minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Cyflwyno Bro Madryn


Mae Bro Madryn yn ymestyn dros ochr gogleddol Penrhyn Llŷn, o Lithfaen i Fryncroes. Mae’r cymunedau’n ddwyieithog, gyda chanran fawr o’r boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf.

Mae’n ardal hardd sy’n denu llawer iawn o ymwelwyr ac mae’r cynulleidfaoedd yn chwyddo yn nhymor y gwyliau. Roedd llawer o’r rhai sydd wedi ymddeol i’r ardal yn ymwelwyr cyson yn y blynyddoedd gynt.

Nefyn yw’r gymuned fwyaf yn yr ardal gyda phoblogaeth o ychydig dros 2,000. Mae’n le o arwyddocâd hanesyddol a chafodd siarter bwrdeistref gan y Tywysog Du. Ar un adeg, roedd yn ganolfan i’r diwydiant penwaig, ffaith sy’n cael ei dathlu gyda’r thri penwaig sydd ar fathodyn y dref. Hon yw prif dref ochr ogleddol y penrhyn ac mae ganddi ychydig o siopau a busnesau. Mae'r Santes Fair, eglwys wreiddiol plwyf, erbyn hyn yn amgueddfa forol a’r gynulleidfa yn addoli yn Eglwys Dewi Sant ar hyn o bryd, adeilad Edwardaidd yng nghanol y dref, gyferbyn â gwesty poblogaidd. Ychydig i fyny’r ffordd o’r eglwys mae’r ysgol gynradd gyda’r llyfrgell gerllaw. I lawr allt serth mae traeth tywodlyd rhagorol sy’n boblogaidd gyda’r bobl leol a’r ymwelwyr fel ei gilydd.

Filltir a hanner i lawr yr arfordir mae Morfa Nefyn gyda phoblogaeth o tua 1,600; tua 8 mlynedd yn ôl adeiladwyd y ficerdy yma. Mae Nefyn a Morfa Nefyn bron iawn yn un erbyn hyn a filltir ymhellach i lawr y lôn mae Edern. Y rhain yw’r tair cymuned sydd wrth galon Bro Madryn. Caeodd yr eglwys ym Morfa Nefyn ychydig o flynyddoedd yn ôl ac mae’n cael ei chadw mewn trefn dda gan grŵp o Gyfeillion gweithgar. Mae gan Forfa Nefyn hefyd ysgol gynradd, tafarn ac ychydig o siopau. Mae siop yn yr orsaf betrol leol sy’n gwerthu bwyd ffres o ansawdd da iawn ac mae ganddi hefyd laundrette ddefnyddiol y tu allan. Mae traeth Morfa Nefyn yn boblogaidd. Mae yna ddewis o lwybrau o’r pentref - ar draws y traeth, ar hyd llwybr yr arfordir neu dros y cwrs golff gyda golygfeydd ysblennydd - i Borthdinllaen. Yma, yn y pentref bach sydd ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac mewn cilfach ar y traeth, mae tafarn y Tŷ Coch, sydd wedi’i ddyfarnu y 3ydd bar traeth gorau yn y byd!

Cymuned fechan yw Edern gyda thafarn ardderchog a siop cigydd. Mae yno hefyd westy ac ysgol gynradd; mae eglwys Edern Sant ar ymylon y pentref.

Y pentrefi bychain eraill gydag eglwysi sy’n ffurfio Bro Madryn yw Bryncroes, Llangwnnadl, Llaniestyn, Llandudwen, Pistyll a Thudweiliog, er y bwriedir cau eglwys Tudweiliog. Caeodd yr eglwys ym mhentref Botwnnog 5 mlynedd yn ôl, ond mae ysgol gynradd yr Eglwys yng Nghymru yn dal ar agor, Ysgol Pont y Gôf, a drws nesaf i adeilad yr eglwys yn y pentref mae Ysgol Botwnnog, yr ysgol uwchradd sy'n gwasanaethu rhan orllewinol y penrhyn.

Mae yna hefyd gymunedau yn Llithfaen, Dinas, Ceidio a Sarn Meyllteyrn. Mae tair o’r eglwysi hyn wedi cau erbyn hyn. 


Eglwysi Bro Madryn

Mae’r disgrifiadau o batrymau gwasanaeth a nifer y cynulleidfaoedd yn dyddio o’r adeg cyn Covid. Rydym yn ymwybodol y gallai natur y cynulleidfaoedd newid pan fydd eglwysi’n gallu agor yn llawn unwaith eto ac un o’r tasgau cyntaf fydd asesu beth yw’r patrymau a beth yw’r ffurfiau priodol o addoli ar gyfer y dyfodol.

Dewi Sant, Nefyn. Hon yw’r eglwys fwyaf yn yr Ardal Weinidogaeth.Cyn y cyfnod clo roedd yn cynnal gwasanaeth traddodiadol am 9.30am ac addoliad cyfoes am 11am gyda thua 15 o addolwyr yn y gwasanaeth 9.30am (llai yn y gwasanaeth Cymraeg misol) a thua 20 yn mynychu’r gwasanaeth hwyrach. Yn ystod y tymor gwyliau byddai ymwelwyr yn chwyddo’r nifer yn y ddau wasanaeth i 20 a 40. Roedd coffi’n cael ei weini rhwng y ddau wasanaeth, oedd yn gyfle i’r cynulleidfaoedd gyfarfod a chael sgwrs.

