
Llythyr oddi wrth yr Esgob
Ar gyfer y Nawfed Sul wedi’r Drindod | 1 Awst 2021
Annwyl gyfeillion
Pob gras a thangnefedd i chi.
Cyd-weddïwn
Mae Llythyr yr Esgob wythnosol yn dechrau gyda galwad i weddïo dros Ardal Weinidogaeth benodol neu weithgaredd yn yr esgobaeth. Fy ngobaith yw y bydd y gweddïau hyn hefyd yn rhan o ymbiliau ledled eglwysi'r esgobaeth y Sul.
Dduw pob un a phob man, clyw ein gweddi dros yr esgobaeth hon fel y bydded i ni ganfod ffyrdd o gyhoeddi dy gariad, dy groeso a’th dangnefedd yn ein dydd.
Gweddïwn yr wythnos hon dros Ardal Weinidogaeth Bro Padrig, ac yn arbennig felly:
dros y Parchg Naomi Starkey (Arweinydd yr Ardal Weinidogaeth);
dros Mary Hughes a Ros Wynne (Wardeiniaid yr Ardal Weinidogaeth)
dros Betty Edwards a Mike Thompson (Arweinwyr Addoliad)
dros y meysydd o bryder ac o genhadaeth, ac yn arbennig felly:
dros ddatblygiad llyfn proses Ezra
dros batrwm newydd o wasanaethau ledled yr Ardal Weinidogaeth
dros ddoethineb i wybod pa rai o'r posibiliadau pryderus sydd, mewn gwirionedd, yn flaenoriaethau ar hyn o bryd!
Gofala am, a chynnal, mewn ffydd bawb sy’n cymryd rhan ym mywyd beunyddiol yr eglwysi, bawb sy’n chwilio am ffydd ddyfnach, a phawb sy’n mynd â neges yr efengyl allan i’r gymuned. Arwain a galluoga hwy drwy weddi dawel a gweithgaredd prysur. Gweddïwn hyn yn enw Iesu Grist. Amen.
Addasiadau coronafirws
Ni fu unrhyw newidiadau yr wythnos hon i'r canllawiau ar y wefan genedlaethol, sydd eisioes yn ymgorffori rheoliadau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer Lefel Rhybudd 1. Fodd bynnag, mae disgwyl canllawiau newydd dros y dyddiau nesaf wrth inni symud tuag at Lefel Rhybudd 0.

Galwad Duw
Dros Ŵyl Bedr eleni yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor, bu imi ordeinio neu drwyddedu i weinidogaethu 14 o bobl ymroddedig, dawnus o bob cwr o'r esgobaeth.
Dyma ragor o'u straeon personol nhw am alwad Duw ar eu bywydau.

“Mae dim ond bod yn ddiolchgar yn gwneud i mi sylweddoli pa mor lwcus ydyn ni, i fod â chymaint o ddaioni yn ein bywydau, i fod â ffydd, i gael Iesu’n cerdded wrth ein hochor ni ac i fod â Duw sy’n ein caru. Mae gennym gymaint o ddaioni yn ein bywydau y dylen ni ei rannu a’i drosglwyddo i eraill.”

“Dwi’n edrych ymlaen at allu mynd at y cymunedau lleol a gofyn iddyn nhw, ‘Beth allwn ni, yr Eglwys, ei wneud i chi?’ Bydd angen llawer o iacháu wrth i ni ddod allan o’r pandemig. Dydw i ddim yn gwybod beth ydy’r atebion a dwi ddim yn gwybod beth dwi’n mynd i’w wneud ond dwi’n edrych ymlaen at ei wneud.”

Cynhadledd yr Esgobaeth 2021
Rydym wrthi'n cynllunio Cynhadledd yr Esgobaeth eleni yn ystod cyfnod o ansicrwydd parhaus, ond yn y gobaith y bydd hi'n bosibl yn yr hydref inni ymgynnull o bob rhan o'r esgobaeth am y tro cyntaf mewn dros ddeunaw mis. Rydym hefyd yn gallu cynllunio yng ngoleuni blwyddyn o arbrofi gyda gwahanol ddulliau o gynnull ac ymddiddan.
Fy ngobaith yw y gall Cynhadledd yr Esgobaeth eleni felly ganiatáu inni nodi'r foment hon o newid a throsglwyddo, a hefyd i adeiladu ar yr hyn yr ydym wedi byw drwyddo a'i gyflawni gyda'n gilydd dros yr amser hwn o bandemig.

