
Llythyr oddi wrth yr Esgob
Ar gyfer y Pumed Sul wedi'r Drindod | 4 Gorffennaf 2021
Annwyl gyfeillion
Pob gras a thangnefedd i chi.
Cyd-weddïwn
Mae Llythyr yr Esgob wythnosol yn dechrau gyda galwad i weddïo dros Ardal Weinidogaeth benodol neu weithgaredd yn yr esgobaeth. Fy ngobaith yw y bydd y gweddïau hyn hefyd yn rhan o ymbiliau ledled eglwysi'r esgobaeth y Sul.
Dduw pob un a phobia man, clyw ein gweddi dros yr esgobaeth hon fel y bydded i ni ganfod ffyrdd o gyhoeddi dy gariad, dy groeso a’th dangnefedd yn ein dydd.
Gweddïwn yr wythnos hon dros Ardal Weinidogaeth Bro Cadwaladr.
Gweddïwn:
dros y clerigion: y Parchg Ganon Emlyn Cadwaladr Williams, y Parchg Elizabeth Roberts; a'r curadiaid, y Parchg Nick Webb, y Parchg Andy Hughes
dros y rhai sydd â gweinidogaeth drwyddedig neu wedi’i chomisiynu: Mrs Glenys Stallwood (Darllenydd); Dr Ieuan Jones, Mr Edward Thomas (Arweinwyr Addoliad)
dros y meysydd o bryder ac o genhadaeth: yr Ysgol Eglwys, Ysgol Santes Dwynwen; yr Ysgol Sul yn Eglwys Cristiolus Sant; y mannau casglu ar gyfer y banc bwyd ym mhob un o’r eglwysi
Gofala am, a chynnal, mewn ffydd bawb sy’n cymryd rhan ym mywyd beunyddiol yr eglwysi, bawb sy’n chwilio am ffydd ddyfnach, a'r rhai sy’n mynd â neges yr efengyl allan i’r gymuned. Arwain a galluoga hwy drwy weddi dawel a gweithgaredd prysur. Gweddïwn hyn yn enw Iesu Grist. Amen.
Canolfan Frechu Bangor
Rwy'n falch iawn y bydd Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor yn cael ei defnyddio gan y GIG fel Canolfan Frechu.
Bydd y drws yn agor i groesawu’r chai sy'n cael eu brechu o’r wythnos hon ymlaen, ac rydym yn disgwyl i’r gwaith barhau yno tan ryw ben ym mis Medi.
Hyfrydwch a braint yw gweld y Gadeirlan, yng nghalon y ddinas, yn cael ei defnyddio fel hyn. Rwy'n ddiolchgar i bawb o fewn tîm y Gadeirlan- yn ogystal ag i gydweithwyr esgobaethol a thaleithiol - sydd wedi gweithio'n galed i alluogi i hyn ddigwydd mewn modd amserol.
Daliwch ati i gynnal pawb sy'n rhan o'r ymdrech frechu - ym Mangor a thu hwnt - yn eich gweddïau.
Addasiadau coronafirws
Ni fu unrhyw newidiadau yr wythnos ddiwethaf i'r canllawiau cenedlaethol.
Fodd bynnag, a gaf i barhau i alw sylw cydweithwyr at dabl mynychder coronafirws yr awdurdodau lleol. Mae angen mynychder coronafirws isel, sy'n golygu llai na 50 achos i bob 100,000 o bobl mewn cyfnod o saith diwrnod, cyn y gall canu cynulleidfaol ailddechrau.

Arweinydd Ardal Weinidogaeth newydd ar gyfer Bro Enlli
Rwy'n falch iawn o gyhoeddi penodiad y Parchg Rhun ap Robert yn Ficer ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Enlli, sy'n gwasanaethu cymunedau ochr ddeheuol Penrhyn Llos.
Ordeiniwyd Rhun yng Nghadeirlan Llandaf yn 2014, ac mae wedi gweinidogaethu yn Aberafan a Chastell-nedd, ond cafodd ei fagu yn Aberystwyth a Pwllheli. Mae'n dda, felly, gallu ei groesawu ef, a'i deulu ifanc, nôl adref i ogledd Cymru.
Gallwch ddarllen mwy am Rhun yma.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Archddiacon Andrew am y gwaith y mae wedi'i wneud fel Arweinydd Ardal Weinidogaeth ac Archddiacon dros nifer o flynyddoedd, ac yn enwedig dros y flwyddyn ddwys ddiwethaf. Wrth iddo ildio’i rôl fel Arweinydd Ardal Weinidogaeth, ar yr un pryd ag y daw’n uwch Archddiacon yng Nghymru, edrychaf ymlaen at bopeth sydd ganddo i’w roi i’r archddiaconiaeth, yr esgobaeth a’r dalaith dros y blynyddoedd i ddod.

