle i'r rhai sy'n croesi'r trothwy ar ddiwedd eu taith gorfforol ddod ar draws Duw a fydd yn aros gyda nhw a'u gwahodd i gamu ymhellach ac yn ddyfnach yn eu taith hyd ffyrdd ffydd, gobaith a chariad. Rydym am wneud hyn yn rhagorol o fewn chwech o brif eglwysi'r pererin, gan eu galluogi i fod fel enghreifftiau o arfer da i'n hesgobaeth ac i'r Eglwys yng Nghymru yn genedlaethol.

Mae adnabod chwech o brif eglwysi'r pererin wedi bod yn waith heriol i James, Jules, Cyngor yr Esgob ac, yn y pen draw, Cyngor yr Esgobaeth. Ond rwy'n falch iawn bod yr eglwysi canlynol bellach wedi'u dewis:

Eglwys Cadfan Sant, Tywyn
Eglwys Hywyn Sant, Aberdaron
Eglwys Beuno Sant, Clynnog Fawr
Eglwys Gadeiriol Deiniol Sant, Bangor
Eglwys Seiriol Sant, Penmon
Eglwys Cybi Sant, Caergybi

Mae pob un ohonynt yn eglwysi hanesyddol hynod arwyddocaol sy'n cynnwys trysorau yr un mor rhyfeddol, ac yn adrodd straeon sy'n rhychwantu 1,500 o flynyddoedd o hanes Cymru. Mae Eglwys Cadfan Sant yn enwog am ei bensaernïaeth Romanésg ac am Garreg Cadfan o'r nawfed ganrif, wedi’i harysgrifio gyda’r Gymraeg ysgrifenedig hynaf y gwyddys amdani. Roedd Eglwys Hywyn Sant yn anheddiad clas o’r chweched ganrif, sydd bellach yn cynnwys dwy ystlys ganoloesol; dyma oedd man egyn y pererinion i groesi i Enlli. Mae sylfaen Eglwys Beuno Sant yn dyddio i’r seithfed ganrif; ymosodwyd arni gan y Llychlynwyr a'r Normaniaid, ac erbyn y bymthegfed ganrif roedd yn eglwys golegol brin ac arwyddocaol. Saif Eglwys Gadeiriol Deiniol Sant ar ben neu gerllaw safle myachlog Deiniol yn y chweched ganrif; mae ganddi gysylltiadau cryf â Gruffudd ap Cynan, Owain Gwynedd, cyrch y Brenin John i mewn i Wynedd a gwrthryfel Owain Glyndwr; ac fe'i hailfodelwyd yn sylweddol gan y pensaer Fictoraidd George Gilbert Scott. Saif Eglwys Seiriol Sant yng nghanol adfeilion y priordy Awstinaidd; mae'n gartref i ddwy groes sefyll sylweddol o'r ddegfed ganrif. Sefydlwyd Eglwys Cybi Sant o fewn muriau caer Rufeinig adfeiliedig, ymosodwyd arni gan y Llychlynwyr, ac mae ganddi gysylltiadau cryf â goresgyniad Harri IV o Fôn ym 1405.

Er eu bod yn unffurf o ran eu harwyddocâd hanesyddol, maent wedi’u lleoli mewn lleoliadau amrywiol ar draws ein harchddiaconiaethau - mae'r Gadeirlan ac Eglwys Cybi Sant yng nghanol trefi; Mae Eglwys Beuno Sant ac Eglwys Seiriol Sant mewn cymunedau gwledig, amhoblog; mae Eglwys Cadfan Sant ac Eglwys Hywyn Sant ar ein harfordir gorllewinol poblogaidd.

Yn fwy arwyddocaol na'u gwead hanesyddol a'u lledaeniad daearyddol yw'r ffaith eu bod yn safleoedd lle mae Duw wedi ei ganfoj a'i gydnabod ers dros dair canrif ar ddeg. O'u sefydlu gan Cadfan, Hywyn, Beuno, Deiniol, Seiriol a Cybi - chwech o'n seintiau Celtaidd amlycaf - mae pobl wedi dod i'r lleoedd hyn yn ceisio sicrwydd ffydd ddyfnach, gobaith gadarn a'r cariad hwnnw sy'n trawsnewid bywyd. Ni yw etifeddion hyn i gyd - a'n nod yw sicrhau bod y chwech yma o brif eglwysi y pererin hyn yn gallu parhau i sôn am Dduw mewn ffyrdd cymhellol, efengylaidd yn ein dyddiau ni.