Roedd bore coffi wythnosol, cyfarfod gweddi wythnosol, grwpiau astudio’r Beibl a gweithgareddau eraill yn achlysurol yn yr eglwys.Cynhaliwyd arddangosfa gelf yn yr eglwys yn Awst 2019 a ddenodd nifer da o bobl leol ac ymwelwyr i’r adeilad, a gallai fod yn nodwedd reolaidd ar y calendr. Roedd hynny hefyd yn gyfle i godi arian ar gyfer ysbyty Kisiizi yn Uganda y mae gan rai o aelodau’r eglwys gysylltiadau cryf â hi. Mae’r eglwys yn cynnal gwasanaeth blynyddol ar gyfer y clwb hwylio lleol.

Gwnaed llawer iawn o waith yn paratoi cynlluniau i wneud Dewi Sant yn adeilad mwy priodol ar gyfer addoli a chenhadu a fyddai wedi creu ystafell gyfarfod a swyddfa, gwell cegin a thoiledau a gwella mynediad i'r anabl i'r adeilad a chael gwared ar feinciau er mwyn gallu defnyddio prif gorff yr eglwys mewn sawl ffordd. Y disgwyl oedd y byddai llawer o’r arian ar gyfer hyn yn dod o’r esgobaeth ac o gronfeydd hanesyddol sydd ar gael ers cau eglwys Ceidio sawl blwyddyn yn ôl. Ond, ar ôl trafod gyda’r esgobaeth, mae’r prosiect hwn wedi gorfod cael ei osod ar naill ochr ar hyn o bryd oherwydd bod y costau’n sylweddol uwch nag a ddisgwylid yn wreiddiol.

Er bod eglwys wedi bod ar y safle ers y 6ed ganrif, o’r 15fed ganrif y mae Beuno Sant, Pistyll yn dyddio. Roedd y gwasanaethau (sydd yn Saesneg) yn cael eu cynnal yn fisol o Ebrill i Hydref i gynulleidfa fechan, yn ogystal â gwasanaeth poblogaidd iawn ar Noswyl y Nadolig. Mae’n eglwys boblogaidd ar gyfer priodasau; er ei bod yn fechan mae’n atynfa arbennig oherwydd ei lleoliad a’i symlrwydd, gyda brwyn yn cael eu gosod ar y llawr.

Eglwys Edern Sant sy’n rhoi’r enw i’r pentref ac mae ar ei ymylon. Mae yna gynulleidfa reolaidd o tua 8 yn y gwasanaethau Saesneg ac ychydig yn llai yn y gwasanaethau yn Gymraeg.

Mae eglwys Gwynhoedl Sant, ar gyrion Llangwnnadl, yn dyddio o'r 6ed ganrif. Mae’n un o eglwysi’r pererinion ac mae ganddi eil driphlyg. Roedd cynulleidfa o tua 10 yn cyfarfod pob dydd Sul a gwasanaethau cymun canol wythnos hefyd yn cael eu cynnal cyn y cyfnodau clo. Un o uchelbwyntiau’r flwyddyn yw gwasanaeth yr Ystwyll.

Mae gan eglwys Santes y Fair Bryncroes gynulleidfa gyson o 10 – 12 o bobl. Mae’r holl wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Daeth gwasanaethau rheolaidd o hwyrol weddi yn ystod y Grawys yn hynod boblogaidd, a hefyd y gwasanaeth carolau blynyddol.

Mae eglwys Llanieistyn yn dyddio’n ôl i’r 13eg ganrif; mae ganddi oriel glerwr sy’n edrych i lawr ar yr eil ddwbl. Mae’r gynulleidfa o tua 5 yn cyfarfod yn gynnar gyda’r nos; daeth hwn yn grŵp o bobl amrywiol yn yr ardal, unrhyw Sul gallai gynnwys pobl o’r eglwysi’r Crynwyr, yr Uniongred a’r Anghydffurfwyr, yn ogystal ag Anglicaniaid! Maen nhw’n cynnal gwasanaeth Plygain a gwasanaeth arbennig ar gyfer Gŵyl Fair y Canhwyllau. Mae yna grŵp astudio’r Beibl rheolaidd yma hefyd.

Mae Llandudwen yn eglwys anarferol gan ei bod yn eglwys ynysig, heb unrhyw gymuned gerllaw, ond gydol misoedd yr haf mae tua 10 o bobl yn cyfarfod i addoli yno bob wythnos. Darllenydd Lleyg yr Ardal Weinidogaeth yw’r Gweinidog Canolog yma. Mae’r eglwys yn cynnal Gŵyl y Goleuni arbennig ychydig cyn y Nadolig pob blwyddyn.

Daeth cynulleidfa Cwyfan Sant, Tudweiliog i’r casgliad anodd, ond angenrheidiol, nad ydyn nhw, bellach, yn gallu cadw’r eglwys ar agor.Roedd bwriad cynnal cyngerdd a gwasanaeth olaf, ond mae wedi’i ohirio ar hyn o bryd nes y bydd y gymuned yn gallu dod at ei gilydd unwaith eto. Mae ysgol gynradd yn y pentref gyda chysylltiadau cryf gyda’r eglwys, yn ogystal â chyda'r capel Presbyteraidd.

