minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Gwasanaeth Ordeinio 2019 | The 2019 Ordination service
English

Llythyr oddi wrth yr Esgob


Ar gyfer y Trydydd Sul wedi'r Drindod | 20 Mehefin 2021


Annwyl gyfeillion

Pob gras a thangnefedd i chi.


Cyd-weddïwn

Mae Llythyr yr Esgob wythnosol yn dechrau gyda galwad i weddïo dros Ardal Weinidogaeth benodol neu weithgaredd yn yr esgobaeth. Fy ngobaith yw y bydd y gweddïau hyn hefyd yn rhan o ymbiliau ledled eglwysi'r esgobaeth y Sul.


Ymunwch â mi yr wythnos hon mewn gweddi dros y rhai sydd i'w hordeinio a'u trwyddedu mewn gwasanaethau dros Ŵyl Bedr yn ein Cadeirlan, ar ddydd Gwener 25 Mehefin a dydd Sadwrn 26 Mehefin. Y rhai sydd i'w hordeinio a'u trwyddedu yw:

Dydd Gwener 25 Mehefin

Rosalind Harrison
i’w thrwyddedu yn Weinidog Teulu yn Ardal Weinidogaeth Bro Tudno

Christine Jones
i’w thrwyddedu yn Weinidog Arloesol yn Ardal Weinidogaeth Bro Tudno

Victoria Ford
i’w thrwyddedu yn Weinidog Bugeiliol yn Ardal Weinidogaeth Bro Tudno

Sue Fogarty
i’w thrwyddedu yn Weinidog Arloesol yn Ardal Weinidogaeth Bro Enlli

Ceri Sheppard
i’w thrwyddedu yn Efengylydd yn Ardal Weinidogaeth Bro Cyfeiliog a Mawddwy

Jan Webb
i’w thrwyddedu yn Weinidog Bugeiliol yn Ardal Weinidogaeth Bro Cadwaladr

Naomi Wood
i’w thrwyddedu yn Weinidog Teulu yn Ardal Weinidogaeth Bro Tysilio

Dydd Sadwrn 26 Mehefin

Hugh Jones
i’w ordeinio’n Offeiriad a gwasanaethu yn Ardal Weinidogaeth Bro Tysilio

Keith Wadcock
i’w drwyddedu yn Ddarllenydd yn Ardal Weinidogaeth Bro Gwydyr

Zoe Hobbs
i’w thrwyddedu yn Weinidog Teulu yn Ardal Weinidogaeth Bro Ystumanner

Debbie Peck
i’w thrwyddedu yn Weinidog Arloesol yn Ardal Weinidogaeth Bro Arwystli

Alison Sayes
i’w thrwyddedu yn Weinidog Teulu yn Ardal Weinidogaeth Bro Ystumanner

Fiona Covington-Mann
i’w thrwyddedu yn Weinidog Teulu yn Ardal Weinidogaeth Bro Ystumanner

Judy Freeman
i’w thrwyddedu yn Weinidog Teulu yn Ardal Weinidogaeth Bro Tysilio

Yn ogystal â llawenhau gyda Hugh ar ei ordeiniad i’r offeiriadaeth, byddwn hefyd yn dathlu gyda’r 13 o bobl sydd i'w trwyddedu i Weinidogaethau Trwyddedig Lleyg – gweinidogaethau achrededig, cyhoeddus a chynrychioliadol oddi mewn i'r esgobaeth. I'r 14 hyn, fel i gynifer ohonom, mae'r misoedd diwethaf wedi bod gyfnod prawf, a gwn fod rhai wedi forfod cynnal beichiau trwm dros yr wythnosau diwethaf. Rwy’n falch iawn, ynghanol hyn oll, bod galwad Duw wedi’i glywed ac y bydd gennym ni, yn ogystal ag offeiriad newydd, Ddarllenwyr, Efengylyddion, Gweinidogion Bugeiliol, Gweinidogion Teulu a Gweinidogion Arloesol newydd yn ein plith maes o law.

Byddaf yn defnyddio Llythyr yr Esgob yn ystod yr wythnosau ar ôl gwasanaethau Gŵyl Bedr i rannu straeon y rhai sydd newydd eu trwyddedu a'u hordeinio – gan obeithio, trwy ein gweddïau a'u hesiampl, y bydd eraill yn cael eu hysbrydoli i glywed galwad Duw ac chamu mlaen.

Bydd presenoldeb cynulledifa yn y gwasanaethau ddydd Gwener a dydd Sadwrn, o reidrwydd, yn gyfyngedig a thrwy wahoddiad yn unig – ond byddwn yn rhannu ffotograffau, recordiadau a straeon o'r ddyddiau a dathliadau y gwn a fydd yn arwyddocaol i ni fel esgobaeth gyfan.


