minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
"a'n calonnau wedi eu taenellu'n lân oddi wrth gydwybod ddrwg, a'n cyrff wedi eu golchi â dŵr glân" | "with our hearts sprinkled clean from an evil conscience and our bodies washed with pure water"
English

Addoliad ar ddydd Gwener y Groglith


Yn ystod y tarddiant coronafirws, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.


Darlleniadau


Hebreaid 10:16-25

“Dyma'r cyfamod a wnaf â hwy ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd; rhof fy nghyfreithiau yn eu calon, ac ysgrifennaf hwy ar eu meddwl”, y mae'n ychwanegu: “A'u pechodau a'u drwgweithredoedd, ni chofiaf mohonynt byth mwy.” Yn awr, lle y ceir maddeuant am y pethau hyn, nid oes angen offrwm dros bechod mwyach.

Felly, gyfeillion, gan fod gennym hyder i fynd i mewn i'r cysegr drwy waed Iesu, ar hyd ffordd newydd a byw y mae ef wedi ei hagor inni drwy'r llen, hynny yw, trwy ei gnawd ef; a chan fod gennym offeiriad mawr ar dŷ Dduw, gadewch inni nesáu â chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd, a'n calonnau wedi eu taenellu'n lân oddi wrth gydwybod ddrwg, a'n cyrff wedi eu golchi â dŵr glân. Gadewch inni ddal yn ddiwyro at gyffes ein gobaith, oherwydd y mae'r hwn a roddodd yr addewid yn ffyddlon. Gadewch inni ystyried sut y gallwn ennyn yn ein gilydd gariad a gweithredoedd da, heb gefnu ar ein cydgynulliad ein hunain, yn ôl arfer rhai, ond annog ein gilydd, ac yn fwy felly yn gymaint â'ch bod yn gweld y Dydd yn dod yn agos.


John 18:1 – 19:42

Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.


Testun myfyrdod yr Esgob

“Nid oes fan ond pen Calfaria gallaf roi fy mhen i lawr”


Ar ddydd Gwener y Groglith, rwy’n anfon cyfarchion atoch yn enw Crist ac Esgobaeth Bangor. Mae’r dyddiau yma’n ddyddiau rhyfedd i ni, yn gythryblus ac yn llawn pryder. Rwy'n gobeithio y bydd y myfyrdod hwn yn dod â rhywfaint o hedd a nerth i chi.

Rwyf am fyfyrio ar un o emynau William Williams, Pantycelyn. Mae’r emyn yn ein tywys ni i Galfaria, at Iesu ar y groes. Mae’r iaith a rhai o’r delweddau yn perthyn i’r ddeunawfed ganrif, ond mae’r angerdd a’r temlad dwys yn fyw yn y geiriau hyd heddiw.


Cyd-weddïwch y geiriau gyda mi:

Deued pechaduriaid truain
yn finteioedd mawr ynghyd,
doed ynysoedd pell y moroedd
i gael gweld dy ŵyneb-pryd,
cloffion, deillion, gwywedigion,
o bob enwau, o bob gradd,
i Galfaria un prynhawn-gwaith
i weld yr Oen sydd wedi ei ladd.

Mae’r emyn yn ein gwahodd ni, fel rhan o dyrfa fawr, i gerdded tua Calfaria. Mae’r dyrfa’n dod o bob man, o bob cornel o’r byd, ac o bob rhan o gymdeithas. Ac nid tyrfa o bobl barchus sydd yma, ond pob fel chi a fi, pobl sy’n wan ac yn feichus, pobl angen iachâd.

A beth mae’r dyrfa hon am ei gweld? Mae’r llinell olaf yn ystygwol. Dod y mae’r dyrfa “i weld yr Oen sydd wedi ei ladd.” Mae’r disgrifiad yn un mor ddi-flewyn-ar-dafod. Dyma ni’n wynebu y ffaith greulon sydd wrth graidd dydd Gwener y Groglith – ar ddiwedd ein taith mae Iesu Grist, wedi ei chwipio, ei goroni â drain, ei guro a'i wawdio; ac, yn awr, yn farw ar y Groes. “Deued pechaduriaid truain… i weld yr Oen sydd wedi ei ladd.”