Pan gaeodd yr eglwys ym Motwnnog, sefydlodd ychydig o’r gynulleidfa a oedd yn byw ar ochr ddeheuol y penrhyn Eglwys y Bont, cynulleidfa newydd yn Abersoch, pentref lle nad oedd adeilad gan yr Eglwys yng Nghymru ers diwedd y 1980au. Mae o dan ofal bugeiliol Bro Madryn, ond yn ddaearyddol mae’n rhan o Fro Enlli. Mae’i ofal yn y dyfodol dal i gael ei drafod. Mae’r gynulleidfa o 5 yn y gaeaf yn cael ei chwyddo gan ymwelwyr yn yr haf, ac mae’r aelodau’n weithgar mewn digwyddiadau yn y gymuned, megis y penwythnos arbennig cyn y Nadolig. Mae un o’r clerigion yn cymryd gwasanaeth cymun misol, ond mae’r rhan fwyaf o’r gwasanaethau eraill yn cael eu harwain gan Efengylwr Lleyg Trwyddedig. Mae’r gwasanaethau’n ddwyieithog.

Mae’n bwysig fod y cymunedau lle nad oes eglwys mwyach, yn dal i gael eu cydnabod ac yn cael eu helpu i deimlo’n rhan o Fro Madryn.


Addoli a Chenhadu

Yn naturiol, mae patrwm y gwasanaethau addoli ar draws yr Ardal Weinidogaeth wedi newid yn enfawr ers mis Mawrth 2020. Gydol y cyfnodau clo, cynhaliwyd gwasanaeth ar lein, dwyieithog, wythnosol ar y Sul a oedd yn cael ei ddarlledu i ddechrau ar Facebook Live ond daeth yn gymysgedd, gyda rhai’n ei wylio’n cael ei ffrydio’n fyw trwy YouTube ac eraill yn ymuno ar Zoom, er mwyn cadw'r synnwyr o gymuned a chynulleidfa (er dim ond y rhai oedd yn arwain y gwasanaeth oedd i’w gweld ar YouTube). Mae Foreol Weddi wedi cael ei rhannu ar lein ar ddyddiau’r wythnos trwy’r cyfnodau clo.

Rhwng y cyfnodau clo, dim ond yn Dewi Sant, Nefyn y mae gwasanaethau’r Sul wedi’u cynnal gyda dau wasanaeth dwyieithog union yr un fath am 10am ac 11am. Mae hynny wedi bodloni pawb a oedd eisiau bod yn bresennol. Crebachodd y gynulleidfa ym mhob gwasanaeth o tua 15 ar y cychwyn, a dim ond un gwasanaeth, ar hyn o bryd, fydd ar y Suliau cyntaf ar ôl y cyfnod clo diweddaraf, a fydd, gobeithio, hefyd ar gael ar y rhyngrwyd. Mae yna wasanaeth bore Mercher bob yn ail rhwng Llangwnnadl a Nefyn. Mae llawer llai o bobl yn cysylltu gydag addoliad ar draws yr Ardal Weinidogaeth ers mis Mawrth am amrywiaeth o resymau: mae llawer o’r aelodau’n hen ac nid yw rhai’n gyfforddus gyda thechnoleg, byddai eraill wedi bod wrth eu bodd yn mynd i’r gwasanaethau oedd yn cael eu cynnal, ond eu bod wedi neilltuo oherwydd eu bod nhw neu aelod o’r teulu’n cysgodi. Mae CD o bob gwasanaeth wedi’i hanfon at y rhai a oedd eisiau ei derbyn, ac mae’r tîm bugeiliol wedi gwneud gwaith rhagorol yn cadw mewn cysylltiad â phobl. Rhwng y cyfnodau clo, nid yw rhai o’r selogion wedi dod i wasanaethau, hyd yn oed pan oedden nhw’n cael eu cynnal yn gorfforol; ac mae’n anorfod na fydd rhai’n dod yn ôl i’w heglwys leol pan fydd y gwasanaethau’n ail-gychwyn. Rydym ni hefyd wedi ennill rhai pobl drwy fod ar lein a bydd angen ystyried sut i gadw a datblygu’r cysylltiadau hyn; sut y mae troi pobl, fel y disgrifiodd un eglwys yng Nghymru, o fod yn wylwyr i fod yn addolwyr, neu hyd yn oed eu denu i fynychu'n bersonol.

Defnyddir y Gymraeg a’r Saesneg mewn gwasanaethau ledled yr ardal ac ystyrir fod y ddwy iaith yr un mor bwysig â'i gilydd. Tra bo’r mwyafrif o wasanaethau yn yr eglwysi’n cael eu cynnal yn Saesneg, bydd rhai’n cynnal gwasanaethau yn Gymraeg yn rheolaidd ond yn llai aml, ac efallai bydd gwasanaethau eraill yn ddwyieithog. Cyn y pandemig, y patrwm oedd i’r eglwysi ddod ynghyd ar gyfer addoli’n ddwyieithog fel ardal weinidogaeth gyfan ar unrhyw bumed Sul mewn mis, er roedd llai o bresenoldeb bob amser yn y gwasanaethau yma na phan fyddai’r eglwysi’n cyfarfod yn unigol. Mae’r farn yn amrywio ynghylch llwyddiant y gwasanaethau dwyieithog; nid yw llawer yn eu hoffi ac yn teimlo nad ydyn nhw’n gweithio gan eu bod yn gosod pwyslais ar iaith yn hytrach nag ar addoli.

Os a phan fydd eglwysi’n gallu dychwelyd at gynnal gwasanaethau mewn person, bydd angen adolygu beth ellid a beth ddylid eu hail ddechrau. Tan ddiwedd 2019, roedd yr Ardal Weinidogaeth yn cael ei gwasanaethu gan ficer a churad, dau ddarllenydd lleyg ac un efengylydd lleyg. Mae un darllenydd lleyg wedi marw ers hynny, bydd y curad yn symud i swydd newydd a bydd yr efengylydd lleyg yn cael ei ordeinio cyn bo hir ac yn debyg o gael ei osod ar leoliad mewn Ardal Weinidogaeth arall. Felly, bydd yn bwysig ystyried y cyfleoedd a’r problemau ac i feddwl yn ofalus am restr briodol a chyraeddadwy o wasanaethau.

