
Llythyr oddi wrth yr Esgob
29 Mai 2021
Annwyl gyfeillion
Pob gras a thangnefedd i chi.
Gweddïwn
O'r wythnos hon, bydd pob Llythyr yr Esgob wythnosol yn dechrau gyda galwad i weddïo dros Ardal Weinidogaeth benodol neu weithgaredd yn yr esgobaeth. Fy ngobaith yw y bydd y gweddïau hyn hefyd yn rhan o ymbiliau ledled eglwysi'r esgobaeth y Sul canlynol. Rwy'n ddiolchgar i gydweithwyr o bob cwr o'r esgobaeth am ddarparu cynnwys ar gyfer y gweddïau hyn.
Ar Dduw y gweddïwn: am ddoethineb a chyfeiriad, am drugaredd a chariad, am ffydd gynyddol ddyfnach. Ffurfia ni'n gymuned o addoli a gweithredu, o ddysgu a rhannu.
Gweddïwn dros Fro Celynnin a'r rhai sy'n gwasanaethu yno: y Parchg David Parry, y Parchg Eryl Parry, y Parchg Susan Blagden, a thros y Darllenwyr Clive Addison, Heather Thompson.
Bydd gyda hwy a’u cynulleidfaoedd a’u cymunedau, rho ysbrydoliaeth ac arweiniad yn eu gobeithion a’n breuddwydion, wrth ymestyn allan ac yn eu cenhadaeth, ac yn enwedig dros:
Adferiad economaidd twristiaeth ac amaethyddiaeth
Galwedigaethau a gweinidogaethau newydd (yn gorfforol ac ar lein)
Gwaith Ysgol Porth y Felin ac Ysgol Llangelynnin
Ddarpariaeth o adnoddau cenhadu newydd yn ein hadeiladau eglwysig
Bydded i’r cyfan gael eu cynnig, eu rhoi a’u defnyddio yn enw Iesu Grist. Amen.
Y Duw triunol, a ddatganodd fod popeth yn dda ar ddechrau amser, yn ymgnawdoledig ac wedi’i eni o gnawd dynol i fyw ymysg y greadigaeth, anadl yr Ysbryd yn dawnsio trwy'r byd, galwa fi i ddawns ffydd, i fyw’r ffydd yn a chyda dy greadigaeth, ac i ddatgan gyda chariad dy ddaioni a'th ras i bawb. Hyn rwy’n ei weddïo ar y Tri yn Un a'r Un yn Dri. Amen.

Ar y Gogarth
Roedd yn dda cael y cyfle i arwain y darllediad o Sunday Worship ddydd Sul diwethaf gydag Archddiacon Bangor o Eglwys Tudno Sant ar y Gogarth ym Mro Tudno.
Y Parchg Ganon Nathan Jarvis
Mae gan y Canon Nathan Jarvis swydd newydd yn y sector elusennol. Bydd Nathan yn gweithio ledled Cymru ar godi arian, rheoli gwirfoddolwyr a rheoli digwyddiadau ar gyfer elusen anabledd. Bydd ei wasanaeth ffarwel fel caplan ar 18 Awst.
Ni fydd Nathan yn diflannu o’r esgobaeth gan y bydd ef, Daniel a’r bechgyn yn aros yn yr ardal, yn cefnogi’r Eglwys Gadeiriol, tîm Bro Deiniol a’r esgobaeth ehangach.
Mae gweinidogaeth Nathan i'r Brifysgol fel caplan ac fel rhan o dîm Bro Deiniol wedi'i werthfawrogi fawr. Cofiwch ef a'r teulu yn eich gweddïau ar adeg gyfnod o newid iddynt.
Hysbysfwrdd esgobaethol

- Ceir gwybodaeth am adroddiad newydd y Comisiwn Athrawiaethol ar weinidogaeth, gan gynnwys cyfres barhaus o fideos a thrafodaethau, fan hyn.
- Mae cynhadledd flynyddol Canolfan Efrydiau Susanna Wesley o dan y teitl "Embodied Faith" - i gyd ar-lein - yn cael ei chynnal ym mis Mehefin. Darllenwch fwy a chofrestrwch yma.
- Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Robert Jones.
Cofiwch y gweddïir drosoch bob dydd yn Nhŷ'r Esgob: chi, eich teuluoedd a'ch Ardaloedd Gweinidogaeth. Gras a thangnefedd i chwi oll.
Y Gwir Barchg Andy John
Esgob Bangor
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Lythyr yr Esgob a chyhoeddiadau esgobaethol
A letter from the Bishop
29 May 2021
Dear colleagues and friends
All grace and peace to you.
Let us pray
From this week, each weekly Bishop’s Letter will begin with a call to prayer for a particular Ministry Area or activity within the diocese. My hope is that these prayers will also form part of intercessions across the diocese the following Sunday. I am grateful to colleagues across the diocese for providing content for these prayers.
To God we pray for wisdom and direction, for compassion and love, for an ever-deepening faith. Guide us into a community of worship and action, of learning and sharing.
We pray for Bro Celynnin and those who serve there: the Revd David Parry, the Revd Eryl Parry, the Revd Susan Blagden, and for the Readers Clive Addison, Heather Thompson. Be with them and their congregations and communities, give inspiration and guidance in their hopes and dreams, in their outreach and mission; and particularly for the:
Economic recovery of tourism and agriculture
New vocations and ministries (on the ground and online)
The work of Ysgol Porth y Felin and Ysgol Llangelynnin
The provision of new mission facilities in our church buildings
That all may be offered, given, and lived out
in the name of Jesus Christ. Amen.
Triune God, who declared all was Good at the beginning of time, incarnate and born in human flesh to live amongst creation, breath of Spirit dancing through the world, call me to the dance of faith, to live out that faith in and with your creation, and to proclaim with love your Goodness and grace to all. This I pray to the Three in One and One in Three. Amen.

On the Orme
It was good to have the opportunity to lead the broadcast of Sunday Worship last Sunday with the Archdeacon of Bangor from St Tudno’s Church on the Great Orme in Bro Tudno.
The Revd Canon Nathan Jarvis
Canon Nathan Jarvis has a new job within the charity sector. Nathan will be working across Wales on fundraising, volunteer management and event management for a disability charity. His goodbye service as chaplain will be on 18 August.
Nathan will not be disappearing from the diocese as he, Daniel and the boys will be remaining in the area, supporting the Cathedral, Bro Deiniol team and the wider diocese.
Nathan's ministry to the University as chaplain and as part of the Bro Deiniol team has been much appreciated and valued. Please hold him and the family in your prayers at this time of transition.
Diocesan noticeboard

- Information about the Doctrinal Commission's new report on ministry, including an ongoing series of videos and discussions, is available here.
- The Susanna Wesley Foundation's annual conference under the title of "Embodied Faith" - all online - takes place in June. Read more and register here.
- If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Robert Jones.
Please remember you are prayed for each day in Ty’r Esgob: you, your families and Ministry Areas. Grace and peace to you all.
The Rt Revd Andy John
Bishop of Bangor