
Llythyr oddi wrth yr Esgob
Ar gyfer Gŵyl Iago | 25 Gorffennaf 2021
Annwyl gyfeillion
Pob gras a thangnefedd i chi.
Cyd-weddïwn
Mae Llythyr yr Esgob wythnosol yn dechrau gyda galwad i weddïo dros Ardal Weinidogaeth benodol neu weithgaredd yn yr esgobaeth. Fy ngobaith yw y bydd y gweddïau hyn hefyd yn rhan o ymbiliau ledled eglwysi'r esgobaeth y Sul.
Dduw pob un a phob man, clyw ein gweddi dros yr esgobaeth hon fel y bydded i ni ganfod ffyrdd o gyhoeddi dy gariad, dy groeso a’th dangnefedd yn ein dydd.
Gweddïwn yr wythnos hon dros Ardal Weinidogaeth Bro Eleth.
Gweddïwn dros rhai sy'n gwasanaethu yno, yn eu plith y Parchg Kevin Ellis, y Parchg Pauline Jones, Vaughan Prytherch (Darllenydd), Peter Day (Darllenydd Emeritws).
Bydd gyda hwy a’u cynulleidfaoedd a’u cymunedau; rho ysbrydoliaeth ac arweiniad yn eu gobeithion a’u breuddwydion, wrth ymestyn allan ac yn eu cenhadaeth, ac yn enwedig:
y bydd perthynasau gydag ysgolion lleol yn cael eu hail gynnau wrth i ni ddod allan o’r pandemig
dros feithrin diwylliant o groeso a lletygarwch ym mhob cynulleidfa
dros ddymuniad i fod yn fwy bodlon rannu’n ffydd gyda ffrindiau, cymdogion a theulu.
Bydded i’r cyfan gael ei gynnig, ei roi a’i fyw yn enw Iesu Grist. Amen.
Addasiadau coronafirws
Mae'r canllawiau ar y wefan genedlaethol bellach wedi'u diweddaru'n llawn i ystyried rheoliadau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhybudd Lefel 1.
Fel y mae'r canllawiau'n eu nodi:
- Yn gyffredinol, rydym yn cefnogi bod yn bwyllog. Mae cynnal rhagofalon a threfniadau gwasanaeth presennol yn ymddangos yn ddoeth ar hyn o bryd.
- Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gynghori y dylid ystyried canu cynulleidfaol dim ond pan fo nifer yr achosion o'r firws yn isel, ond nid ydyn nhw bellach yn diffinio beth yw ystyr ‘isel’. Yr awgrym gwreiddiol oedd 50 achos mewn 100,000 o'r boblogaeth ond mae holl ardaloedd awdurdodau lleol yn uwch na'r lefel hon ar hyn o bryd. Dylai Ardaloedd Gweiniddogaeth ystyried cyngor Llywodraeth Cymru yn ofalus ar ganu cynulleidfaol yn eu cyd-destun lleol.
- Mae'n bwysig pwysleisio i gynulleidfaoedd a mynychwyr nad yw'r cyfyngiadau yng Nghymru wedi cael eu llacio cymaint ag yn Lloegr eto.
- Dylem gofio ei bod yn debygol y bydd rheoliadau Lefel Rhybudd 0 yn cael eu cyflwyno'n llawn ar 7 Awst.

Galwad Duw
Dros Ŵyl Bedr eleni yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor, bu imi ordeinio neu drwyddedu i weinidogaethu 14 o bobl ymroddedig, dawnus o bob cwr o'r esgobaeth.
Dyma ragor o'u straeon personol nhw am alwad Duw ar eu bywydau.

“Mater o rannu doniau ydi o a dylanwadu ar eraill, heb yn wybod weithiau. Eich ffydd eich hun yn dyfnhau a chithau’n dod yn fwy ymwybodol o’r angen i fod mewn cymuned, nid bod yn annibynnol ond yn rhyng-ddibynnol. Mae’n fater o greu cyfle i bobol archwilio lle maen nhw efo Duw a beth all Duw fod yn ei ddweud wrthyn nhw.”

“Mae’n dda gweddïo a cheisio arweiniad Duw. Gofynnwch i bobol eraill weddïo efo chi am y peth fel y byddwch yn gwybod ei fod o’n dod oddi wrth Dduw ac nid eich agenda chi’ch hun a gwnewch yn siŵr ei fod am y rhesymau iawn.”

“Fy ffydd i yw’r rheswm y galla i obeithio. Ni waeth beth sy’n digwydd, waeth pa mor ddrwg bynnag y mae pethau’n mynd, hyd yn oed pan fydda i’n teimlo filiwn o filltiroedd i ffwrdd oddi wrth Dduw dwi’n gwybod na fydd ei law byth yn fy ngollwng.”