Cyn y cyfnod clo roedd nifer o weithgareddau’n cael eu cynnal a oedd yn dod â phobl at ei gilydd ar draws yr Ardal Weinidogaeth. Roedd pedwar grŵp astudio’r Beibl, tri yn Saesneg ac un yn Gymraeg (dau yn cael eu harwain gan glerigion, dau gan arweinwyr lleyg); mae dau o’r rhain wedi parhau ar lein. Mae cwrs Alpha ar lein wedi cael ei gynnal yn ddiweddar ar y cyd â dau o glerigion yn ne’r esgobaeth.

Bu grŵp yn cyfarfod yn wythnosol ar gyfer gweddi yn eglwys Nefyn ar fore Gwener ac mae hynny hefyd wedi parhau ar lein, yn cael ei ddilyn gan goffi a sgwrs. Cyn y cyfnod clo roedd yr eglwys ar agor am goffi a sgwrs ar ddydd Mercher.

Mae gan yr Ardal Weinidogaeth dîm bugeiliol cryf i rannu’r dyletswydd gofal gyda’r clerigion. Er ei bod yn anodd ymweld â phobl yn ystod y pandemig, maen nhw wedi dal ati yn rhagorol i ffonio pobl ac i roi cefnogaeth a help.

Ddwy flynedd yn ôl sefydlwyd Caffi Colled, i ddechrau fel cyfarfod wyneb yn wyneb misol ond yn awr, wrth gwrs, ar lein. Mae hynny wedi bod o gymorth enfawr i lawer sydd wedi cael profedigaeth ac mae’n weinidogaeth bwysig i’r gymuned ehangach yn ogystal ag i’r rhai sy’n mynychu’r eglwys.

Teulu Madryn yw'r enw ar Undeb y Mamau yn yr Ardal Weinidogaeth. Mae'r grŵp wedi rhedeg Teulu Twt, grŵp rhiant a phlentyn bach, sydd wedi cyrraedd rhai teuluoedd ifanc yn ardal ehangach Nefyn. Roedd eisoes angen canfod lleoliad newydd y llynedd ac felly nid yw wedi ail ddechrau eto.

Sefydlwyd Paned P’nawn fel gweithgaredd rhwng-genhedlaeth ble roedd themâu Beiblaidd yn cael eu harchwilio trwy grefft, stori a gweithgaredd dros baned o de a chacen. Roedd yn cael ei gynnal yn fisol yn y Ganolfan yn Nefyn am tua 6 mlynedd ond nad yw wedi ail ddechrau ers y pandemig.

Mae rhai o aelodau’r eglwys wrth eu bodd yn gallu cyfrannu at yr ysgolion lleol trwy dîm Agor y Llyfr; ar un adeg roedd gwahanol dimoedd o gapeli ac eglwysi lleol yn mynd i dair ysgol, ond mae’r rhain wedi’u cyfuno yn ystod y pandemig ac erbyn hyn yn gweithio gyda’i gilydd i greu a defnyddio ffilmiau. O ganlyniad mae pob ysgol gynradd leol yn cael gwasanaethau fel hyn unwaith y mis. Mae’r ysgol gynradd ym Motwnnog yn ysgol yr Eglwys yng Nghymru ac mae Bro Madryn yn enwebu dau lywodraethwr. Nid yw’r ysgol yn Nhudweiliog yn ysgol eglwys ond roedd cysylltiad agos iawn rhwng yr eglwys a'r ysgol yr oedd yr ysgol yn ei werthfawrogi'n arw. Bydd yn bwysig iawn gynnal y cysylltiadau hyn. Yn union cyn y pandemig roedd yr ymddiriedolaeth waith ysgolion lleol, Trobwynt, wedi rhoi rhywfaint o fewnbwn i Ysgol Botwnnog, yr ysgol uwchradd, trwy aelod o staff a gwirfoddolwyr.

Er gwaethaf y tri gweithgaredd diwethaf, does bron iawn yr un teulu ifanc gyda phlant yn mynychu gwasanaethau eglwysig. Yn bendant mae yma ardal o genhadaeth sydd angen amser, sylw a gweddi.

Mae’r clwb hwylio yn Nefyn wedi dod i Ddewi Sant pob blwyddyn i gynnal gwasanaeth ym mis Awst sy’n llenwi’r eglwys at y glannau. Mae’r clerigion yn cymryd rhan yn y gwasanaeth Sul y Cofio wrth y gofeb yn Nefyn a hefyd wedi cymryd gwasanaethau ar rota mewn un o'r cartrefi gofal preswyl lleol , ynghyd â gweinidogion o’r capeli.

Mae yna genhadaeth draeth Undeb yr Ysgrythur yn Nefyn am bythefnos pob mis Awst.

Y tu allan i’r wythnosau hyn, yn achlysurol, mae’r eglwys wedi rhedeg cenhadaeth dros dro Halen yr Haf Undeb yr Ysgrythur, ar y traeth.


