minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Beuno Sant Uwch Gwyrfai | Ffynnon Beuno yng Nghlynnog Fawr | Beuno's Well in Clynnog Fawr | Llun Photo Explore Churches
English

Llythyr oddi wrth yr Esgob


Ar gyfer y Chweched Sul wedi'r Drindod | 11 Gorffennaf 2021


Annwyl gyfeillion

Pob gras a thangnefedd i chi.


Cyd-weddïwn

Mae Llythyr yr Esgob wythnosol yn dechrau gyda galwad i weddïo dros Ardal Weinidogaeth benodol neu weithgaredd yn yr esgobaeth. Fy ngobaith yw y bydd y gweddïau hyn hefyd yn rhan o ymbiliau ledled eglwysi'r esgobaeth y Sul.


Dduw pob un a phob man, clyw ein gweddi dros yr esgobaeth hon fel y bydded i ni ganfod ffyrdd o gyhoeddi dy gariad, dy groeso a’th dangnefedd yn ein dydd.

Gweddïwn yr wythnos hon dros Ardal Weinidogaeth Beuno Sant Uwch Gwyrfai.

Gweddïwn:

dros Dîm yr Ardal Weinidogaeth: y Parchg Daphne Hollings, y Parchg Peter James, Mr Vernon Owen (Darllenydd Emeritws)

dros y Wardeniaid: Mrs Sianelen Pleming, Mrs Shan Owen, Mr James Evans, Mrs Susan Tee Williams, Mrs Olga Thomas, Mrs Laurina Hughes, Mrs Kathleen Williams

dros y Trysoryddion: Mrs Diana Ewer, y Parchg Peter James, Mrs Eileen Price

Bydd gyda hwy a’u cynulleidfaoedd a’u cymunedau, rho ysbrydoliaeth ac arweiniad yn eu gobeithion a’u breuddwydion, wrth ymestyn allan ac yn eu cenhadaeth, ac yn enwedig dros:

ddirnadaeth o weledigaeth

apwyntio Arweinydd Ardal Weinidogaeth newydd

croeso a lletygarwch i ymwelwyr yng Nghlynnog Fawr yn ystod misoedd yr haf

Bydded i’r cyfan gael ei gynnig, ei roi a’i fyw yn enw Iesu Grist. Amen.


Addasiadau coronafirws

Ni fu unrhyw newidiadau yr wythnos ddiwethaf i'r canllawiau cenedlaethol.

Fodd bynnag, a gaf i barhau i alw sylw cydweithwyr at dabl mynychder coronafirws yr awdurdodau lleol. Mae angen mynychder coronafirws isel, sy'n golygu llai na 50 achos i bob 100,000 o bobl mewn cyfnod o saith diwrnod, cyn y gall canu cynulleidfaol ailddechrau.


Galwad Duw

Dros Ŵyl Bedr eleni yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor, bu imi ordeinio neu drwyddedu i weinidogaethu 14 o bobl ymroddedig, dawnus o bob cwr o'r esgobaeth. 

Dyma ragor o'u straeon personol nhw am alwad Duw ar eu bywydau.

“Dach chi wedi gweld y strapiau arddwn yna efo WWJD (What Would Jesus Do)? Dwi bob amser yn meddwl wrtha’ i’n hun WWJB – Where Would Jesus Be? Mi fyddai o yn yr eglwysi, byddai, ond mi fyddai o lle mae’r bobol, gan gynnwys y bobol ar y cyrion, sef yn y tafarnau a’r clybiau. Dyna fyddai o’n ei wneud rŵan.”

“Roeddwn i mor nerfus wrth ddechrau arwain Llanllanast. Mae’n beth mawr tydi, y cyfrifoldeb? Dydw i ddim yn un am waith crefft, ond daeth pobol eraill ymlaen â’r union sgiliau oedd eu hangen. Ac mi oedd o’n wych.”

“Dwi’n boen yn y pen ôl ac yn ddraenen yn yr ystlys! Dwi’n swnllyd ond dwi’n gobeithio fy mod i’n sensitif hefyd. Mae gen i gyswllt dwfn â lle dwi’n byw, dyna lle mae fy nghalon. Mae pobol yn bopeth i mi. Mae Duw wedi gwneud i mi deimlo fy mod yn cael fy ngharu gymaint a dwi am rannu hynny efo pobol eraill.”