Mae yna rywbeth digywilydd bron am ddisgrifiad mor blaen a phoenus. A’r cwesitwn sy’n rhaid ei ofyn yw, beth sydd yma i’w weld? Pam y mae’r dorf wedi teithio i weld y fath olygfa drychinebus? Beth sydd yma i’w weld, ac i’w addoli?

Gweddi hynafol yw’r Anima Christi sy'n darganfod, yng nghlwyfau Iesu ac yn nioddefaint yr Oen, rywbeth o'r iachawdwriaeth a ddaw i ni yng Nghrist. Gwrandewch ar y geiriau hyn, yng nghyfieithiad T. Gwynn Jones:

Enaid fy mhrynwr, pura nghalon i,
O gorff yr Iesu, aros gyda mi;
O boed fy nhrochi yn y dwyfol waed,
a golch fi, ddŵr o’i ystlys ef a gaed.

O’r boen a ddug, boed nerth a nawdd i mi,
fendigaid Iesu, clyw ac ateb di;
cysgoda fi a’m cuddio yn dy glwyf,
fel na’th adawf innau byth tra bwyf.

Nid rhith yw poen a dioddefaint Iesu ar ddydd Gwener y Groglith; marwolaeth go iawn sy’n digwydd heddiw, angau dwfn a real. Yr hyn sy’n dod â’r dyrfa syn at ei gilydd yw mai dyma Fab Duw, Brenin y nefoedd, yn marw’r farwolaeth druenus hon. A fe ddylem ninnau hefyd oedi yma a myfyrio, yng nheiriau un o emynau eraill Pantycelyn:

O ryfedd ddoethineb – rhyfeddod ei hun –
a ffeindiai’r fath foddion i brynu’r fath un;
fy Iesu yn marw, fy Iesu oedd Dduw,
yn marw ar groesbren i minnau gael byw.

Ein Duw a’n Tad, gwelaist ddioddefaint dy unig Fab a gafodd ei wawdio a’i ddirmygu. Yn ei wyleidd-dra gwelwn ninnau ei wir fawredd. Dangos eto i ni y clwyfau a'r creithiau dynol hynny, a dwg ni trwyddynt i addoli'r Brenin sy'n deilwng o bob addoliad a chariad. Amen.

Cyd-weddïwch gyda mi’r pennill nesaf:

Dacw’r nefoedd fawr ei hunan
nawr yn dioddef angau loes;
dacw obaith yr holl ddaear
heddiw’n hongian ar y groes:
dacw noddfa pechaduriaid,
dacw’r Meddyg, dacw’r fan
y caf wella’r holl archollion
dyfnion sydd ar f’enaid gwan.

Mae’r dorf yn syllu ar y groes, ac yn gweld yno gorff toredig Iesu Grist, yn dioddef angau loes, yn hongian ar y groes. Dyma ddarlun dychrynllyd o ddyn wedi ei ddinistrio. Ond mae yn fwy i’w weld, hefyd. Oherwydd yn y corff toredig ac yn y clwyfau, mae yna hefyd noddfa a iachâd. Yn yr angau a’r marwolaeth, mae yna hefyd fywyd a gobaith. Yn y diwedd du hwn, mae yna hefyd addewid y bywyd newydd, tragwyddol.

Cawn yma ddwyn i gôf y troseddwr ar y groes gyfagos a erfyniodd ar Iesu, “Iesu, cofia fi pan ddoi i'th deyrnas” (Luc 23:42). Fel y troseddwr hwnnw, fe gawn ninnau ganfod ffwrd y cariad dwyfol sy’n llifo o’r groes. Dyma gariad sy’n cael ei roi inni yn rhad-ac-am-ddim, yn llawn gras, heb i ni orfod gofyn amdano, heb i ni ei haeddu.

Heddiw, os ydym ni’n bryderus a phoenus, medrwn weddïo yng ngeiriau emyn mawr Pantycelyn:

Mi dafla’ maich oddi ar fy ngwar
wrth deimlo dwyfol loes;
euogrwydd fel mynyddoedd byd
dry’n ganu wrth dy groes.

