minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Pont y Borth | Menai Suspension Bridge
English

Cyflwyno Bro Tysilio


Pentraeth

Ardal yw Bro Tysilio yn Ne a Dwyrain Môn yn ymestyn o Borthaethwy i Benllech. Mae ei chymunedau’n ddwyieithog, pob un gyda, i raddau mwy neu lai, chyfran arwyddocaol o siaradwyr Cymraeg.

Rydyn ni mewn ardal dwristaidd ac mae rhai o’r eglwysi’n cael y fraint o weinidogaethu i'r rhai sydd ar eu gwyliau. Mae llawer o’r trigolion lleol yn cymudo i’r tir mawr i fynd i’r gwaith, i’r brifysgol, yr ysbyty, llywodraeth leol a busnesau eraill.

Porthaethwy yw prif dref yr ardal ac mae ganddi boblogaeth o ychydig dros 3,000. Mae’n dref hanesyddol yn harddwch glannau Afon Menai ac yng nghysgod pont grog byd enwog Thomas Telford.Er mai tref fechan yw hi, mae ganddi ysgolion cynradd ac uwchradd, busnesau ffyniannus, yr adnoddau cymunedol arferol a dewis da o gaffis, bwytai, gwestai a siopau, gan gynnwys Waitrose yn union gyferbyn â’r ficerdy!

Mae poblogaeth Benllech ychydig yn fwy na Phorthaethwy, tua 3,400. Mae'n bentref poblogaidd iawn gydag ymwelwyr sy’n golygu ei fod yn gymharol dawel yn y Gaeaf, er, yn wahanol i rai o’r pentrefi ar arfordir Môn, mae pobl yn byw yn y rhan fwyaf o’r tai yno gydol y flwyddyn ac o ganlyniad mae ganddo fywyd cymunedol bywiog.Gan fod ganddo gymaint o adnoddau cymunedol, mae’n ddewis deniadol ar gyfer ymddeol.Mae’n fywiog a byrlymus gyda thorfeydd yn heidio yno yn ystod yr Haf.Mae ganddo draeth tywodlyd bendigedig gyda golygfeydd gwych dros gornel de-orllewinol Môn, a'r Gogarth yn y pellter.

Rhwng Porthaethwy a Benllech mae pentrefi traddodiadol Môn – Llanbedrgoch (poblogaeth tua 430), Pentraeth (poblogaeth tua 1,100) a Llansadwrn (poblogaeth tua 500) mewn ardal amaethyddol.Yn agos at Borthaethwy, ychydig ymlaen ar Afon Menai, mae pentref Llandegfan gyda phoblogaeth o tua 1,600.

Mae dinas Bangor a’i Heglwys Gadeiriol ac Eryri o fewn cyrraedd hawdd, ac mae’n hawdd hefyd cyrraedd Caer, Manceinion, Lerpwl a thu hwnt ar yr A55 neu'r rheilffordd.Mae’r porthladd fferi Caergybi tua hanner awr i ffwrdd.


Eglwys y Santes Fair, Llanfair Mathafarn Eithaf | St Mary Church, Llanfair Mathafarn Eithaf

Eglwysi Bro Tysilio

Mae yna wyth o adeiladau eglwys yn yr ardal, yn amrywio o ran arddull o’r canol oesol, oes Fictoria i adeiladau modern. Mae pob un mewn cyflwr cymharol dda.

Eglwys y Santes Fair, Porthaethwy

Adeilad Fictorianaidd yw Eglwys y Santes Fair ond gyda’i thu mewn yn gwbl fodern. Mae’n olau, yn gynnes ac yn groesawgar gyda thoiledau, cegin, ystafell gyfarfod a galeri. Mae'n agos at y ficerdy ac mewn safle dda i wasanaethau cymuned leol y dref. Mae yna gysylltiadau da gyda chyngor y dref a sefydliadau eraill ac mae adeiladau'r eglwys yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan grwpiau eglwysig a sefydliadau eraill. Ar gyfartaledd, bydd 29 yn addoli yno ar y Sul.

Sant Tysilio, Porthaethwy

Mae eglwys Sant Tysilio, un o emau Môn, ar ynys fechan mewn man cysgodol ar Afon Menai. Cafodd ei hadeiladu yn y 15fed ganrif ond mae’r safle’n dyddio'n ôl i gyfnod Tysilio ei hun. Setlodd Tysilio yma yn gynnar yn y 7fed Ganrif ac oddi yma dechreuodd ar ei genhadaeth efengylaidd i'r cyfan o Fôn - model da ar gyfer heddiw! Er mai bychan yw’r adeilad, mae’n boblogaidd iawn ar gyfer priodasau ac mae’n denu nifer sylweddol o ymwelwyr. Dyma’r unig adeilad eglwysig yn yr Ardal Weinidogaeth sydd ar agor bob dydd yn ystod misoedd y Gwanwyn a’r Haf. Mae Llwybr yr Arfordir Môn yn mynd heibio ei drws, sy’n gyfle delfrydol i barhau i ddatblygu ei arwyddocâd i’r rhai sy’n cerdded llwybr yr arfordir, neu ddim ond mynd heibio, fel lle o weddi dawel. Mae grŵp ymroddgar o ffrindiau’n gofalu am diroedd yr eglwys ac wedi gwneud llawer o waith ar y waliau, coed a llwyni. Mae yna gynlluniau hefyd i osod byrddau gwybodaeth.