Ein Harchifydd Esgobaethol newydd

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi penodiad Mrs Susan Ellis yn Archifydd Esgobaethol newydd.

Mae gofalu am gofnodion eglwys â gofal priodol, a gwneud y mwyaf o'r straeon y maent yn eu hadrodd am hanes ffydd yn ein heglwysi, yn dasgau pwysig.

Rwy’n ddiolchgar iawn i Susan am wirfoddoli ei hamser, ei harbenigedd a’i brwdfrydedd i’n cynorthwyo yn y maes hwn. Isod, mae Susan yn cyflwyno'i hun i ni.


Rwy’n falch iawn bod yr Esgob Andrew wedi fy mhenodi’n ddiweddar fel Archifydd Esgobaethol Anrhydeddus newydd Bangor. Mae hon yn swydd nad oedd rhai ohonoch efallai yn gwybod ei bod yn bodoli, gan ei bod wedi aros yn wag am yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn dilyn marwolaeth y diweddar Athro Tony Carr. Mae'n llawenydd mawr i mi allu dilyn yn ôl ei draed a chael cyfle i gynnig help i chi mewn swyddogaeth archifol.

Mae gen i fwy na 30 mlynedd o brofiad yn gweithio fel archifydd proffesiynol mewn Swyddfeydd Cofnodion Sirol yn Esgobaeth Bangor, y 24 olaf ohonyn nhw fel Archifydd Sirol Bwrdeistref Sirol Conwy. Rhaid imi gyfaddef bod cofnodion Eglwys yn annwyl iawn i'm calon! Mae ganddynt bwysigrwydd unigryw ac maent yn un o'r adnoddau mwyaf arwyddocaol ar gyfer astudio hanes Prydain, ar y gorau, gan ddarparu cofnod parhaus o ddigwyddiadau plwyf o'r 16eg ganrif ymlaen. Mae gen i hanes o ymrwymo i warchod dogfennau hanesyddol ac rydw i'n ymroddedig i sicrhau bod cofnodion bregus yn goroesi. Dros y 30 mlynedd diwethaf, bu datblygiadau sylweddol ym myd yr eglwys a'r archif, ac yn ystod yr amser hwnnw mae'r Eglwys yng Nghymru wedi safoni trefniadau ar gyfer gwaredu cofnodion plwyf ac esgobaeth, ac wedi cefnogi'r Swyddfeydd Cofnodion lleol i wella mynediad i gofrestrau digidol yn aruthrol.

Rwyf yma i'ch cynghori a'ch cefnogi mewn unrhyw faterion sy'n ymwneud â chofnodion eglwysig hanesyddol a mwy diweddar. Bydd hyn yn cynnwys cynrychioli Esgobaeth Bangor yn y rhwydwaith o Archifwyr Esgobaethol ledled Cymru, a'ch cynghori chi ar unrhyw ddatblygiadau newydd yn y byd archifau a allai effeithio ar gofnodion Eglwys yng Nghymru ac, yn wir, unrhyw ddatblygiadau mewn deddfwrfa a allai effeithio arnynt, megis Rheoliadau Cofrestru Priodasau 2021 newydd.

Trwy fy ngwaith yn y gorffennol, mae gen i nifer dda o gysylltiadau proffesiynol yn y byd archifau, sy'n golygu os na allaf eich helpu fy hun, gallwn adnabod rhywun a fydd. Gellir fy nghyrraedd trwy e-bost fan hyn.

Byddaf bob amser yn gwneud fy ngorau i'ch helpu ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi yn y dyfodol.

Mrs Susan C. Ellis, B.A., D.A.A.


Encil esgobaethol

Am nifer o flynyddoedd, rydym wedi trefnu encil esgobaethol ar gyfer clerigion a darllenwyr.