Cynhadledd yr Esgobaeth 2021: ar Zoom
Rhwng 7pm ac 8.30pm ddydd Llun 27 Medi 2021, rwy’n cynnull sesiwn Zoom o Gynhadledd yr Esgobaeth.
Fy adborth ar sesiynau Cynhadledd yr Esgobaeth am Zoom y llynedd yw eu bod wedi darparu llwyfan ddefnyddiol a phoblogaidd ar gyfer trafod busnes ac ar gyfer gwrando gan ei gilydd.
Yn y trafodaethau a ddilynodd fy Anerchiad Arlywyddol, roeddem yn gallu clywed gan lawer mwy o bobl nag a oedd yn arferol pan yr oeddem yn cyfarfod mewn neuadd fawr yn gorfforol.
Ar ben hynny, roedd mwy o bobl yn bresennol nag a fu yn achos sesiynau corfforol diweddar Cynhadledd yr Esgobaeth.
Felly, byddwn yn cadw’r ffwrd Zoom o Gynhadledd yr Esgobaeth eleni.

Cynhadledd yr Esgobaeth 2021: yn y Gadeirlan
Pa mor effeithiol bynnag y mae cyfarfod Zoom ar gyfer rhai materion, gresyn inni fethu am ymgynnull fel Corff Crist o bob cwr o'r esgobaeth, wedi ein huno mewn un lle mewn gweddi ac addoliad.
Rwyf felly, am 2pm ddydd Sadwrn 2 Hydref (y dyddiad hirsefydlog ar gyfer Cynadleddau’r Esgobaeth), yn cynnull cyfarfod Ewcharistaidd o Gynhadledd yr Esgobaeth yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor.
Hwn fydd y cyfle cyntaf i glerigion a lleygwyr o bob rhan o'r esgobaeth ymgynnull ers Cynhadledd yr Esgobaeth yn 2019, a bydd yn briodol y byddwn yn gwneud hynny mewn addoliad a gweddi - er y bydd hefyd yn angenrheidiol inni ymwneud â peth busnes na ellir ei drafod ar-lein.
Bydd lluniaeth ysgafn ar gael ar ôl y gwasanaeth, yr wyf yn disgwyl iddo bara oddeutu 90 munud.
Byddwn yn ymgynnull ar gyfer y Cymun Bendigaid, lle byddaf yn traddodi fy Anerchiad Arlywyddol, yn ystod tymor y Diolchgarwch. Bydd llawer eleni i'w gynnig i Dduw - pryderon, poen a galar yr unfed mis ar bymtheg diwethaf, yn ogystal â'n diolchgarwch am waith caled ac aberth cymaint o bobl ac am y bendithion niferus a dderbyniwyd gan gynifer ohonom.
Mae aelodaeth ffurfiol Cynhadledd yr Esgobaeth i gynnwys tri chynrychiolydd lleyg o bob Ardal Weinidogaeth, hyd at dri gweinidog lleyg trwyddedig o bob Ardal Weinidogaeth, a phob clerig trwyddedig. Fodd bynnag, mae croeso cynnes i unrhyw aelod yng nghymundeb yr esgobaeth fynychu, a fy ngobaith yw na fydd angen cyfyngu ar nifer y mynychwyr.
Fodd bynnag, mae angen cofrestru ymlaen llaw. Gwnewch hynny trwy'r dolenni isod. Bydd manylion pellach yn cael eu hanfon yn ystod mis Medi.
Cyfeiriadau e-bost Eglwys yng Nghymru a defnydd o feddalwedd Microsoft 365
Rwy'n ddiolchgar i gydweithwyr yn nhîm TG y dalaith am ein galluogi i sicrhau bod cyfeiriadau e-bost Eglwys yng Nghymru a defnydd o feddalwedd Microsoft 365 ar gael i glerigion trwyddedig yn yr esgobaeth yn rhad ac am ddim.
Bydd hyn yn golygu y bydd gan bob clerig trwyddedig defnydd o gyfrif e-bost sy'n diweddu @eglwysyngnghymru.org.uk ac @churchinwales.org.uk (y cyfeiriadau Cymraeg a Saesneg sy'n llifo i'r un cyfrif), a hefyd i'r fersiynau diweddaraf o raglenni Microsoft 365 (gan gynnwys Word, Excel, Outlook a PowerPoint). Mae'n bosibl sefydlu cyfeiriadau e-bost clerigwyr @eglwysyngnghymru.org.uk ac @churchinwales.org.uk i anfon e-byst yn awtomatig i gyfrif arall, fel, hyd yn oed os nad yw clerig yn dymuno defnyddio'r cyfrif e-bost, bydd y cyfeiriad e-bost yn dal i allu cael ei ddefnyddio gan gydweithwyr esgobaethol a thaleithiol i gysylltu.
Rwy'n gwybod pa mor heriol y gall newidiadau TG fod. Fodd bynnag, mae manteisio ar y ddarpariaeth newydd hon ag iddo nifer o fuddion, yn anad dim mynediad i'r fersiwn ddiweddaraf o feddalwedd Microsoft sydd fel arall yn ddrud, a chyfeiriad e-bost “ar gyfer y weinidogaeth” sy'n cydymffurfio â GDPR. Rwyf i, ynghyd â'r Archddiaconiaid ac aelodau Tîm Deiniol, wedi bod yn defnyddio'r cyfrifon e-bost a meddalwedd Microsoft 365 ers cryn amser bellach, ac rwyf am argymell y ddarpariaeth hon i'm cydweithwyr clerigol.
Bydd Robert Jones yn cysylltu â chlerigion yn unigol yn ystod mis Awst a mis Medi i gyflwyno'r ddarpariaeth newydd. Bydd Robert, ynghyd â chydweithwyr o Ddesg Gymorth TG y dalaith, yn gallu ateb cwestiynau a gwneud addasiadau priodol i'r ddarpariaeth i weddu i anghenion a gofynion unigol.
Gobeithio y bydd hwn yn gam cadarnhaol ymlaen i ni. Peidiwch ag oedi cyn bod mewn cysylltiad â Robert neu'r Archddiaconiaid gydag ymholiadau neu bryderon ar hyn o bryd.
Corff Llywodraethol
Bydd cyfarfod o'r Corff Llywodraethol yn cael ei gynnal ar 6-7 Medi. Ymhlith yr eitemau i'w trafod bydd Bil i Awdurdodi a Rheoleiddio Mân Amrywiadau i Litwrgïau Awdurdodedig, a Bil ar gyfer Litwrgi Bendith ar gyfer Priodasau o'r Un Rhyw neu Bartneriaethau Sifil. Mae adroddiad gan y Pwyllgor Dethol ynghylch yr ail o'r Biliau hyn wedi'i gyhoeddi yn ddiweddar, ac mae hwnnw a dogfennau eraill i'w gweld ar dudalennau Corff Llywodraethol y wefan genedlaethol.
Gweddïwch dros y rhai sy'n gweithio i baratoi ar gyfer cyfarfod y Corff Llywodraethol, ac ar gyfer ein cynrychiolwyr esgobaethol yn y cyfarfod. Gellir gweld manylion ein cynrychiolwyr esgobaethol ar dudalen Goruchwylio gwefan yr esgobaeth.
Hysbysfwrdd esgobaethol

