minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Llythyr oddi wrth yr Esgob


Ar gyfer y Pedwerydd Sul wedi'r Drindod | 27 Mehefin 2021


Annwyl gyfeillion

Pob gras a thangnefedd i chi.


Cyd-weddïwn

Mae Llythyr yr Esgob wythnosol yn dechrau gyda galwad i weddïo dros Ardal Weinidogaeth benodol neu weithgaredd yn yr esgobaeth. Fy ngobaith yw y bydd y gweddïau hyn hefyd yn rhan o ymbiliau ledled eglwysi'r esgobaeth y Sul.


Gofynnaf i chi barhau i gynnal mewn gweddi'r rhai wedi sy'n wedi eu hordeinio a'u trwyddedu mewn gwasanaethau dros Ŵyl Bedr yn ein Cadeirlan.

Hugh Jones
wedi'i ordeinio’n Offeiriad a gwasanaethu yn Ardal Weinidogaeth Bro Tysilio

Rosalind Harrison
wedi'i thrwyddedu yn Weinidog Teulu yn Ardal Weinidogaeth Bro Tudno

Christine Jones
wedi'i thrwyddedu yn Weinidog Arloesol yn Ardal Weinidogaeth Bro Tudno

Victoria Ford
wedi'i thrwyddedu yn Weinidog Bugeiliol yn Ardal Weinidogaeth Bro Tudno

Sue Fogarty
wedi'i thrwyddedu yn Weinidog Arloesol yn Ardal Weinidogaeth Bro Enlli

Ceri Sheppard
wedi'i thrwyddedu yn Efengylydd yn Ardal Weinidogaeth Bro Cyfeiliog a Mawddwy

Jan Webb
wedi'i thrwyddedu yn Weinidog Bugeiliol yn Ardal Weinidogaeth Bro Cadwaladr

Naomi Wood
wedi'i thrwyddedu yn Weinidog Teulu yn Ardal Weinidogaeth Bro Tysilio

Keith Wadcock
wedi'i drwyddedu yn Ddarllenydd yn Ardal Weinidogaeth Bro Gwydyr

Zoe Hobbs
wedi'i thrwyddedu yn Weinidog Teulu yn Ardal Weinidogaeth Bro Ystumanner

Debbie Peck
wedi'i thrwyddedu yn Weinidog Arloesol yn Ardal Weinidogaeth Bro Arwystli

Alison Sayes
wedi'i thrwyddedu yn Weinidog Teulu yn Ardal Weinidogaeth Bro Ystumanner

Fiona Covington-Mann
wedi'i thrwyddedu yn Weinidog Teulu yn Ardal Weinidogaeth Bro Ystumanner

Judy Freeman
wedi'i thrwyddedu yn Weinidog Teulu yn Ardal Weinidogaeth Bro Tysilio

Byddaf yn defnyddio Llythyr yr Esgob yn ystod yr wythnosau nesaf i rannu straeon y rhai sydd newydd eu trwyddedu a'u hordeinio – gan obeithio, trwy ein gweddïau a'u hesiampl, y bydd eraill yn cael eu hysbrydoli i glywed galwad Duw ac chamu mlaen.


Hollalluog a thragwyddol Dduw, sydd trwy dy Ysbryd yn llywodraethu ac yn sancteiddio holl gorff yr Eglwys: gwrando ein gweddi a offrymwn dros dy holl bobl ffyddlon, iddynt allu dy wasanaethu mewn sancteiddrwydd a gwirionedd yn eu galwedigaeth a’u gweinidogaeth er gogoniant i’th enw; trwy ein Harglwydd a’n Hiachawdwr Iesu Grist, sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân, yn un Duw, yn awr ac am byth. Amen.


Addasiadau coronafirws

Cyhoeddwyd diweddariad i ganllawiau cenedlaethol yr Eglwys yng Nghymru yn ystod yr wythnos ddiwethaf ynghylch canu cynulleidfaol. A gaf i annog cydweithwyr clerigol i ymgynghori'n fanwl â'r canllawiau cyn gwneud unrhyw newidiadau, a thalu sylw arbennig i dabl cyffredinrwydd coronafirws fesul awdurdod lleol.


Y Tra Pharchg Kathy Jones

Cafodd Deon Kathy ei phenodi’n Ddeon Eglwys Gadeiriol Bangor yn 2015, cyn cael ei sefydlu’n gynnar yn 2016. 

