minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Mae'r Esgob yn cyhoeddi llythyrau rheolaidd am ein hymateb i'r coronafirws.


Llythyr yr Esgob i'r esgobaeth


Dydd Iau Cablyd | 9 Ebrill 2020


Annwyl gyfeillion

Pob gras a thangnefedd i chi.


Bywyd atgyfodedig Crist

Heddiw fe ydyn ar drothwy cyfnod mwyaf cysegredig y flwyddyn Gristnogol.

Yn ein calonnau a'n meddyliau, dros yr oriau a'r dyddiau nesaf, byddwn yn yr Oruwch Ystafell wrth i Iesu olchi ein traed a thorri'r bara.

Byddwn yng Ngethsemane, yn gwylio, yn aros; cawn weld cusan Jwdas ar ei dalcen.

Byddwn yng nghwrt yr Uwch Offeiriad, yn cuddio, yn gwadu; cawn glywed clochdar y ceiliog.

Byddwn yn ymgynnull gyda'r dorf; “Croeshoeliwch ef” fydd ein bloedd.

Byddwn yn cerdded ffordd y Groes gydag ef, yn wylo, gan gynnig rhannu'r baich.

Byddwn yn sefyll wrth droed y Groes ar fryn Calfaria, yn ei bryfocio, yn rhwygo'i fantell, neu'n cysuro ei fam; cawn ei weld yn anadlu ei anadl olaf.

Byddwn yn ei gario i'r beddrod, ac yn teimlo pwysau'r maen.

Byddwn yn galaru, mewn distawrwydd byddarol.

Ac, yng nghyfnos bore'r Pasg, cawn ein cofleidio unwaith eto gan rym bywyd a'r gobaith llethol sydd gennym yng Nghrist.

Ac eto, bydd ein calonnau a'n meddyliau hefyd yma, ar ein haelwydydd ac yn ein cymunedau, a chyda phawb sy'n sâl neu'n galaru neu'n bryderus yn ystod y dyddiau heriol hyn. Ein gweddi yw y bydd y gobaith hwnnw sydd gennym yng Nghrist yn hysbys eleni mewn ffyrdd newydd a dwys, ac y bydd grym ei fywyd atgyfodedig yn yn gwawrio ac yn ein gweddnewid.

Byddwch oll yn fy ngweddïau dros y dyddiau cysegredig nesaf. Rwy'n gobeithio y cewch gyfle i geisio bendith Duw, ac i gyrraedd bore'r Pasg yn ddigwylgar a beiddgar.

Rwy’n parhau i fod mor ddiolchgar am bopeth sy’n cael ei wneud i gynnal gweinidogaeth yr Eglwys - trwy sicrhau bod deunydd defosiynol ar gael mewn cymaint o ffyrdd amrywiol, a thrwy weithredoedd di-rif o ofal a chariad bugeiliol.

Bydded i Grist, a gerddodd gyda’i ddisgyblion ar y ffordd i Emaus, gynnau ynoch dân ei gariad a’ch nerthu i gydgerdded ag ef yn ei fywyd atgyfodedig y dydd hwn, y Pasg hwn, ac yn wastad. Amen.

Gweddi ac addoliad

  • Ar y dudalen hon, fe welwch ddeunydd yr wyf yn ei ddarparu i gefnogi addoli ar yr aelwyd heddiw, dydd Iau Cablyd. Mae trefn gwasanaeth ddwyieithog ar gyfer Litwrgi y Gair, ynghyd â thestun y darlleniadau, myfyrdod wedi'i recordio yn Gymraeg a Saesneg, a'i thestun dwyieithog.
  • Mae'r un deunydd ar gael ar ddydd Gwener y Groglith, a Dydd y Pasg.
  • Mae ein deunydd Gyda'n gilydd wrth y bwrdd, i gefnogi addoli gartref i deuluoedd ifanc, hefyd ar gael ar gyfer dydd Iau CablydDydd Gwener y GroglithDydd y Pasg.
  • Byddaf yn rhoi anerchiad ar S4C am 7.45pm ddydd Gwener y Groglith. Cafodd yr anerchiad hwn ei recordio ddoe yn Eglwys Gadeiriol Bangor, ar ôl i mi ymgynghori â chydweithwyr ynghylch ymarferoldeb gwneud hynny, a phenderfynu bod seiliau da (yn anad dim o ran sicrhau bod digon o le i'r criw allu hel eu hoffer at ei gilydd yn ddiogel) ar gyfer defnyddio'r adeilad, er fy mod yn parhau i annog pobl i beidio â defnyddio adeiladau eglwysig ar gyfer recordio ar yr adeg hon.
  • Rwy'n falch iawn y bydd Sunday Worship ar Ddydd y Pasg, a ddarlledir ar BBC1 am 11.25am, yn dod o Eglwys Gadeiriol Bangor, gan ymgorffori deunydd a recordiwyd cyn Rheoliadau diweddaraf y Llywodraeth ynghylch aros gartref.