Iaith

Bydd pwyslais Llan ar Iaith yn ein gweld yn tyfu cymuned eglwys Gymraeg newydd - mynegiant ffres o’r Eglwys y bydd ei chenhadaeth a’i gweinidogaeth yn Gymraeg. Bydd yr her o dyfu’r gymuned eglwysig newydd hon yn cael ei chyfuno â ffurfio cymuned breswyl "blwyddyn i ffwrdd" o Gymorthyddion Efengylaidd sy’n siarad Cymraeg. Gan ddysgu o lwyddiant cynlluniau Cymorthyddion Bugeiliol Eglwys Loegr, rhagwelir y bydd yna rhwng tri a phump o unigolion, sy’n ystyried eu dyfodol ac yn ystyried hefyd eu galwedigaeth i’r weinidogaeth Anglicanaidd, yn cael llety a chyflog am ddeuddeg mis er mwyn cyfannu a chymryd rhan mewn gweinidogaeth efengylaidd, flaengar trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr Eglwys yng Nghymru. 

Bydd ffrwd Iaith Llan yn talu sylw i brinder adnoddau dysgu, addoli ac arloesi Cymraeg drwy alluogi datblygu adnoddau deniadol, o ansawdd da, Cymraeg ar gyfer efengylu, wedi'u targedu'n benodol at y grŵp 20-40 oed.

Gwnaed penderfyniadau sylweddol hefyd o fewn y ffrwd Iaith dros yr wythnosau diwethaf, yn dilyn gwaith paratoi gan James, Jules a Chyngor yr Esgob.

Mae Cyngor yr Esgobaeth wedi derbyn yr argymhelliad y dylid sefydlu’r gymuned eglwysig Gymraeg newydd ym Methesda, o fewn Ardal Weinidogaeth Bro Ogwen. 

Bydd angen llawer o waith dros y misoedd nesaf i ddod o hyd i adeiladau ar gyfer y gymuned breswyl “blwyddyn i ffwrdd” yn y dref, ac i ddechrau'r gwaith caled o wrando ar y gymuned leol ac adeiladu siâp a chymeriad gweinidogaeth Gymraeg drawsnewidiol yn eu plith.

Yn dilyn proses recriwtio drylwyr, rydym hefyd wedi gallu penodi dau aelod newydd o staff i arwain ein gwaith Cymraeg.

Sara Roberts fydd ein Harweinydd Cymuned Arloesol, wedi'i lleoli ym Methesda. 

Bydd Sara yn gyfarwydd i lawer yn yr esgobaeth, ar ôl cael ei gwneud yn ddiacon yn 2017 a'i hordeinio'n offeiriad yn 2018 gennyf i yn Eglwys Gadeiriol Bangor. Cyn ei hordeinio, bu Sara yn gweithio fel Cynghorydd Trais yn y Cartref gyda Gwasanaethau Cam-drin Domestig De Gwynedd. Mae hi hefyd wedi bod yn rhan allweddol o ddau grŵp egnïol ar lawr gwlad, EcoBro (grŵp cymunedol wedi'i leoli ym Mhenrhyndeudraeth yn gweithio tuag at ddyfodol cynaliadwy i gymunedau lleol yn y cylch) a CEFN (Cefnogi Ffoaduriaid / Supporting Refugees, a drefnodd yr ymweliad aml-ffydd ddiweddar â'r gwersyll ffoaduriaid o'r enw'r Jyngl yn Calais). Ers ei hordeinio, bu Sara'n gwasanaethu fel Curad yn Ardaloedd Gweinidogaeth Bro Enlli a Bro Madryn.

Wrth sôn am ei phenodiad, dywedodd Sara:

Roedd yn sioc ac yn fraint annisgwyl i gael fy ngwahodd i fod yn Arweinydd Cymuned Arloesol o fewn y prosiect Llan. Ar ôl nifer o sgyrsiau a thrafodaethau gyda’r tîm ynglŷn â’r weledigaeth am y prosiect rwyf yn gynhyrfus ac yn awyddus i gydweithio gyda nhw a’r gymuned ehangach ar egwyddorion yr esgobaeth, sef addoli Duw, tyfu’r Eglwys a charu’r byd. Mae Llan yn un ymateb i’r egwyddorion rheini, yn ogystal â’r alwad i ni ddatblygu gweinidogaethau newydd, gweithio gyda theuluoedd a meithrin disgyblion. Mae Duw wedi fy nhywys ar daith dros y blynyddoedd diwethaf ac rwyf yn edrych ymlaen at y cam nesaf yn yr antur. Rwyf yn edrych ymlaen at ddysgu gyda’n gilydd beth fedr y prosiect uchelgeisiol yma ei gyflawni, ac i gydgerdded gyda’r rhai fydd yn rhannu yn y gwaith, mewn ffydd a gobaith ac wrth wrando ar yr Ysbryd wrth iddi ein denu ymlaen. Gweddiwch drosom ni oll.