Cynhelir gwasanaeth bob mis yn Gymraeg yn ystod y Gwanwyn a’r Haf (presenoldeb ar gyfartaledd 11). Cynhelir gwasanaeth misol hefyd o Iachau a Chyfanrwydd (presenoldeb ar gyfartaledd 8) ac yn y blynyddoedd diweddar mae Gwasanaethau Cŵn wedi’u cynnal hefyd. Yn ogystal, cynhelir Gŵyl Tysilio yn yr haf bob blwyddyn ar yr ynys ac yn adeilad yr eglwys a’i thiroedd gan gynnwys gwasanaethau a digwyddiadau diwylliannol.

Sant Andrew, Benllech

Adeiladwyd Sant Andrew yn y 1960au yng nghanol y pentref gyda’i drysau yn agor, yn llythrennol, ar balmant y stryd fawr. Mae’n olau ac yn gynnes ac mewn cyflwr rhagorol. Mae ganddi system sain a thaflunydd da ac mae’n yn cynnig ei hun i addoliad creadigol modern. Ynghlwm ag adeilad yr eglwys mae neuadd, sy’n galluogi’r eglwys i gysylltu â’r gymuned leol mewn sawl ffordd.

Yn yr eglwys hon y cynhelir Llan Llanast yr Ardal Weinidogaeth bob mis. Mae gan yr eglwys grŵp bychan o gantorion sy’n llafarganu caneuon Taizé, a chaneuon addoli eraill, yn rheolaidd yn ystod gwasanaethau’r Sul. Ar gyfartaledd bydd 28 yn bresennol mewn addoliad ar y Sul.

Y Santes Fair, Llanfair Mathafarn Eithaf

Eglwys y Santes Fair, ger pentref bychan Brynteg, yw cyn ‘fam eglwys’ plwyf Llanfair Mathafarn Eithaf, sy’n cynnwys Benllech. Mae’r adeilad gwreiddiol yn dyddio o’r canol oesoedd ac, er nad yw ond ychydig y tu allan i bentref Benllech, mae ar lannerch ramantus ger nant sy’n rhoi naws anghysbell iddo. Nid yw'n hawdd i gerbydau fynd at. Ar hyn o bryd, hi yw’r eglwys sydd wedi’i dynodi ar gyfer darparu addoliad yn y Gymraeg dros rhan ogleddol yr Ardal Weinidogaeth. Presenoldeb ar gyfartaledd 6.

Mae gan yr eglwys gysylltiadau gyda’r bardd enwog Goronwy Owen a oedd yn gurad yma ac mae yna botensial i ddatblygu’r cysylltiad hwn.

Y Santes Fair, Pentraeth

Yng nghanol pentref Pentraeth ac yng nghanol hefyd yr Ardal Weinidogaeth, mae Eglwys y Santes Fair yn un arall o’r eglwysi canoloesol o tua’r 13eg ganrif sydd wedi gweld cryn adnewyddu.

Fel arfer, mae tua 6-8 yn y gynulleidfa ar y Sul. Ond mae yna botensial i dyfu mewn cymuned sy'n her ac yn gyfle i ymestyn allan.

Sant Pedr, Llanbedrgoch

Ar dir uchel yn edrych dros bentref bychan Llanbedrgoch a'r ardal o'i chwmpas, mae yma olion a beddau o'r cyfnod Brythonig – Rufeinig ar safle Sant Pedr, er mai o ddiwedd yr oesoedd canol y mae’r adeilad presennol, sydd wedi'i ymestyn a'i adnewyddu dros y canrifoedd. Mae ganddi gynulleidfa fechan ond brwdfrydig ac mae pobl ifanc yn cymryd rhan yn rheolaidd yn y paratoadau at addoli. Fel arfer, mae tua 8 yn y gynulleidfa.

Yng nghanol y pentref mae’r “Ganolfan”, neuadd eglwys wedi’i hadnewyddu gydag adnoddau modern sy’n cael ei defnyddio gan y gymuned a’r eglwys ac yma y mae cyfarfodydd cyngor yr Ardal Weinidogaeth yn cael eu cynnal.