Gwn fod yr encil wedi cael ei gwerthfawrogi gan y rhai sydd wedi mynychu. Mae'n darparu amser bant o'r Ardal Weinidogaeth, ar gyfer ennyd o dawelwch ac i sgwrsio, i fod ar eich pen eich hun neu gydag eraill, i weddïo a myfyrio.

Fodd bynnag, rwyf hefyd yn ymwybodol bod y niferoedd sy'n mynychu wedi lleihau dros y blynyddoedd diwethaf, a bod cydweithwyr wedi gallu manteisio ar gyfleoedd eraill i encilio a myfyrio.

Rwyf wedi gofyn i Janet Fletcher adolygu'r ddarpariaeth o encil. A gaf felly wahodd fy nghydweithwyr clerigol, gweinidogion lleyg trwyddedig a chlerigwyr wedi ymddeol i gysylltu â Janet gyda'ch adborth am encil esgobaethol, ac a hoffech ei gweld yn parhau. Rwy’n croesawu adborth cadarnhaol a heriol, a’r mynegiant barn gonest.


Gweinidogaeth deulu awyr agored

Wrth i ni - fe obeithiwn - edrych ymlaen at fisoedd heulog o'n blaenau, ac wrth i ni barhau i lunio ein gweinidogaeth yn sgil y pandemig, mae'n dda ystyried y posibiliadau ar gyfer gweinidogaeth deulu awyr agored.

Gan ddefnyddio'r dudalen we Padlet sydd bellach yn gyfarwydd inni, mae platfform wedi ei greu i rannu syniadau da. Ychwanegwyd nifer eisoes - felly cymerwch gip, ac ychwanegwch eraill fel y gallwn ddysgu oddi wrth ein gilydd.


Cofrestru priodasau

Gan son am hyn am y tro olaf am beth amser (fe obeithiaf), mae'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol bellach wedi cyhoeddi ei Arweinlyfr ar gyfer y Clerigion, am briodasau, bedyddiadau a chladdedigaethau, sydd wedi'i ddiweddaru o ran yr holl newidiadau diweddar.


Finance Co-ordinator and My Fund Accounting . online

Mae grŵp taleithiol newydd sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob esgobaeth wedi bod yn cyfarfod dros y misoedd diwethaf i drafod a llunio newidiadau i'r penawdau incwm a gwariant sydd ar gael yn Finance Co-ordinator and MyFundAccounting.online - y feddalwedd gyfrifo a noddir gan esgobaeth ar gyfer Ardaloedd Gweinidogaeth.

Bydd Data Developments yn rhyddhau diweddariad i'r rhaglenni hyn yn ystod yr wythnosau nesaf a fydd yn arwain at sicrhau bod codau ychwanegol ar gael yn y penawdau incwm a gwariant, a bydd ychydig o godau presennol yn cael eu hailenwi'n benawdau mwy addas.

Dim ond pan fydd Finance Co-ordinator yn cael ei ddiweddaru y bydd yr ychwanegiadau hyn yn dod i rym; ond hyd yn oed ar ôl y diweddariad peidiwch â theimlo'r angen i ddefnyddio'r codau newydd gan ein bod hanner ffordd trwy flwyddyn ariannol. Bydd yr holl godau presennol yn dal i fod ar gael yn y rhaglen, ac oni bai bod rheswm dybryd i wneud fel arall, bydd yn synhwyrol parhau i ddefnyddio'r codau presennol eleni ac adolygu'r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn.


Hysbysfwrdd esgobaethol

  • Mae gwasanaeth diolchgarwch esgobaethol fel digwyddiad corfforol Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor ar gyfer aelodau Cynhadledd yr Esgobaeth yn cael ei gynllunio ar gyfer y dydd Sadwrn cyntaf ym mis Hydref, 2 Hydref 2021, dyddiad traddodiadol Cynhadledd yr Esgobaeth. Bydd mwy o fanylion yn cael eu cadarnhau yr wythnos nesaf, ond cadwch y dyddiad hwn yn rhydd mewn dyddiaduron.
  • Rwy'n gofyn i bob clerig trwyddedig gadw'r cyfan o'u dyddiau gwaith yn rhydd ddydd Mawrth 14 Medi, dydd Mercher 15 Medi a dydd Iau 16 Medi 2021 ar gyfer ein Cynhadledd Glerigol. Byddwn yn cwrdd wyneb yn wyneb ar ddydd Mawrth 14 Medi, ac ar Zoom y deuddydd arall. Oherwydd y defnydd o'r Gadeirlan fel Canolfan Frechu, mae'n debyg y bydd sesiwn dydd Mawrth yn Llandudno.
  • Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Robert Jones.

