
Addoliad ar ddydd Iau Cablyd
Yn ystod y tarddiant coronafirws, mae'r Esgob yn darparu deunydd i gefnogi addoliad ar yr aelwyd ar brif wyliau. Mae hyn yn cynnwys trefn o wasanaeth ar gyfer Litwrgi'r Gair, a myfyrdod wedi'i recordio. Mae testun y myfyrdod hefyd ar gael yma.
Darlleniadau
1 Corinthiaid 11:23-26
Oherwydd fe dderbyniais i oddi wrth yr Arglwydd yr hyn hefyd a draddodais i chwi: i'r Arglwydd Iesu, y nos y bradychwyd ef, gymryd bara; ac wedi iddo ddiolch, fe'i torrodd, a dweud, “Hwn yw fy nghorff, sydd er eich mwyn chwi. Gwnewch hyn er cof amdanaf.” Yr un modd hefyd fe gymerodd y cwpan, ar ôl swper, gan ddweud, “Y cwpan hwn yw'r cyfamod newydd yn fy ngwaed i. Gwnewch hyn, bob tro yr yfwch ef, er cof amdanaf.” Oherwydd bob tro y byddwch yn bwyta'r bara hwn ac yn yfed y cwpan hwn, yr ydych yn cyhoeddi marwolaeth yr Arglwydd, hyd nes y daw.
Ioan 13:1-17, 31b-35
Ar drothwy gŵyl y Pasg, yr oedd Iesu'n gwybod fod ei awr wedi dod, iddo ymadael â'r byd hwn a mynd at y Tad. Yr oedd wedi caru'r rhai oedd yn eiddo iddo yn y byd, ac fe'u carodd hyd yr eithaf. Yn ystod swper, pan oedd y diafol eisoes wedi gosod yng nghalon Jwdas fab Simon Iscariot y bwriad i'w fradychu ef, dyma Iesu, ac yntau'n gwybod bod y Tad wedi rhoi pob peth yn ei ddwylo ef, a'i fod wedi dod oddi wrth Dduw a'i fod yn mynd at Dduw, yn codi o'r swper ac yn rhoi ei wisg o'r neilltu, yn cymryd tywel ac yn ei glymu am ei ganol. Yna tywalltodd ddŵr i'r badell, a dechreuodd olchi traed y disgyblion, a'u sychu â'r tywel oedd am ei ganol. Daeth at Simon Pedr yn ei dro, ac meddai ef wrtho, “Arglwydd, a wyt ti am olchi fy nhraed i?” Atebodd Iesu ef: “Ni wyddost ti ar hyn o bryd beth yr wyf fi am ei wneud, ond fe ddoi i wybod ar ôl hyn.” Meddai Pedr wrtho, “Ni chei di olchi fy nhraed i byth.” Atebodd Iesu ef, “Os na chaf dy olchi di, nid oes lle iti gyda mi.” “Arglwydd,” meddai Simon Pedr wrtho, “nid fy nhraed yn unig, ond golch fy nwylo a'm pen hefyd.” Dywedodd Iesu wrtho, “Y mae'r sawl sydd wedi ymolchi drosto yn lân i gyd, ac nid oes arno angen golchi dim ond ei draed. Ac yr ydych chwi yn lân, ond nid pawb ohonoch.” Oherwydd gwyddai pwy oedd am ei fradychu. Dyna pam y dywedodd, “Nid yw pawb ohonoch yn lân.”
Wedi iddo olchi eu traed, ac ymwisgo a chymryd ei le unwaith eto, gofynnodd iddynt, “A ydych yn deall beth yr wyf wedi ei wneud i chwi? Yr ydych chwi'n fy ngalw i yn ‘Athro’ ac yn ‘Arglwydd’, a hynny'n gwbl briodol, oherwydd dyna wyf fi. Os wyf fi, felly, a minnau'n Arglwydd ac yn Athro, wedi golchi eich traed chwi, fe ddylech chwithau hefyd olchi traed eich gilydd. Yr wyf wedi rhoi esiampl i chwi; yr ydych chwithau i wneud fel yr wyf fi wedi ei wneud i chwi. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid yw unrhyw was yn fwy na'i feistr, ac nid yw'r un a anfonir yn fwy na'r un a'i hanfonodd. Os gwyddoch y pethau hyn, gwyn eich byd os gweithredwch arnynt.