Sant Sadwrn, Llansadwrn

Eglwys o ddiwedd y 19eg ganrif yw Sant Sadwrn sydd wedi gweld cryn adnewyddu. Mae ar safle sy'n dyddio'n ôl i gyfnod Sant Sadwrn ei hunan yn y chweched ganrif. Mae ychydig y tu allan i bentref Llansadwrn.

Mae yma gynulleidfa fechan ond bywiog gyda thua 11 yn bresennol ar y Sul. Mae yma gôr, sy’n cynnwys aelodau o gymuned yr eglwys a hefyd aelodaeth ehangach sy'n weithgar mewn digwyddiadau eglwysig a chymunedol. Mae yna neuadd gyferbyn â’r eglwys gydag adnoddau da y mae’r eglwys a’r gymuned ehangach yn eu defnyddio.

Sant Tegfan, Llandegfan

Mae’r eglwys, sydd â chysylltiadau hanesyddol cryf â Sant Tegfan, sant o'r chweched ganrif, yn gwasanaethu pentref sylweddol a ffyniannus Llandegfan. Er ei fod yn agos at Borthaethwy, mae ganddo ei gymuned ei hunan ac mae gan yr eglwys hefyd gynulleidfa ffyniannus o tua 28 ar y Sul, ac sy'n dal i dyfu.

Mae adeilad yr eglwys yn cynnwys toiled ac mae yna gynlluniau i droi capel yr Ysbryd Glan, sy’n prin gael ei ddefnyddio, fel lle addoli, un ai ar y cyd â phrif gorff yr eglwys, neu ar wahân ar gyfer cyfarfodydd a chan gynnwys cegin.

Hon yw’r unig eglwys yn yr Ardal Weinidogaeth lle mae yna wasanaeth boreol a gyda'r nos ar y Sul. Mae’r gwasanaethau gyda’r nos yn rhai dynodedig Gymraeg ar gyfer pen deheuol yr Ardal Weinidogaeth.

Mae grŵp astudio “Cnoi Cil” yn cyfarfod yn rheolaidd, nid yn yr Eglwys, ond yn fwriadol yn Neuadd Gymunedol y pentref. Mae’r grŵp yn denu tua 15 yn rheolaidd o wahanol gefndiroedd enwadol ac mae wedi dechrau ail gyfarfod yn ddiweddar trwy Zoom. 


Eglwys Sant Sadwrn, Llansadwrn | St Sadwrn's Church, Llansadwrn

Proses Ezra

Bro Tysilio oedd yr Ardal Weinidogaeth gyntaf yn Esgobaeth Bangor i fynd drwy broses Ezra, gyda phensaer yn paratoi adroddiad ar yr holl adeiladau ac eiddo eglwysig yn yr ardal gyfan. Mae llawer o waith wedi’i wneud ers derbyn yr adroddiad, ond mae hyn wedi arafu yn ystod y misoedd diwethaf. Bydd Arweinydd newydd yr Ardal Weinidogaeth yn gallu symud hyn ymlaen yn gyflym a'n helpu i ail ffurfio ein cynllun eiddo er lles yr ardal weinidogaeth yn y dyfodol.

O’r wyth adeilad eglwysig presennol, rhagwelir y bydd Porthaethwy a Benllech yn gweithredu fel y prif ganolfannau ar gyfer addoli’n rheolaidd ac fel sail ar gyfer cenhadu ac efengylu. Bydd Llandegfan yn dal i wasanaethu'r ardal yn y gobaith y bydd yn dal i dyfu. Cydnabyddir bod hyd yn oed dyfodol yr eglwysi hyn yn ansicr yn y tymor canolig a bod angen adnewyddu eu diben a’u cenhadaeth. Mae nid yn unig y cynulleidfaoedd hyn, ond pob un ym Mro Tysilio, yn gobeithio cael arweinyddiaeth gref a dewr a fydd yn ein galluogi i dyfu mewn ffydd ac yn y nifer sy’n perthyn i deulu Bro Tysilio. Mae’n eglur hefyd ei bod yn annhebyg y bydd rhai o'r eglwysi llai yn gallu dal ati fel cynulleidfaoedd addoli fel ar hyn o bryd. Mae'n rhaid ystyried dyfodol yr adeiladau hyn yn weddigar ac yn ofalus fel rhan o broses Ezra.


Eglwys Sant Tysilio, Porthaethwy | St Tysilio's Church, Menai Bridge

Addoli a Chenhadu

Defnyddir y Gymraeg a’r Saesneg mewn gwasanaethau ledled yr ardal ac ystyrir fod y ddwy iaith yr un mor bwysig â'i gilydd. Fel y nodir uchod, er bod yna ddarpariaeth yng ngogledd ac yn ne’r Ardal ar gyfer addoli yn y Gymraeg, mae’r rhan fwyaf o’r gwasanaethau’n ddwyieithog er mwyn i gymaint o bobl â phosibl ddod at ei gilydd i addoli ym mhob cymuned.