- Cyhoeddwyd cyfweliad gyda’r Esgob ym mhapur newydd ar-lein The National heddiw, a gellir ei ddarllen fan hyn.
- Mae Archddiacon Bangor yn arwain Prayer for the Day ar Radio 4 yr wythnos hon, a cheir y darlleniad cyntaf fan hyn.
- Ymddangosodd Llew Moules-Jones, Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Dwynwen, ar Bwrw Golwg ar Radio Cymru ddydd Sul diwethaf i drafod gweinidogaeth ymysg y gymuned ffermio. Gallwch wrando eto yma, o 23 munud i mewn.
- Gofynnir i bob clerig trwyddedig gadw'r cyfan o'u dyddiau gwaith yn rhydd ddydd Mawrth 14 Medi, dydd Mercher 15 Medi a dydd Iau 16 Medi 2021 ar gyfer ein Cynhadledd Glerigol. Byddwn yn cwrdd wyneb yn wyneb ar ddydd Mawrth 14 Medi, ac ar Zoom y deuddydd arall. Oherwydd y defnydd o'r Gadeirlan fel Canolfan Frechu, mae'n debyg y bydd sesiwn dydd Mawrth yn Llandudno.
- Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Robert Jones.
Trefniadau Awst
Dyma Lythyr yr Esgob olaf tan fy Llythyr ar gyfer y Pedwerydd Sul ar Ddeg ar ôl y Drindod, 5 Medi. Mae'n debygol y bydd canllawiau Coronafirws newydd yn cael eu cyhoeddi yn y cyfamser (fel y nodwyd uchod), a byddaf mewn cysylltiad eto pan fydd hyn yn digwydd; a byddaf hefyd yn rhannu newyddion a diweddariadau arwyddocaol eraill yn ôl yr angen.
Gobeithiaf, er gwaethaf y cyfyngiadau, y bydd mis Awst yn gyfnod o adnewyddiad - gan ddod â nodded lle mae'n bosibl cymryd hoe, ac egni newydd wrth i ni weinidogaethu i bawb a fydd yn ymweld â'r esgobaeth dros yr wythnosau nesaf.
Bydd cynrychiolwyr o'r esgobaeth hefyd yn paratoi yn ystod yr wythnosau nesaf ar gyfer y Coleg Ethol a gaiff ei gynnal ddechrau mis Medi i ethol Esgob Abertawe ac Aberhonddu newydd. Gellir gweld manylion ein cynrychiolwyr esgobaethol ar dudalen Goruchwylio gwefan yr esgobaeth. Cynhaliwch yr etholwyr, ein cydweithwyr yn Abertawe ac Aberhonddu, a phawb sy'n dirnad galwad Duw ar yr adeg hon, yn eich gweddïau dros yr wythnosau nesaf.
Cofiwch y gweddïir drosoch bob dydd yn Nhŷ'r Esgob: chi, eich teuluoedd a'ch Ardaloedd Gweinidogaeth. Gras a thangnefedd i chwi oll.
Y Gwir Barchg Andy John
Esgob Bangor
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Lythyr yr Esgob a chyhoeddiadau esgobaethol
A Letter from the Bishop
For the Ninth Sunday after Trinity | 1 August 2021
Dear colleagues and friends
All grace and peace to you.
Let us pray
The weekly Bishop’s Letter begins with a call to prayer for a particular Ministry Area or activity within the diocese. My hope is that these prayers will also form part of intercessions across the diocese on Sunday.
All-encompassing God, hear our prayer for this diocese, that we may seek out ways to proclaim your love, welcome, and peace to all.
We hold in prayer this week the Ministry Area of Bro Padrig, praying:
for the Revd Naomi Starkey (Ministry Area Leader);
for Mary Hughes and Ros Wynne (Ministry Area Wardens)
for Betty Edwards and Mike Thompson (Worship Leaders)
for the areas of concern and mission, including:
for the smooth unfolding of Ezra process
for new pattern of services across the Ministry Area
for wisdom to know which of the many pressing possibilities are in fact current priorities!
Watch over and uphold in faith all who take part in the day-to-day life of the churches, all seeking a deeper faith, and those who take the gospel message out into the community. Guide and enable them through quiet prayer and busy activity. This we pray in the name of Jesus Christ. Amen.
Coronavirus adaptations
There have been no changes this week to the guidance on the national website, which take account of the latest Welsh Government regulations for Alert Level 1. However, new guidance is expected over coming days as we move towards Alert Level 0.