Yno ac acw
Wrth i gyfyngiadau leddfu, ac wrth i elfennau o'n bywyd ar y cyd sydd wedi’u hatal dros dro ddechrau adfywio, roedd yn dda clywed bod Gŵyl Tysilio wedi gallu bwrw ymlaen yn gynharach y mis hwn, er fel digwyddiad undydd, ar Ynys Tysilio yn Ardal Weinidogaeth Bro Tysilio.
Rwyf hefyd am ganmol y ffilm nodedig a gynhyrchwyd gan Gyfeillion Ynys Tysilio i nodi canmlwyddiant cysegru'r Gofeb Ryfel ar yr ynys. Ffrwyth yw'w cynhyrchiad o'r rhwystredigaeth o beidio gallu ymgynnull yn gorfforol ar ddiwrnod y y canmlwyddiant ym mis Ebrill eleni.
A gaf i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sy'n gweithio mor galed ar hyn o bryd i agor ein heglwysi ac i gynnig croeso cynnes i ffrindiau, ymwelwyr a phererinion sy'n dychwelyd atom, ac i bawb sy'n adeiladu ar y dulliau cenhadu newydd yr ydym wedi'u datblygu dros y flwyddyn aeth heibio.

Fforymau Adolygu Ariannol
Fel y nodais yn llythyr ddiwedd mis Mehefin, rwy’n cynnull Fforymau Adolygu Ariannol ddiwedd y mis hwn:
Dydd Mawrth 27 Gorffennaf am 10am
Fforwm Adolygu Ariannol Archddiaconiaeth Meirionnydd
Dydd Mawrth 27 Gorffennaf am 2pm
Fforwm Adolygu Ariannol Archddiaconiaeth Bangor
Dydd Mercher 28 Gorffennaf am 7pm
Fforwm Adolygu Ariannol Archddiaconiaeth Ynys Môn
Bydd dolenni a chodau Zoom ar gyfer y fforymau yn cael eu cylchredeg i'r rhai ar restr bostio Llythyr yr Esgob maes o law. Gallwch chi gofrestru i ymuno â'r rhestr bostio honno ar waelod y dudalen hon.
Hysbysfwrdd esgobaethol

- Mae cyfarfod arbennig o Grŵp Elen yn cael ei gynnull ddydd Mawrth 27 Gorffennaf i glywed am Brosiect Glöynnod Byw Conwy. Gallwch gael cipolwg ar y prosiect cyffrous hwn yma. Rhannwch hwn gydag eraill yn eich ardal chi ac, os hoffech chi fod yn bresennol yn y sesiwn Zoon hon, cysylltwch â Naomi Wood.
- Mae gwasanaeth diolchgarwch esgobaethol fel digwyddiad corfforol Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor ar gyfer aelodau Cynhadledd yr Esgobaeth yn cael ei gynllunio ar gyfer y dydd Sadwrn cyntaf ym mis Hydref, 2 Hydref 2021, dyddiad traddodiadol Cynhadledd yr Esgobaeth. Bydd mwy o fanylion yn cael eu cadarnhau maes o law, ond cadwch y dyddiad hwn yn rhydd mewn dyddiaduron.
- Rwy'n gofyn i bob clerig trwyddedig gadw'r cyfan o'u dyddiau gwaith yn rhydd ddydd Mawrth 14 Medi, dydd Mercher 15 Medi a dydd Iau 16 Medi 2021 ar gyfer ein Cynhadledd Glerigol. Byddwn yn cwrdd wyneb yn wyneb ar ddydd Mawrth 14 Medi, ac ar Zoom y deuddydd arall. Oherwydd y defnydd o'r Gadeirlan fel Canolfan Frechu, mae'n debyg y bydd sesiwn dydd Mawrth yn Llandudno.
- Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Robert Jones.
Cofiwch y gweddïir drosoch bob dydd yn Nhŷ'r Esgob: chi, eich teuluoedd a'ch Ardaloedd Gweinidogaeth. Gras a thangnefedd i chwi oll.
Y Gwir Barchg Andy John
Esgob Bangor
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Lythyr yr Esgob a chyhoeddiadau esgobaethol
A Letter from the Bishop
For the Feast of Saint James | 25 July 2021
Dear colleagues and friends
All grace and peace to you.
Let us pray
The weekly Bishop’s Letter begins with a call to prayer for a particular Ministry Area or activity within the diocese. My hope is that these prayers will also form part of intercessions across the diocese on Sunday.
All-encompassing God, hear our prayer for this diocese, that we may seek out ways to proclaim your love, welcome, and peace to all.
We hold in prayer this week the Ministry Area of Bro Eleth.
We pray for all who serve there, among them the Revd Kevin Ellis, the Revd Pauline Jones, Vaughan Prytherch (Reader), Peter Day (Reader Emeritus).
Be with them and their congregations and communities; give inspiration and guidance in their hopes and dreams, in their outreach and mission; and particularly we pray:
that relationships with local schools will be rekindled as we emerge from the pandemic
for the nurturing of a culture of welcome and hospitality in each congregation
for a desire to more willingly share our faith with friends, neighbours, and family
for the gifts of discernment and wisdom as the ordained leadership of the Ministry Area changes
that all may be offered, given, and lived out in the name of Jesus Christ. Amen.
Coronavirus adaptations
The guidance on the national website has now been fully updated to take account of the latest Welsh Government regulations for Alert Level 1.
As the guidance notes:
- Generally, we support a cautious approach. Maintaining existing precautions and service arrangements seems a sensible approach at this time.
- Welsh Government continues to advise that congregational singing should only be considered where incidence of Coronavirus cases are low but they no longer define what ‘low’ means. The original suggestion was 50 cases in 100,000 of population but all local authority areas are currently above this level. Ministry Areas should carefully consider the Welsh Government advice on congregational singing in their local context.
- It is important to emphasise to congregations and attendees that the restrictions in Wales have not yet been relaxed as much as in England.
- We should bear in mind that it is likely that Alert Level 0 regulations will be fully introduced on 7 August.

