
Llythyr brys oddi wrth yr Archddiaconiaid
19 Rhagfyr 2020
Annwyl gyfeillion
Amlinellodd datganiad Prif Weinidog Cymru am y pandemig y prynhawn yma ddatblygiadau pryderus newydd, a chyhoeddodd y byddai Lefel Rhybudd 4 yn cael ei gyflwyno am hanner nos heno, yn hytrach na 28 Rhagfyr.
Yn ystod Lefel Rhybudd 4, ein dealltwriaeth yw:
- gall eglwysi aros ar agor ar gyfer addoliad a gweddi breifat
- ni chaniateir ymgynnull ar gyfer gweithgareddau awyr agored
- dim ond ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol (mae'r diffiniad ohonynt yn cynnwys banciau bwyd) y gellir agor canolfannau cymunedol / neuaddau eglwys (neu weithgaredd cymunedol mewn addoldai)
Er y gall eglwysi aros ar agor ar gyfer addoliad a gweddi breifat, rhaid cymryd y Lefel Rhybudd uwch o ddifrif.
- Mae hyn yn golygu y dylid gwirio asesiadau risg a chynlluniau yn erbyn fersiwn ddiweddaraf o ganllawiau cenedlaethol yr Eglwys yng Nghymru.
- Mae hefyd yn golygu y dylai eglwysi ac Ardaloedd Gweinidogaeth bwyso a mesur ymarferoldeb eu holl gynlluniau ar gyfer ymgynnull i addoli. Er y caniateir addoli cyhoeddus, ni ddylai fynd rhagddo os mai barn yr eglwys ac Arweinydd yr Ardal Weinidogaeth yw y byddai'n annoeth gwneud hynny o ystyried lefelau risg neu bryderon cyfredol. Rydym yn deall bod hyn yn golygu y bydd addoliad cyhoeddus yn cael ei atal mewn rhai lleoedd.
Ar hyn o bryd mae’r canllawiau manwl, hanfodol ar wefan yr Eglwys yng Nghymru wedi’u cyflwyno mewn modd sy’n rhagweld cyflwyno Lefel Rhybudd 4 o 28 Rhagfyr ymlaen. Yn amlwg, mae popeth sy'n berthnasol i Lefel Rhybudd 4 yn air yn berthnasol o yfory ymlaen. Unwaith eto, gofynnwn i asesiadau risg a chynlluniau gael eu gwirio yn erbyn y canllawiau hyn.
Roeddem am gyhoeddi'r eglurhad hwn cyn gynted â phosibl heno. Bydd Llythyr yr Esgob a fyddai wedi ei gyhoeddi heddiw nawr yn cael ei gyhoeddi yfory, pan y bydd, o bosibl, wybodaeth bellach i’w rannu. Yn y cyfamser, ceir myfyrdod yr Esgob a deunydd addoli ar gyfer Pedwerydd Sul yr Adfent yma.
Yr Hybarch Andy Herrick
Archddiacon Ynys Môn
Yr Hybarch Mary Stallard
Archddiacon Bangor
Yr Hybarch Andrew Carroll Jones
Archddiacon Meirionnydd
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Lythyr yr Esgob a chyhoeddiadau esgobaethol
An urgent letter from the Archdeacons
19 December 2020
Dear colleagues and friends
The First Minister’s statement about the pandemic this afternoon outlined worrying new developments, and brought forward the introduction of Alert Level 4 from 28 December to midnight tonight.
During Alert Level 4, our understanding is that:
- churches may remain open for worship and private prayer
- gathering for outdoor activities is not permissible
- community centres / church halls (or community activity within places of worship) can only be opened for essential public services (the definition of which includes foodbanks)
Even though churches may remain open for worship and private prayer, the increased Alert Level must be taken seriously.
- This means that risk assessments and plans should be checked against the latest version of the Church in Wales’s national guidance.
- It also means that churches and Ministry Areas should make a judgement about the advisability of all of their plans for gathering for worship, on a case-by-case basis. While public worship is permitted, it should not go ahead if the judgement of the church and the Ministry Area Leader is that it would be unwise to do so given levels of risk or anxiety. We understand that this means that public worship will be suspended in some places.
The detailed, essential guidance on the Church in Wales’s website is currently laid out in a way that anticipates the interaction of Alert Level 4 from 28 December. Clearly all that applies to Alert Level 4 now applies from tomorrow onwards. Again, we ask that risk assessments and plans should be checked against this guidance.
We wanted to issue this clarification as soon as possible this evening. The Bishop’s Letter that would have been issued today will now be published tomorrow, when there may be further information to share. The Bishop's meditation and worship resources for the Fourth Sunday of Advent are available here.
The Venerable Andy Herrick
Archdeacon of Anglesey
The Venerable Mary Stallard
Archdeacon of Bangor
The Venerable Andrew Carroll Jones
Archdeacon of Meirionnydd