Galwad Duw
Dros Ŵyl Bedr eleni yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor, nu imi ordeinio neu drwyddedu i weinidogaethu 14 o bobl ymroddedig, dawnus eu hordeinio neu eu trwyddedu i weinidogaethu.
Fe’u gelwir i “adeiladu corff Crist fel y cyrhaeddwn oll hyd at yr undod a berthyn i’r ffydd ac i adnabyddiaeth o Fab Duw” (Effesiaid 4).
Dyna’u tasg ar y cyd – ond mae gan bob un hefyd eu straeon personol eu hunain am alwad Duw ar eu bywydau.
O'r wythnos hon, byddaf yn rhannu rhai o'r straeon hynny trwy fy Llythyr.
Yr wythnos hon...

“Rwy’n edrych ymlaen at weld pethau’n dechrau eto. Ac mae cefnogaeth swyddogol gan y giaffar!”

“Cefais wahoddiad gan ffrind o’m dosbarth Cymraeg i fynd i’r eglwys. Yna aeth y ddwy ohonom i aros yn Enlli ac roedd hynny’n brofiad mor ddwys. Roeddwn i’n chwilio efo calon a meddwl agored ac yn meddwl y gallai rhywbeth ddigwydd ond wnaeth o ddim digwydd fel roeddwn i’n disgwyl iddo. Doedd dim llais o’r nefoedd, roedd yn llythrennol yn brofiad o deimlo ‘sylfaen fy modolaeth’ yn codi drwydda’ i. Gwyddwn bryd hynny fod yn rhaid imi gymryd hyn fwy o ddifrif.”

“Mae fy ffydd yn golygu popeth i mi. Dyna’r ‘yno’, dyna’r gwybod yna. Mae mor arbennig a phwysig gwybod y bydd Duw yn eich helpu. Dydw i’n ddim byd heb Dduw.”
Canllawiau ar y Cyfryngau Cymdeithasol
Wrth gyfarch y rhai a drwyddedodd ar Ŵyl Bedr, nododd Siars yr Esgob y dylent “gofio gwerth ymddiriedaeth eraill, a gwasanaethu Eglwys Crist â doethineb ac uniondeb.” Mae'r cyfrifoldeb hwn yn un ar ysgwyddau pob un ohonom sy'n rhannu yng ngweinidogaeth gyhoeddus a chynrychioliadol yr Eglwys.
Wrth i ni fyw mwy a mwy o'n bywydau yn ddigidol, rhaid i'n hymgysylltiad ar-lein hefyd fod yn ddibynadwy ac yn ddoeth. Mae'n dda atgoffa ein hunain bob hyn a hyn o Egwyddorion y Cyfryngau Cymdeithasol defnyddiol iawn sy'n rhan o Lawlyfr Clerigion yr Eglwys yng Nghymru.
Mae ymgysylltu dibynadwy a doeth ar-lein, yn wir, nid yn unig yn ddyletswydd weinidogol, ond yn rhan o fywyd beunyddiol Cristnogol, ac mae'n dda i bob un ohonom fyfyrio ar ein defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol ac ar ein perthnasoedd digidol.
Dwi'n dotio yn arbennig ar yr ail o Egwyddorion y Cyfryngau Cymdeithasol, ac yn cymeradwyo ei hanfod i bob un ohonom:
Byddwch garedig. Meddyliwch am ryngweithio ar y cyfryngau cymdeithasol fel sgwrs rhyngoch chi, Duw ac eraill. Byddwch glên wrth eraill a stiwardiwch eich presenoldeb ar-lein yn ofalus.