Cyllid

Ers ffurfio’r Ardal Genhadaeth mae llawer iawn o waith wedi’i wneud i ddod â gwahanol gyfrifon eglwysig at ei gilydd, er mwyn i'r eglwysi gefnogi’i gilydd ac mae yna un prif gyfrif ar gyfer yr Ardal Weinidogaeth.Nid yw hon yn Ardal Weinidogaeth gyfoethog ac mae yma heriau ariannol arwyddocaol, gan fod y mwyafrif o addolwyr yn bobl wedi ymddeol ac nid oes bron iawn unrhyw arian wrth gefn.Rydym ni wedi ein bendithio gyda thrysorydd ardderchog yn yr Ardal Weinidogaeth sy’n edrych ymhell i’r dyfodol ac yn ein cynghori’n ddoeth.


Gweinyddiaeth ac Arweinyddiaeth

Mae Cyngor yr Ardal Weinidogaeth yn cyfarfod bob chwarter ac yn cynnwys cynrychiolydd o bob eglwys yn ogystal â’r cadeirydd, ficer, curad, ysgrifennydd, trysorydd, wardeiniaid, darllenydd lleyg a'r efengylwr lleyg.Ffurfiwyd is-grŵp i weithio ar brosiect adeiladau Nefyn.

Mae'r Tîm Gweinidogaeth wedi cynnwys y ficer a’r curad, darllenydd lleyg ac efengylwr lleyg, arweinydd y tîm bugeiliol a dau aelod o eglwys gyda gweledigaeth ac arweinyddiaeth ysbrydol ddefnyddiol.Mae’r grŵp hwn wedi cyfarfod yn ysbeidiol ac roedd yn gweithio ar y Cynllun Datblygu Cenhadaeth cyn y cyfnod clo.


Beth ydym ni’n edrych amdano mewn Arweinydd Ardal Weinidogaeth newydd?

Rydym ni’n gweddïo am arweinydd a fydd yn gwrando ar Dduw ac yn gwrando ar bobl; a fydd yn bugeilio pobl ac yn helpu eglwysi Bro Madryn i fod yn bobl Dduw yn eu gwahanol gymunedau. Bydd yr arweinydd angen helpu i alluogi'r cynulleidfaoedd i fod yn gadarn yn eu cred, wedi’u nerthu yn eu ffydd a chyda’r weledigaeth o’r hyn y mae’n ei olygu i ddangos a rhannu cariad Iesu mewn bywyd pob dydd, yn ogystal â chyfarfod Duw wrth addoli ar y Sul.Bydd yn rhaid i’r arweinydd, felly, fod yn gyfathrebwr da a bod yn gallu cyflawni’r weinidogaeth, arwain gwasanaethau a phregethu’n gymwys yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg. Bydd yn gallu sgwrsio gyda phobl yn y gymuned a chynnal sgyrsiau bugeiliol ym mha iaith bynnag sy’n briodol ar gyfer y bobl y mae'n siarad â nhw.

Gweledigaeth driphlyg Esgobaeth Bangor yw Addoli Duw, Tyfu'r Eglwys a Charu'r Byd.

I Addoli Duw, byddwn angen arweinydd a fydd yn:

  • cael ei arwain gan yr Ysbryd Glân ac yn gallu arwain eraill yn fedrus i gyfarfod ac i addoli Duw
  • yn fodlon ac yn gallu arwain addoliad mewn amrywiaeth o ddulliau a fydd yn helpu gwahanol gynulleidfaoedd i gysylltu â Duw mewn ffyrdd real a phriodol
  • yn gallu dysgu a phregethu o’r Ysgrythurau fel bod ein haddoliad yn cael ei arwain gan Air Duw
  • yn greadigol wrth wella a chyfoethogi ffyrdd traddodiadol o addoli.
  • yn greadigol mewn cyflwyno ffyrdd newydd o addoli, gan gynnwys ein harwain ymlaen mewn ffyrdd a phatrymau priodol yn dilyn y pandemig

I Dyfu’r Eglwys, byddwn angen arweinydd a fydd yn:

  • ddisgybl, yn dal i dyfu yn y daith gyda Duw, ac fel arweinydd, sy’n gallu helpu eraill i dyfu’r un fath
  • gallu gweithio gyda’r Ardal Weinidogaeth gyfan mewn arweinyddiaeth o weddi ar gyfer newid a thwf
  • yn arwain eglwysi yn fedrus mewn cenhadaeth, efengylu a thwf
  • yn nodi, annog a meithrin sgiliau a doniau aelodau’r eglwysi a’u rhoi at ddefnydd da
  • yn gyfathrebwr da, fel y bydd y Beibl yn cael ei bregethu a’i ddysgu i gredinwyr a’i gyflwyno i’r rhai nad ydyn nhw’n credu nac yn dilyn Iesu ar hyn o bryd.
  • yn gallu helpu’r eglwys i gydnabod ei chryfderau a’i gwendidau a datblygu gweledigaeth ar gyfer ei rôl yn y gymuned a gweithio tuag at hynny
  • yn gallu adeiladu ar y pethynasau da sydd gennym gyda’r enwadau eraill a gweithio gyda Christnogion eraill yn yr ardal a hefyd weithio gyda sefydliadau seciwlar yn y gymuned fel bo’n briodol

I Garu’r Byd, byddwn angen arweinydd a fydd:

  • â diddordeb mewn, ac yn gallu magu perthynas yn hawdd gydag, amrywiaeth eang o bobl o bob oedran, y tu fewn a’r tu allan i’r eglwys
  • yn deall diwylliant Cymru
  • â chalon lawn tosturi, yn enwedig at y rhai sy’n cael bywyd yn anodd
  • yn fodlon chwilio am y tlodion a’r rhai sydd ar yr ymylon yn ein cymunedau
  • gallu ysbrydoli eraill i gefnogi a helpu’r rhai mewn angen er mwyn i’r eglwys allu helpu i gyfarfod ag anghenion materol, cymdeithasol ac ysbrydol pobl.
  • awyddus i gefnogi a datblygu pobl leyg mewn sgiliau bugeiliol ac ymestyn allan
  • yn arweinydd tîm da sy’n fodlon ac yn gallu dirprwyo, annog a chefnogi eraill i gyfranogi mewn gwasanaeth tosturiol.