Angladdau

Mae Mainc yr Esgobion wedi diwygio adran “Angladdau” ei ganllawiau bugeiliol, yn sgil diwygio Rheoliadau Llywodraeth Cymru. Mae'r canllawiau diwygiedig ynghylch angladdau bellach fel a ganlyn:

Ni all gwasanaethau angladd gymryd lle mewn eglwysi ar hyn o bryd. Yn yr achos hwn, rydym yn mynd gam ymhellach na’r hyn sy’n ofynnol yn gyfreithiol, ond credwn mai’r rhagofal ychwanegol hwn yw’r ffordd orau o amddiffyn lles galarwyr, gweinidogion a swyddogion eglwysig.

Gall gwasanaethau angladd ar lan y bedd barhau i gymryd lle. Gall clerigion ac eraill sydd â thrwydded briodol hefyd lywyddu mewn angladdau mewn amlosgfeydd. Fodd bynnag, mae’r Esgobion yn annog yn gryf na ddylai gweinidogion sy’n perthyn i unrhyw un o ddosbarthiadau Llywodraeth y DU o bobl sydd mewn mwy o berygl o salwch difrifol yn sgil y coronafirws ymgymryd â gweinidogaeth o’r fath ar hyn o bryd, gan yn hytrach ei dirprwyo i gydweithwyr. Mae rhestr lawn o’r dosbarthiadau hyn ar gael yma.

Yn unol â Rheoliadau diweddaraf Llywodraeth Cymru, rhaid cyfyngu presenoldeb yn yr angladdau hyn i’r person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd a nifer fach o alarwyr (a all fod yng nghwmni gofalydd os oes angen) sydd wedi eu gwahodd gan y person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd. Ein barn ni o hyd yw na ddylai’r ‘nifer fach’ mewn angladdau ar lan y bedd fod yn fwy na deg. Rhaid i bawb sy’n mynychu angladd gymryd pob mesur rhesymol i aros oleiaf dau fetr i ffwrdd oddi wrth rywun nad yw o’u haelwyd hwy.

Rydym yn annog clerigion i gyfathrebu’n ofalus â threfnyddion angladdau, ac i gadarnhau y bydd y trefnydd angladdau yn arddel y cyfrifoldeb o gydymffurfio â’r Rheoliadau, gan gynnwys gwahodd galarwyr i fod yn bresennol a sicrhau bod mesurau pellhau cymdeithasol yn cael eu dilyn. Dylai’r angladd fod yn fyr, gan hepgor rhannau dewisol o’r gwasanaeth angladd.

Mae’r Eglwys yng Nghymru yn caniatáu hepgor, mewn amgylchiadau eithriadol, y ffioedd sy’n ddyledus o dan Ddeddf Eglwys Cymru (Claddfeydd) 1945. Rydym yn sicr y bydd clerigion yn sensitif i’r amgylchiadau presennol, ac atgoffir clerigion y caniateir iddynt hepgor eu ffioedd gweinidogaeth os ydynt o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny.

Mae’n debygol y bydd Rheoliadau Llywodraeth Cymru ynghylch angladdau yn cael eu diwygio ymhellach dros yr wythnosau nesaf, ac os felly bydd ein canllawiau yn cael eu hadolygu a’u diwygio. Maes o law byddwn yn cyhoeddi canllawiau ar wasanaethau coffa i’w defnyddio unwaith y byddwn yn gallu dychwelyd i’n hadeiladau eglwysig.

Ceir y canllawiau cyflawn yma.


Cyngor yr Esgob

Mae Cyngor yr Esgob (fi fy hun, y Deon, yr Archddiaconiaid ac Ysgrifennydd yr Esgobaeth) yn parhau â'i batrwm o gyfarfodydd electronig wythnosol, pan yr rydym yn ceisio adolygu'r sefyllfa ledled yr esgobaeth, cynllunio ymlaen llaw cymaint ag y gallwn, a chynnal ein hunain a bywyd yr esgobaeth gerbron Duw mewn gweddi a phryder cariadus. Bydd ein cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ddydd Llun nesaf.


Hollalluog Dduw, dysgaist ni trwy dy Fab mai cariad yw cyflawniad y gyfraith: caniatâ ein bod ni, dy weision, wrth roi gwasanaeth i’n gilydd yn dy wasanaethu di, ac felly yn aros yn dy gariad; drwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.


Y Gwir Barchg Andy John
Esgob Bangor


Cymraeg

The Bishop is publishing regular letters about our response to coronavirus.


The Bishop's letter to the diocese


Maundy Thursday | 9 April 2020


Dear colleagues and friends

All grace and peace to you.


Christ’s risen life

This evening we begin to keep the most sacred time of the Christian year. 