Yn ei chyfweliad, perswadiodd y gymysgedd o weledigaeth glir a greddfau bugeiliol cadarn y rhai oedd yn ei chyfweld mai Kathy oedd y person delfrydol ar gyfer y swydd. Byddai’r doniau hyn yn dod i’r golwg yn fynych. 

Rwy’n mor falch fy mod yn gallu diolch i Kathy am ei gweinidogaeth dros y pum mlynedd. Roedd yn camu i’w swydd pan oedd Ardal Weinidogaeth Bro Deiniol newydd ei ffurfio, ac yn ei babandod. Roedd dwy o eglwysi’r ddinas newydd gau a'r Eglwys Gadeiriol wedi cael cyfnod o wrthdaro a dwys ystyried. Gydol ei hamser byddai Kathy’n gatalydd dros dawelwch ac iachau. Mae ei gofal cyson ac addfwyn wedi datrys y trafferthion hynny ac wedi galluogi’r Eglwys Gadeiriol a'r Ardal Weinidogaeth symud ymlaen. 

Yn ogystal â'r newidiadau hyn, mae Kathy wedi dod ag ymrwymiad newydd i’r gymuned ehangach. Mae’r Eglwys Gadeiriol wedi cynnal nifer o arddangosfeydd, wedi bod yn bartner ag asiantaethau a sefydliadau ac wedi meithrin perthynasau cryf gyda chrefyddau eraill, yn enwedig gyda’r gymuned Foslemaidd leol. Bydd llawer ohonom yn cofio, ar ôl yr ymosodiad gan derfysgwyr ar Gristnogion yn Sri Lanka yn ystod y Pasg 2019, fod y Moslemiaid, y Sul dilynol, yn sefyll y tu allan i’r Eglwys Gadeiriol mewn undod gyda’r Cristnogion oedd wedi dod i addoli. 

Fel rhan o Gyngor yr Esgobion, mae Kathy wedi bod yn gydweithiwr amhrisiadwy ac mae’i doethineb a’i phrofiad wedi galluogi’r esgobaeth i ddatblygu ei hymrwymiad i’r weledigaeth rydym yn ei rhannu. Mae’i phrofiad yn y Gwasanaeth Iechyd wedi ffurfio ysbrydolrwydd ble mae cariad dwfn Duw am fywyd dynol yn mynegi ei hunan mewn addoliad yn cael ei rhannu ac mewn cynllunio strategol. 

Rwy’n ymwybodol fod penodiad Kathy i swydd newydd y tu allan i’r esgobaeth yn golled, nid yn unig i mi fel Esgob ac i’m cydweithwyr, ond o fewn yr Eglwys Gadeiriol hefyd. Rwy’n falch ein bod yn gallu diolch i Kathy’n gyhoeddus ar ei Sul olaf yn yr Eglwys Gadeiriol ar ddiwedd y mis yn dilyn Ordeiniadau a Thrwyddedau’r Esgobaeth ac yn dymuno iddi hi ac i Paul bob hapusrwydd yn eu cartref a’u cymuned newydd.


Pride a chynnydd

Wrth i ni agosáu at ddiwedd mis Pride, rwyf am fyfyrio ar bwysigrwydd sefyll law yn llaw mewn undod a balchder gyda'n cymunedau LGBTQI+.

Nawr, yn fwy nag erioed, wrth i droseddau casineb barhau i effeithio ar fywydau a dynoliaeth ein caredigion yng Nghrist, rhaid i bobl o bob ffydd gydnabod yr niwed a wnaed yn ein henw ac edifarhau. Nawr hefyd yw'r amser i gadarnhau a chofleidio'r amrywiaeth rhyfeddol a geir yng nghxreadigaeth Duw, ac i ymroi i barhau â'n gwaith i herio rhagfarn yn ein heglwysi a'n cymunedau ehangach. Wrth wneud hynny, rydym hefyd yn anrhydeddu'r brwydr cymunedau LGBTQI+ i fod yn ddiogel a byw eu bywydau yn eu cyflawnder.

Mae Pride yn fynegiant llawen, herfeiddiol o gynnydd, penderfyniad a chariad, ac am hyn oll rhown ddiolch.


Bro Cwyfan a Bro Madryn

Roeddwn yn falch iawn o allu trwyddedu Vince Morris yn Arweinydd Ardal Weinidogaeth newydd ym Mro Cwyfan yr wythnos ddiwethaf hon.

