
Ffydd ar waith
Cynhadledd yr Esgobaeth 2019
Yna fe ddywed y Brenin wrth y rhai ar y dde iddo, "Dewch, chwi sydd dan fendith fy Nhad, i etifeddu'r deyrnas a baratowyd ichwi er seiliad y byd. Oherwydd bûm yn newynog a rhoesoch fwyd imi, bûm yn sychedig a rhoesoch ddiod imi, bûm yn ddieithr a chymerasoch fi i'ch cartref; bûm yn noeth a rhoesoch ddillad amdanaf, bûm yn glaf ac ymwelsoch â mi, bûm yng ngharchar a daethoch ataf."
Cynhelir Cynhadledd yr Esgobaeth eleni ar ddydd Sadwrn 5 Hydref 2019. Bydd y Gynhadledd yn cyfarfod yn Neuadd Pritchard Jones ym Mhrifysgol Bangor.
Mae aelodaeth ffurfiol y Gynhadledd yn cynnwys tri chynrychiolydd lleyg o bob Ardal Weinidogaeth, hyd at dri gweinidog lleyg trwyddedig o bob Ardal Weinyddiaeth, a phob clerig trwyddedig. Fodd bynnag, mae croeso cynnes i unrhyw aelod yng nghymundeb yr esgobaeth fynychu'r diwrnod, sy'n dathlu ein bywyd a'n gweledigaeth gyffredin fel esgobaeth.
Os nad ydych wedi cofrestru'ch presenoldeb hyd yma, gwnewch hynny ar y dudalen gofrestru.
Agenda
9.30am-10.15am / Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol Bwrdd Cyllid Esgobaeth Bangor, i'w gynnal ym Mhrif Ddarlithfa'r Celfyddydau / Cyn cychwyn ffurfiol Cynhadledd yr Esgobaeth, cynhelir y cyfarfod hwn i nodi cyfrifon Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth a phenodi archwilwyr.
O 9.45am / Coffi a chacen, i'w weini yn Neuadd Powis
10.30am-3pm / Cynhadledd yr Esgobaeth, i'w gynnal yn Neuadd Pritchard Jones / gan gynnwys
1pm / Cinio, i'w weini yn Neuadd Powis
2.15pm / Cymun y Gynhadledd, i'w gynnal yn Neuadd Pritchard Jones
Casgliad
Bydd y casgliad a wneir yng Nghymun y Gynhadledd yn cael ei gyflwyno i elusen Open Doors. Mae Open Doors yn gweithio mewn dros 60 o wledydd, yn cyflenwi Beiblau, yn hyfforddi arweinwyr eglwysig, yn darparu cefnogaeth ymarferol a rhyddhad brys, ac yn cefnogi Cristnogion sy'n dioddef am eu ffydd. Yn y DU ac Iwerddon mae Open Doors yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o erledigaeth fyd-eang, gan ysgogi gweddi, cefnogaeth a gweithredu ymhlith Cristnogion.
Lleoliad a pharcio
Cynhelir y Gynhadledd ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol Bangor - yr un lleoliad â'r ddwy Gynhadledd ddiwethaf.
Gellir defnyddio meysydd parcio'r Brifysgol ar Heol y Coleg i barcio. Dylid arddangos tocyn parcio yn ffenestr flaen y car. Gellir lawrlwytho'r tocyn yma, a bydd rhai ar gael ar y ddesg groeso yn Neuadd Pritchard Jones ar y dydd.
Arddangosfeydd a stondinau
Ymhlith y sefydliadau a’r timau a fydd ag arddangosfeydd a stondinau yn y Gynhadledd mae Open Doors, Undeb y Mamau, nwyddau masnach deg Just Shopping, a Sefydliad Padarn Sant. Rydym hefyd yn falch o groesawu eleni, am y tro cyntaf, Aled Davies a'i stondin lyfrau o'r Cyngor Ysgolion Sul.
Cyfarfod Blynyddol Bwrdd Cyllid Esgobaeth Bangor
Mae croeso i unrhyw un o aelodau'r Gynhadledd fynychu Cyfarfod Blynyddol Bwrdd Cyllid Esgobaeth Bangor. Ceir copi o adroddiad yr ymddiriedolwyr a datganiadau ariannol Bwrdd Cyllid Esgobaeth Bangor am 2018 yma. Bydd copïau caled ar gael ar y dydd.
Faith in action
The 2019 Bangor Diocesan Conference
Then the king will say to those at his right hand, “Come, you that are blessed by my Father, inherit the kingdom prepared for you from the foundation of the world; for I was hungry and you gave me food, I was thirsty and you gave me something to drink, I was a stranger and you welcomed me, I was naked and you gave me clothing, I was sick and you took care of me, I was in prison and you visited me.”
This year’s Diocesan Conference takes place on Saturday 5 October 2019. The Conference will be held in the Pritchard Jones Hall at the University of Bangor.
The formal membership of the Conference includes three lay representatives from each Ministry Area, up to three licensed lay ministers from each Ministry Area, and all licensed clerics. However, there is a warm welcome for any communicant member of the diocese to attend the day, which celebrates our common life and vision as a diocese.
If you have not yet registered your attendance, please do so from the registration page.
Agenda
9.30am-10.15am / Bangor Diocesan Board of Finance Annual General Meeting, held at the Main Arts Lecture Theatre / Before the start of the Diocesan Conference, this meeting is held to note the accounts of the Diocesan Board of Finance and to appoint auditors.
from 9.45am / Coffee and pastries, served in the Powis Hall
10.30am-3pm / Diocesan Conference, held in the Pritchard Jones Hall / including
1pm / Lunch, served in the Powis Hall
2.15pm / Conference Eucharist, held in the Pritchard Jones Hall
Collection
The collection at the Conference Eucharist will be presented to Open Doors. Open Doors works in over 60 countries, supplying Bibles, training church leaders, providing practical support and emergency relief, and supporting Christians who suffer for their faith. In the UK and Ireland Open Doors works to raise awareness of global persecution, mobilising prayer, support and action among Christians.
Location and parking
The Conference is held in the Main Arts Building of Bangor University - the same location as the last two Conferences.
The University's car parks along College Road are available for parking. A parking permit should be displayed in your car windscreen. A permit can be downloaded here, and copies will also be available from the welcome desk at the Pritchard Jones Hall on the day.
Displays and stalls
Among the organisations and teams who will have displays and stalls at the Conference are Open Doors, the Mothers Union, Just Shopping Fair trade goods, and St Padarn’s Institute. We are also pleased to be welcoming this year, for the first year, Aled Davies and his bookstall from the Cyngor Ysgolion Sul, the Welsh Sunday School Council.
Bangor Diocesan Board of Finance Annual General Meeting
All members of the Conference are welcome to attend the Bangor Diocesan Board of Finance Annual General Meeting. The Bangor Diocesan Board of Finance 2018 trustees' report and financial statements are available here. Hard copies will be available on the day.