Rydyn ni’n dilyn patrwm cyffredin o ddod at ein gilydd i addoli fel ardal weinidogaeth gyfan ar “y pumed Sul”. Mae pob eglwys yn gwerthfawrogi hyn.

Mae yna, ledled y cyfan o’r Ardal Weinidogaeth, awydd gwirioneddol am addysg Gristnogol ac roedd hyn yn flaenoriaeth yn y gwaith ymestyn allan. Rydyn ni wedi’n bendithio ac yn freintiedig ein bod yn cael ein croesawu i ysgolion cynradd ym mhob rhan o’r Ardal a bod penaethiaid, staff a disgyblion yn gwerthfawrogi ein cyfraniad . Yn ogystal â Llan Llanast yn Benllech a'r mentrau Mannau Gweddi, mae yna dimau Agor y Llyfr ym Mhorthaethwy, Llandegfan a Benllech. Mae yna hefyd wasanaethau rheolaidd a rhai achlysurol a digwyddiadau yn ysgolion Llanbedrgoch a Phentraeth ac yn ysgol annibynnol Treffos yn Llansadwrn. Mae rhai o’r cysylltiadau hyn yn cael eu cynnal o bell ar hyn o bryd trwy Zoom. Fe fyddem yn hoffi gweld gwaith ieuenctid a phlant yn ffynnu er mwyn i ni allu denu'r genhedlaeth iau i'n teulu ym Mro Tysilio.

Cynhelir cyfarfod Cnoi Cil bob yn ail wythnos pan fyddwn yn cyfarfod ar gyfer cyfeillgarwch ac i weddïo, astudio a thrafod. Mae yna sgôp i ragor o grwpiau gymryd rhan mewn Astudiaeth Feiblaidd, addoli a gweddïo ledled yr Ardal Weinidogaeth yn y dyfodol.

Rydyn ni'n trafod cynnal menter flaengar i ymestyn allan at y rhai sydd â chartrefi symudol yn yr ardal. Mae dau o’n curadiaid wedi bod yn gweithio ar hyn ond wedi rhoi’r gorau iddi dros dro oherwydd Covid-19. Fe fyddwn, fel blaenoriaeth, yn lansio ac yn blaenoriaethu hyn yn nhymor y gwyliau 2021.

O dan arweinyddiaeth Canon Angela, mae dealltwriaeth yr eglwysi o’r hyn y mae'n ei olygu i fod yn perthyn i Ardal Weinidogaeth wedi tyfu, yn hytrach na pherthyn i blwyf lleol, bychan. Mae pobl o bob rhan o’r ardal wedi dod ynghyd i astudio a thrafod, mae ymwelwyr bugeiliol wedi'u hyfforddi a’u comisiynu, a bwriedir hefyd hyfforddi arweinyddion addoli. O ganlyniad, mae’r ardal yn barod i symud ymlaen yn eofn i genhadu ac efengylu, i rannu adnoddau a sgiliau ac i agor ffyrdd newydd o addoli. Er bod llawer yn gwerthfawrogi ac yn mwynhau gwasanaethau ac arddulliau traddodiadol o addoli, cydnabyddir a derbynnir bod yn rhaid i bethau newid a bod yn rhaid i ni gynnig pethau eraill os ydym i barhau i fod yn berthnasol ac yn effeithiol yn y cymunedau rydym ni'n eu gwasanaethu yn y dyfodol. Byddai croeso mawr yn ein plith i arweinydd a allai ein tywys ymlaen, yn addfwyn ac yn fugeiliol, ond hefyd yn eofn ac ar frys.


Eglwys y Santes Fair, Pentraeth | St Mary's Church, Pentraeth

Cyllid

Mae’r Ardal Weinidogaeth yn blwyf cyfoethog ond mae’r arian wedi'i rannu rhwng llawer iawn o gyfrifon ac nid yw’r rhain yn cael eu rhannu'n gyfartal rhwng yr eglwysi. Dylid rhesymoli hyn. Mae peth o’r gwaith eisoes ar y gweill ond dylid ei gyflymu i ryddhau arian ar gyfer cyflawni’r gwaith pwysig o genhadu.

Rydym ni wedi bod yn ystyried o ddifrif penodi gweinyddydd cyflogedig ac mae yna arian ar gael i dalu am hyn. Ond rydyn ni’n fodlon ystyried awgrymiadau eraill ar gyfer gweinidogaeth gyflogedig yn yr ardal pe byddai’r arweinydd newydd o’r farn y gellid defnyddio’r arian yn well mewn ffordd wahanol. Y syniad sy’n cael blaenoriaeth gennym ar hyn o bryd yw y dylem ddefnyddio'r adnoddau ariannol cyfoethog sydd gennym ar gyfer mentrau cenhadu a fydd yn talu sylw i broblemau hyfywdra'r eglwysi ac yn ein harwain at dŵf ac adnewyddu.