Sylwadau Terfynol

Rydym yn cydnabod fod y dyfodol yn cyflwyno llawer o heriau, yn ysbrydol ac yn ariannol.Wrth i gyfyngiadau angenrheidiol y pandemig gael eu llacio’n raddol, rydym yn ymwybodol na allwn ni fynd yn ôl i’r hen drefn.Mae rhai cyfleoedd wedi’u colli ac eraill wedi codi.Mae angen gwirioneddol am adeiladu’r cynulleidfaoedd presennol ond hefyd i gyrraedd grwpiau newydd o bobl.Gallai heriau godi ynglŷn ag adeiladau unwaith y bydd adroddiad Ezra wedi’i gwblhau; mae yma eisoes heriau ynghylch cyllid.

Felly, rydym yn chwilio am arweinydd sydd â chalon ofalgar, fugeiliol ac sydd hefyd â gweledigaeth a dewrder, a fydd yn ein harwain mewn cenhadaeth ac efengyliaeth. Gweddiwn am arweinydd a fydd yn mynd â ni yn ein blaen at bopeth sydd gan Dduw ar gyfer Bro Madryn yn y blynyddoedd o’n blaenau.


Cymraeg

Introducing Bro Madryn


Bro Madryn covers the north side of the Llŷn Peninsula, stretching from Llithfaen to Bryncroes. Its communities are bilingual, with a large proportion of first language Welsh speakers.

It is a beautiful area that has a lot of visitors, and congregational numbers rise at holiday times. Many of those who have retired to the area have come because they holidayed here regularly in earlier years.

Nefyn is the largest community in the area with a population of just over 2,000. It is a place of historical significance having been made a borough by the Black Prince, and was once a centre for the herring industry, a fact that is celebrated in the town’s badge of three herrings. It is the main town on the north side of the peninsula, and has a small number of shops and businesses. The original parish church of St Mary is now a maritime museum; the current congregation worship in St David’s church, an Edwardian building in the centre of the town, opposite a popular hotel. There is a primary school a little further along the road from the church, and a library close by. Y Ganolfan is a large modern hall with good facilities which is used by numerous community groups. Down a steep hill lies an excellent sandy beach popular with locals and visitors alike.

A mile and a half further down the coast is Morfa Nefyn with a population of around 1,600 people; the vicarage, built around 8 years ago, is here. Nefyn and Morfa Nefyn almost merge, and a further mile along the road is Edern. These three communities are at the heart of Bro Madryn. The church in Morfa Nefyn closed some years ago and is kept in good order by an active Friends group. Morfa Nefyn also has a primary school, pub and a few shops. The local petrol station has a grocery store which sells high quality fresh food, and also has useful outdoor laundrette. Morfa Nefyn’s beach is popular. From the village there is a choice of routes – across the beach, along the coast path or over the golf course with stunning views - to Porthdinllaen. This National Trust-owned hamlet, situated right on the beach in a scenic cove, is home to the Tŷ Coch Inn, voted the 3rd best beach bar in the world!

Edern is a small community with an excellent pub and butcher’s shop. It too has a hotel and a primary school; the church of St Edern is on the edge of the village.

The other hamlets with churches that make up Bro Madryn are Bryncroes, Llangwnnadl, Llaniestyn, Llandudwen, Pistyll and Tudweiliog, although this last church is scheduled for closure. The church in the village of Botwnnog closed 5 years ago, but there is a Church in Wales primary school here, Ysgol Pont y Gof, and next door to the church building in the village is Ysgol Botwnnog, the secondary school that serves the western part of the peninsula.

There are also communities at Llithfaen, Dinas, Ceidio and Sarn Meyllteyrn. Three of these have churches that are now closed. 


The churches of Bro Madryn

Descriptions of service patterns and congregation numbers refer to pre-Covid days. We are conscious that the make-up of congregations may well change as and when churches are able to open fully once more, and that one of the first tasks will be to assess what are appropriate patterns and forms of worship for the future. 

St David’s Nefyn. This is the largest church in the Ministry Area. Prior to lockdown there was a traditional service at 9.30am and contemporary worship at 11am, with around 15 worshippers at 9.30 (less for the monthly Welsh service) and around 20 attending the later service. In the holiday season both services would also have a number of visitors, increasing congregation sizes to 20 and 40. Coffee was served between the two services, giving the congregations change to meet and talk.

There was a weekly coffee morning at the church, a weekly prayer meeting, Bible study groups, and other occasional activities. An art exhibition was held in the church in August 2019 that drew good numbers of locals and visitors into the building, and might have become a regular feature of the calendar. This was also an opportunity to fund raise for Kisiizi hospital in Uganda, with which some of the church members have strong links. The church hosts an annual service for the local sailing club.

Extensive work has been done to draw up plans for work to make St David’s a more appropriate building for worship and mission by creating a meeting room and office, better kitchen and toilet facilities and adaptations to improve the building’s disability access, and removing the pews so that the main body of the church could be used in a range of ways. The expectation was that much of the finance for this would come from the diocese and from historic funds held following the closure of Ceidio church many years ago. But following discussions with the diocese this project has had to be set aside for the time being due to the costs being considerably higher than was first expected.