Arglwydd Iesu Grist, yn glwyfedig â’n pechodau, galwa ni at droed y groes, oherwydd heb dy lais diu i’n harwain, colledig fyddwn. Gad inni drigo yn dy bresenoldeb mewn diogelwch, ac hyd yn oed yn nyffryn cysgod angau ganfod dy borfeydd gleision, oherwydd ti yw’n Harglwydd a’n Duw. Amen.

Cyd-weddïwn y pennill olaf:

Dacw’r unig feddyginiaeth
gadarn i druenus ddyn;
mae pob gobaith wedi darfod
maes ohono ef ei hun:
trwm a llwythog yw fy meichiau,
poen euogrwydd sydd yn fawr;
nid oes fan ond pen Calfaria
gallaf roi fy mhen i lawr.

Mae adleisiau yma unwaith yn rhagor o’r troseddwr ar y groes gyfagos: “trwm a llwythog yw fy meichiau, poen euogrwydd sydd yn fawr.” Ond mae’r sylw bellach ar fendithion Iesu, yr hwn na wnaeth ddim o'i le (Luc 23:41). Mae'r disgrifiadau graffig o ddioddefaint Iesu bellach wedi ildio i ddefosiwn: mae’r dyrfa yn cysgodi o dan y groes, gan wybod mai dyma lle y ceir yr unig wir iachâd.

Mae yma rywbeth dwys a hardd: i ni, mae'r groes yn cyrychioli popeth nad oedd ni i Iesu. Iddo ef, roedd hi’n achos dioddefaint a phoen ac angau. I ni, cawn ynddi fywyd, tangnefedd, maddeuant a llawenydd.

Ac mae’r dorf, fu ar daith, yn llawn cynnwrf ac yn llawn symud, yn awr, ar ddiwedd yr emyn, wedi canfod ei chartref, ei haelwyd. “Nid oes fan ond pen Calfaria gallaf roi fy mhen i lawr.” Mae’r dorf, a Iesu, a ninnau, yn llonydd nawr. Gorffennwyd pethau. A dim i’w wneud ond disgwyl – disgwyl am wawr y trydydd dydd.

Arglwydd Iesu, ar y diwrnod sanctaidd hwn, bu iti ymestyn breichiau dy gariad ar bren caled y groes a chofleidio’r ddynoliaeth gyfan. Cofleidia ni eto yn dy gariad, a gwna ni’n eiddo i ti, fel y cawn bob dydd godi’n croes a cherdded ei pererindod yn dy bresenoldeb dwyfol, ti sy’n byw ac yn teyrnasu gyda'r Tad a'r Ysbryd Glân, un Duw, yn awr ac am byth. Amen.
Cymraeg

Worship on Good Friday


During the coronavirus outbreak, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.


Readings


Hebrews 10:16-25

'This is the covenant that I will make with them after those days, says the Lord: I will put my laws in their hearts, and I will write them on their minds’, he also adds, ‘I will remember their sins and their lawless deeds no more.’ Where there is forgiveness of these, there is no longer any offering for sin.

Therefore, my friends, since we have confidence to enter the sanctuary by the blood of Jesus, by the new and living way that he opened for us through the curtain (that is, through his flesh), and since we have a great priest over the house of God, let us approach with a true heart in full assurance of faith, with our hearts sprinkled clean from an evil conscience and our bodies washed with pure water. Let us hold fast to the confession of our hope without wavering, for he who has promised is faithful. And let us consider how to provoke one another to love and good deeds, not neglecting to meet together, as is the habit of some, but encouraging one another, and all the more as you see the Day approaching.


John 18:1 – 19:42


From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.


The text of the Bishop's meditation

“O sacred Head sore wounded”


On this Good Friday can I send you greetings in the name of Jesus and the Diocese of Bangor? This is a strange time for us, perhaps unsettling and unnerving. I hope this meditation brings you some peace and strength.

Some thoughts on a well-known hymn called ‘O sacred Head’ which is often sung in Holy Week. The original poem in Latin was a meditation on the crucified body of Jesus. Translated into English, it was called ‘Hail Thou world’s Salvation’ and only later made into a hymn. There are many versions – this is only one of them.