“Yn awr y mae Mab y Dyn wedi ei ogoneddu, a Duw wedi ei ogoneddu ynddo ef. Ac os yw Duw wedi ei ogoneddu ynddo ef, bydd Duw yntau yn ei ogoneddu ef ynddo'i hun, ac yn ei ogoneddu ar unwaith. Fy mhlant, am ychydig amser eto y byddaf gyda chwi; fe chwiliwch amdanaf, a'r hyn a ddywedais wrth yr Iddewon, yr wyf yn awr yn ei ddweud wrthych chwi hefyd, ‘Ni allwch chwi ddod lle'r wyf fi'n mynd.’ Yr wyf yn rhoi i chwi orchymyn newydd: carwch eich gilydd. Fel y cerais i chwi, felly yr ydych chwithau i garu'ch gilydd. Os bydd gennych gariad tuag at eich gilydd, wrth hynny bydd pawb yn gwybod mai disgyblion i mi ydych.”
Dyfyniadau o’r Beibl Cymraeg Newydd a’r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 hawlfraint Cymdeithas (Brydeinig a Thramor) y Beibl. Cedwir pob hawl.
Testun myfyrdod yr Esgob
Cariad gwylaidd
Mae’n Ddydd Iau Cablyd heddiw, ac rydym yn canolbwyntio ar ddau ddigwyddiad canolog yn yr efengyl: yn gyntaf, Sefydliad Swper yr Arglwydd, y Cymun Bendigaid. Ac yn ail, golchi traed y disgyblion.
Yn efengyl Ioan, cyn y swper olaf mae Iesu’n golchi traed y disgyblion, ac, wrth wneud hynny, yn rhoi gorchymyn newydd iddyn nhw. Mae'n tywallt dŵr i fasn, yn golchi ac yna'n sychu eu traed. Gan synnu y dylai'r Meseia wneud hyn, mae Pedr yn ceisio’i stopio, a dim ond pan mae'n rhaid iddo ildio y mae Pedr eisiau i’w ddwylo a’i ben fod yn lân hefyd.
Mae ein darlleniad yn ein gwahodd i fyfyrio ar y weithred hon o gariad gwylaidd. Roedd gweinidogaeth Iesu o’r dechrau cyntaf wedi pelydru’r cariad hwn; ac yn awr mae’n rhoi gorchymyn newydd: carwch eich gilydd. Ond mae’n dweud hefyd, “Ni wyddoch ar hyn o bryd beth yr wyf fi am ei wneud, ond fe ddewch i wybod ar ôl hyn.”
Beth mae hyn yn ei olygu, a beth allai ein helpu ni i wreiddio’r geiriau hyn yn ein bywydau? Hoffwn awgrymu tri pheth.
1. Yn gyntaf, cariad ar waith
Cyn i Iesu ofyn i'w ddisgyblion garu ei gilydd, mae o'n dangos iddyn nhw beth yn union y mae cariad yn ei olygu. Mae'n cymryd y tywel, yn ei lapio o amgylch ei ganol ac yn golchi eu traed. Ni wnaeth neb erioed hyn i’w debyg. Ac eto mae'r Meseia, y Brenin a farchogodd i Jerwsalem, bellach yn cyflawni gwaith y gwas bach.
Cyn i gariad gael ei brofi neu ei ddysgu, caiff ei fodelu. Dyma Dduw yn ein cofleidio – ac mae hyn wrth wraidd y ffydd Gristnogol: nid ein bod ni'n caru Duw, ond ei fod ef wedi ein caru ni (1 Ioan 4:12) – “do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy'n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol” (Ioan 3:16). Ac mae’r golchi traed yn dangos mai menter Duw yw hon – yng ngeiriau Gwilym Hiraethog:
Cariad Iesu mawr,
daeth o’r nef i lawr
i gyflawni hen amcanion
gras yn iachawdwriaeth dynion;
cariad gaiff y clod
tra bo’r nef yn bod.
Yn ein darlleniad mae Ioan yn dweud: “Yr oedd wedi caru'r rhai oedd yn eiddo iddo yn y byd, ac fe'u carodd hyd yr eithaf” (Ioan 13:1). Sefydlwyd gweinidogaeth gyfan Iesu ar gariad, ac mae’n cyrraedd tua’i begwn fan hyn, oherwydd ni fydd unrhyw beth yn cyfyngu ar y cariad hwn, dim byd yn ei rwystro. Fe'i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas. Fe'i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau ar groes (Philipiaid 2).