Ein gobaith yw y bydd Sara yn dechrau cyflawni rhai o'i dyletswyddau Llan yn y flwyddyn newydd, cyn symud i weithio'n llawn amser ym Methesda o ddiwedd y gwanwyn.

Elin Owen fydd Galluogydd y Gymraeg o fewn prosiect Llan.

Yn enedigol o Ben Llyn, derbyniodd Elin ei gradd yn y Gymraeg a Llenyddiaeth y Cyfryngau ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Ers hynny, mae hi wedi gweithio fel athrawes Gymraeg ysgol uwchradd yn Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon. Yn ystod ei hamser yn Syr Hugh Owen, mae hi hefyd wedi gwasanaethu fel Pennaeth Blwyddyn 10 ac 11, ac fel arholwr allanol CBAC. Mae Elin a'i theulu bellach yn byw ar Ynys Môn.

Wrth sôn am ei phenodiad, dywedodd Elin:

Edrychaf ymlaen yn fawr at y cyfle i chwarae rhan ym mhrosiect arloesol Llan ar gyfer datblygu gweinidogaethau newydd yn yr esgobaeth, a cheisio tanio ac ysbrydoli’r gymdeithas ehangach. Rwyf wedi gweithio o fewn byd addysg ers deunaw mlynedd ac felly meddaf ar ddealltwriaeth fanwl a phrofiad ymarferol eang o weithio gyda phobl ifanc. Edrychaf ymlaen am y cyfle i fod yn rhan o’r cynllun blaengar hwn i wella a chodi statws y Gymraeg o fewn yr Eglwys yn Esgobaeth Bangor..

Bydd Elin yn ymuno â thîm Llan yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.

Rydym yn falch iawn o groesawu Elin i'n teulu esgobaethol, a dymunwn y gorau iddi hi a Sara wrth iddynt baratoi ar gyfer yr heriau newydd hyn yn ein plith.


Aelodau o Gorff Llywodraethol a Chorff y Cyrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru

Mae aelodau Cynhadledd yr Esgobaeth, gan bleidleisio mewn urddau, wedi eu hawdurdodi i ethol dau aelod clerigol a phedwar aelod lleyg i wasanaethu am gyfnod o dair blynedd (2021-2023) fel aelodau o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru. Yr aelodau hynny y mae eu cyfnod yn dod i ben yn 2020, ac sy'n gymwys i'w mail-enwebu, yw Richard Wood, Naomi Starkey, Susan Fogarty, Wenda Owen a Sandra Ward. Gellir gweld pwerau a dyletswyddau’r Corff Llywodraethol a'r cymwysterau ar gyfer aelodaeth yma.

Mae aelodau Cynhadledd yr Esgobaeth, gan bleidleisio mewn urddau, hefyd wedi eu hawdurdodi i ethol un aelod clerigol ac un aelod lleyg i wasanaethu am gyfnod o dair blynedd (2021-2023) fel aelodau o Gorff y Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru. Yr aelodau hynny y mae eu cyfnod yn dod i ben yn 2020, ac sy'n gymwys i'w mail-enwebu, yw Kathy Jones a Hywel Parry-Smith. Gellir gweld pwerau a dyletswyddau Corff y Cynrychiolwyr a'r cymwysterau ar gyfer aelodaeth yma.

Trwy gyfrwng y llythyr hwn yr wyf yn gofyn am hysbysiad ffurfiol gan unrhyw unigolyn â chymwysterau addas sydd am i'w henw gael ei gyflwyno i'w ethol gan urdd briodol Cynhadledd yr Esgobaeth. Dylai unrhywun sydd am gynnig roi gwybod i Robert Jones drwy e-bost erbyn 5pm ar ddydd Sul 22 Tachwedd 2020.


Cynhadledd yr Esgobaeth

Roeddwn yn ddiolchgar i'r 170 o bobl o bob cwr o'r esgobaeth a ymunodd yn y sesiwn ar y cyd o Gynhadledd yr Esgobaeth yr wythnos hon.

