minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Eglwys Beuno Sant, Pistyll ym Mro Madryn | St Beuno's Church, Pistyll in Bro Madryn
English

Llythyr oddi wrth yr Esgob


12 Mehefin 2021


Annwyl gyfeillion

Pob gras a thangnefedd i chi.


Gweddïwn

Mae Llythyr yr Esgob wythnosol yn dechrau gyda galwad i weddïo dros Ardal Weinidogaeth benodol neu weithgaredd yn yr esgobaeth. Fy ngobaith yw y bydd y gweddïau hyn hefyd yn rhan o ymbiliau ledled eglwysi'r esgobaeth y Sul canlynol.


Ar Dduw y gweddïwn am ddoethineb a chyfeiriad, am drugaredd a chariad, am ffydd gynyddol ddyfnach. Ffurfia ni’n gymuned o addoliad a gweithred, o ddysg ac ymroddiad.


Gweddïwn yr wythnos hon dros Ardal Weinidogaeth Bro Madryn a'r rhai sy'n gwasanaethu yno: Helen Franklin, Joe Worthington, Hywel Parry-Smith, Mike Wray. Bydd gyda hwy a’u cynulleidfaoedd a’u cymunedau, rho ysbrydoliaeth ac arweiniad yn eu gobeithion a’u breuddwydion, wrth ymestyn allan ac yn eu cenhadaeth, gan gofio'n arbennig:

y swydd wag glerigol ac am bob cyfle i genhadu yn ystod y cyfnod hwn

datblygiad a thwf Teulu Madryn (Tîm Plant a Theuluoedd a Gomisiynwyd)

gwaith y tîm Gofal Bugeiliol

dyfodol Prosiect Ail-drefnu Nefyn;

ac i’r cyfan gael ei gynnig, ei roi a’i ddefnyddio yn enw Iesu Grist. Amen.


Addasiadau coronafirws

Mae Cymru bellach yn symud, mewn camau cynyddrannol, o Lefel Rhybudd 2 i Lefel Rhybudd 1, ac mae Llywodraeth Cymru wedi nodi'r camau nesaf o ran llacio cyfyngiadau.

Mae hyn yn golygu bod ystod ehangach o weithgareddau bellach yn cael eu caniatáu, gyda mwy o bobl yn medru cymryd rhan, ond mae'r cyfyngiadau ar sut mae'r gweithgareddau hyn yn cael eu cyflawni yn parhau.

Diweddarwyd y canllawiau cenedlaethol ar wefan Eglwys yng Nghymru i adlewyrchu'r newidiadau hyn, a dylai cydweithwyr clerigol ymgynghori â hwy.

A gaf i ddiolch unwaith yn rhagor i bawb, ledled yr esgobaeth, sy'n gwneud gwaith ychwanegol i alluogi i addoli a chenhadaeth yr Eglwys gael eu cyflawni'n ddiogel ond yn bwrpasol yn ystod y dyddiadu hyn. 

Mae'r angen i barhau i gymryd gofal a rheoli risg o'r pwys mwyaf, ac rwyf am gydnabod yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud i gynnal ein safonau uchel. 

Ond mae hefyd yn newyddion mor dda y gall mwy o weithgareddau gael eu cynnal nawr, ac edrychaf ymlaen at fod yn rhan o rai o'r rhain fy hun, mewn gwahanol rannau o'r esgobaeth, dros fisoedd yr haf.


Gwasanaethau Ordeinio a Thrwyddedu Gŵyl Bedr

Rwy'n edrych ymlaen at allu dathlu ordeiniad y Parchg Hugh Jones dros Ŵyl Bedr eleni. Mae gweinidogaeth Hugh ym Mro Tysilio ers ei ordeinio i’r ddiaconiaeth wedi bod yn gyfoethog ac yn arloesol, ac mae’n dda nawr gallu agor pennod newydd i’r weinidogaeth honno trwy ordeiniad offeiriadol Hugh.

Rwyf hefyd yn falch iawn y byddwn, dros ddeuddydd, hefyd yn trwyddedu tri ar ddeg o bobl o bob cwr o'r esgobaeth i Weinidogaethau Trwyddedig.

Mae Gweinidogaethau Trwyddedig Lleyg yn fodd o ymroi i arweinyddiaeth mewn maes nodedig o fywyd, cenhadaeth a thystiolaeth yr Eglwys, gan ganiatáu i brofiad ac arbenigedd unigolion fedru cyfrannu’n fendithiol yng ngwasanaeth yr Eglwys. Maent yn weinidogaethau achrededig, cyhoeddus a chynrychioliadol ym mywyd yr Eglwys, gan ddod â chyfrifoldebau yn eu sgil – ac rwy'n hynod ddiolchgar i'r tri ar ddeg o’r cydweithwyr hyn am eu hymrwymiad hael a pharhaus o ran amser ac egni i'r gwaith hwn.

