minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Gweddi Ddyddiol


Tymor y Dioddefaint 

O 29 Mawrth hyd 8 Ebrill

Litwrgi’r Gair i’w ddefnyddio’n ddyddiol ar yr aelwyd



Paratoi

Gwnewch pa baratoadau bynnag y byddwch eu hangen i gyfarfod â thân yr Ysbryd a goleuni Duw. Efallai yr hoffech gynnau cannwyll. Os ydych chi wedi dewis ystum penodol i’ch corff, gwnewch hynny. Ceisiwch gael gwared ar unrhyw beth sy’n tynnu eich sylw ac yn amharu arnoch chi.


Galw ar yr Ysbryd Glân

Rydym yn galw ar yr Ysbryd Glân a fydd yn siarad gyda ni ac yn gwrando arnom ni wrth i ni addoli, darllen a gweddïo.

Yn enw’r Tad,
a’r Mab,
a’r Ysbryd Glân.
Amen.

Tyrd, Ysbryd Glân, llanw galonnau dy ffyddloniaid.
A chynnau ynddynt dân dy gariad.
Anfona dy Ysbryd a chrëir hwy.
Ac adnewyddi wyneb y ddaear.


Gweithred o edifeirwch

Drwy gydnabod ein pechodau a’n hangen am faddeuant, rydym yn gofyn i Dduw gymryd y cam cyntaf yn y cyfarfod hwn.

Trugarha wrthym, O Dduw.
Rydym wedi pechu yn dy erbyn.
Dangos i ni, O Dduw, dy drugaredd.
A dyro i ni dy iachawdwriaeth

Bydded i Dduw ein Tad faddau i ni a’n gwared oddi wrth ein holl bechodau, a rhoddi inni ras a nerth yr Ysbryd Glân.
Amen.


Gair Duw

Darllenwn un neu fwy o ddarnau o’r Ysgrythur o Feibl o’n dewis. Mae Llithiadur yr Eglwys yng Nghymru (sydd ar gael arlein; tudalennau 40-43). Fel opsiwn symlach, beth am ddarllen darn o naratif y Dioddefaint o Efengyl Sant Ioan bob dydd (penodau 13-19)? Darllenwn yn ofalus, er mwyn, fel petai, i’r enaid glywed.

Ar ddiwedd pob darlleniad:

Gwrandewch ar yr hyn y mae’r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr Eglwys.
Diolch a fo i Dduw.
Iesu, ein Hiachawdwr, yn dy drugaredd iachâ ni.
Yn dy oleuni a’th diriondeb ail-grea ni.
Yn dy dosturi dwg ras a maddeuant.
Paratoed dy gariad ni at brydferthwch y nef.


Gweddi

Ysgrifennodd Santes Teresa o Avila mai “nid llawer o feddwl yw gweddi ond llawer o garu;” felly treuliwn amser ger bron Duw mewn tawelwch, neu’n myfyrio, neu’n ymddiddan yn gariadus. Gallwn ddefnyddio’r ffurf isod.

Gweddïwn ar y Tad.

Ar i’r Eglwys fod yn un wrth dystio i’r Efengyl a’i chyhoeddi.
Gweddïwn arnat ti, ein Tad.
O Dduw, trugarha.

Am heddwch a sefydlogrwydd i’r holl bobloedd, a thros arweinwyr y cenhedloedd.
Gweddïwn arnat ti, ein Tad.
O Dduw, trugarha.

Dros y claf a’r sawl sy’n dioddef, a phawb sy’n gweini ar eu hanghenion.
Gweddïwn arnat ti, ein Tad.
O Dduw, trugarha.

Am fendith ar ein cartrefi; dros ein perthnasau a’n cyfeillion a phawb a garwn.

Gweddïwn arnat ti, ein Tad.
O Dduw, trugarha

Cyflwynwn ein hunain, a phawb y gweddïwn drostynt, i drugaredd a nodded Duw.

Dad trugarog,
derbyn y gweddïau hyn
er mwyn dy Fab,
ein Gwaredwr Iesu Grist.
Amen.


Casgliad

Adroddwn Weddi’r Arglwydd.

Addolwn di, O Grist, a bendithiwn di.
Oherwydd trwy dy Groes sanctaidd fe brynaist y byd.