Mor ffôl ydyn ni, Arglwydd, yn gweld, ond heb ddeall. Maddau inni, a rho inni ddoethineb.
Arglwydd Iesu Grist, fe’th addolwn am i ti roi mantell gogoniant o'r neilltu a chofleidio lliain gostyngeiddrwydd. Wrth iti olchi traed dy ddisgyblion a’u caru i’r eithaf, gwared ni rhag pob balchder, anwiredd a hunanoldeb. Dysg ni i wasanaethu ein gilydd er dy fwyn di, oherwydd rwyt ti'n teyrnasu yn awr yn y nefoedd, yn Frenin gwylaidd ac yn Waredwr bendigedig. Amen.
2. Yn ail, cariad sy’n mynnu
“Fe ddylech chwithau olchi traed eich gilydd” (Ioan 13: 14). Cariad gwylaidd yw nodwedd a rhinwedd y bywyd Cristnogol, a dyna pam y mae Iesu’n mynnu y dylid efelychu ei weithred o wasanaethu. Mae’r emyn i Gariad yn nhrydedd pennod ar ddeg llythyr Paul ar y Corinthiaid yn sylwebaeth ar y syniad hwn. Cawn yno ddigrifiad o gymeriad cariad. “Y mae cariad yn amyneddgar; y mae cariad yn gymwynasgar; nid yw cariad yn cenfigennu, nid yw'n ymffrostio, nid yw'n ymchwyddo. Nid yw'n gwneud dim sy'n anweddus, nid yw'n ceisio ei ddibenion ei hun, nid yw'n gwylltio, nid yw'n cadw cyfrif o gam; nid yw'n cael llawenydd mewn anghyfiawnder, ond y mae'n cydlawenhau â'r gwirionedd. Y mae'n goddef i'r eithaf, yn credu i'r eithaf, yn gobeithio i'r eithaf, yn dal ati i'r eithaf. Nid yw cariad yn darfod byth” Mae’n beth sobor rhoi’n henw ni yn lle’r gair “cariad” yn y disgrifiad hwn: “Mae Andrew yn amyneddgar; mae Andrew yn gymwynasgar” ac ati.
Dyma’r cariad a roddodd i Grist y fuddugoliaeth ym mlynyddoedd cynnar yr Eglwys Fore, ac a heriodd yr hen fodd doredig o fyw. Hyd yn yn ein dyddiau ni, fe fyddwn ni’n adnabod yr efengyl ar waith mewn personoliaethau sy’n gorlifo â chariad Duw, mewn bywydau sy’n llawn cariad gwylaidd. Nid oes raid i'r amser heriol hwn o ynysu ei rhwystro ni rhag gwasanaethu eraill. Cawn weddïo, cawn wasanaethu’r gymuned, cawn godi’r ffôn – ac yn awr, yn rhyfeddol, fel erioed o'r blaen, cawn Zoom-io.
Pan fyddwn ni'n gwasanaethu eraill fel mae Crist wedi ein gwasanaethu ni, rydyn ni'n ymateb i'r gorchymyn hwn. Pan fyddwn ni'n gwasanaethu eraill fel mae Crist wedi ein gwasanaethu ni, mae cariad Crist yn treiddio o’n mewn ac yn disgleirio ohonom.
Mor ffôl ydyn ni, Arglwydd, yn gweld, ond heb ddeall. Maddau inni, a rho inni ddoethineb.
Arglwydd Iesu Grist, heddiw fe olchaist draed dy ddisgyblion, gan roi inni batrwm gostyngeiddrwydd: golch ein heneidiau o bopeth aflan, a dysg ni i’th wasanaethu di yn yr un o'r lleiaf o’th gymrodyr, yn enw dy drugaredd tyner. Amen.
3. Yn drydydd, cariad yn rhodd
Mae Iesu’n dangos cariad gwyliadd tuag at ei ddisgyblion; mae’n rhoi gorchymyn iddynt hwythau wneud yr un modd. Ond, y tu hwnt i’r cyfan, mae yn ei fywyd ei hun yn galluogi i'r cariad newydd hwn ffynnu. O fewn ychydig oriau yn unig, bydd yn mynd gyda rhai o'i ddilynwyr agosaf i weddïo yn yr ardd. Oddi yno caiff ei gipio, ei garcharu, ei roi ar brawf, ac yna’i ladd.