Pray these words with me:

O sacred head, surrounded
by crown of piercing thorn!
O bleeding head, so wounded,
so shamed and put to scorn!
Death's pallid hue comes o'er thee,
the glow of life decays;
yet angel-hosts adore thee,
and tremble as they gaze.

It isn’t clear whether this verse has the moment of crucifixion in mind or immediately prior to it. But the vividness of the description is almost overwhelming. This is how Jesus was treated after his mock trial: whipped, crowned with a tangled mass of briars, beaten and bloodied. And the experience is so brutal, the assault so damaging that we see life’s energies ebbing away, the beginning of the collapse of life. The realism of this description is so painful. So it comes as something of a surprise to sing of heaven trembling. What is there here to adore?

The Anima Christi is an ancient prayer which finds in the wounds, the physical damage Jesus suffered, something of the salvation brought us by Jesus. Listen to these words:

Soul of Christ, sanctify me;
Body of Christ, save me;
Blood of Christ, inebriate me;
Water from the side of Christ, wash me;
Passion of Christ, strengthen me;
O good Jesus hear me;
Within your wounds hide me;
separated from you, let me never be.

The agony of Jesus suffering was not an illusion; this is real death, real agony. What brings heaven’s astonished gaze before us is that this is the Son of God, heaven’s King dying this wretched death. We might pause and ponder, with Wesley and slowly speak these well-known words, like the angels, with trembling and adoring:

'Tis mystery all! Th'Immortal dies!
Who can explore His strange design?

O God and Father of us all, you saw the suffering of your only Son who was mocked, despised and derided. In his humiliation we glimpse his true majesty. Draw us to behold those human wounds and scars and to worship the King who is worthy of all adoration and trembling love; Amen.

Pray with me again:

Thy comeliness and vigour
is withered up and gone,
and in thy wasted figure
I see death drawing on.
O agony and dying!
O love to sinners free!
Jesu, all grace supplying,
turn thou thy face on me.

The trauma of dying reveals a wasted figure, spent and destroyed. This verse too is almost frightful in its description. With the passing of life there is the dread inevitability of death. But there is more too: as life ebbs from Christ, it flows steadily and unceasingly towards us. The cessation of divine life leads to the initiation of eternal life for us.

We may think at this point of the thief upon the cross who called to Jesus: “Jesus, remember me when you come into your kingdom” (Luke 23:42). We, like him, find at this point a flow of divine love reaching out to us. It is free, full of grace, unasked for, undeserved.

Today if we are fretful and frightened, we can pray the words in the hymn:

Jesu, all grace supplying,
turn thou thy face on me.

Lord Jesus Christ, wounded for our sins, draw us to the foot of the cross for we have no strength of our own and do not know the way. You are rich in love and mighty to save. Bring us home for we have gone astray. Let us dwell in safety, and, in the valley of the shadow of death, find your pastures green, for you are Lord and God. Amen.

One last time let us pray:

In this thy bitter passion,
good Shepherd, think of me
with thy most sweet compassion,
unworthy though I be:
beneath thy cross abiding
for ever would I rest,
in thy dear love confiding,
and with thy presence blest.

There are echoes in this final verse reminding us once more of the thief on the cross: ‘Good shepherd, think on me, unworthy though I be’. And the graphic descriptions have now passed into a more devotional prayer: to abide beneath the cross, to confide in his love is to reside with Christ and find in his death the deep longings of our hearts fulfilled.

So there is something profound and beautiful here: the cross vouchsafes all that it was not for Jesus: for him trauma and pain, suffering and death. For us, life, peace, forgiveness and joy. And in a way that is so subtle, having been drawn into the imagery of the pain by its vividness, we are pointed beyond the cross at the hymn’s end: ‘with thy presence blest’. That presence is not fond memory. It the hope of something through and beyond the cross, a whisper of Easter to come, in the mystery of a Good Friday.

Lord Jesus, on this holy day, you stretched wide your arms of love upon the hard wood of the cross and drew humanity to yourself. Draw us again with bands of love, that forever yours, we may give ourselves to you each day, take up the cross and walk closely at your side, for you live and reign with the Father and the Holy Spirit, God forever blest. Amen.