
Llythyr oddi wrth yr Esgob
5 Mehefin 2021 | Coffád Boniffas
Annwyl gyfeillion
Pob gras a thangnefedd i chi.
Gweddïwn
Mae Llythyr yr Esgob wythnosol yn dechrau gyda galwad i weddïo dros Ardal Weinidogaeth benodol neu weithgaredd yn yr esgobaeth. Fy ngobaith yw y bydd y gweddïau hyn hefyd yn rhan o ymbiliau ledled eglwysi'r esgobaeth y Sul canlynol.
Dduw pob croeso, clyw ein gweddi dros yr esgobaeth hon fel y bydded i ni ganfod ffyrdd o gyhoeddi dy gariad, dy groeso a’th dangnefedd di i bawb.
Gweddïwn yr wythnos hon dros Ardal Weinidogaeth Fro Cyngar.
Dros y clerigion: y Parchg Steve Leyland; a'r clerigion wedi ymddeol: y Parchg David Jarman, yr Hyb. Emyr Rowlands
Dros y rhai sydd â gweinidogaeth drwyddedig neu wedi’i chomisiynu: Cymorthyddion Bugeiliol Lleyg y Cymun - Ann Jones, Tom Clifton; Arweinwyr Addoliad - Arthur Lloyd Owen, Janet Williams, John Richard Williams, Tom Clifton, Tricia Knox.
Dros Ymddiriedolwyr Cyngor yr Ardal Weinidogaeth: Jacqueline Davies, Margaret Chantrell, Wil Lewis, Evan Evans, Arwel Jones, Emrys Backhouse, Sioned Roberts, Sioned Williams, Lowri Owen
Dros feysydd o bryder a chenhadaeth: dros Weinidogaeth yr Eglwys ar gyfryngau digidol; dros weinidogaetha chenhadaeth yn y Gymraeg; dros weinidogaeth Agor y Llyfr
Gofala am, a chynnal, mewn ffydd bawb sy’n cymryd rhan ym mywyd beunyddiol yr eglwysi, bawb sy’n chwilio am ffydd ddyfnach, a'r rhai sy’n mynd â neges yr efengyl allan i’r gymuned. Arwain a galluoga hwy drwy weddi dawel a gweithgaredd prysur. Gweddïwn hyn yn enw Iesu Grist. Amen.

Cofrestru priodasau
Dylai bod Arweinwyr Ardaloedd Gweinidogaeth wedi derbyn stoc, trwy'r post, o'r cerdiau o Gydnabyddiaeth ddewisol, i'w cynnig fel math o gofrodd ar ddiwrnod priodas. Mae copïau pellach ar gael gan Robert Jones.
Diweddarwyd adran “Priodasau” y Llyfrgell i gynnwys “Ffurflen gwybodaeth priodas”, y gellir ei defnyddio i ddal gwybodaeth am briodasau ac i ddal data mewn modd sy'n cydymffurfio. Rwy'n ddiolchgar i'r Parchg Ruth Hansford, Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Ystumanner, am ganiatáu inni rannu ei gwaith yn y modd hwn.

Gweinidogaeth newydd ym Bro Tysilio
Byddaf yn trwyddedu'r Parchg Richard Wood fel Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Tysilio y nos Lun nesaf yma. Mae Bro Tysilio yn gwasanaethu Porthaethwy, Benllech, chymunedau serail y cylch ar ochr ddwyreiniol Ynys Môn. Daliwch Richard a'i gydweithwyr o fewn Tîm yr Ardal Weinidogaethyn eich gweddïau ddydd Llun.
Dad pawb oll, a elwaist Tysilio i ffoi o dŷ ei dad ac i fyw mewn unigedd ar ynysoedd môr y gorllewin: caniatâ i ni, gan ddilyn ei esiampl, fod yn barod i roi heibio popeth a’n rhwystra rhag dilyn llwybr dy Fab, y bo iddo gyda thi a’r Ysbryd Glân bob anrhydedd a gogoniant, yn awr ac am byth. Amen.

Gŵyl R. S. Thomas
Eleni bydd Gŵyl R.S. Thomas, sydd fel arfer wedi’i chanoli ar Eglwys Hywyn Sant, Aberdaron, yn Ardal Weinidogaeth Bro Enlli, yn cael ei chyflwyno ar-lein mewn cydweithrediad â’r Church Times ar ddydd Sadwrn 19 Mehefin.
Mae ffocws eleni ar farddoniaeth a ffilm, gan dynnu sylw at saith ffilm newydd ar gyfer saith cerdd gan R.S. Thomas, wedi ey ffilmio yn Aberdaron a'r cylch, ac yn cynnwys dwy o eglwysi Bro Enlli. Yn ogystal, mae cyfraniadau gan Rowan Williams, Gwyneth Lewis, Mark Oakley, Barry Morgan, a Helen Wilcox o'r esgobaeth hon.
Mae'n hyfryd gweld gwaith caled Susan Fogarty ac eraill yn dwyn ffrwyth fel hyn. A gaf i annog ein hymgysylltiad â'r ŵyl, am y pris rhesymol iawn o £10.
Cristion
Cylchgrawn a gyhoeddir pob deufis yw Cristion. Caiff ei gyhoeddi gan bwyllgor eciwmenaidd sy’n cynnwys yr Annibynwyr, y Bedyddwyr, yr Eglwys Bresbyteraidd, yr Eglwys Fethodistaidd, yr Eglwys yng Nghymru a’r Eglwys Gatholig, ac fe welir hyn drwy’r amrywiaeth yn y cynnwys a’r cyfranwyr.
Mae rhifyn cyntaf y tîm golygyddol newydd yn cael ei lansio y mis hwn.