Rwy’n arbennig o falch y bydd amrediad eang y Gweinidogaethau Trwyddedig yn cael ei gynrychioli dros Ŵyl Bedr eleni. Yn ogystal â Darllenydd newydd, byddaf yn trwyddedu Efengylydd, ac, am y tro cyntaf, Gweinidogion Bugeiliol, Gweinidogion Teulu a Gweinidogion Arloesol lleyg.

Yn y Gwasanaethau Ordeinio a Thrwyddedu, byddwn yn gwrando ar eiriau Sant Paul am rodd Crist inni – y bydd rhai’n apostolion, rhai’n broffwydi, rhai’n efengylwyr, rhai’n fugeiliaid ac yn athrawon – a hyn i gyd er mwyn i ni, gyda'n gilydd, arfogi'r saint ac: 

“adeiladu corff Crist fel y cyrhaeddwn oll hyd at yr undod a berthyn i’r ffydd ac i adnabyddiaeth o Fab Duw” (Effesiaid 4).

Mae geiriau Paul yn darparu gweledigaeth inni o’r Eglwys yr ydym yn dyheu amdani ac yn gweithio tuag ati. 

Gweddïwch dros Hugh, a thros Rosalind, Christine, Victoria, Sue, Ceri, Jan, Naomi, Judy, Keith, Zoe, Debbie, Alison a Fiona, sy'n rhoi o'u hunain i helpu i wireddu’r weledigaeth hon yn ein hesgobaeth.

Parhewch i weddïo hefyd am alwedigaethau newydd i weinidogaethau ordeiniedig, trwyddedig a chomisiynedig. Byddaf yn defnyddio Llythyr yr Esgob yn ystod yr wythnosau ar ôl Gwasanaethau Ordeinio a Thrwyddedu Gŵyl Bedr i rannu straeon y rhai sydd newydd eu trwyddedu a'u hordeinio – gan obeithio, trwy ein gweddïau a'u hesiampl, y bydd eraill yn cael eu hysbrydoli i glywed galwad Duw ac chamu mlaen.

Bydd presenoldeb cynulledifa yn y Gwasanaethau Ordeinio a Thrwyddedu yn yr Eglwys Gadeiriol, o reidrwydd, yn gyfyngedig a thrwy wahoddiad yn unig – ond byddwn yn rhannu ffotograffau, recordiadau a straeon o'r ddyddiau a dathliadau y gwn a fydd yn arwyddocaol i ni fel esgobaeth gyfan.


Cynhadledd Glerigol

Rydym wedi cael ein gorfodi i ohirio ein Cynhadledd Glerigol yn Rhydychen am yr ail flwyddyn yn olynol, hyd at Fedi 2022.

Fodd bynnag, rwy'n awyddus i glerigion trwyddedig allu ymgynnull ar gyfer dysgu, datblygu a myfyrio, ac rwyf wedi gofyn i bob clerig trwyddedig gadw eu dyddiau gwaith yn rhydd ddydd Mawrth 14 Medi, dydd Mercher 15 Medi a dydd Iau 16 Medi 2021.

Fy ngobaith yw y byddwn yn gallu cyfarfod yn gorfforol, ym Mangor, ar ddiwrnod cyntaf Cynhadledd Glerigol eleni, hynny yw dydd Mawrth 14 Medi 2021. Yna byddwn yn cwrdd mewn sesiynau ar-lein am yr ail a'r trydydd diwrnod. Bydd mwyn o wybodaeth ar gael maes o law.

Nodyn i'ch atgoffa ein bod yn gobeithio gallu, o'r diwedd, gynnal ein Cynhadledd Glerigol yn 2022 yn Rhydychen, gan deithio i lawr brynhawn dydd Sul 11 Medi 2022, a dychwelyd ddydd Iau 15 Medi 2022. A gaf eto annog clerigion trwyddedig i nodi'r dyddiadau hynny yn nyddiaduron 2022.


Priodasau

Bydd cydweithwyr clerigol yn ymwybodol y bydd deddfau mewnfudo ar gyfer gwladolion yr AEE yn newid o 1 Gorffennaf i adlewyrchu'r newidiadau a ddaw yn sgil Ymadael â'r UE. Bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar ddinasyddion yr AEE sy'n dymuno priodi yn ein heglwysi gan fod y diffiniad o ddinesydd perthnasol wedi newid.

Mae'r dudalen Cofrestru priodasau yn cynnwys y cyflwyniad a ddefnyddiwyd yn y sesiwn Zoom ddiweddar o "Gwrdd â'r Cofrestryddion", a oedd yn ymdrin â'r newidiadau hyn.