Hollalluog a thragwyddol Dduw, sydd trwy dy Ysbryd yn llywodraethu ac yn sancteiddio holl gorff yr Eglwys: gwrando ein gweddi a offrymwn dros dy holl bobl ffyddlon, iddynt allu dy wasanaethu mewn sancteiddrwydd a gwirionedd yn eu galwedigaeth a’u gweinidogaeth er gogoniant i’th enw; trwy ein Harglwydd a’n Hiachawdwr Iesu Grist, sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân, yn un Duw, yn awr ac am byth. Amen.


Addasiadau coronafirws

Ar ben yr addasiadau disgwyliedig wrth inni symud i Lefel Rhybudd 1 a rannais yr wythnos diwethaf, gwnaed rhai cyhoeddiadau newydd ynghylch llacio cyfyngiadau gan Lywodraeth Cymru yn hwyr ddoe. Rwy'n disgwyl i'r rhain gael eu hadlewyrchu yng nghanllawiau diwygiedig yr Eglwys yng Nghymru yn ystod yr wythnos i ddod. Byddaf yn rhannu'r canllawiau newydd hyn gyda chydweithwyr pan fyddant ar gael.


Treftadaeth adeiledd ein heglwysi

Fel rhan o bartneriaeth newydd rhwng Cadw, Archesgobaeth Gatholig Caerdydd ac Esgobaeth Bangor, rwy'n falch iawn y bydd y tri sefydliad yn cynnull digwyddiad dysgu a rhannu profiad ar Zoom ddydd Iau 8 Gorffennaf 2021.

Bydd Cadw - sef gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru - yn arwain y digwyddiad, gan gynnal nifer o wahanol weithdai ar-lein, yn menteisio ar arbenigedd staff Cadw, ac yn ymdrin â'r pynciau canlynol:

  • Digwyddiadau Drysau Agored blynyddol Cadw
  • Dehongliad o dreftadaeth mewn adeiladau a safleoedd
  • Marchnata ein treftadaeth, gan gynnwys defnydd cyfryngau cymdeithasol a chysylltiadau thematig â safleoedd Cadw
  • Ein "cynnig" i ymwelwyr a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd, gan gynnwys addysgu, teithiau a chysylltiadau â'r diwydiant teithio

Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal rhwng 10am ac 1pm ddydd Iau 8 Gorffennaf. Cyhoeddir mwy o fanylion ac amserlen fanwl yn agosach at y dyddiad. Ond am y tro, os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu'r gweithdai hyn, cadwch y cyfnod yn glir yn eich dyddiaduron; a rhannwch newyddion am y digwyddiad gydag eraill ar draws ein Hardaloedd Gweinidogaeth. Mae croeso cynnes i bawb.

Yn ogystal â bod â chyfrifoldeb, trwy ein system ffacwlti, am gynghori ar newidiadau i adeiladau rhestredig, mae Cadw hefyd yn warcheidwad nifer o safleoedd a strwythurau hanesyddol o bwys cenedlaethol, gan gynnwys cestyll gogledd-orllewin Cymru. Mae'n dda iawn, mewn partneriaeth ag Archesgobaeth Caerdydd, i fod yn rhan o'r cyfle hwn i ddysgu gan Cadw am eu gwaith arloesol, a myfyrio ar gymhwyso rhai o'r un technegau i'n gofal ni o'n hadeiladau eglwysig o bwys cenedlaethol.


Taith Adfent

Rwy'n falch iawn bod nifer o ysgolion ledled yr esgobaeth wedi gallu cymryd rhan yn Taith Adfent, a oedd yn canolbwyntio ar elfennau o stori'r Nadolig, gan ddwyn ohoni rai myfyrdodau ystyrlon ac anghenus ar groesawu pobl sy'n ceisio noddfa a lloches.

I gyd-fynd ag Wythnos Ffoaduriaid, mae'r Eglwys yng Nghymru wedi cyhoeddi crynodeb o ymchwil ystafell ddosbarth am y prosiect.

Hoffwn ddiolch i bob ysgol am eu hadborth hwy a gyfrannodd at yr ymchwil hon, ac yn arbennig i'n dwy ysgol beilot, Ysgol Llandygai ac Ysgol Llandwrog, am eu gwaith caled, er gwaetha'r cyfyngiadau Coronafirus.

Mae'n dda gweld gwaith y plant yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad a'n bod yn meithrin mwy o gydweithredu a rhannu ar y cyd ledled ysgolion yr Eglwys yng Nghymru.


Diwinyddiaeth ar gyfer Bywyd

Diwinyddiaeth ar gyfer Bywyd yw enw'r rhaglen ddiwinyddol amlochrog a gydlynir gan Athrofa Padarn Sant, cangen hyfforddi a ffurfiant genedlaethol yr Eglwys yng Nghymru.