Drugarocaf Dduw, a waredaist ac a achubaist y byd drwy angau ac atgyfodiad dy Fab Iesu Grist: caniatâ i ni drwy ffydd ynddo ef a ddioddefodd ar y groes, orfoleddu yn nerth ei fuddugoliaeth; trwy Iesu Grist, ein Harglwydd, sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi, yn undod yr Ysbryd Glân, yn un Duw, yn awr ac am byth.
Amen.

Bendithied Dduw ni,
cadwed ni rhag drwg,
a’n dwyn i fywyd tragwyddol.
Amen.

Rydyn ni’n troi’n ôl, at ein gweithgareddau pob dydd, yn cario gyda ni yr hyn rydyn ni wedi’i dderbyn yn ein meddyliau ac yn ein calonnau. “Ac felly,” ysgrifenna Romero de Lima Gouvêa, “yn ôl at fywyd – i fyw mewn ffordd newydd – i newid, i dderbyn gras ac i fethu – i ddyfnhau’r gofod y mae Duw yn dymuno ei lenwi – i ddychwelyd bob dydd at ffynhonnell bywyd a chariad, Iesu, Gair Duw.” 

Cymraeg

Daily Prayer


Passiontide

From 29 March until 8 April

Liturgy of the Word for daily use at home



Preparation

Make whatever preparations you need to encounter the fire of the Spirit and the light of God. You may want to light a candle. If you have chosen a specific bodily position, adopt it. Eliminate distractions and the possibility of interruption.


Invocation of the Holy Spirit

We invoke the Holy Spirit, who will speak to us and listen in us as we worship, read and pray.

In the name of the Father,
and of the Son,
and of the Holy Spirit.
Amen.

Come, Holy Spirit, fill the hearts of your faithful.
And kindle in them the fire of your love.
Send forth your Spirit, and they shall be created.
And you shall renew the face of the earth.


Act of contrition

By acknowledging our sinfulness and our need for forgiveness, we ask God to take the initiative in this encounter.

Have mercy on us, O God.
For we have sinned against you.
Show us, O God, your mercy.
And grant us your salvation.

May God our Father pardon and deliver us from all our sins, and grant us the grace and power of the Holy Spirit.
Amen.


The word of God

We read one or more passages of Scripture from a Bible of our choice. The Lectionary of the Church in Wales (available online; pages 40-43) offers daily readings. As a simpler option, why not read a passage of the Passion narrative from St John’s Gospel every day (chapters 13-19)? We read carefully, so that the soul might hear.

At the end of every reading:

Hear what the Spirit is saying to the Church.
Thanks be to God.
Jesus, our Saviour, in your mercy heal us.
In your light and tenderness remake us.
In your compassion bring grace and forgiveness.
For the beauty of heaven may your love prepare us.


Prayer

St Teresa of Jesus wrote that “prayer is not a lot of thinking but a lot of loving;” so we spend some time before God in silence, or contemplation, or loving conversation. We pray for healing and wholeness, for comfort and peace, for wisdom and trust, for hope and faith. We may use the form below.

Let us pray to the Father.

For the unity of the Church in witness and proclamation of the Gospel.
We pray to you, our Father.
God, have mercy.

For the peace and stability of all peoples, and for the leaders of the nations.
We pray to you, our Father.
God, have mercy.

For the sick and suffering, and all who minister to their needs.
We pray to you, our Father.
God, have mercy.

For a blessing on our homes; for our relations and friends and all whom we love.
We pray to you, our Father.
God, have mercy.

Let us commend ourselves, and all for whom we pray, to the mercy and protection of God.

Merciful Father,
accept these prayers
for the sake of your Son,
our Saviour Jesus Christ.
Amen.


Conclusion

We say the Lord’s Prayer.

We adore you, O Christ and we bless you.
Because by your holy Cross you have redeemed the world.

Most merciful God, who by the death and resurrection of your Son Jesus Christ delivered and saved the world: grant that by faith in him who suffered on the cross we may triumph in the power of his victory; through Jesus Christ your Son our Lord, who is alive and reigns with you, in the unity of the Holy Spirit, one God, now and for ever.
Amen.

May God bless us,
and keep us from all evil,
and bring us to everlasting life.
Amen.

We turn back, to our everyday activities, carrying with us what we have received in our minds and our hearts. “And so,” in the words of Romero de Lima Gouvêa, “back to life – to live in a new way – to be changed, graced and to fail – to deepen the space which God desires to fill – and to return daily to the source of life and love, Jesus, the Word of God.”