Stryd Fawr, Porthaethwy | High Street, Menai Bridge

Gweinyddiaeth ac Arweinyddiaeth

Mae ein Cyngor Ardal Weinidogaeth yn gweithio’n dda iawn, gydag aelodau wedi ymrwymo ac yn awyddus i weld ein heglwysi'n ffynnu ac yn tyfu. Mae yna wahanol is-bwyllgorau sy’n ystyried gwahanol agweddau o fywyd yr Ardal Weinidogaeth ac yn adrodd yn ôl i’r prif Gyngor.

Bydd ymddeoliad y Canon Angela a'r Parch Griff Jones yn arwain at gyfnod caled yn ein hardal, a oedd wedi mwynhau arweinyddiaeth sefydlog am gyfnod hir. Fodd bynnag, rydyn ni’n gweld hyn fel cyfle i arweinydd newydd ddod ag ysbrydoliaeth a syniadau newydd a fydd yn ein symud ymlaen.

Ar hyn o bryd, mae yna gurad llawn amser (Parch Vince Morris) a Offeiriad ar y Cyd digyflog (Parch Der Tania ap Siôn) a gurad digyflog (Parch Hugh Jones). Mae Vince ar flwyddyn olaf ei guriadaeth ac mae’n debyg y bydd yn symud ymlaen tua chanol 2021.

Mae yna dri chlerigwr wedi ymddeol sy’n gefnogol iawn ac yn helpu llawer.

Mae’r Tîm Gweinidogaeth hefyd yn cynnwys pum Darllenydd, Arweinydd Addoli a dau Gymhorthydd Ewcaristaidd.

Mae pob un o'r tîm yn rhannu’r un weledigaeth a brwdfrydedd dros dwf a bywyd newydd a, gyda'i gilydd, mae ganddyn nhw gymysgedd o ddoethineb, profiad a syniadau a mentrau newydd.


Beth ydyn ni’n edrych amdano mewn Arweinydd Ardal Weinidogaeth newydd?

Rydym ni’n gweddïo am arweinydd a fydd yn ein dwyn ymlaen yn unol â gweledigaeth Esgobaeth Bangor o Addoli Duw, Tyfu'r Eglwys a Charu'r Byd.

I Addoli Duw, byddwn angen arweinydd a fydd yn:

  • Gallu arwain addoli gyda chalon o ffydd gref a didwyll er mwyn i bob cynulleidfa allu cysylltu â Duw mewn ffordd agos atoch a gwirioneddol.
  • Gallu dysgu a phregethu o’r Efengylau fel bod ein haddoli yn cael ei arwain gan Air Duw.
  • Greadigol wrth wella a chyfoethogi ffyrdd traddodiadol o addoli.
  • Greadigol wrth gyflwyno ffyrdd newydd o addoli Rydyn ni’n awyddus i drafod ffurfiau newydd ar addoli a fydd yn denu'r rhai nad ydyn nhw'n mynychu eglwys, yn enwedig y genhedlaeth iau.

I Dyfu’r Eglwys, byddwn angen arweinydd a fydd yn:

  • Barod i weithio gyda’r Ardal Weinidogaeth gyfan mewn gweddi ac yn fentrus wrth gynllunio ar gyfer newid a thwf.
  • Gallu dangos profiad amlwg o arwain eglwysi i efengylu a thyfu.
  • Nodi, annog a meithrin sgiliau a doniau aelodau’r eglwysi. Mae gan bobl o bob rhan o’r ardal lawer o dalentau a doniau y dylid eu defnyddio ar gyfer addoli, arwain a gweinidogaethu yn yr eglwysi.
  • Gyfathrebwr da, fel y bydd Gair Duw yn cael ei bregethu a’i ddysgu i holl gredinwyr yn yr ardal a’i gyflwyno i’r rhai nad ydyn nhw’n credu ar hyn o bryd.
  • Ymrwymo i helpu aelodau’r eglwys i dyfu fel disgyblion Crist ac yn gallu dadansoddi i ganfod y ffordd orau o wneud hyn yn yr ardal.
  • Gallu helpu’r eglwys i gydnabod ei chryfderau a’i gwendidau a datblygu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a chynllunio ar gyfer hynny.
  • Gallu adeiladu ar y berthynas dda sydd gennym gydag enwadau eraill a gweithio gyda Christnogion eraill yn yr ardal.

