
Llythyr oddi wrth yr Esgob
3 Ebrill 2021 | Dydd Sadwrn Sanctaidd
Annwyl gyfeillion
Pob gras a thangnefedd i chi.
Safwn heddiw ar drothwy'r Pasg, yn llawn gobaith.
Mae wedi bod yn flwyddyn anodd i gynifer ohonom, ac mae pryder, ansicrwydd a galar yn ein hamgylchynu o hyd. Ond i fywyd newydd y Pasg y cawn ein galw yn y pen draw.
A gaf i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb ym mhob cwr o'r esgobaeth sy'n gweithio mor galed i ganiatáu inni ddathlu'r Pasg eleni ar ffyrdd ffyddlon a chreadigol. Gwerthfawrogir eich gofal a'ch ymrwymiad i'ch gweinidogaeth yn fawr.
Ac a gaf i ddymuno dathliad Pasg heddychlon, llawen i ni i gyd yfory.
Y Lôn Hir a Throellog
Yn ystod yr Wythnos Fawr, rwyf wedi bod yn darlledu cyfres o fyfyrdodau yn fyw ar ein tudalen Facebook esgobaethol, a ddaw i ben yfory am 9am. Cewch weld y cyfan o'r darllendiadau blaenorol yma.
Duw yn Adfail
Yn fy neges Pasg eleni, rwy'n myfyrio ar ddigwyddiadau anodd y flwyddyn ddiwethaf, ac ar sut mae pobl Gristnogol, o'r Pasg cyntaf ymlaen, wedi canfod gobaith yn deillio o sefyllfaoedd dinistriol. Cewch wylio a darllen y neges yma.
Myfi, Iesu
Wythnos y Pasg yw wythnos olaf ein cwrs Grawys esgobaethol.

Hysbysfwrdd esgobaethol

- Cynhelir Cynhadledd Glerigol cyfrwng cymysg 2021 ar gyfer clerigion trwyddedig ar ddydd Mawrth 14 Medi, dydd Mercher 15 Medi a dydd Iau 16 Medi 2021.
- Bu i e-bost dweddar gynnwys manylion mewngofnodi i glerigion ymgymryd â hyfforddiant i baratoi ar gyfer y gyfundren newydd o gofrestru priodasau.
- Cysylltwch â'r Deon yn uniongyrchol i drefnu i gasglu olew ar gyfer eneinio’r sâl a’r marw, olew ar gyfer arwyddo gyda’r groes adeg bedydd ac olew'r crism, y byddaf yn eu bendithio yn yr Eglwys Gadeiriol yn ystod gwasanaeth wedi'i recordio yr wythnos hon.
Rwy'n rhagweld y caiff fy Llythyr nesaf ei gyhoeddi ar ddydd Sadwrn 17 Ebrill.
Cofiwch y gweddïir drosoch bob dydd yn Nhŷ'r Esgob: chi, eich teuluoedd a'ch Ardaloedd Gweinidogaeth. Gras a thangnefedd i chwi oll.
Dduw cariad, wrth i ni ddod at y bedd gwag, diolchwn i ti am atgyfodiad gogoneddus Iesu. Helpa ni i beidio â bod yn swil wrth ddweud wrth eraill am fywyd newydd Iesu, beth mae'n ei olygu i ni a'r llawenydd mae'n ei roi. Dyma’n gweddi yn nerth yr Ysbryd Glân. Amen.
Y Gwir Barchg Andy John
Esgob Bangor
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Lythyr yr Esgob a chyhoeddiadau esgobaethol
A letter from the Bishop
3 April 2021 | Holy Saturday
Dear colleagues and friends
All grace and peace to you.
We stand today on the threshold of Easter, laden with hope.
It has been a difficult year for so many of us, and anxiety, insecurity and grief still surround us. But it is to Easter’s new life that we are ultimately called.
May I take this opportunity to thank all across the diocese who are working so hard to allow us to celebrate Easter this year on faithful and creative ways. Your care and commitment to your ministry is greatly appreciated.
And may I wish us all a peaceful, joyful Easter celebration tomorrow.
The Long and Winding Road
During Holy Week, I have been broadcasting a series of meditations live on our diocesan Facebook page, concluding tomorrow at 9am. You can watch all of the past broadcasts here.
God in Ruins
In my Easter message, I reflect on the difficult events of this last year, and on how Christian people, from the first Easter onwards, have been able to find hope coming out ruinous situations. You can watch and read the message here.
I, Jesus
Easter Week is the final week of our diocesan Lent course.

Diocesan noticeboard

- Our 2020 mixed-mode Clergy Conference for licensed clerics will take place on Tuesday 14 September, Wednesday 15 September and Thursday 16 September 2021.
- A recent email included log-in details for clergy to undertake training to prepare for the new system of registering marriages.
- Please contact the Dean directly to arrange to collect oil for the anointing of the sick and dying, oil for the signing with the cross at baptism and oil of chrism, which I will be blessing at the Cathedral during a recorded service this week.
I expect my next letter to be released on Saturday 17 April.
Please remember you are prayed for each day in Ty’r Esgob: you, your families and Ministry Areas. Grace and peace to you all.
God of love, as we come to the empty tomb, we give you thanks for the glorious resurrection of Jesus. Help us not to be shy in telling others about Jesus’ new life, what it means for us and the joy it gives. This we ask in the power of the Holy Spirit. Amen.
The Rt Revd Andy John
Bishop of Bangor