
Gweddïau i'w defnyddio yn ystod yr argyfwng coronafirws
Mae Eglwys Loegr wedi darparu Prayers for use during the coronavirus outbreak. Cynhwysir rhai o'r gweddïau yma mewn cyfieithiad a daw drwy garedigrwydd Meira Shakespear o Fro Celynnin.
Cysgoda ni, O Arglwydd da, â’th drugaredd
yn y cyfnod hwn o ansicrwydd a gofid.
Atgyfnertha’r pryderus a’r ofnus,
a chynnal y gwan a’r digalon;
fel y byddo i ni ymhyfrydu yn dy gysur,
gan wybod na all dim ein hynysu oddi wrth dy gariad.
Trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Amen.
Grist Iesu ein Harglwydd,
a’n dysgaist i garu ein cymydog
ac i ofalu am yr angenhenus
fel pe baem yn gofalu andanat ti.
Yn yr amser hwn o bryder,
dyro i ni’r nerth i gysuro’r ofnus,
i ymgeleddu’r cleifion
ac i sicrhau’r ynysig o’n cariad ni
a’th gariad di tuag atynt.
Er mwyn dy enw di.
Amen.
O Dduw tosturi,
bydd yn agos at y cleifion, yr ofnus neu’r ynysig.
Yn eu hunigrwydd, bydd di eu diddanwch;
yn eu trallod, eu gobaith;
yn eu tywyllwch, eu goleuni.
Drwyddo ef, yr hwn a ddioddefodd yn unig ar y groes,
Ond sydd heddiw yn teyrnasu gyda thi mewn gogoniant,
Ein Harglwydd Iesu Grist.
Amen.
Gweddi dros y cleifion
O Dduw trugarog,
cyflwynwn i’th ofal tyner
y rhai sydd newn gwaeledd neu boen,
gan wybod fod dy freichiau tragwyddol di yno
i’w hamddiffyn ym mhob perygl.
Cysura a hwy a dyro iddynt wellhad,
i’w hadfer i iechyd a chryfder;
Trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Amen.
Gweddi dros weithwyr ysbytai ac ymchwilwyr meddygol
O Dduw grasusol,
dyro fedr, cydymdeimlad a dewrder
i bawb sydd yn gofalu am y cleifion,
a’th ddoethineb i’r rhai sydd yn ceisio modd iachâd.
Cryfha hwy â’th Ysbryd,
fel yr adferer llawer i iechyd trwy eu gwaith;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Amen.
Gweddi gan un sydd yn wael neu’n ymneulltuo
O Dduw,
cynorthwya fi i ymddiried ynot,
cynorthwya fi i gofio dy fod gyda mi,
cynorthwya fi i gredu na all dim fy ysgaru oddi wrth dy gariad
a amlygwyd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
Amen.
Gweddi dros y gymuned Gristnogol
Nid pobl braw ydym ni:
ond pobl dewrder.
Nid pobl i’n diogelu ein hunain ydym ni: ond pobl sydd yn gwarchod diogelwch eraill.
Nid pobl trachwant ydym ni: ond pobl haelioni.
Dy bobl di ydym ni, Dduw,
yn rhoi a charu
ble bynnag yr ydym,
beth bynnag fo’r gost,
am ba hyd bynnag fo’r angen,
ble bynnag y gelwi arnom.
Barbara Glasson, Llywydd y Gynhadledd Fethodistaidd
For use during the coronavirus outbreak
The Church of England has provided Prayers for use during the coronavirus outbreak. Some of these prayers are reproduced below, and a Welsh translation has been graciously provided by Meira Shakespear from Bro Celynnin.
Keep us, good Lord,
under the shadow of your mercy
in this time of uncertainty and distress.
Sustain and support the anxious and fearful,
and lift up all who are brought low;
that we may rejoice in your comfort
knowing that nothing can separate us from your love
in Christ Jesus our Lord.
Amen.
Lord Jesus Christ,
you taught us to love our neighbour,
and to care for those in need
as if we were caring for you.
In this time of anxiety, give us strength
to comfort the fearful, to tend the sick,
and to assure the isolated
of our love, and your love,
for your name’s sake.
Amen.
God of compassion,
be close to those who are ill, afraid or in isolation.
In their loneliness, be their consolation;
in their anxiety, be their hope;
in their darkness, be their light;
through him who suffered alone on the cross,
but reigns with you in glory,
Jesus Christ our Lord.
Amen.
For those who are ill
Merciful God,
we entrust to your tender care
those who are ill or in pain,
knowing that whenever danger threatens
your everlasting arms are there to hold them safe.
Comfort and heal them,
and restore them to health and strength;
through Jesus Christ our Lord.
Amen.
For hospital staff and medical researchers
Gracious God,
give skill, sympathy and resilience
to all who are caring for the sick,
and your wisdom to those searching for a cure.
Strengthen them with your Spirit,
that through their work many will be restored to health;
through Jesus Christ our Lord.
Amen.
From one who is ill or isolated
O God,
help me to trust you,
help me to know that you are with me,
help me to believe that nothing can separate me
from your love
revealed in Jesus Christ our Lord.
Amen.
For the Christian community
We are not people of fear:
we are people of courage.
We are not people who protect our own safety:
we are people who protect our neighbours’ safety.
We are not people of greed:
we are people of generosity.
We are your people God,
giving and loving,
wherever we are,
whatever it costs
For as long as it takes
wherever you call us.
Barbara Glasson, President of the Methodist Conference