Gweddïwch dros weinidogaeth newydd Vince, a thros eglwysi a chymunedau Bro Cwyfan wrth iddyn nhw ddirnad galwad Duw i genhadaeth a thystiolaethu newydd.

Ceir mwy am apwyntiad Vince fan yma.

Rwyf hefyd yn falch fy mod yn gallu lansio heddiw’r broses ddirnad ar gyfer offeiriad i olynu Richard Wood yn Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Madryn. Mae Bro Madryn yn ymestyn dros ochr gogleddol Pen Llŷn, o Lithfaen i Fryncroes. 

Gellir gweld manylion llawn yr apwyntiad yma.

Rwy'n ddiolchgar iawn i bobl Bro Madryn ac Archddiacon Meirionnydd am y gwaith called y tu ôl i'r proffil.

Gweddïwch dros bawb fydd am glywed galwad Duw ar eu bywydau a’u gweinidogaeth ar yr adeg hon, a thros bawb a fydd yn cymryd rhan yn y broses ddirnad dros yr wythnosau nesaf.


Fforymau Adolygu Ariannol

Rwy'n parhau i fod yn dra diolchgar i bawb sydd, p'un ai trwy eu haelioni personol a'u rhodd aberthol i'r Eglwys, neu trwy gysegriad eu hamser fel trysoryddion ac ymddiriedolwyr, wedi helpu i lywio Ardaloedd Gweinidogaeth a'r esgobaeth gyfan trwy stormydd ariannol y misoedd diwethaf.

Ym mis Mawrth bu inni gynnal Fforwm Adolygu Ariannol ar gyfer pob Archddiaconiaeth ar Zoom, a buont yn sgyrsiau defnyddiol. 

Rwyf felly am gynnull fforymau cyffelyb ym mis Gorffennaf. Bydd y Fforwm yn gyfle:

  • i glywed am ddarlun ariannol eang yr esgobaeth a'r dalaith;
  • i glywed gan bob Ardal Gweinidogaeth am hynt y flwyddyn ariannol hon, gan rannu hefyd unrhyw arsylwadau, pryderon ac anghenion eraill;
  • i ofyn cwestiynau a cheisio cyngor gan yr Archddiacon, Ysgrifennydd yr Esgobaeth, a chan Owain Pritchard, ein Cyfarwyddwr Systemau a Stiwardiaeth

Dyddiadau'r sesiynau yw:

Dydd Mawrth 27 Gorffennaf am 10am
Fforwm Adolygu Ariannol Archddiaconiaeth Meirionnydd

Dydd Mawrth 27 Gorffennaf am 2pm
Fforwm Adolygu Ariannol Archddiaconiaeth Bangor

Dydd Mercher 28 Gorffennaf am 10am
Fforwm Adolygu Ariannol Archddiaconiaeth Ynys Môn

Rwy'n disgwyl i'r fforymau bara am ddim mwy nag awr a hanner.

A gaf i ofyn i Arweinwyr Ardaloedd Gweinidogaeth flaenoriaethu'r Fforwm Adolygu Ariannol yn eu dyddiaduron, ac annog presenoldeb gan Drysoryddion Ardaloedd Gweinidogaeth ac unrhyw ddeiliaid swyddi neu aelodau MAC eraill o'r Ardaloedd Gweinidogaeth a hoffai fod yn bresennol.

Bydd dolenni a chodau Zoom ar gyfer y fforymau yn cael eu cylchredeg i'r rhai ar restr bostio Llythyr yr Esgob yn ystod yr wythnos flaenorol. Gallwch chi gofrestru i ymuno â'r rhestr bostio honno ar waelod y dudalen hon.


Hysbysfwrdd esgobaethol

  • Fel rhan o bartneriaeth newydd rhwng Cadw, Archesgobaeth Gatholig Caerdydd ac Esgobaeth Bangor, rwy'n falch iawn y bydd y tri sefydliad yn cynnull digwyddiad dysgu a rhannu profiad ar Zoom ddydd Iau 8 Gorffennaf 2021. Ceir manylion llawn yn Llythyr yr wythnos ddiwethaf.
  • Rwy'n gofyn i bob clerig trwyddedig gadw'r cyfan o'u dyddiau gwaith yn rhydd ddydd Mawrth 14 Medi, dydd Mercher 15 Medi a dydd Iau 16 Medi 2021 ar gyfer ein Cynhadledd Glerigol. Byddwn yn cwrdd wyneb yn wyneb ar ddydd Mawrth 14 Medi, ac ar Zoom y deuddydd arall.
  • Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Robert Jones.