Cofiwch y gweddïir drosoch bob dydd yn Nhŷ'r Esgob: chi, eich teuluoedd a'ch Ardaloedd Gweinidogaeth. Gras a thangnefedd i chwi oll.


Y Gwir Barchg Andy John
Esgob Bangor


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Lythyr yr Esgob a chyhoeddiadau esgobaethol

Cymraeg

A Letter from the Bishop


For the Sixth Sunday after Trinity | 11 July 2021


Dear colleagues and friends

All grace and peace to you.


Let us pray

The weekly Bishop’s Letter begins with a call to prayer for a particular Ministry Area or activity within the diocese. My hope is that these prayers will also form part of intercessions across the diocese on Sunday.


All-encompassing God, hear our prayer for this diocese, that we may seek out ways to proclaim your love, welcome, and peace to all.

We hold in prayer this week the Ministry Area of Beuno Sant Uwch Gwyrfai. 

We pray:

for the Ministry Area Team: the Revd Daphne Hollings, the Revd Peter James, Mr Vernon Owen (Reader Emeritus)

for the Wardens: Mrs Sianelen Pleming, Mrs Shan Owen, Mr James Evans, Mrs Susan Tee Williams, Mrs Olga Thomas, Mrs Laurina Hughes, Mrs Kathleen Williams

for the Treasurers: Mrs Diana Ewer, the Revd Peter James, Mrs Eileen Price

Be with them and their congregations and communities, give inspiration and guidance in their hopes and dreams, in their outreach and mission; and particularly:

for the discernment of vision

for the appointment of a new Ministry Area Leader

for visitor welcome and hospitality at Clynnog Fawr during the summer months

that all may be offered, given, and lived out in the name of Jesus Christ. Amen.


Coronavirus adaptations

There have been no changes this past week to the national guidance.

However, may I continue to call colleagues’ attention to the local authority table of coronavirus prevalence. Low coronavirus prevalence, meaning fewer than 50 cases per 100,000 people in a seven-day period, is required before congregational singing can resume.


Called by God

This Petertide at St Deiniol's Cathedral in Bangor, I ordained or licensed for ministry a total of 14 dedicated, gifted people from across the diocese. 

Here are some more of their brilliant personal stories about God’s call on their lives.

“Have you seen those bands WWJD (What Would Jesus Do)? I always think to myself WWJB – Where Would Jesus Be? He would be in the churches, yes but he’d be where the people are, including the marginalised, and that would be the pubs and clubs. He’d be doing that now.”
“I was so nervous beginning to lead Messy Church. It’s a big thing isn’t it, the reponsibility? I’m not a craftsperson, but other people came along with just the right skills. And it was brilliant.”
“I’m a pain in the bottom and a thorn in the side! I’m loud but I hope I’m sensitive too. I’m deeply connected to where I live, it’s where my heart is for. People are my everything. God has made me feel so loved and I just want to share that with other people.”

Our new Diocesan Archivist

I am delighted to announce the appointment of Mrs Susan Ellis as our new Diocesan Archivist.

The proper maintenance and care of church records, and making the most of the stories they have to tell about the history of faith in our churches, are important tasks.

I am very very grateful to Susan for volunteering her time, expertise and enthusiasm to assist us in this area. Below, Susan introduces herself to us.


I am very pleased that Bishop Andrew recently appointed me as the new Honorary Diocesan Archivist for Bangor. This is a position that some of you may not have known existed, since it has remained vacant for the past few years following the death of the late Professor Tony Carr. It is a great joy to me to be able to follow in his illustrious footsteps and to have the opportunity to offer help to you in an archival capacity.