Called by God
This Petertide at St Deiniol's Cathedral in Bangor, I ordained or licensed for ministry a total of 14 dedicated, gifted people from across the diocese.
Here are some more of their brilliant personal stories about God’s call on their lives.

“It’s passing on the baton and the people you influence, without knowing it sometimes. It’s your own faith deepening and becoming more aware of the need to be in a community and not be independent but inter-dependant. It’s creating a space where people can just explore where they are at with God and what can God be saying.”

“It’s good to pray and seek God’s guidance. Have others pray with you about it so that you know it’s from God and not your own agenda and make sure it’s for the right reasons.”

“My faith is the reason I can hope. No matter what is happening, however bad things get, even when I feel a million miles from God I know his hand will never let me go.”

On-line and on site
As restrictions ease and some elements of life that have been suspended for some time begin to come alive again, it was good to hear that the Gŵyl Tysilio Festival had been able to go ahead, albeit as a one-day event, earlier this month on Church Island in the Ministry Area of Bro Tysilio.
I also want to commend the wonderful film produced by the Friends of Church Island, to mark the centenary of the consecration of the War Memorial on the island - the production of which was inspired by us not being able to gather in person on the day of the centenary in April this year.
May I take this opportunity to thank all who are working so hard at the moment to open our churches and to offer a warm welcome to returning friends, visitors and pilgrims, and to all who are building on the new missional capabilities that we have developed over the last year and more.

Financial Review Forums
As I noted last month, I am convening Financial Review Forums at the end of this month:
Tuesday 27 July at 10am
Archdeaconry of Meirionnydd Financial Review Forum
Tuesday 27 July at 2pm
Archdeaconry of Bangor Financial Review Forum
Wednesday 28 July at 7pm
Archdeaconry of Anglesey Financial Review Forum
The Zoom links and codes for the forums will be circulated to those on the Bishop’s Letter mailing list shortly. You can sign up to join that mailing list at the bottom of this page.
Diocesan noticeboard

- A special meeting of Grŵp Elen is being convened on Tuesday 27 July to hear about Conwy’s Butterfly Project. You can get a glimpse of this exciting project here. Please do share this with others in your area and, if you’d like to be present at this Zoom session, please contact Naomi Wood.
- An in-person diocesan thanksgiving service at St Deiniol's Cathedral in Bangor for Diocesan Conference members is being planned for the first Saturday in October, 2 October 2021, the traditional date for the Diocesan Conference. More details will be confirmed shortly, but please keep this date free in diaries.
- I am asking all licensed clergy to keep free the totality of their working days on Tuesday 14 September, Wednesday 15 September and Thursday 16 September 2021 for our Clergy Conference. On Tuesday 14 September, we will meet in person, and on Zoom the other two days. Because of the use of the Cathedral as a Vaccination Centre, Tuesday's session is likely to be in Llandudno.
- If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Robert Jones.
Please remember you are prayed for each day in Ty’r Esgob: you, your families and Ministry Areas. Grace and peace to you all.
The Rt Revd Andy John
Bishop of Bangor