Cofiwch y gweddïir drosoch bob dydd yn Nhŷ'r Esgob: chi, eich teuluoedd a'ch Ardaloedd Gweinidogaeth. Gras a thangnefedd i chwi oll.


Y Gwir Barchg Andy John
Esgob Bangor


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Lythyr yr Esgob a chyhoeddiadau esgobaethol

Cymraeg

A letter from the Bishop


For the Fourth Sunday after Trinity | 27 June 2021


Dear colleagues and friends

All grace and peace to you.


Let us pray

The weekly Bishop’s Letter begins with a call to prayer for a particular Ministry Area or activity within the diocese. My hope is that these prayers will also form part of intercessions across the diocese on Sunday.


Please continue to hold in prayer those ordained and licensed at Petertide services at our Cathedral.

Hugh Jones
ordained Priest and serve in the Ministry Area of Bro Tysilio

Rosalind Harrison
licensed as a Family Minister in the Ministry Area of Bro Tudno

Christine Jones
licensed as a Pioneer Minister in the Ministry Area of Bro Tudno

Victoria Ford
licensed as a Pastoral Minister in the Ministry Area of Bro Tudno

Sue Fogarty
licensed as a Pioneer Minister in the Ministry Area of Bro Enlli

Ceri Sheppard
licensed as an Evangelist in the Ministry Area of Bro Cyfeiliog a Mawddwy

Jan Webb
licensed as a Pastoral Minister in the Ministry Area of Bro Cadwaladr

Naomi Wood
licensed as a Family Minister in the Ministry Area of Bro Tysilio

Keith Wadcock
licensed as a Reader in the Ministry Area of Bro Gwydyr

Zoe Hobbs
licensed as a Family Minister in the Ministry Area of Bro Ystumanner

Debbie Peck
licensed as a Pioneer Minister in the Ministry Area of Bro Arwystli

Alison Sayes
licensed as a Family Minister in the Ministry Area of Bro Ystumanner

Fiona Covington-Mann
licensed as a Family Minister in the Ministry Area of Bro Ystumanner

Judy Freeman
licensed as a Family Minister in the Ministry Area of Bro Tysilio

I will be using the Bishop’s Letter in coming weeks to share the stories of those who have been newly licensed and ordained - and I hope that, through our prayers and their example, others will be inspired to hear God’s call and to step forward.


Almighty and everlasting God, by whose Spirit the whole body of the Church is governed and sanctified: hear our prayer which we offer for all your faithful people, that in their vocation and ministry they may serve you in holiness and truth to the glory of your name; through our Lord and Saviour Jesus Christ, who is alive and reigns with you in the unity of the Holy Spirit, God for ever and ever. Amen.


Coronavirus adaptations

An update to the national Church in Wales guidelines was published during the past week regarding congregational singing. May I encourage clerical colleagues to consult the guidance in detail before making any changes, and to pay particular attention to the local authority table of coronavirus prevalence.


The Very Revd Kathy Jones

Dean Kathy was appointed as Dean of Bangor Cathedral in 2015, before being installed in early 2016. 

In her interview, the mix of clear sightedness and strong pastoral instincts persuaded the interviewees that Kathy was the ideal person for the role. She would bring these gifts to the fore throughout her time. 

I am so pleased I can thank Kathy for her ministry across these five years. The role into which she stepped was one in which the newly formed Ministry Area of Bro Deiniol was in its infancy. Two of the city churches had recently closed and the Cathedral had experienced a period of conflict and soul searching. Throughout her time Kathy would be a catalyst for calm and healing. Her persistent and gentle care has resolved those challenges and allowed both Cathedral and Ministry Area to move forward. 

Alongside these shifts, Kathy has brought a renewed commitment to the wider community. The Cathedral has hosted numerous exhibitions, partnered with agencies and organizations and fostered strong relations with other faiths especially among the local Muslim community. Many of us will remember, following the terror attack against Christians in Sir Lanka during Easter 2019, local Muslims the following Sunday standing in solidarity outside the Cathedral with Christians gathered for worship. 