Called by God
This Petertide at St Deiniol's Cathedral in Bangor, I ordained or licensed for ministry a total of 14 dedicated, gifted people from across the diocese.
Here are some more of their brilliant personal stories about God’s call on their lives.

“Just being thankful makes me realise how lucky we are, to have so much good in our lives, to have a faith, to have Jesus walk beside us and to have a God who loves us. We have so much good in our lives that we should share and pass on to others.”

“I’m looking forward to being able to approach the local communities and asking them, “What can we, the Church, do for you?” There’s a lot of healing that’s going to be needed as we move out of the pandemic. I don’t know what the answers are and I don’t know what I’m going to do but I’m looking forward to doing it.”

2021 Diocesan Conference
We find ourselves planning this year’s Diocesan Conference during a period of ongoing uncertainty, but in the hope that it will be possible in the autumn to gather together from across the diocese for the first time in over eighteen months. We’re also able to plan in the light of a year of experimentation with different methods of gathering and conferring.
My hope is that our Diocesan Conference this year can therefore allow us to mark this moment of transition, and to build on what we have lived through and achieved together over this time of pandemic.

2021 Diocesan Conference: on Zoom
From 7pm to 8.30pm on Monday 27 September 2021, I am convening a Zoom session of the Diocesan Conference.
My reflection on last year’s Zoom Diocesan Conference sessions is that they provided a good and popular platform for transacting business and for hearing from one another.
In the discussions that followed my Presidential Address, we were able to hear from far more people than was the case when we met in a large hall in person.
Moreover, more people were in attendance than has been the case for recent in-person sessions of the Diocesan Conference.
Therefore, we will keep this strand of our Diocesan Conference this year.