Rhaid i’r cariad hwn fod inni’n fwy nac esiampl. Rhaid iddo’n cydio, ein hennill, ein cyfareddu, ein cynnal. Yng ngeiriau William Williams, Pantycelyn:
Arnat, Iesu, boed fy meddwl,
am dy gariad boed fy nghân;
dyged sŵn dy ddioddefiadau
fy serchiadau oll yn lân:
mae dy gariad
uwch a glywodd neb erioed.
Mae Iesu dangos patrwm cariad inni; mae’n mynnu y dylem ei efelychu; ac yna mae’n ein llenwi hefo’i gariad gwylaidd, gweddnewidiol. Dyma benllaw’r tywel, y dŵr, y basn, y golchi a'r sychu – o’r tarddiad hwn y daw’r cariad sy’n medru newid y byd.
Mor ffôl ydyn ni, Arglwydd, yn gweld, ond heb ddeall. Maddau inni, a rho inni ddoethineb.
Oen Duw, rwyt ti'n dwyn ymaith bechodau'r byd. Rhoddaist dy einioes i’n rhyddhau ni. Bydded i’th gariad foddi o’n mewn bopeth sy’n cuddio goleuni dy gariad dros dy fyd, oherwydd ti sydd Gariad gweladwy, Iachawdwr cryf, Gwas tyner a Brenin gwylaidd. Amen.
Worship on Maundy Thursday
During the coronavirus outbreak, the Bishop is providing material to support worship at home on the major festivals. This includes an order of service for a Liturgy of the Word, and a recorded meditation. The text of the meditation is also available here.
Readings
1 Corinthians 11:23-26
For I received from the Lord what I also handed on to you, that the Lord Jesus on the night when he was betrayed took a loaf of bread, and when he had given thanks, he broke it and said, ‘This is my body that is for you. Do this in remembrance of me.’ In the same way he took the cup also, after supper, saying, ‘This cup is the new covenant in my blood. Do this, as often as you drink it, in remembrance of me.’ For as often as you eat this bread and drink the cup, you proclaim the Lord’s death until he comes.
John 13:1-17, 31b-35
Now before the festival of the Passover, Jesus knew that his hour had come to depart from this world and go to the Father. Having loved his own who were in the world, he loved them to the end. The devil had already put it into the heart of Judas son of Simon Iscariot to betray him. And during supper Jesus, knowing that the Father had given all things into his hands, and that he had come from God and was going to God, got up from the table, took off his outer robe, and tied a towel around himself. Then he poured water into a basin and began to wash the disciples’ feet and to wipe them with the towel that was tied around him. He came to Simon Peter, who said to him, ‘Lord, are you going to wash my feet?’ Jesus answered, ‘You do not know now what I am doing, but later you will understand.’ Peter said to him, ‘You will never wash my feet.’ Jesus answered, ‘Unless I wash you, you have no share with me.’ Simon Peter said to him, ‘Lord, not my feet only but also my hands and my head!’ Jesus said to him, ‘One who has bathed does not need to wash, except for the feet, but is entirely clean. And you are clean, though not all of you.’ For he knew who was to betray him; for this reason he said, ‘Not all of you are clean.’
After he had washed their feet, had put on his robe, and had returned to the table, he said to them, ‘Do you know what I have done to you? You call me Teacher and Lord—and you are right, for that is what I am. So if I, your Lord and Teacher, have washed your feet, you also ought to wash one another’s feet. For I have set you an example, that you also should do as I have done to you. Very truly, I tell you, servants are not greater than their master, nor are messengers greater than the one who sent them. If you know these things, you are blessed if you do them.
‘Now the Son of Man has been glorified, and God has been glorified in him. If God has been glorified in him, God will also glorify him in himself and will glorify him at once. Little children, I am with you only a little longer. You will look for me; and as I said to the Jews so now I say to you, “Where I am going, you cannot come.” I give you a new commandment, that you love one another. Just as I have loved you, you also should love one another. By this everyone will know that you are my disciples, if you have love for one another.’
From The New Revised Standard Version (Anglicized Edition), copyright 1989, 1995 by the Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America.
The text of the Bishop's meditation
Servant love
Today is Maundy Thursday and our focus is on two pivotal events in the gospel: the first is the Institution of the Lord’s Supper, the Holy Communion. The second is the washing of the disciples’ feet.
In the gospel according to John, the last supper is preceded immediately by Jesus washing the disciples’ feet as he gives them a new commandment. He pours water into a basin, washes and then dries their feet. Astonished the Messiah should do this, Peter tries to restrain Jesus and only when compelled to accept, wants head and hands to be clean too.