I Garu’r Byd, byddwn angen arweinydd a fydd yn:

  • Fodlon chwilio am y tlodion a’r rhai sydd ar yr ymylon yn ein cymunedau.
  • Â chalon llawn tosturi, yn enwedig at y rhai sy’n cael bywyd yn anodd.
  • Gallu rhannu’r tosturi hwnnw gydag eglwysi lleol er mwyn gallu gweithredu i gyfarfod ag anghenion materol, cymdeithasol ac ysbrydol pobl.
  • Â diddordeb â ac yn gallu magu perthynas yn hawdd gydag amrywiaeth eang o bobl, y tu fewn a’r tu allan i’r eglwys, ac o bob oedran.
  • Cymwys yn y Gymraeg, er y byddai person a fyddai’n ymrwymo i ddysgu’r iaith yn dderbyniol. Mae'n rhaid deall diwylliant, yn ogystal ag iaith, Cymru yn yr ardal hon.
  • Awyddus i gefnogi a datblygu pobl leyg mewn sgiliau bugeiliol ac ymestyn allan. Mae’n rhaid bod yn arweinydd tîm da, sy’n gallu dirprwyo ac annog eraill i gymryd rhan yng ngweinidogaeth dosturiol yr eglwys. 

Cymraeg

Introducing Bro Tysilio


Traeth Coch | Red Wharf Bay

Bro Tysilio covers an area in the South and East of Anglesey, stretching from Menai Bridge to Benllech. Its communities are bilingual, each one having, to varying degrees, a significant proportion of Welsh speakers.

We are situated in a tourist area and a few of the churches have the privilege of ministering to those on holiday. Many of the local residents commute to the mainland for work, in the university, the hospital, local government and other businesses.

Menai Bridge (Porthaethwy) is the main town in the area with a population of just over 3,000. It is a place of great historical significance and beautifully set on the Menai Straits in the shadow of Thomas Telford’s world-renowned suspension bridge. A thriving small town, it has primary and secondary schools, flourishing businesses, and, in addition to the usual community facilities, a good selection of caffes, restaurants, hostelries and shops, including a Waitrose directly opposite the vicarage!

Benllech has a slightly larger population than Menai Bridge of around 3,400. It is a very popular tourist and holiday destination, making it relatively quiet in the Winter, although, unlike some Anglesey coastal villages, the majority of homes are occupied throughout the year resulting in a vibrant community life. The presence of community facilities has made it an attractive retirement option. It is alive and buzzing with large crowds of people in the Summer. It has a lovely sandy beach with fabulous views of the south western corner of Anglesey, and the Great Orme in the distance.

Between Menai Bridge and Benllech are the traditional Anglesey villages of Llanbedrgoch (c320 population), Pentraeth (c1100 population) and the smaller Llansadwrn (c500 population) surrounded by farming communities. And close to Menai Bridge, just along the straits, is the village of Llandegfan with a population of around 1600.

There is easy access to the Cathedral city of Bangor and Snowdonia, with fast travel along the A55 or the railway to Chester, Manchester, Liverpool and beyond. The ferry port of Holyhead is half an hour away.


Eglwys Sant Andrew, Benllech | St Andrew's Church, Benllech

The churches of Bro Tysilio

There are eight church buildings spread across the area, ranging in style from medieval, through Victorian to modern buildings. They are all in reasonably good condition.

St Mary, Menai Bridge

St Mary’s is a Victorian building with a thoroughly modern interior. Bright, warm and welcoming with toilets, kitchen, meeting room and gallery. It is located close to the vicarage and well positioned to serve the local town community. There are good links with the town council and other organisations and there is regular use of the church building by church groups and other organisations. Average attendance at Sunday worship is 29.

St Tysilio, Menai Bridge

The church of St Tysilio is one of the gems of Anglesey, set on a small island in a sheltered area of the Menai Straits. It was built in the 15th century, but the site dates back to Tysilio himself. Tysilio settled here in the early 7th Century and from this base set out in evangelistic mission to the whole island of Anglesey – a good model for today! Despite its small size the building is very popular for weddings and attracts significant numbers of visitors. It is the only church building in the Ministry Area which is open daily during the Spring and Summer months. Anglesey Coastal Path passes the entrance, presenting an ideal opportunity to continue to develop its significance as a quiet place of prayer for those walking the coast path or simply passing by. A dedicated group of friends care for the churchyard. They have done much work on the walls, trees and shrubs and have further plans to install information boards.

A monthly Welsh language service is held during the Spring and Summer months (average attendance 11). A monthly service of Healing and Wholeness also takes place (average attendance 8), and in recent years a Dog Service has also been held. In addition, the island, the church building, and its surrounds is the venue for the annual Gŵyl Tysilio/ Tysilio Festival which takes place in the summer involving services and cultural events.

St Andrew, Benllech

Built in the 1960s St Andrew’s stands in the heart of the village with its doors literally opening onto the pavement of the main street. It is light and warm and has been kept in excellent condition. It has a good sound and projection system and lends itself to creative contemporary worship. Attached to the church building is a hall, enabling the church to engage with the local community in many ways.

The church is the venue for the Ministry Area Messy Church which is held monthly. The church has a small singing group which regularly sings Taizé chants and other worship songs during Sunday services. Average attendance at Sunday worship is 28.