Mae'r dudalen hefyd wedi'i diweddaru nawr i gynnwys:

  • cylchlythyr clerigol diweddaraf y GRO am y newidiadau dinasyddiaeth
  • gwybodaeth am gyrchu deunyddiau hyfforddi Cymdeithas Gwasanaethau Cofrestru Lleol (LRSA) ynghylch y newidiadau dinasyddiaeth

Cyfarwyddyd Ysbrydol

Yn fy llythyr ar 24 Ebrill, ysgrfennais am bwysigrwydd Cyfarwyddyd Ysbrydol. Trwy gydol hanes yr Eglwys, mae pobl wedi sylweddoli eu hangen i ddod o hyd i rywun i gyd-gerdded gyda nhw ar daith ffydd. Trwy gwrdd â Chyfarwyddwr Ysbrydol, gallwn fyfyrio'n ddyfnach ar brofiadau bywyd, ac archwilio ffyrdd o ddod yn fwy agored i waith yr Ysbryd.

Bu imi hefyd eich gwahodd i ystyried a allech gael eich galw i arddel gweinidogaeth o Gyfarwyddyd Ysbrydol. Gallwch fod wedi eich hordeinio neu'n lleyg - mae hon yn weinidogaeth sy'n agored i bawb ei harchwilio.

Mae ein Cwrs Cyflwyniad esgobaethol i fod yn Gyfarwyddwr Ysbrydol yn cynnwys pynciau fel dirnadaeth, datblygu sgiliau gwrando, delweddau o Dduw, delweddau o'r hunan, arfer da, arfer gwan, ac wrth gwrs beth yw Cyfarwyddyd Ysbrydol a'r hyn nad ydyw. Mae'r cwrs yn edrych yn fyr ar Julian o Norwich, Ignatius o Loyola, Ioan y Groes, Teresa o Avila, ac eraill. Mae encil penwythnos hefyd lle bydd y ffocws ar ddyfnhau sgiliau gwrando a dirnad galwad ymhellach.

Mae gwahoddiad i ymuno â Choleg Cyfarwyddwyr Ysbrydol yr esgobaeth yn broses ddirnad, sy'n cynnwys cwblhau'r cwrs yn ofalus, datblygu sgiliau ymwybyddiaeth a gwrando, ac ymgysylltu â dau ddarn o waith ysgrifenedig.

Am wybodaeth bellach a ffurflen gais ar gyfer y Cwrs Cyflwyniad, cysylltwch â Janet Fletcher. Y dyddiad cau ar gyfer llenwi ffurflenni cais yw 25 Mehefin 2021.


Hysbysfwrdd esgobaethol


Cofiwch y gweddïir drosoch bob dydd yn Nhŷ'r Esgob: chi, eich teuluoedd a'ch Ardaloedd Gweinidogaeth. Gras a thangnefedd i chwi oll.


Y Gwir Barchg Andy John
Esgob Bangor


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Lythyr yr Esgob a chyhoeddiadau esgobaethol

Cymraeg

A letter from the Bishop


12 June 2021


Dear colleagues and friends

All grace and peace to you.


Let us pray

The weekly Bishop’s Letter begins with a call to prayer for a particular Ministry Area or activity within the diocese. My hope is that these prayers will also form part of intercessions across the diocese the following Sunday.


To God we pray for wisdom and direction, for compassion and love, for an ever-deepening faith. Guide us into a community of worship and action, of learning and sharing.


We pray for the Ministry Area of Bro Madryn and those who serve there: Helen Franklin, Joe Worthington, Hywel Parry-Smith, Mike Wray. Be with them and their congregations and communities, give inspiration and guidance in their hopes and dreams, in their outreach and mission; and particularly:

for the clerical vacancy and for all mission opportunities during that time

for the development of Teulu Madryn (Children & Families Commissioned Team)

for the work of the Pastoral Care team

for the future of the Nefyn Re-ordering Project

that all may be offered, given, and lived out in the name of Jesus Christ. Amen.


Coronavirus adaptations

Wales is now moving, in incremental stages, from Alert Level 2 to Alert Level 1, and Welsh Government has set out the next steps of relaxing restrictions.

This means that a wider range of activities is now permitted, with greater numbers of people involved, but the restrictions on how these activities are undertaken remain.

The national guidance on the Church in Wales website has been updated to reflect these changes, and should be consulted by clerical colleagues.

May I again thank all those, across the diocese, who are undertaking additional work to enable the Church’s worship and mission to be undertaken safely but purposefully at this time. 

The need to continue to take care and to manage risks is paramount, and I want to acknowledge the efforts being made to maintain our high standards. 

But it also such good news that more activities can now take place, and I look forward to being part of some of these myself, in different parts of the diocese, over the summer months.


Petertide Ordination and Licensing Services

I am looking forward to being able to celebrate the ordination of the Revd Hugh Jones this Petertide. Hugh’s ministry in Bro Tysilio since his ordination to the diaconate has been enriching and innovative, and it is good now to be able to open a new chapter of that ministry through Hugh’s priestly ordination.