Treftadaeth adeiledd ein heglwysi
Fel y nodais yn fy Llythyr ar 19 Mehefin, fel rhan o bartneriaeth newydd rhwng Cadw, Archesgobaeth Gatholig Caerdydd ac Esgobaeth Bangor, bydd y tri sefydliad yn cynnull digwyddiad dysgu a rhannu profiad ar Zoom ddydd Iau yma 8 Gorffennaf 2021.
Mae agenda'r digwyddiad fel a ganlyn:
10.00am Trosolwg o Cadw
Gwydion Griffiths – Pennaeth Marchnata a Datblygu Twristiaeth Cadw
10.05am Drysau Agored ac Ymweliadau Rhithwir
Dr Ffion Reynolds – Rheolwr Treftadaeth a Chelfyddydau Cadw
10.35am Brand Cadw / Masnach Deithio / Digwyddiadau / Priodasau a Manwerthu
Zara Cottle – Uwch Reolwr Masnachol Cadw; Shuna Williams – Rheolwr Masnachol Cadw
11.05am Egwyl
11.15am Dehongli mewn safleoedd Cadw
David Penberthy – Pennaeth Dehongli Cadw
11.55am Trosolwg o sut mae Cadw yn marchnata ei wefannau: taflenni, cysylltiadau cyhoeddus, cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyrau, cyhoeddiadau ac yn ddigidol ar-lein
Ceri Thomas – Rheolwr Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus Cadw; Hayley Gunter – Swyddog Gwefan Cadw
12.25pm Diwedd
Bydd clicio ar y botwm isod yn mynd â chi i'r digwyddiad ar Zoom. Ni fydd eich camera na'ch meicroffon ymlaen - ni chewch eich gweld na'ch clywed - a gallwch chi alw heibio a mynd a dod fel y mynnwch chi er mwyn bod yn han o'r pethau sy'n benodol at eich dant.
Fodd bynnag, hoffwn eich hannog i gymryd diddordeb yn y digwyddiad, a gwahodd eraill i ymuno. Yn ogystal â bod â chyfrifoldeb, trwy ein system ffacwlti, am gynghori ar newidiadau i adeiladau rhestredig, mae Cadw hefyd yn warcheidwad nifer o safleoedd a strwythurau hanesyddol o bwys cenedlaethol, gan gynnwys cestyll gogledd-orllewin Cymru. Mae'n dda iawn, mewn partneriaeth ag Archesgobaeth Caerdydd, i fod yn rhan o'r cyfle hwn i ddysgu gan Cadw am eu gwaith arloesol, a myfyrio ar gymhwyso rhai o'r un technegau i'n gofal ni o'n hadeiladau eglwysig o bwys cenedlaethol.

Fforymau Adolygu Ariannol
Fel y nodais yn llythyr yr wythnos diwethaf, rwy’n cynnull Fforymau Adolygu Ariannol ddiwedd mis Gorffennaf.
Sylwch fod amser Fforwm Archddiaconiaeth Ynys Môn wedi'i newid.
Dyma felly'r amseroedd a gadarnhawyd:
Dydd Mawrth 27 Gorffennaf am 10am
Fforwm Adolygu Ariannol Archddiaconiaeth Meirionnydd
Dydd Mawrth 27 Gorffennaf am 2pm
Fforwm Adolygu Ariannol Archddiaconiaeth Bangor
Dydd Mercher 28 Gorffennaf am 7pm
Fforwm Adolygu Ariannol Archddiaconiaeth Ynys Môn
Bydd dolenni a chodau Zoom ar gyfer y fforymau yn cael eu cylchredeg i'r rhai ar restr bostio Llythyr yr Esgob yn ystod yr wythnos flaenorol. Gallwch chi gofrestru i ymuno â'r rhestr bostio honno ar waelod y dudalen hon.
Hysbysfwrdd esgobaethol