St Mary, Llanfair Mathafarn Eithaf

St Mary’s, close to the small village of Brynteg, is the former “mother church” of the parish of Llanfair Mathafarn Eithaf, which includes Benllech. The building is medieval in origin and, although just outside Benllech village, the idyllic setting in a glade beside a stream gives an impression of remoteness. Vehicular access is not good. This is currently the designated church for the provision of worship in the Welsh language for the northern part of the Ministry Area. Average attendance 6.

The church has connections with the celebrated Welsh poet Goronwy Owen who was a former curate, and there is potential to develop this link.

St Mary, Pentraeth

Situated in the heart of Pentraeth and at the geographical centre of the Ministry Area, St Mary’s is another medieval and much restored building from around the 13th century.

The average attendance at Sunday worship 6-8.There is potential for growth in a community which presents challenges and opportunities for outreach.

St Peter, Llanbedrgoch

In an elevated position overlooking the small village of Llanbedrgoch and surrounding area, St. Peter's site contains evidence of Romano-British presence and burials, although the present building is late medieval with subsequent extensions and renovations over the centuries. It has a small but vibrant congregation with routine participation in worship by youngsters. The average attendance is 8.

"Y Ganolfan" in the centre of the village is a refurbished church room with modern facilities used by the community and the church and is the venue of Ministry Area council meetings.

St Sadwrn, Llansadwrn

St Sadwrn’s is a late 19th century much restored building on a site that goes back to St Sadwrn himself in the 6thcentury. It is located just outside the village of Llansadwrn.

Another small but vibrant congregation, with an average attendance of 11. There is a choir based around the church community but with wider membership which is active at church and community events. There is a church room opposite the church with good facilities used by both the church and the wider community.

St Tegfan, Llandegfan

A church with significant historic connections with the sixth century St. Tegfan, St Tegfan’s serves the substantial and thriving village of Llandegfan. Although it is very close to Menai Bridge it is a distinct community in its own right and the church has a thriving and growing congregation with an average attendance of 28.

The church building includes a toilet, and there are plans to convert the under-used chapel of the Holy Spirit into a space which can be used for worship, either in conjunction with the main body of the church or separately, for meetings, and with the inclusion of a kitchen area.

It is the only church in the Ministry Area to have a morning and evening Sunday service. The evening service is a designated Welsh language provision for the southern end of the Ministry Area.

The church hosts a regular study group "Food for Thought" which deliberately meets, not on church premises, but in the village Community Hall. The group attracts about 15 regularly from a variety of denominational backgrounds and has resumed meeting via Zoom.


Drws Eglwys Sant Pedr, Llanbedrgoch | Door of St Peter's Church, Llanbedrgoch

Ezra Process

Bro Tysilio was the first Ministry Area in Bangor Diocese to go through the Ezra process, in which an architect reports on all the church buildings and property across the whole area. Much work was done on receipt of the report, but this has slowed in recent months. A new Ministry Area Leader will be able to move this forward quickly and help us shape our property plan for the future well-being of the ministry area.

Of the eight current church buildings it is anticipated that Menai Bridge and Benllech will function as primary hubs for regular worship and bases for mission and evangelism. Llandegfan will continue to service its local community in the hope that it will continue to grow. It is recognised that even these churches are vulnerable in the medium term and need a renewed vision of their purpose and mission. Not just these congregations, but all those in Bro Tysilio, are looking for strong and courageous leadership that will enable them to grow in depth of faith and numbers belonging to Bro Tysilio family. It is also clear that some at least of the smaller churches are unlikely to remain viable as worshipping congregations in the same way as they are at present. The future of those buildings needs to be prayerfully and carefully considered as part of the Ezra process.


Eglwys Sant Tegfan, Llandegfan | St Tegfan's Church, Llandegfan

Worship and Mission

Both English and Welsh are used in services across the area and both languages are seen of equal importance. As referred to above, although there is provision in both the north and south of the Area for welsh language worship, the majority of services are bilingual enabling as many people as possible to come together in common worship in each community.

We follow the common pattern of coming together for worship as a whole ministry area on a “fifth Sunday”. This is appreciated by all the churches.

There is right across the Ministry Area a real heart for Christian education and this has been a priority in terms of outreach. We are blessed and privileged to be so welcomed into the primary schools across the Area, where the contributions we make are valued by headteachers, staff and pupils. In addition to Messy church at Benllech, and Prayer Spaces initiatives, there are Open the Book teams in Menai Bridge, Llandegfan and Benllech. There are also assemblies and other occasional services / events at Llanbedrgoch and Pentraeth schools, and Treffos independent school at Llansadwrn. Some of these connections are currently being maintained at a distance via Zoom. We would like to see flourishing youth and children’s work that can draw the younger generations into our Bro Tysilio family.