I am also delighted that, over two days, we will also be licensing thirteen people from across the diocese to Licensed Ministries.

Lay Licensed Ministries provide an opportunity to share in the leadership of a distinctive area of the Church’s life, mission and witness, allowing a focused and enriching use of experience and expertise in the Church’s service. They are accredited, public, representative ministries of the Church, bringing responsibility and obligations - and I am hugely grateful to these thirteen colleagues for their generous and ongoing commitment of time and energy to this work.

I am particularly delighted that the breadth of Licensed Ministries will be represented this Petertide. As well as a new Reader, I will be licensing an Evangelist, and, for the first time, Pastoral Ministers, Family Ministers and lay Pioneer Ministers.

At the Ordination and Licensing Services, we will listen to Saint Paul’s words about Christ’s gift to us - that some would be apostles, some prophets, some evangelists, some pastors and teachers - and all this in order that we might, together, equip the saints and:

“build up the body of Christ until all of us come to the unity of the faith and of the knowledge of the Son of God” (Ephesians 4).

Paul’s words provide us with a vision of the Church that we yearn for and work towards. 

Please pray for Hugh, and for Rosalind, Christine, Victoria, Sue, Ceri, Jan, Naomi, Judy, Keith, Zoe, Debbie, Alison and Fiona, who are giving of themselves to help to bring this vision to fruition in our diocese.

Please continue to pray also for new vocations to ordained, licensed and commissioned ministries. I will be using the Bishop’s Letter in the weeks after the Petertide Ordination and Licensing Services to share the stories of those who have been newly licensed and ordained - and I hope that, through our prayers and their example, others will be inspired to hear God’s call and to step forward.

Attendance at the Ordination and Licensing Services at the Cathedral will be, of necessity, limited and by invitation only - but we will share photographs, recordings and stories from what I know will be significant and celebratory days for us as a whole diocese.


Clergy Conference

We have been forced to postpone our Clergy Conference in Oxford for the second year running, to September 2022.

I am, however, eager for licensed clergy to be able to gather for learning, development and reflection, and have asked all licensed clergy to keep free the totality of their working days on Tuesday 14 September, Wednesday 15 September and Thursday 16 September 2021.

My hope is that we will be able to meet in person, in Bangor, for the first day of this year’s Clergy Conference, that is Tuesday 14 September 2021. We will then meet in online sessions for the second and third days. More information will be available in due course.

A reminder that we hope to be able, at last, to hold our 2022 Clergy Conference in Oxford, travelling down on the afternoon of Sunday 11 September 2022, and returning on Thursday 15 September 2022. May I again encourage licensed clergy to note those dates in their 2022 diaries.


Marriages

Clerical colleagues will be aware that immigration laws for EEA nationals will change from the 1 July to reflect the changes brought about following EU Exit. These changes will impact EEA citizens who wish to marry in our churches as the definition of a relevant national has changed.

The Registering marriages page includes the presentation used at the recent "Meet the Registrars" Zoom session, which covered these changes.

The page has also now been updated to include:

  • the latest Clergy Newsletter from the GRO about the citizenship changes
  • information about accessing Local Registration Services Association (LRSA) training materials regarding the citizenship changes

Spiritual Direction

In my letter on 24 April, I spoke about the importance of Spiritual Direction. Throughout the history of the Church, people have realised their need to find someone who will walk with them on their journey of faith. Through meeting with a Spiritual Director, we can reflect more deeply on life’s experiences, and explore ways of becoming more open to the movements of the Spirit.

I also invited you to reflect on whether you might be being called to the ministry of Spiritual Direction. You may be ordained or lay - this is a ministry open to all to explore.

Our diocesan Introduction Course to becoming a Spiritual Director is due to commence this autumn. The course includes topics such as discernment, developing listening skills, images of God, images of the self, good practice, unhealthy practice, and of course what Spiritual Direction is and isn’t. The course looks briefly at Julian of Norwich, Ignatius of Loyola, John of the Cross, Teresa of Avila, and others. There is also a weekend retreat where the focus will be to deepen listening skills and further discern a call to offer Spiritual Direction.

An invitation to join the diocesan College of Spiritual Directors is a process of discernment, which incorporates the engaged completion of the course, the development of skills of awareness and listening, and engagement with two pieces of written work.

For further information and an application form for the Introduction Course, please contact Janet Fletcher. The deadline for completed application forms is 25 June 2021.


Diocesan noticeboard


Please remember you are prayed for each day in Ty’r Esgob: you, your families and Ministry Areas. Grace and peace to you all.


The Rt Revd Andy John
Bishop of Bangor


Subscribe to receive email notification of the Bishop's Letter and diocesan announcements