As part of the Bishops Council, Kathy has been an invaluable colleague whose wisdom and experience has enabled the diocese to take forward its commitment to our shared vision. Her experience in the Health Service shaped a spirituality in which the deep love of God for human life has expressed itself in shared worship and strategic planning. 

I am conscious that Kathy’s appointment to a new role outside the diocese creates a loss not only for me as Bishop and for my colleagues but within the Cathedral too. I am glad we are able to thank Kathy publicly on her final Sunday in the Cathedral at the end of the month following the Diocesan Ordinations and Licensings and wish her and Paul every happiness in their new home and community.


Pride and progress

As we near the end of Pride month, I want to reflect on the importance of standing side by side in solidarity and pride with our LGBTQI+ communities.

Now, more than ever, as hate crimes continue to impact the lives and God-given dignity of our siblings in Christ, people of all faiths and none need to acknowledge the harm done in our name and repent. Now is also the time to affirm and embrace the wonderful diversity of God’s created order, and to pledge to continue our work in challenging prejudice in our churches and wider communities. In doing so, we also honour the struggle by the LGBTQI+ communities to be safe and live their lives in all their fullness.

Pride is a joyful, defiant expression of progress, determination and love, and for all of this we give thanks.


Bro Cwyfan and Bro Madryn 

I was very glad to be able to license Vince Morris as the new Ministry Area Leader of Bro Cwyfan this past week. Please pray for Vince’s new ministry, and for the churches and communities of Bro Cwyfan as they discern God’s call to new mission and witness.

You can read more about Vince’s appointment here.

I am also glad that I am able to launch today the discernment process for a priest to succeed Richard Wood as Ministry Area Leader of Bro Madryn. Bro Madryn covers the north side of the Llŷn Peninsula, stretching from Llithfaen to Bryncroes. 

Full details of the appointment can be found here.

I’m very grateful to the people of Bro Madryn and the Archdeacon of Meirionnydd for drawing the profile together.

Please pray for all those many be discerning God’s call on their lives and ministry at this time, and for all who will take part in the discernment process over coming weeks.


Financial Review Forums

I remain hugely grateful to all who, whether through their personal generosity and sacrificial giving to the Church, or through the dedication of their time as treasurers and trustees, have helped Ministry Areas and the diocese as a whole to navigate a path through a financial storm these past few months. 

In March 2021, a Financial Review Forum was held by Zoom for each Archdeaconry, and these were helpful conversations. 

I am therefore convening similar Forums at the end of July. These will be opportunities:

  • to hear about the broad diocesan and provincial financial picture;
  • to hear from each Ministry Area about the current year, and share reflections, concerns and needs from each Ministry Area;
  • to ask questions and seek advice from the Archdeacon, the Diocesan Secretary, and from Owain Pritchard, our Director of Systems & Stewardship

The dates of the sessions are:

Tuesday 27 July at 10am
Archdeaconry of Meirionnydd Financial Review Forum

Tuesday 27 July at 2pm
Archdeaconry of Bangor Financial Review Forum

Wednesday 28 July at 10am
Archdeaconry of Anglesey Financial Review Forum

I’m expecting the forums to last for no more than an hour and a half.

May I ask Ministry Area Leaders to prioritise the Financial Review Forum in their diaries, and to encourage attendance by Ministry Area Treasurers and any other officeholder or MAC members from Ministry Areas who would like to be present.

The Zoom links and codes for the forums will be circulated to those on the Bishop’s Letter mailing list during the previous week. You can sign up to join that mailing list at the bottom of this page.


Diocesan noticeboard

  • As part of a new partnership between Cadw, the Roman Catholic Archdiocese of Cardiff and the Diocese of Bangor, I’m very pleased that the three organisations will be convening a learning and experience-sharing event on Zoom on Thursday 8 July 2021. Full details are in last week's Letter.
  • I am asking all licensed clergy to keep free the totality of their working days on Tuesday 14 September, Wednesday 15 September and Thursday 16 September 2021 for our Clergy Conference. On Tuesday 14 September, we will meet in person, and on Zoom the other two days.
  • If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Robert Jones.

Please remember you are prayed for each day in Ty’r Esgob: you, your families and Ministry Areas. Grace and peace to you all.


The Rt Revd Andy John
Bishop of Bangor


Subscribe to receive email notification of the Bishop's Letter and diocesan announcements