
Llythyr oddi wrth yr Esgob
13 Chwefror 2021
Annwyl gyfeillion
Pob gras a thangnefedd i chi.
Nid glwad o bell mwyach
Gelwir y Sul cyn y Grawys yn Sul y Gweddnewidiad, ac mae’r Efengyl y Sul hwn yn cyhoeddi inni sut y datgelwyd gogoniant Iesu i’r disgyblion wrth iddo baratoi i deithio i Jerwsalem.
Pan ddarllenwn yr hanesyn hwn trwy lygaid ffydd, gwelwn yma groesffordd a chyfeiriad clir i'w ddilyn: dyma Dduw y Mab yn paratoi i ddioddef ac i gofleidio marwolaeth drosom.
Fel yr wyf yn ei ystyried yn fy myfyrdod, mae'r persbectif hwn yn newid sut rydym yn clywed y stori, oherwydd nid ydym bellach yn cael ein galw o bell, ond yn gweld sut mae Duw wedi agosáu atom.
Mae Crist wedi'i weddnewid yn datgelu'r hyn sy'n wirioneddol bwysig ac yn rhoi hyder newydd pan fyddwn ninnau hefyd yn wynebu heriau o'n blaenau.

Myfi, Iesu
Ein hadnodd esgobaethol ar gyfer Grawys 2021
Y dywediadau yn Efengyl Ioan a adwaenwn fel y dywediadau "Myfi yw" sy’n ffurfio asgwrn cefn yr Efengyl.
O fewn fframwaith sy’n dechrau gyda thragwyddoldeb ac yn diweddu gyda chyfarfyddiad ag un o’i ddilynwyr mewn gardd, mae’r dywediadau’n ein tywys at graidd hunaniaeth Iesu.
Maent yn dangos mai yn Iesu mae Duw’n ymgysylltu i’r eithaf â’r byd y daeth i’w achub, gan ddatguddio Duw mewn modd unigryw ac ar yr un pryd ddod â Duw atom ni fodau dynol.
Mae'n cwrs Grawys ar gyfer 2021, Myfi, Iesu, yn canolbwyntio ar bob un o’r dywediadau hynny, fesul wythnos.
Cafodd y cwrs ei ysgrifennu gan gydweithwyr o bob cwr o’r esgobaeth. Mae fy niolch yn fawr iddynt am neilltuo amser i fyfyrio ynghylch yr hyn sydd gan y dywediadau i’w gynnig i ni.
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, gall grwpiau neu unigolion ddefnyddio’r deunydd.
Mae ar gael fel adnodd ar-lein. Mae hefyd ar gael fel PDF maint A4 - gydag un PDF o'r holl ddeunydd ar gael i'w lawrlwytho isod, a ffeiliau PDF unigol ar gyfer pob wythnos y gellir eu lawrlwytho o'r tudalennau wythnosol.

Myfi, Iesu: Wrth y bwrdd
Yn ystod wythnosau'r Grawys, bydd ein hadnodd Wrth y bwrdd ar gyfer teuluoedd a'r Eglwys Iau rhyw chydig yn wahanol.
Bob dydd Sul, bydd Wrth y bwrdd ar ffurf sesiwn byw ar Zoom, yn archwilio themâu y cwrs Grawys esgobaethol, Myfi, Iesu. Bydd recordiad o'r sesiwn ar gael hefyd. I fod yn bresennol, mae angen cofrestru ar-lein.
Hysbysfwrdd esgobaethol

- Mae'r cyfnod dirnad ar gyfer offeiriad i olynu’r Canon Angela Williams yn Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Tysilio yn dal i fynd rhagddo. Gellir gweld manylion llawn yr apwyntiad yma.
- Bellach mae gan yr Eglwys yng Nghymru safle rhoi ar-lein cwbl ddigidol. Cymerwch gip ar y fersiwn newydd yma.
- Cynhelir gwasanaeth Dydd Gweddi’r Byd ar Zoom am 2pm ddydd Gwener 5 Mawrth dan nawdd Miriam Beecroft. Mae croeso i bawb. I gofrestru diddordeb a derbyn y manylion Zoom, ebostiwch Miriam yn uniongyrchol.
Cofiwch y gweddïir drosoch bob dydd yn Nhŷ'r Esgob: chi, eich teuluoedd a'ch Ardaloedd Gweinidogaeth. Gras a thangnefedd i chwi oll.
Duw yn y nefoedd, mae dy ogoniant yn disgleirio trwy Iesu, dy Fab. Rho galon i mi sy'n disgleirio â chariad Iesu, fel y gall pobl dy weld di'n gweithio trwof i ac felly cael eu tynnu'n nes atat ti. Dyma fy ngweddi yn enw Iesu. Amen.
Y Gwir Barchg Andy John
Esgob Bangor
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Lythyr yr Esgob a chyhoeddiadau esgobaethol
A letter from the Bishop
13 February 2021
Dear colleagues and friends
All grace and peace to you.
No longer beckoned from afar
The Sunday before Lent is called Transfiguration Sunday, and the set Gospel recalls how Jesus’s glory was revealed to the disciples as he prepared to travel to Jerusalem.
When we read this account through the eyes of faith, we see this as a touchstone moment: here is God the Son preparing to suffer and to embrace death for us.
As I consider in my meditation, this perspective alters how we read the story, because we are no longer beckoned from afar, but see how God has drawn near to us.
A transfigured Christ both reveals what is truly important and provides new confidence when we too face challenges ahead of us.

I, Jesus
Our diocesan resource for Lent 2021
The sayings contained within John’s gospel that we know as the ‘I am’ sayings form the backbone of the gospel.
From within a framework which begins with eternity and ends in a garden encounter with one of his followers, the sayings take us to the heart of who Jesus is.
They show that Jesus is the way in which God relates supremely to the world he came to save, both revealing God uniquely and at the same time bringing God to humankind.
Our 2021 diocesan Lent course, I, Jesus, focuses, week by week, on each of those sayings.
The material has been prepared by colleagues from across the diocese. I am enormously grateful to them for spending time reflecting on what the sayings offer to us.
The material, as in previous years, is for group or individual use.
It is available as an online resource. It is also available as an A4-sized PDF - with a single PDF of all the material available for download below, and individual PDFs for each week downloadable from the weekly pages.

I, Jesus: At the table
During the weeks of Lent, our At the table resource for families and Junior Church is going to look a bit different.
Every Sunday, At the table will take the form of a live Zoom session, exploring the themes of I, Jesus. A recording of the session will also be available. To join in the live session, on-line sign-up is required.
Diocesan noticeboard

- The discernment period for a priest to succeed Canon Angela Williams as Ministry Area Leader of Bro Tysilio continues. Full details of the appointment can be found here.
- The Church in Wales now has a fully digital online giving site. Take a look at the new capabilities here.
- A World Day of Prayer service, hosted by Miriam Beecroft, will take place on Friday 5 March. All are welcome. To register your interest and receive the Zoom details, please email Miriam directly.
Please remember you are prayed for each day in Ty’r Esgob: you, your families and Ministry Areas. Grace and peace to you all.
God in heaven, your glory shines through Jesus, your Son. Give me a heart which shines with Jesus’s love, so that people can see you at work through me and so be drawn closer to you. This I ask in Jesus’s name. Amen.
The Rt Revd Andy John
Bishop of Bangor