Although there has been a church on the site since the 6th century, St Beuno’s Pistyll dates from the 15th century. Services (which are in English) were held monthly from April to October for a small congregation, plus a very popular service on Christmas Eve night. It is a popular church for weddings; despite being small it has a certain attraction because of its situation and simplicity, with rushes being laid on the floor.

The church of St Edern gives its name to the village on the edge of which it stands. The regular congregation there numbered around 8 for the English services and a little less for services in Welsh.

St Gwynhoedl’s church on the edge of Llangwnnadl dates back to the 6th century. It is one of the pilgrim churches and has a triple aisle. A congregation of 10 or so met each Sunday and midweek communion services were also held prior to lockdowns. One of the highlights of the year is the Epiphany service.

The church of Santes Mair Bryncroes has a strong congregation of 10-12 regulars. All services are through the medium of Welsh. Regular services of compline held during Lent have become very popular, as is the annual carol service.

Llaniestyn church dates back to the 13th century; a minstrels’ gallery looks down on its double aisle. The congregation of 5 or so met in the early evening; this has been an eclectic group from within the area and on one Sunday could include people from Quaker, Orthodox and Non-Conformist churches, as well as Anglicans! They hold an annual Plygain service, and a special service for Candlemas. There is a regular Bible study group here too.

Llandudwen is unusual in being a church in isolation, with no community nearby, but through the summer months around 10 people met to worship here weekly. The Ministry Area’s Lay Reader is Focal Minister here. The church holds a special Festival of Light just before Christmas each year.

The congregation at St Cwyfan’s Tudweiliog have made the difficult but necessary decision that they cannot keep the church open any longer. A final concert and service were planned, but are currently on hold until such time as the community can come together again for these events. There is a primary school in the village that has had strong links with the church, as well as with the Presbyterian chapel.

When the church in Botwnnog closed, some of the congregation who lived on the south side of the peninsula set up Eglwys y Bont, a new congregation in Abersoch, the village having had no Church in Wales building since the late 1980s. This has been under the pastoral care of Bro Madryn, but is geographically part of Bro Enlli. Its future care is under discussion. A winter congregation of 5 is joined by a number of visitors in summer, and the members are active in community events such as the special pre-Christmas weekend. One of the clergy takes a monthly communion service, but most other services are led by the Licensed Lay Evangelist. Services are bilingual.

It is important that the communities which no longer have an open church are still recognised as and helped to feel part of Bro Madryn.


Worship and Mission

The pattern of worship services across the Ministry Area has, of course, undergone enormous change since March 2020. Through lockdowns there has been a weekly online, bilingual service on a Sunday which was initially broadcast on Facebook Live but became hybrid, with some watching a live stream via YouTube and others joining on Zoom to keep the sense of community and congregation (though only those leading the service were seen on YouTube.) Morning prayer has been shared online on weekdays through lockdowns.

Between lockdowns, services on a Sunday have been held only at St David’s Nefyn, where there have been two identical, bilingual services at 10am and 11am. This has enabled all who have wanted to attend to be accommodated. Numbers dropped from their initial 15 or so per service, and the first Sundays after the latest lockdown will offer just one service for the time being, which will hopefully also go out via the internet. A Wednesday morning service alternated between Llangwnnadl and Nefyn. The number of people connecting with worship across the Ministry Area has been much lower since March 2020 for a variety of reasons: many of the members are elderly and some are not comfortable with technology, whilst others would have loved to have been to services when held, but have stayed away because they or a family member was shielding. A CD of each service has been sent to those who wanted to receive it, and the pastoral team has done an excellent job in keeping in contact with people. Between lockdown some regulars have not been to services even when they have been held physically; inevitably some will not come back to services in their local church as and when they begin again. We have also gained some people by being online, and thought will need to be given as to how these contacts are maintained and developed; how people are, as one church in Wales has described it, turned from watchers to worshippers, or even drawn to attend in person.

Both English and Welsh are used in services across the area and both languages are seen of equal importance. Whilst many churches have the majority of services in English, some will hold services in Welsh regularly but less frequently, and other services may be bilingual. Prior to the pandemic the pattern had been for the churches to come together for bilingual worship as a whole ministry area on any fifth Sunday in a month, although attendance was always lower than when the churches meet individually. Opinions vary as to the success of bilingual services; many do not like them and feel they do not work as they put the focus on the language rather than on worship.

As and when churches can return to a holding services in person there will need to be a review of what can and should recommence. Until the end of 2019 the Ministry Area was served by the vicar and curate, plus two lay readers and a lay evangelist. But one lay reader has since died, the curate is moving to a new role, and the lay evangelist will soon be an ordinand and likely to be on placement in another Ministry Area, so it will be important to assess the opportunities and issues, and to think carefully about an appropriate and achievable schedule of services.

Prior to lockdown a number of activities took place that brought people together across the Ministry Area. There have been four Bible study groups, three in English and one in Welsh (two led by clergy, two by lay leaders); two of these have continued online. An online Alpha course has been run recently in conjunction with two clergy in the south of the diocese.

A group met weekly for prayer in Nefyn church on a Friday morning, and this too has continued online, followed by coffee and chat. Prior to lockdown the church was open for coffee and chat on a Wednesday.

The Ministry Area has a strong pastoral team to share the duty of care with the clergy. Whilst visiting people has been difficult during the pandemic, they have been excellent at continuing to phone people to give support and help.

Two years ago Caffi Colled was set up, initially as a monthly face to face meeting but now of course online. This has been a huge help to many who have been bereaved and is an important ministry to the wider community as well as church-goers.