Mae Diwinyddiaeth ar gyfer Bywyd yn adnodd i bawb - i unrhywun sydd am ddyfnhau eu ffydd neu ddysgu rhagor am ddiwinyddiaeth. Mae’n gyfle gwych i astudio’r Beibl a diwinyddiaeth yn ddyfnach a’i wneud yn berthnasol i’ch bywyd chi a bywyd eich eglwys a’ch cymuned leol. Mae hefyd yn gwrs achrededig mewn diwinyddiaeth. Gallwch ennill tystysgrif drwy ddilyn y cwrs am ddwy flynedd a diploma mewn pedair blynedd. Drwy astudio’n rhan amser am chwe blynedd, gallwch ennill gradd o Brifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant. Mae’n bosibl dilyn y cwrs trwy fynychu wyneb yn wyneb neu mewn grŵp ar lein, ar adeg sy’n gyfleus i chi.

Ceir rhagor o wybodaeth am Diwinyddiaeth ar gyfer Bywyd ar wefan Padarn Sant, a bydd Lyn Davies o dîm Padarn Sant yn gallu darparu mwy fyth o wybodaeth ac ateb unrhyw gwestiynau. Y dyddiad cau diwygiedig ar gyfer ceisiadau ar gyfer carfan cyfranogwyr eleni yw 5 Gorffennaf.


Hysbysfwrdd esgobaethol

  • Rwy'n gofyn i bob clerig trwyddedig gadw'r cyfan o'u dyddiau gwaith yn rhydd ddydd Mawrth 14 Medi, dydd Mercher 15 Medi a dydd Iau 16 Medi 2021 ar gyfer ein Cynhadledd Glerigol. Byddwn yn cwrdd wyneb yn wyneb ar ddydd Mawrth 14 Medi, ac ar Zoom y deuddydd arall.
  • Ceir gwybodaeth am adroddiad newydd y Comisiwn Athrawiaethol ar weinidogaeth, gan gynnwys cyfres barhaus o fideos a thrafodaethau, fan hyn.
  • Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Robert Jones.

Cofiwch y gweddïir drosoch bob dydd yn Nhŷ'r Esgob: chi, eich teuluoedd a'ch Ardaloedd Gweinidogaeth. Gras a thangnefedd i chwi oll.


Y Gwir Barchg Andy John
Esgob Bangor


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Lythyr yr Esgob a chyhoeddiadau esgobaethol

Cymraeg

A letter from the Bishop


For the Third Sunday after Trinity | 20 June 2021


Dear colleagues and friends

All grace and peace to you.


Let us pray

The weekly Bishop’s Letter begins with a call to prayer for a particular Ministry Area or activity within the diocese. My hope is that these prayers will also form part of intercessions across the diocese on Sunday.


Please join me this week in praying for those to be ordained and licensed at Petertide services at our Cathedral on Friday 25 June and Saturday 26 June. Those to be ordained and licensed are:

Friday 25 June

Rosalind Harrison
to be licensed as a Family Minister in the Ministry Area of Bro Tudno

Christine Jones
to be licensed as a Pioneer Minister in the Ministry Area of Bro Tudno

Victoria Ford
to be licensed as a Pastoral Minister in the Ministry Area of Bro Tudno

Sue Fogarty
to be licensed as a Pioneer Minister in the Ministry Area of Bro Enlli

Ceri Sheppard
to be licensed as an Evangelist in the Ministry Area of Bro Cyfeiliog a Mawddwy

Jan Webb
to be licensed as a Pastoral Minister in the Ministry Area of Bro Cadwaladr

Naomi Wood
to be licensed as a Family Minister in the Ministry Area of Bro Tysilio

Saturday 26 June

Hugh Jones
to be ordained Priest and serve in the Ministry Area of Bro Tysilio

Keith Wadcock
to be licensed as a Reader in the Ministry Area of Bro Gwydyr

Zoe Hobbs
to be licensed as a Family Minister in the Ministry Area of Bro Ystumanner

Debbie Peck
to be licensed as a Pioneer Minister in the Ministry Area of Bro Arwystli

Alison Sayes
to be licensed as a Family Minister in the Ministry Area of Bro Ystumanner

Fiona Covington-Mann
to be licensed as a Family Minister in the Ministry Area of Bro Ystumanner

Judy Freeman
to be licensed as a Family Minister in the Ministry Area of Bro Tysilio

As well as rejoicing with Hugh on his ordination to the priesthood, we will also celebrate with the 13 people who are being licensed to accredited, public, representative Licensed Lay Ministries. For these 14 ministers, as for so many of us, the last few months have been testing one, and I know that some in particular have had heavy burdens to bear over recent weeks. I am delighted that, amid all this, God’s call has been heard and that, as well as a new priest, we will have new Readers, Evangelists, Pastoral Ministers, Family Ministers and Pioneer Ministers in our midst.