I have more than 30 years’ experience working as a professional archivist in County Record Offices within the Bangor Diocese, the last 24 of them as the County Archivist for Conwy County Borough. I must confess that Church records are very dear to my heart! They possess a unique importance and constitute one of the most significant resources for a study of British history, at the best, providing a continual record of parish events from the 16th century onwards. I have a proven track-record of commitment to the preservation of historic documents and am dedicated to ensuring that vulnerable records survive. Over the past 30 years there have been significant developments in the worlds of both church and archive, during which time the Church in Wales has standardised arrangements for the disposition of parish and diocesan records, and has supported the local Record Offices in hugely improving digital access to registers.

I am here to advise and support you in any matters relating to historic and more recent non-current church records. This will include representing the Diocese of Bangor in the Wales-wide network of Diocesan Archivists, and advising you on any new developments in the archive world that might impact upon Church in Wales records and, indeed, any developments in legislature that might impact upon them, such as the new Registration of Marriages Regulations 2021.

Through my past work, I have a good number of professional contacts in the archive world, which means that if I cannot help you myself, I could know someone who will. I can be reached by email here.

I will always do my best to help you and look forward to working with you in the future.

Mrs Susan C. Ellis, B.A., D.A.A.


Diocesan retreat

For a number of years, we have arranged a diocesan retreat for clergy and readers.

I know that the retreat has been valued by those who have attended. It provides a time away from the Ministry Area, for quietness and for conversation, to be alone or with others, to pray and reflect; it can be a time for yourself and your own renewal and refreshment. 

However, I am also aware that the numbers attending have reduced over recent years, and that colleagues have been able to avail themselves of other opportunities for retreat and reflection.

I have asked Janet Fletcher to review the provision of a retreat. May I therefore invite my clergy colleagues, licensed lay ministers and retired clergy to contact Janet with your reflections on the diocesan retreat, and whether you would like to see it continue. I welcome both positive and challenging feedback, and the honest expression of opinion.


Open air family ministry

As we - hopefully - look forward to sunny months ahead, and as we continue to shape our ministry in the wake of the pandemic, it’s good to consider the possibilities for outdoor family ministry.

Using the now familiar Padlet webpage, we have established a platform to share good ideas. A number have already been added - so please take a look, and add others so that we might learn from one another.


Registration of marriages

In what I hope is the final word on the registration of marriages for some time, the General Register Office has now published its updated Guidebook for the Clergy on marriages, baptisms and burials, which takes account of all the recent changes.


Finance Co-ordinator and My Fund Accounting . online

A new provincial group made up of representatives of each diocese has been meeting over the last several months to discuss and formulate changes to the income and expenditure headings available in Finance Co-ordinator and MyFundAccounting.online - the diocesan-sponsored accounting software for Ministry Areas.

Data Developments will be releasing an update to these programs in the next few weeks which will result in extra codes being made available in the income and expenditure headings, and a few existing codes will be renamed to more suitable headings.

These additions will only take effect when Finance Co-ordinator is updated; but even after the update please do not feel the need to use the new codes since we are half way through a financial year. All existing codes will still be available in the program, and unless there is a pressing reason to do otherwise, it will be sensible to continue to use the existing codes this year and review the position at the year’s end.


Diocesan noticeboard

  • An in-person diocesan thanksgiving service at St Deiniol's Cathedral in Bangor for Diocesan Conference members is being planned for the first Saturday in October, 2 October 2021, the traditional date for the Diocesan Conference. More details will be confirmed next week, but please keep this date free in diaries.
  • I am asking all licensed clergy to keep free the totality of their working days on Tuesday 14 September, Wednesday 15 September and Thursday 16 September 2021 for our Clergy Conference. On Tuesday 14 September, we will meet in person, and on Zoom the other two days. Because of the use of the Cathedral as a Vaccination Centre, Tuesday's session is likely to be in Llandudno.
  • If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Robert Jones.

Please remember you are prayed for each day in Ty’r Esgob: you, your families and Ministry Areas. Grace and peace to you all.


The Rt Revd Andy John
Bishop of Bangor


Subscribe to receive email notification of the Bishop's Letter and diocesan announcements