A Food for Thought meeting operates every other week where we meet for fellowship, prayer, study and discussion. There is scope for more groups to engage in Bible Study worship and prayer across the Ministry Area in the future.

We are exploring the possibility of an exciting pioneer initiative to reach out to those who have mobile homes in the area. Two of our curates have been working on this but plans are on hold because of Covid-19. We will, as a priority, launch and develop this in the 2021 holiday season.

Under Canon Angela’s leadership the churches have grown in their understanding of what it means to belong to a Ministry Area, rather than a small local parish. People from across the Area have come together for study and discussion, and pastoral visitors have been trained and commissioned, with training for worship leaders also being planned. As a result, the area is poised ready to move forward in bold mission and evangelism, sharing resources and skills, and open to new ways of worship. While many appreciate and enjoy the traditional services and styles of worship, there is recognition and acceptance that things need to change, and we need to provide alternatives if we are to continue being relevant and effective within the communities that we serve into the future. A leader who can take us forward, gently and pastorally, but boldly and urgently, will be very welcome among us.


Eglwys y Santes Fair, Porthaethwy | Saint Mary's Church, Menai Bridge

Finance

The Ministry Area is a wealthy parish, but the funds are split between a large number of accounts, with these not equally shared across the churches. These need to be rationalised. Some work has begun on this, but it needs to pushed forward to release funds for the important work of mission that needs to take place.

We have been seriously considering the appointment of a paid administrator and there are funds available to cover the cost of this. But we are open to other suggestions for paid ministry within the area should a new leader think that the money could be better used in a different way. The priority in our thinking is that we use the rich financial resources that we have for mission initiatives that will address the viability issues of the churches and lead us into growth and renewal. 

Pont y Borth wedi goleuo ar gyfer pen-blwydd y GIG yn 2020 | Meani Suspension Bridge lit to celebrate the NHS's anniversary in 2020

Administration and Leadership

Our Ministry Area Council works very well with members who are committed and keen to see our churches flourish and grow. There are various sub-committees that look at various aspects of the Ministry Area’s life and feed back into the main Council.

The retirement of both Canon Angela and Rev Griff Jones will lead us into a tough time for our area, which has enjoyed stability of leadership for a long period. However, we see this as an opportunity for a new leader to bring new inspiration and insight and take us forward.

At present there is a full-time curate (Rev Vince Morris), a non-stipendiary Associate Vicar (Rev Dr Tania ap Siôn) and a non-stipendiary curate (Rev Hugh Jones). Vince is in his final year of curacy and will probably be moving on towards the middle of 2021.

There are three very supportive and helpful retired clerics.

The Ministry Team also comprises five Readers, a Worship Leader and two Eucharistic Assistants.

All of the team share the same vision and enthusiasm for new growth and life, and between them they bring a mix of wisdom, experience and new ideas and initiatives.


What are we looking for in a new Ministry Area Leader?

We are praying for a leader who will take us forwards in alignment with the Bangor Diocesan vision to Worship God, Grow the Church, and Love the World.

To Worship God, we need a leader who will be:

  • Able to lead worship with a strong and sincere heart of faith, in order that each congregation may engage with God in an intimate and real way.
  • Able to teach and preach from the Scriptures so that our worship is informed by God’s Word.
  • Creative in both enhancing and enriching traditional ways of worship.
  • Creative in introducing new ways of worship. We are eager to explore new forms of service that will be accessible to the unchurched and particularly the younger generations.

To Grow the Church, we need a leader who will:

  • Be willing to work with the whole Ministry Area in prayerful and bold planning for change and growth.
  • Be able to show a proven track record of leading churches in evangelism and growth.
  • identify, encourage and nurture church members' skills and gifts. People across the area have considerable talents and gifts which need to be put to good use for church worship, leadership and ministry.
  • Be a good communicator, so that the Word of God can be preached and taught to all believers in the area and introduced to those who currently do not believe.
  • Be committed to help church members grow in their discipleship of Christ and able to analyse how best to do this locally.
  • Be able to help each church recognise its strengths and weaknesses and to develop a vision for the future and plan towards it.
  • Be able to build on the good relations we have with other denominations and work with other Christians in the area.

To Love the World, we need a leader who will be:

  • Willing to seek out the poor and marginalised within our communities.
  • Filled with a heart of compassion, particularly for those finding life difficult.
  • Able to share that compassion with the local churches so that action can be taken to meet people’s material, social and spiritual needs.
  • Interested in and able to relate easily to a wide range of people inside and outside of church and of all ages.
  • Competent in the Welsh language, although a person committed to learning the language would be acceptable. Understanding Welsh culture, as well as the language, is necessary in this area.
  • Keen to support the development of lay people in pastoral and outreach skills. A good team leader is essential, who can delegate and encourage others to participate in the compassionate ministry of the church.