I will be using the Bishop’s Letter in the weeks after the Petertide services to share the stories of those who have been newly licensed and ordained - and I hope that, through our prayers and their example, others will be inspired to hear God’s call and to step forward.

Attendance at Friday and Saturday’s services will be, of necessity, limited and by invitation only - but we will share photographs, recordings and stories from what I know will be significant and celebratory days for us as a whole diocese.


Almighty and everlasting God, by whose Spirit the whole body of the Church is governed and sanctified: hear our prayer which we offer for all your faithful people, that in their vocation and ministry they may serve you in holiness and truth to the glory of your name; through our Lord and Saviour Jesus Christ, who is alive and reigns with you in the unity of the Holy Spirit, God for ever and ever. Amen.


Coronavirus adaptations

On top of the expected adaptations as we move to Alert Level 1 which I shared last week, some new announcements regarding the easing of restrictions were made by the Welsh Government late yesterday. I expect these to be reflected in revised national Church in Wales guidelines during the course of the coming week. I will share these new guidelines with colleagues when they’re available.


The heritage of places of worship

As part of a new partnership between Cadw, the Roman Catholic Archdiocese of Cardiff and the Diocese of Bangor, I’m very pleased that the three organisations will be convening a learning and experience-sharing event on Zoom on Thursday 8 July 2021.

Cadw - which is the Welsh Government’s historic environment service - will be taking the lead, hosting a number of different online workshops, drawing on the expertise of Cadw staff, and covering the following topics:

  • Cadw’s annual Open Doors events
  • On-site interpretation of heritage
  • Marketing our heritage, to include social media use and thematic links to Cadw sites
  • Visitor offers and reaching new audiences, to include education and travel tours and links to the travel industry

The workshops will be held from 10am to 1pm on Thursday 8 July. More details and confirmed running order will be announced closer to the date. But for now, if you are interested in attending these workshops, please block off this tie in your diaries; and please share news about the event with others across our Ministry Areas. Everybody is welcome to attend.

As well as having a responsibility, through our faculty system, to advise on changes to listed buildings, Cadw is also the guardian of a number of nationally important historic sites and structures, including the castles of north-west Wales. It is very good, in partnership with the Archdiocese of Cardiff, to be involved in this opportunity to learn from Cadw about their innovative work, and to reflect on applying some of the same techniques to our care of our nationally important church buildings.


Taith Adfent

I’m delighted that a number of schools across the diocese were able to participate in Taith Adfent, which focused on elements of the Christmas story, drawing from it some meaningful and needful reflections on welcoming people who seek sanctuary.

To coincide with Refugee Week, the Church in Wales has published a summary of classroom research about the project.

I would like to thank each and every school for that feedback that contributed to this research, and especially to our two pilot schools, Ysgol Llandygai and Ysgol Llandwrog, for their hard work, not least given Coronavirus restrictions.

It is good to see the children's work being included in the report and fostering greater co-operation and sharing across our Church in Wales schools.


Theology for Life

Theology for Life is the name of the multifaceted theological course coordinated by St Padarn’s Institute, the national training and formation arm of the Church in Wales.

Theology for Life is open to everybody - and it is an enriching opportunity for anybody wanting deepen their faith and learn more about theology. It provides an opportunity to study the Bible and theology in more depth, and relate it to your own life and the life of your local church and community. It is also a university accredited course in theology. You can gain a certificate by following the course for two years, a diploma in four years. In six years part time study you can gain a degree from the University of Wales, Trinity St David. It is possible to follow the course through attending a face to face or an online group, at a time that is convenient to you.

There’s more information about Theology for Life  on the St Padarn website, and Lyn Davies from the St Padarn team will be able to provide yet more information and answer any questions. The revised deadline for applications for this year’s cohort of participants is 5 July.


Diocesan noticeboard

  • I am asking all licensed clergy to keep free the totality of their working days on Tuesday 14 September, Wednesday 15 September and Thursday 16 September 2021 for our Clergy Conference. On Tuesday 14 September, we will meet in person, and on Zoom the other two days.
  • Information about the Doctrinal Commission's new report on ministry, including an ongoing series of videos and discussions, is available here.
  • If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Robert Jones.

Please remember you are prayed for each day in Ty’r Esgob: you, your families and Ministry Areas. Grace and peace to you all.


The Rt Revd Andy John
Bishop of Bangor


Subscribe to receive email notification of the Bishop's Letter and diocesan announcements