Gweinidogaethau newydd yng Nghadeirlan Deiniol Sant ac Ardal Weinidogaeth Bro Deiniol
Gosber i ddathlu gweinidogaethau newyddNew ministries at Saint Deiniol’s Cathedral and the Ministry Area of Bro Deiniol
Evening Prayer to celebrate new ministries26/09/2021, 5 p.m.
Mae croeso cynnes i chi ymuno â ni i ddathlu gweinidogaethau newydd yng Nghadeirlan Deiniol Sant ac Ardal Weinidogaeth Bro Deiniol.
Yn yr oedfa Gosber hon yn y Gadeirlan, bydd y Cyfarwyddwr Cerdd, Gweinidog Teulu a'r Is-Ddeon newydd yn cael eu trwyddedu, a bydd Canoniaid newydd yn cael eu gosod, ochr yn ochr â Chlerc newydd y Cabidwl, a'r Cofrestrydd Esgobaethol a'r Dirprwy Gofrestrydd a benodwyd yn ddiweddar.
Mynychu a chyfyngiadau Covid
Mae angen cofrestru (trwy'r ffurflen isod) er mwyn mynychu'r gwasanaeth hwn. Gellir cofrestru mwy nag un person trwy ddewis yr opsiwn i ychwanegu mwy o bobl.
Ein gobaith yw y bydd pawb sy'n dymuno mynychu'r gwasanaeth yn gallu gwneud hynny. Fodd bynnag, bydd rhai cyfyngiadau Covid yn dal i fod ar waith, a bydd yr asesiad risg ar gyfer y Gadeirlan yn cael ei adolygu yn ystod wythnos 12 Medi 2021 yng ngoleuni'r canllawiau diweddaraf.
Os oes mwy o bobl wedi cofrestru eu bwriad i fynychu nag y gellir eu heistedd o dan y cyfyngiadau a osodir gan yr asesiad risg, efallai y bydd angen dychwelyd i wasanaeth trwy wahoddiad yn unig; ond gobeithiwn yn fawr iawn na fydd yn rhaid i ni gymryd y cam hwn.
Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
You are warmly invited to celebrate new ministries at Saint Deiniol’s Cathedral and the Ministry Area of Bro Deiniol.
At this service of Evening Prayer at the Cathedral, the new Director of Music, Family Minister and Sub-Dean will be licensed, and new Canons will also be installed, alongside the new Chapter Clerk and the recently appointed Diocesan Registrar and Deputy Registrar.
Attendance and Covid adaptations
Registration (via the form below) is necessary in order to attend this service. More than one person can be registered by selecting the option to add more people.
Our hope is that all who wish to attend the service will be able to do so. However, some Covid restrictions will still be in place, and the risk assessment for the Cathedral will be reviewed during the week of 12 September 2021 in light of the latest guidance.
If a larger number of people have registered their intention to attend than can be accommodated under the limitations imposed by the risk assessment, it may be necessary to revert to a service by invitation only; but we hope very much not to have to take this step.
Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.