- Naomi Starkey, Arweinydd Ardal y Weinyddiaeth Bro Padrig, a arweiniodd Yr Oedfa ar Radio Cymru ddydd Sul diwethaf. Gallwch wrando eto yma.
- I'r rhai sy'n dymuno gwneud rhodd tuag at arwydd o'n gwerthfawrogiad i Kathy Jones am ei gweinidogaeth yn Deon, gellir gwneud cyfraniad ar-lein trwy gyfrif PayPal yr esgobaeth a gellir anfon sieciau, yn enw “Bwrdd Cyllid Esgobaeth Bangor”, at Ysgrifennydd yr Esgobaeth, Tŷ Deiniol, Clos y Gadeirlan, Bangor LL57 1RL. Raid derbyn cyfraniadau erbyd dydd Gwener 9 Gorffennaf.
- Rwy'n gofyn i bob clerig trwyddedig gadw'r cyfan o'u dyddiau gwaith yn rhydd ddydd Mawrth 14 Medi, dydd Mercher 15 Medi a dydd Iau 16 Medi 2021 ar gyfer ein Cynhadledd Glerigol. Byddwn yn cwrdd wyneb yn wyneb ar ddydd Mawrth 14 Medi, ac ar Zoom y deuddydd arall. Oherwydd y defnydd o'r Gadeirlan fel Canolfan Frechu, mae'n debyg y bydd sesiwn dydd Mawrth yn Llandudno.
- Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Robert Jones.
Cofiwch y gweddïir drosoch bob dydd yn Nhŷ'r Esgob: chi, eich teuluoedd a'ch Ardaloedd Gweinidogaeth. Gras a thangnefedd i chwi oll.
Y Gwir Barchg Andy John
Esgob Bangor
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Lythyr yr Esgob a chyhoeddiadau esgobaethol
A letter from the Bishop
For the Fifth Sunday after Trinity | 4 July 2021
Dear colleagues and friends
All grace and peace to you.
Let us pray
The weekly Bishop’s Letter begins with a call to prayer for a particular Ministry Area or activity within the diocese. My hope is that these prayers will also form part of intercessions across the diocese on Sunday.
All-encompassing God, hear our prayer for this diocese, that we may seek out ways to proclaim your love, welcome, and peace to all.
We hold in prayer this week the Ministry Area of Bro Cadwaladr.
We pray:
for the clergy: the Revd Canon Emlyn Cadwaladr Williams; the Revd Elizabeth Roberts; and the curates, the Revd Nick Webb, the Revd Andy Hughes
for those with a license or commissioned ministry: Mrs Glenys Stallwood (Reader); Dr Ieuan Jones and Mr Edward Thomas (Worship Leaders)
for the areas of concern and mission, among them: the Church School, Ysgol Santes Dwynwen; the Sunday School in St Cristiolus Church; the food bank collection points in all the churches
Watch over and uphold in faith all who take part in the day-to-day life of the churches, all seeking a deeper faith, and those who take the gospel message out into the community. Guide and enable them through quiet prayer and busy activity. This we pray in the name of Jesus Christ. Amen.
Bangor’s Vaccination Centre
I’m very pleased that St Deiniol's Cathedral in Bangor is going to be used by the NHS as a Vaccination Centre.
The door will open to welcome those to be vaccinated from this coming week, and we expect the work to continue there until some time in September.
It is a delight and a privilege to see the Cathedral, at the heart of the city, being used in this way. I am grateful to all within the Cathedral team - as well as to diocesan and provincial colleagues - who have worked hard to make this happen in a timely manner.
Please continue to hold all involved in the vaccination effort - in Bangor and beyond - in your prayers.
Coronavirus adaptations
There have been no changes this past week to the national guidance.
However, may I continue to call colleagues’ attention to the local authority table of coronavirus prevalence. Low coronavirus prevalence, meaning fewer than 50 cases per 100,000 people in a seven-day period, is required before congregational singing can resume.

A new Ministry Area Leader for Bro Enlli
I’m delighted to announce the appointment of the Revd Rhun ap Robert as Vicar & Ministry Area Leader of Bro Enlli, which serves the communities of the southern side of the Llŷn Peninsula.
Rhun was ordained at Llandaff Cathedral in 2014, and has ministered in Aberafan and Neath, but was brought up in Aberystwyth and Pwllheli. It’s good, therefore, to be able to welcome him, and his young family, home to north Wales.
You can read more about Rhun and his appointment here.
I would like to take this opportunity to thank Archdeacon Andrew for the work he has undertaken both as Ministry Area Leader and Archdeacon over a number of years, and especially over the past intense year. As he relinquishes his role as Ministry Area Leader, at the same time as he becomes the senior Archdeacon in Wales, I look forward to all he has to give to the archdeaconry, the diocese and the province over the years ahead.

Called by God
This Petertide at St Deiniol's Cathedral in Bangor, I ordained or licensed for ministry a total of 14 dedicated, gifted people from across the diocese.
They are called to “build up the body of Christ until all of us come to the unity of the faith and of the knowledge of the Son of God” (Ephesians 4).
That is their common task – but each also have their own personal stories about God’s call on their lives.
From this week, I will be sharing some of those stories through my Letter.
This week...

“I’m looking forward to things starting up again. And now there’s official backing from the boss!”

“I was invited by a friend from my Welsh class to go along to church. Then we both went to stay on Bardsey and that was so profound. I was looking with an open heart and mind and thought something might happen but it didn’t happen as I expected it to. It wasn’t a voice from above, it was literally experiencing the ‘ground of my being’ rising up through me. I knew then that I had to take this more seriously.”