Roedd yn dda cael cyfle i fyfyrio gyda'n gilydd ar heriau a chyfleoedd ariannol y foment bresennol, yn ogystal â chael holi cwestiynau a rhannu safbwyntiau.


Adfent, Nadolig, yr Ystwyll a Gŵyl Fair y Canhwyllau

Mae ein “hysbysfyrddau” Padlet ar gyfer Adfent, Nadolig, yr Ystwyll a Gŵyl Fair y Canhwyllau yn parhau i fod ar waith ac yn cael eu diweddaru. Mae gwahoddiad inni eu defnyddio i bostio dolenni, lanlwytho adnoddau a rhannu syniadau.

Rwy'n falch hefyd y bydd y Llythyr, o'r wythnos nesaf ymlaen, yn cynnwys straeon am gynlluniau o'n Hardaloed Gweinidogaethar gyfer dathlu Dolig llawen yng nghanol y pandemig.


Hysbysfwrdd esgobaethol


Cofiwch y gweddïir drosoch bob dydd yn Nhŷ Esgob: chi, eich teuluoedd a'ch Ardaloedd Gweinidogaeth. Gras a thangnefedd i chwi oll.


Y Gwir Barchg Andy John
Esgob Bangor



Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Lythyr yr Esgob a chyhoeddiadau esgobaethol

Cymraeg

The Bishop's letter to the diocese


The Commemoration of St Dyfrig | 14 November 2020

St Dyfrig, flanked by St Illtud and St Cadog, at St Illtyd's Church, Llantwit Fardre

Dear colleagues and friends

All grace and peace to you.


The reach of God's love

On this Third Sunday of the Kingdom we combine two themes in my meditation

The first draws on St Paul’s words to the Thessalonians that God has not “destined us for wrath” and the second focuses on prayers for prisoners.

What connects them is a conviction that no-one is beyond the reach of God’s love.

When we grasp this and allow ourselves to be shaped by grace it transforms our perception of God and allows us to respond in turn with faith and love.


My recorded meditation this week is a single, bilingual meditation. Fully bilingual versions of the texts are available, as is material that I am making available to support Sunday worship at home, including a bilingual order of service for the Liturgy of the Word and the text of the readings. Technical issues means that there may be a delay in uploading my recorded meditation this week - but it should be available slightly later this evening.


Songs of Praise

This Sunday's Songs of Praise follows Aled Jones's faith journey, including his upbringing in north Wales and his time as a chorister at Bangor Cathedral. It will be broadcast at 1.15pm on BBC1, and available after broadcast here.


Pandemic adaptations

It is good that our church buildings can again be open for worship, private prayer and visiting, that limited gatherings can take place outdoors, and that limited activities can take place in church halls.

Ordained colleagues will, by now, be familiar with the seven key documents, available here, that form the Church in Wales’s guidance on:

  1. re-opening churches for worship (comprehensive guidance, including regarding Test, Trace, Protect; 2 metre distancing; heating and ventilation; bell-ringing)
  2. marriages and funerals
  3. celebrating the Holy Eucharist
  4. Baptisms
  5. music and the playing of organs
  6. re-opening of church halls
  7. re-opening churches for visitors

May I once again thank our clergy, our archdeacons and other office-holders across the diocese who are working so hard at the moment to ensure that we can offer ministry and worship safely, but with a warm welcome and a passionate heart.


Llan

Many of you will be aware of the work that has been taking place over recent months to launch our Llan project, funded from the Church in Wales’s national Evangelism Fund.

Llan is a £3m, seven-year project that will see the development of new ministries across the diocese focused on reaching out in new ways to our communities with the love of God in Christ. Llan will enable us to develop our pilgrimage ministry across the diocese, to grow a new Welsh-language church community and to develop Welsh-language evangelistic resources, and to launch four social enterprises pioneering a new sort of Anglican presence and witness in four of our towns and villages.

Since Easter, our work on Llan has been coordinated and led by Llan’s Director, James Tout, and Llan’s Associate Director, Jules Burnand. Starting a new project during a pandemic is hard work - but I am grateful to the two of them for keeping things on track and working energetically to lay the foundations for future years’ mission and ministry.

I am delighted that I am able today to make a series of announcements about two of Llan’s streams.

Pilgrimage

Llan’s emphasis on Pilgrimage will allow us to celebrate places, buildings and landmarks that hold the breadth of our Christian heritage. We will invest in new and old pilgrim pathways that will criss-cross the diocese. More importantly, we will also invest in people through training welcomers and guides to become excellent at telling our Christian story, and inviting visitors to become true pilgrims by interweaving their own story with the living story of faith.