Dechrau Canu Dechrau Canmol
Bydd y Canon Robert Townsend, Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Seiriol, yn ymddangos ar Dechrau Canu Dechrau Canmol ar S4C am 7.30pm yfory. I nodi Wythnos Genedlaethol y Gwirfoddolwyr, mae cyfraniad Robert i Orsaf Bad Achub Biwmares yr RNLI yn cael sylw ar y rhaglen.
Hysbysfwrdd esgobaethol

- Ceir gwybodaeth am adroddiad newydd y Comisiwn Athrawiaethol ar weinidogaeth, gan gynnwys cyfres barhaus o fideos a thrafodaethau, fan hyn.
- Mae cynhadledd flynyddol Canolfan Efrydiau Susanna Wesley o dan y teitl "Embodied Faith" - i gyd ar-lein - yn cael ei chynnal ym mis Mehefin. Darllenwch fwy a chofrestrwch yma.
- Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Robert Jones.
Cofiwch y gweddïir drosoch bob dydd yn Nhŷ'r Esgob: chi, eich teuluoedd a'ch Ardaloedd Gweinidogaeth. Gras a thangnefedd i chwi oll.
Y Gwir Barchg Andy John
Esgob Bangor
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Lythyr yr Esgob a chyhoeddiadau esgobaethol
A letter from the Bishop
5 June 2021 | The Commemoration of Boniface
Dear colleagues and friends
All grace and peace to you.
Let us pray
The weekly Bishop’s Letter begins with a call to prayer for a particular Ministry Area or activity within the diocese. My hope is that these prayers will also form part of intercessions across the diocese the following Sunday.
All-encompassing God, hear our prayer for this diocese, that we may seek out ways to proclaim your love, welcome, and peace to all.
We pray this week for the Ministry Area of Bro Cyngar:
For the clergy: the Revd Steve Leyland; and retired clergy: the Revd David Jerman, the Ven. Emyr Rowlands
For those with a license or commissioned ministry: Pastoral Lay Eucharistic Assistants – Ann Jones, Tom Clifton; Worship Leaders – Arthur Lloyd Owen, Janet Williams, John Richard Williams, Tom Clifton, Tricia Knox
For the Ministry Area Council Trustees: Jacqueline Davies, Margaret Chantrell, Wil Lewis, Evan Evans, Arwel Jones, Emrys Backhouse, Sioned Roberts, Sioned Williams, Lowri Owen
For the areas of concern and mission: for the Church’s digital ministry; for ministry and mission in Welsh; and for the Open the Book ministry
Watch over and uphold in faith all who take part in the day-to-day life of the churches, all seeking a deeper faith, and all who take the gospel message out into the community. Guide and enable them through quiet prayer and busy activity. This we pray in the name of Jesus Christ. Amen.

Registering marriages
Ministry Area Leaders should recently have received a stock, by post, of the optional Acknowledgement cards, to be offered as a form of keepsake on a wedding day. Further copies are available from Robert Jones.
The “Weddings” section of the Library has been updated to include a “Marriage information form”, which can be used to capture information about weddings and to hold data in a compliant manner. I’m grateful to the Revd Ruth Hansford, Ministry Area Leader of Bro Ystumanner, for allowing us to share her work in this way.

A new ministry in Bro Tysilio
I will be licensing the Revd Richard Wood as Ministry Area Leader of Bro Tysilio this coming Monday evening. Bro Tysilio serves Menai Bridge and Benllech, and many communities in between on the eastern side of Anglesey. Please hold Richard and his colleagues within the Ministry Area Team in your prayers on Monday.
Father of all, who called Tysilio to flee his father’s house and to dwell in solitude in the isles of the western sea: grant that we, following his example, may be prepared to give up all that would hinder us from following in the footsteps of your Son, to whom with you and the Holy Spirit be all honour and glory, now and for ever. Amen.

R. S. Thomas Festival
This year’s R.S. Thomas Festival, which is usually centred around St Hywyn’s Church, Aberdaron, in the Ministry Area of Bro Enlli, will be presented on-line in collaboration with the Church Times on Saturday 19 June.
This year’s focus is on poetry and film, highlighting seven new films for seven poems by R.S. Thomas, filmed in and around Aberdaron and featuring two of Bro Enlli’s churches. In addition, there are contributions from Rowan Williams, Gwyneth Lewis, Mark Oakley, Barry Morgan, and our own Helen Wilcox.
It is wonderful to see the hard work of Susan Fogarty and others bearing fruit in this way. May I encourage our engagement with the festival, for the very reasonable price of £10.
- There’s more information about the programme here;
- and registration is via the Church Times’s website here.
Cristion
Cristion is a bi-monthly Welsh-language magazine, published by an ecumenical committee made up of the Union of Welsh Independents, the Baptists, the Presbyterian Church, the Methodist Church, the Church in Wales and the Catholic Church, and this is evidenced by the diversity of content and contributors.
The new editorial team’s first issue is being launched this month.
- There’s more about the magazine here;
- an invitation to the Zoom launch here;
- and information about subscribing here.

Dechrau Canu Dechrau Canmol
Canon Robert Townsend, the Ministry Area Leader of Bro Seiriol, will be appearing on Dechrau Canu Dechrau Canmol on S4C at 7.30pm tomorrow. To mark National Volunteer Week, Robert’s contribution to the RNLI Beaumaris Lifeboat Station is being featured on the programme.
Diocesan noticeboard

- Information about the Doctrinal Commission's new report on ministry, including an ongoing series of videos and discussions, is available here.
- The Susanna Wesley Foundation's annual conference under the title of "Embodied Faith" - all online - takes place in June. Read more and register here.
- If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Robert Jones.
Please remember you are prayed for each day in Ty’r Esgob: you, your families and Ministry Areas. Grace and peace to you all.
The Rt Revd Andy John
Bishop of Bangor