“My faith means everything to me. It’s that ‘there’, it’s that knowing. It’s so special and important knowing that God will help you. I am nothing without God.”
Social Media Principles
To those licensed this Petertide, the Bishop’s Charge noted that “you must retain the trust of others, serving Christ’s Church with wisdom and integrity.” This responsibility weighs on all of us who share in the Church’s public and representative ministry.
As we live more and more of our lives digitally, our engagement online must also be trustworthy and wise. It is good to remind ourselves every now and then of the very useful Social Media Principles which form part of the Church in Wales’s Clergy Handbook.
Trustworthy and wise engagement online is, indeed, not only a ministerial duty, but part of Christian discipleship, and it is good for all of us to reflect on our use of social media and on our digital relationships.
I’m struck in particular by second of the Social Media Principles, and commend its essence to us all:
“Be kind. Think of social media interactions as a conversation between you, God and others. Treat others with kindness and steward your online presence with care.”

The heritage of places of worship
As I noted in my 19 June letter, as part of a new partnership between Cadw, the Roman Catholic Archdiocese of Cardiff and the Diocese of Bangor, a learning and experience-sharing event is taking place on Zoom this Thursday 8 July 2021.
The agenda for the event is as follows:
10.00am Overview of Cadw
Gwydion Griffiths – Cadw's Head of Marketing & Tourism Development
10.05am Open Doors and Virtual Visits
Dr Ffion Reynolds – Cadw's Heritage & Arts Manager
10.35am The Cadw brand / Travel Trade / Events / Weddings and Retail
Zara Cottle – Cadw's Senior Commercial Manager; Shuna Williams – Cadw's Commercial Manager
11.05am Break
11.15am Interpretation at Cadw sites
David Penberthy – Cadw's Head of Interpretation
11.55am Overview of how Cadw markets its sites: leaflets, PR, social media, newsletters, publications and digitally online
Ceri Thomas – Cadw's Marketing and PR Manager; Hayley Gunter – Cadw's Website Officer
12.25pm End
Clicking on the button below will take you into the event on Zoom. Neither your camera nor your microphone will be on - you won’t be seen or heard - and you can pop in and out as your interest takes you.
Do, please, though, take an interest in the event, and invite others to join. As well as having a responsibility, through our faculty system, to advise on changes to listed buildings, Cadw is also the guardian of a number of nationally important historic sites and structures, including the castles of north-west Wales. It is very good, in partnership with the Archdiocese of Cardiff, to be involved in this opportunity to learn from Cadw about their innovative work, and to reflect on applying some of the same techniques to our care of our nationally important church buildings.

Financial Review Forums
As I noted in last week’s letter, I am convening Financial Review Forums at the end of July.
Please note that the time of the Archdeaconry of Anglesey Forum has been changed.
The confirmed times are now therefore:
Tuesday 27 July at 10am
Archdeaconry of Meirionnydd Financial Review Forum
Tuesday 27 July at 2pm
Archdeaconry of Bangor Financial Review Forum
Wednesday 28 July at 7pm
Archdeaconry of Anglesey Financial Review Forum
The Zoom links and codes for the forums will be circulated to those on the Bishop’s Letter mailing list during the previous week. You can sign up to join that mailing list at the bottom of this page.
Diocesan noticeboard

- Naomi Starkey, the Ministry Area Leader of Bro Padrig, led Yr Oedfa (the Sunday service) on Radio Cymru last Sunday. You can listen again here.
- For those wishing to make a donation towards a token of our appreciation to Kathy Jones for her ministry at Dean, an online contribution can be made via the diocesan PayPal account and cheques can be sent, made out “Bangor Diocesan Board of Finance”, to The Diocesan Secretary, Tŷ Deiniol, Cathedral Close, Bangor LL57 1RL. Donations should be received by Friday 9 July.
- I am asking all licensed clergy to keep free the totality of their working days on Tuesday 14 September, Wednesday 15 September and Thursday 16 September 2021 for our Clergy Conference. On Tuesday 14 September, we will meet in person, and on Zoom the other two days. Because of the use of the Cathedral as a Vaccination Centre, Tuesday's session is likely to be in Llandudno.
- If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Robert Jones.
Please remember you are prayed for each day in Ty’r Esgob: you, your families and Ministry Areas. Grace and peace to you all.
The Rt Revd Andy John
Bishop of Bangor