Our reading invites us to reflect on this act of servant love. Jesus, whose own ministry radiated this love, gave a new commandment: love one another. But he also said, “You do not know what I am doing but later you will understand.”
What does this mean and what might help us take his words more deeply into our lives? I would like to suggest three things.
1. The example of love
Before Jesus asks the disciples to love each other, he shows them what love means. He takes the towel, wraps it around his waist and washes their feet. This was never done by peers for each other. Yet the Messiah, the King who rode into Jerusalem, now undertakes this most menial of tasks, the work which lay at the bottom of the pile even among the most junior of slaves.
Before love is experienced or learned, it is modelled. This reaching out of God is at the heart of Christian faith: not that we loved God, but that God loved us (1 John 4:10) or most famously of all “God so loved the world, that he gave his only begotten Son so that whoever believes in him should not perish but have eternal life (John 3:16). And the foot-washing shows that this is God’s initiative – in the words of Samuel Crossman’s great hymn, here is “love to the loveless shown that they might lovely be.”
Our reading contained these words: “Having loved his own who were in the world, he loved them to the end” (John 13:1). Jesus’ whole ministry was founded on love and reaches a new height at this point because nothing will constrain this love, no obstacle inhibit it. He empties himself, taking the form of a slave, he humbles himself and becomes obedient to the point of death— even death on a cross (Philippians 2).
Lord, how often have we not known what you are doing but only later understood?
Lord Jesus Christ, we adore you because you laid aside the garment of your glory and embraced the cloth of deepest humility. As you washed your disciples’ feet and loved them till the end, so deliver us from pride, falsehood and all selfishness. Teach us to serve one another for your sake, for you reign now enthroned in heaven, Servant King and blessed Saviour. Amen.
2. The demand of love
“You also ought to wash one another’s feet” (John 13:14). Servant love is the hallmark of Christian living, which is why Jesus commands that his act of service is shared; this is the way all Christian life is now to be lived. The hymn to Love in 1 Corinthians 13 is sometimes regarded as a commentary on this idea. We see the character of love described thus: “Love is patient; love is kind; love is not envious or boastful or arrogant or rude. It does not insist on its own way; it is not irritable or resentful; it does not rejoice in wrongdoing, but rejoices in the truth. It bears all things, believes all things, hopes all things, endures all things. Love never ends” (1 Corinthians 13:4-8). It is humbling and sobering to replace the word “love” with our own names at this point: “Andrew is patient, Andrew is kind…” and so on.
It was such love, more than anything else, which won the world for Christ in those early years of the Church and challenged the old, bankrupt order of living. Even today, it is God-filled personalities, living out servant love, who show the very heart of the gospel in action. This challenging time of isolation need not inhibit serving others. There is prayer, there is community service, there are phone calls - and now, wonderfully, as never before, there is Zoom-time.
When we serve others as Christ has served us, we are responding to this commandment. It is when we serve that the imprint of Jesus our Saviour is most clearly, indelibly marked upon us and when his character is most deeply embedded within us.
Lord, how often have we not known what you are doing but only later understood?
Lord Jesus Christ, on this day, you washed your disciples’ feet, leaving us an example of humility: grant that our souls may be washed from everything unclean and that we learn to serve you in the least of your followers, for your tender mercy’s sake. Amen.
3. The gift of love
The serving, saving love of Jesus was modelled to the disciples; he commanded them to do likewise but, supremely, he enabled this new love to flourish. In just a few hours, he would go with some of his closest followers to pray in the garden. From there he would be taken by force, imprisoned, tried and then killed.
This serving love must be more than an example to us. Surely it must touch us, win us, consume us and then hold us. In the words of that well-known Passiontide hymn:
Thou, O my Jesus, thou didst me –
Upon the cross embrace;
For me didst bear the nails and spear
And manifold disgrace.
Jesus, who shows the pattern of love, who commands its embrace, fills us with life-changing, enabling, servant love for the sake of the whole world. This is where the towel, the water, the basin, the washing and the drying all point.
Lord, how often have we not known what you are doing but only later understood?
Lamb of God, you take away the sins of the world. By your life laid down you have set your people free. Let your love consume in me all that hinders the reflection of your love to the world, for you are Love made visible, strong and gentle Saviour, Servant and Serving King. Amen.