A crucial component of the Pilgrimage stream is the formation of six new centres of excellence around the diocese. Our plan is, at six major pilgrim churches, to improve the quality of the spiritual, historical and evangelistic welcome that we are able to offer to pilgrims of all backgrounds and ages. At these six major pilgrim churches, we want to give those who cross the threshold at their end of their physical journey the opportunity of an encounter with God that will stay with them and invite them to go yet further and deeper in their journey of faith, hope and love. We want to do this excellently in these six major pilgrim churches, enabling them to stand as examples of good practice for our diocese and for the whole of the Church in Wales.

Identifying these six major pilgrim churches has been a challenging conversation for James, Jules, the Bishop’s Council and, eventually, the Diocesan Council. But I am delighted that the following churches have now been selected:

St Cadfan’s Church, Tywyn
St Hywyn’s Church, Aberdaron
St Beuno’s Church, Clynnog Fawr
St Deiniol’s Cathedral, Bangor
St Seiriol’s Church, Penmon
St Cybi’s Church, Holyhead 

All are extraordinarily significant historical churches containing equally extraordinary treasures, telling stories that span 1,500 years of Welsh history. St Cadfan’s is noted for its Romanesque architecture and for the ninth-century Cadfan Stone, inscribed with the oldest known written Welsh. St Hywyn’s was a clas settlement of sixth-century, now comprising two medieval naves; it was the embarkation point for pilgrims to Bardsey. The foundation of St Beuno’s dates to the seventh century; it was attacked by Vikings and Normans, and by fifteenth century was a rare and significant collegiate church. St Deiniol’s Cathedral stands on or near the site occupied by St Deiniol’s monastery in sixth century; it has strong associations with Gruffudd ap Cynan, Owain Gwynedd, King John’s raid into Gwynedd and the rebellion of Owain Glyndwr; and it was significantly remodelled by the Victorian architect George Gilbert Scott. St Seiriol’s stands amid the ruins of the Augustinian priory; it houses two significant tenth-century standing crosses. St Cybi’s was founded within the walls of a ruined Roman fort, was sacked by Vikings, and has strong associations with Henry IV’s 1405 invasion of Anglesey.

Though uniform in their historic significance, they are located in diverse locations across our there archdeaconries – St Deiniol’s and St Cybi’s are in town centres; St Beuno’s and St Seiriol’s are in sparsely-populated rural communities; St Cadfan’s and St Hywyn’s sit on our well-visited west coast.

More significant than their historic fabric and their geographic spread is that fact they are sites where God has been encountered and known for over thirteen centuries. From their foundation by Cadfan, Hywyn, Beuno, Deiniol, Seiriol and Cybi - six of our foremost Celtic saints - people have come to these places seeking assurance of a deeper faith, more solid hope and a life-transforming love. We are the inheritors of all of this seeking and journeying - and our aim to to ensure that these six major pilgrim churches can continue to speak in compelling, evangelistic ways to today’s generation of God’s faith and hope and love.


Language

Llan’s emphasis on Language will see us growing a new Welsh-language church community - a fresh expression of Church whose mission and ministry will be in Welsh. The challenge of growing this new church community will be combined with the formation of a small “gap year” residential community of Welsh-speaking Evangelist Assistants. Drawing on the success of the Pastoral Assistant schemes in the Church of England, it is envisaged that between three and five individuals, discerning their future and potentially exploring their vocation for Anglican ministry, are accommodated and salaried for twelve months so that they might encounter and contribute to an evangelistic and pioneeringly-focused Welsh-language ministry of the Church in Wales.

The Language stream of Llan also seeks to address the lack of contemporary Welsh- language learning, worship and innovation resources by enabling the development of engaging, high-quality, Welsh-language resources to support learning, worship and innovation, particularly targeted at the 20-40 age group.

Significant decisions have also been made within this stream over recent weeks, following preparatory work by James, Jules and the Bishop’s Council.

The Diocesan Council has accepted the recommendation that the new Welsh-language church community should be established in Bethesda, within the Ministry Area of Bro Ogwen. 

Much work will be needed over coming months to locate premises for the small “gap year” residential community in the town, and to begin the hard work of listening to the local community and building up the shape and character of a transforming Welsh-language ministry in its midst.

Following a rigorous recruitment process, we have also been able to appoint two new staff members to lead our Welsh-language work.