Teulu Madryn is the name for the Mothers’ Union in the Ministry Area, and the group has run Teulu Twt, a parent and toddler group, which reached some young families in the wider Nefyn area. It was already needing to find a new location last year and so has not yet re-started.

Paned P’nawn was set up as an intergenerational activity where Bible themes were explored through craft, story and activity over a cup of tea and cake. This was held monthly in the Ganolfan in Nefyn for around 6 years but has not re-started since the pandemic.

It is a delight for some church members to be able to input local schools through an Agor y Llyfr team; at one time there were different teams from local chapels and churches going into three schools, but these have combined during the pandemic and now work together to create films that can be used. As a result all the local primary schools now receive assemblies this way once a month. The primary school in Botwnnog is a Church in Wales school and Bro Madryn provides two governors. The school in Tudweiliog is not a church school but there has been a very close link between the church and the school which the school has appreciated greatly. It would be important to maintain these links especially. Immediately prior to the pandemic the local schools work trust, Trobwynt, had some input into Ysgol Botwnnog, the secondary school, through a staff member and volunteers.

Despite these last three activities, hardly any young families with children attend church services. This is definitely an area of mission that needs time, attention and prayer.

The sailing club in Nefyn has come to St David’s each year for a service in August which sees the church packed. Clergy take part in the Remembrance Day service at the war memorial in Nefyn, and have also taken services at one of the local residential care homes on a rota basis, along with ministers from the chapels.

There is a Scripture Union beach mission in Nefyn for 2 weeks each August. Outside these weeks the church has occasionally run Scripture Union’s Summer Salt pop-up mission on the beach there.


Ezra Process

The Ezra process, which is being rolled out across the whole diocese, is one in which an architect reports on all church buildings and property across the Ministry Area, advising on their viability to continue as places of worship. The process began in Bro Madryn towards the end of 2020 but has not yet been completed, and no reports have been presented as yet.


Finance

Since the Ministry Area was formed a great deal of work has been done to bring together the different church accounts, so that churches support one another and there is one main Ministry Area account. But this is not a wealthy Ministry Area and there are significant financial challenges, as the majority of worshippers are retired people and reserves are almost non-existent. We are blessed to have an excellent Ministry Area treasurer who looks well ahead and advises us wisely.


Administration and Leadership

The Ministry Area Council meets quarterly and includes a representative from each church together with the chair, vicar, curate, secretary, treasurer, wardens, lay reader and lay evangelist. A sub-group was formed to work on the Nefyn building project.

The Ministry Team has comprised the vicar and curate, lay reader and lay evangelist, the leader of the pastoral team and two church members with helpful vision and spiritual leadership. This group has met sporadically and was working on the Mission Development Plan prior to lockdown.


What are we looking for in a new Ministry Area Leader?

We are praying for a leader who will listen to God and listen to people; who will pastor people and help the churches of Bro Madryn to be God’s people in their various communities. The leader will need to help and enable the congregations to be sure in their belief, strengthened in their faith and to have a vision for what it means to show and share the love of Jesus in everyday life as well as meeting God in Sunday worship. They will therefore need to be a good communicator, and will need to be able to fulfil their ministry bilingually so that they can lead services and preach competently in Welsh and English, and be able to both chat with people in the community and conduct pastoral conversations in whichever language is right for the people with whom they are talking.

The threefold vision of Bangor diocese is to Worship God, Grow the Church, and Love the World.

To Worship God, we need a leader who is:

  • led by the Holy Spirit and skilled in leading others to meet and worship God
  • willing and able to lead worship in a variety of styles that help the different congregations to engage with God in real and appropriate ways
  • able to teach and preach from the Scriptures so that our worship and lives are fed by God’s word
  • be creative in enhancing and enriching traditional ways of worship
  • be creative in introducing new ways of worship, including leading us forward in appropriate ways and patterns following the pandemic

To Grow the Church, we need a leader who:

  • as a disciple, is continuing to grow in their own walk with God, and as a leader, is able to help others to grow similarly
  • can work with the whole Ministry Area in prayerful leadership for change and growth
  • is skilled in leading churches in mission, evangelism and growth
  • will identify, encourage and nurture church members' skills and gifts, and put them to good use
  • is a good communicator, so that the Bible is preached and taught to believers, and introduced to those who currently do not believe in and follow Jesus
  • is able to help each church recognise its strengths and weaknesses, to develop a vision for its role in the community, and work towards it
  • is able to build on the good relations we have with other denominations, and work with other Christians in the area, and also work with secular organisations within the community as appropriate

To Love the World, we need a leader who:

  • is interested in and able to relate easily to a wide range of people of all ages, both inside and outside the church
  • has an understanding of Welsh culture
  • is filled with a heart of compassion, particularly for those finding life difficult
  • is willing to seek out the poor and marginalised within our communities
  • can inspire others to support and help those in need so that the church can help to meet people’s material, social and spiritual needs
  • is keen to support the development of lay people in pastoral and outreach skills.
  • is a good team leader willing and able to delegate, encourage and support others to participate in compassionate service

Final Comments

We recognise that the future presents many challenges, both spiritual and financial. As the necessary limitations of the pandemic are gradually relaxed, we are aware that we cannot simply press ‘re-set’. Some opportunities have been lost whilst others have arisen. There is a real need to build up current congregations but also to reach new groups of people. There may be challenges about buildings once the Ezra report is completed; there are already challenges about finance.

So we look for a leader who has a caring, pastoral heart, but also vision and courage, who will lead us in mission and evangelism. We pray for a leader who will take us forward into all that God has for Bro Madryn in the years ahead.