In our hearts and minds, over coming hours and days, we will be in the Upper Room as Jesus washes our feet and breaks the bread. 

We will be in Gethsemane, watching, waiting; we will see Judas kiss him on the forehead. 

We will be in the High Priest’s courtyard, hiding, denying; we will hear the cock crow. 

We will gather with the crowd; “Crucify him,” we’ll shout. 

We will walk the way of the Cross, weeping, offering to bear some of the load, helping him up as he falls. 

We will stand at the foot of the Cross on Calvary’s hill, casting lots for his garments, or comforting his mother; we will see him breathe his last. 

We will carry him to the tomb, and feel the weight of the stone that covers the entrance. 

We will mourn, in a deafening silence. 

And, in the twilight of Easter morning, we will know the power of life and the overwhelming hope that we have in Christ.

And, yet, our hearts and minds will also be here, in our homes and in our communities, and with all who are ill or mourning or anxious during these challenging days. Our prayer must be that that hope that we have in Christ is known this year in new and profound ways, and that the power of his risen life brings transformation and light.

You will all be in my prayers over the sacred days that are to come. I hope that you find ways to keep sacred time, and to come to Easter Day as God’s expectant people. 

I continue to be so grateful for all that is being done to sustain the ministry of the Church – through making devotional material available in so many diverse ways, and through acts of pastoral care and commitment, large and small.

May Christ, who walked with the disciples on the road to Emmaus, kindle in you the fire of his love and strengthen you to walk with him in his risen life, this day, this coming Eastertide, and always. Amen.


Worship and prayer

  • On this page, you will find material that I am making available to support worship at home today, Maundy Thursday. There is a bilingual order of service for the Liturgy of the Word, along with the text of the readings, a recorded meditation in Welsh and English, and its bilingual text.
  • The same material is also available for Good Friday, and for Easter Day.
  • Our Together at the table material, to support worship at home for young families, is also available for Maundy ThursdayGood Friday and Easter Day.
  • I will be giving an address on S4C at 7.45pm on Good Friday. I recorded this address at Bangor Cathedral, having consulted with colleagues about the advisability of doing so, and deciding that there were good grounds (not least in terms of there being sufficient space for the crew to set up equipment safely) for making use of the Cathedral building in this way, even though I continue to discourage the use of church buildings for recording material at this time.
  • I’m delighted that Sunday Worship on Easter Day, broadcast on BBC1 at 11.25am, will be coming from Bangor Cathedral, consisting of material recorded before the most recent Government Regulations regarding staying at home.

Funerals

The Bench of Bishops has amended the “Funerals” section of its pastoral guidance, in light of amended Welsh Government Regulations. The amended guidance regarding funerals is now as follows:

Funeral services should not take place in churches at the current time. In this case, we are going a step further than legally required, but we believe that the wellbeing of mourners, ministers and other church officers is best served by this additional precaution.

Funeral services at the graveside may continue. Clergy and others duly licensed may also preside at funerals in crematoria. However, the Bishops strongly urge ministers who fall into any of the UK Government’s categorisations of persons at increased risk of severe illness from coronavirus not to undertake such ministry personally, and to delegate to colleagues instead. The full list of such categories is available here.

In accordance with the most recent Welsh Government Regulations, attendance at these funerals must now by limited to the person responsible for arranging the funeral and a small number of mourners (who may be accompanied by a carer if necessary) invited to attend by the person responsible for arranging the funeral. Our view remains that for funerals at the graveside the ‘small number’ should not exceed ten. Everyone attending a funeral must take all reasonable measures to stay two metres away from someone not of their household.

We encourage clergy to communicate carefully with funeral directors, and to confirm that the funeral director will assume responsibility for compliance with the Regulations, including inviting mourners to be present and ensuring that social distancing measures are observed. The funeral should be kept brief, omitting optional parts of the funeral service.

The Church in Wales permits fees due under Welsh Church (Burial Grounds) Act 1945 to be waived in exceptional circumstances. We are sure that clergy will be sensitive to the current circumstances, and clergy are reminded that they are permitted to waive their ministry fees if they consider it appropriate to do so.

It is likely that Welsh Government Regulations regarding funerals will be further amended over coming weeks, in which case our guidance will be reviewed and amended. In due course we will issue guidance on services of remembrance for use once we are able to return to our church buildings.

The full guidance is available here.


Bishop’s Council

The Bishop’s Council (myself, the Dean, the Archdeacons and the Diocesan Secretary) is continuing its weekly pattern of electronic meetings, during which we seek to review the situation across the diocese, to plan ahead as much as we can, and to hold ourselves and the life of the diocese before God in prayer and loving concern. Our next meeting will take place this coming Monday.


God our Father, you have taught us through your Son, that love is the fulfilling of the law; grant to us your servants that, serving you in one another, we may remain in your love; through Jesus Christ our Lord.
Amen.


The Rt Revd Andy John
Bishop of Bangor