Sara Roberts will become our Pioneer Community Leader, based in Bethesda. 

Sara will be familiar to many in the diocese, having been made deacon in 217 and ordained priest in 218 by me at Bangor Cathedral. Prior to her ordination, Sara worked as a Domestic Violence Advisor with De Gwynedd Domestic Abuse Services. She has also been a key part of two significant grass roots movements, EcoBro (a community group based around Penrhyndeudraeth working towards a sustainable future for local communities in the area) and CEFN (Cefnogi Ffoaduriaid / Supporting Refugees, which arranged the recent multi-faith visit to the refugee camp known as the Jungle in Calais). Since her ordination, Sara as served as Curate in Bro Enlli and Bro Madryn Ministry Areas.

Speaking of her appointment, Sara said:

It was a shock and unexpected privilege to be invited to be the Pioneer Community Leader within the Llan project. After numerous conversations and discussion with the team about the vision for the project, I am excited and eager to work with them and the wider community on the diocesan principles of worshipping God, growing the Church and loving the world. Llan is a response to those principles, as well as the challenge to develop new ministries, work with families and nurture disciples. God has taken me on a journey over the past few years and I am looking forward to the next step on the adventure. I am looking forward to learning together what this ambitious project can accomplish, as we walk alongside those who will join us in the work, in faith and hope and by listening to the Spirit call us on. Please pray for us all.

Our hope is that Sara will begin to undertake some of her Llan duties in the new year, before moving home and working full-time in Bethesda from later in the spring.

Elin Owen will become our Welsh Language Enabler. 

A native of Pen Llyn, Elin received her degree in Welsh & Media Literature at the University of Wales, Bangor. Since then, she has worked as a secondary school Welsh teacher at Ysgol Syr Hugh Owen in Caernarfon. During her time at Syr Hugh Owen, she has also served as Head of Year 10 & 11, and as a WJEC external examiner. Elin and her family now live on Anglesey.

Speaking of her appointment, Elin said:

I very much look forward to the opportunity to play a part in Llan's innovative project for the development of new ministries in the diocese, and to seek to ignite and inspire wider society. I have worked in education for eighteen years and so have a detailed understanding and broad practical experience of working with young people. I look forward to the opportunity to be part of this innovative scheme to improve and raise the status of Welsh within the Church in the Diocese of Bangor.

Elin will be joining the Llan team early in the New Year.

We are delighted to be welcoming Elin into our diocesan family, and wish her and Sara all the best as they prepare for new challenges in our midst.


Members of the Governing Body and the Representative Body of the Church in Wales

The members of the Diocesan Conference, voting by orders, are empowered to elect two clerical members and four lay members to serve a three-year term (2021-2023) as members of the Governing Body of the Church in Wales. Those members whose terms end in 2020, and who are eligible for renomination, are Richard Wood, Naomi Starkey, Susan Fogarty, Wenda Owen and Sandra Ward. The powers and duties of the Governing Body and the qualifications for membership can be found here.

The members of the Diocesan Conference, voting by orders, are also empowered to elect one clerical member and one lay member to serve a three-year term (2021-2023) as members of the Representative Body of the Church in Wales. Those members whose terms end in 2020, and who are eligible for renomination, are Kathy Jones and Hywel Parry-Smith. The powers and duties of the Representative Body and the qualifications for membership can be found here.

By means of this letter I am formally requesting notification from any suitably qualified individual that they wish their name to be put forward for election by the appropriate order of the Diocesan Conference. Anybody wishing to put their name forward should contact Robert Jones by email by 5pm on Sunday 22 November 2020.


Diocesan Conference

I was grateful to the 170 people from across the diocese who joined in the plenary session of the 2020 Diocesan Conference this past week.

It was good to have the opportunity to reflect together on the financial challenges and opportunities of this present moment, and to ask questions and share perspectives.


Advent, Christmas, Epiphany and Candlemas

Our Padlet “noticeboards” for Advent, Christmas, Epiphany and Candlemas continue to be live and updated. We’re all invited to use the space to post links, upload resources and share ideas. 

I'm also glad that, from next week, the Letter will include stories from across the diocese of Ministry Areas' plans for keeping a holy and merry Christmas during the pandemic.


Diocesan noticeboard


Please remember you are prayed for each day in Ty’r Esgob: you, your families and Ministry Areas. Grace and peace to you all.


The Rt Revd Andy John
Bishop of Bangor



Subscribe to receive email notification of the Bishop's Letter and diocesan announcements