2021 Diocesan Conference: at the Cathedral
There is no doubt that, however effective Zoom meeting are for some matters, we have been the poorer for not being able to gather together as the Body of Christ from across the diocese, united in one place in prayer and worship.
I am therefore also, at 2pm on Saturday 2 October (the long-established date for our Diocesan Conferences), convening a Eucharistic gathering of the Diocesan Conference at Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor.
It will be the first opportunity for clergy and laity from across the diocese to gather together since the Diocesan Conference in 2019, and it will be appropriate that we will do so in worship and prayer - though it will also be necessary for us to transact a limited amount of business that cannot be transacted online.
Light refreshments will be available after the service itself, which I expect to last approximately 90 minutes.
We will gather together at the Holy Eucharist, at which I will deliver my Presidential Address, during the season of Thanksgiving. There will be much this year to offer to God - the anxieties, pain and grief of the past sixteenth months, as well our thanksgiving for the hard work and sacrifice of so many people and for the many blessings received by so many of us.
The formal membership of the Diocesan Conference includes three lay representatives from each Ministry Area, up to three licensed lay ministers from each Ministry Area, and all licensed clerics. However, there is a warm welcome for any communicant member of the diocese to attend each of these events, and my hope is that it will not be necessary to limit the number of attendees.
Prior registration, however, is required. Please do so at the links below. Further details will be circulated during September.
Church in Wales email addresses and access to Microsoft 365 software
I am grateful to colleagues within the provincial IT team for enabling us make Church in Wales email addresses and access to Microsoft 365 software available to licensed clerics in the diocese free of charge.
This will mean that every licensed cleric will have access to an email account ending @churchinwales.org.uk and @eglwysyngnghymru.org.uk (the Welsh-language and the English-language addresses flowing into the same account), and also to the latest versions of Microsoft 365 programs (including Word, Excel, Outlook and PowerPoint). It is possible for the @churchinwales.org.uk and @eglwysyngnghymru.org.uk email addresses of clergy to be set up to automatically forward emails to another account, such that, even if a cleric does not wish to use the email account, the email address will still be able to be used by diocesan and provincial colleagues to make contact.
I know how challenging IT changes can be. However, taking advantage of this new provision has a number of benefits, not least access to the latest version of otherwise expensive Microsoft software, and a GDPR-compliant “ministry-focused” email address. I, along with the Archdeacons and members of Tîm Deiniol, have been using the email accounts and the Microsoft 365 software for some time now, and I want to recommend this provision to my clergy colleagues.
Robert Jones will be making contact with clergy individually during August and September to roll out the new provision. Robert, alongside colleagues from the provincial IT Helpdesk, will be able to answer questions and make appropriate adaptations to the provision to suit individual needs and requirements.
I hope that this will be a positive step forward for us. Please don’t hesitate to be in touch with Robert or the Archdeacons with queries or concerns at this stage.
Governing Body
A meeting of the Governing Body will take place on 6-7 September. Among the items to be discussed will be a Bill to Authorise and Regulate Minor Variations to Authorised Liturgies, and a Bill for Liturgy of Blessing for Same Sex Marriages or Civil Partnerships. A report of the Select Committee regarding the second of these Bills has been published recently, and it and other documents can be found on the Governing Body pages of the national website.
Please pray for those working to prepare for the meeting of the Governing Body, and for our diocesan representatives at the meeting. Details of our diocesan representatives can be found on the Oversight page of the diocesan website.
Diocesan noticeboard

- An interview with the Bishop was published in The National online newspaper today, and can be read here.
- The Archdeacon of Bangor is leading Prayer for the Day on Radio 4 this week, and the first instalment can be heard here.
- Llew Moules-Jones, Ministry Area Leader of Bro Dwynwen, appeared on Bwrw Golwg on Radio Cymru last Sunday to reflect on ministry amid the farming community. You can listen again here, from 23 minutes in.
- All licensed clergy are asked to keep free the totality of their working days on Tuesday 14 September, Wednesday 15 September and Thursday 16 September 2021 for our Clergy Conference. On Tuesday 14 September, we will meet in person, and on Zoom the other two days. Because of the use of the Cathedral as a Vaccination Centre, Tuesday's session is likely to be in Llandudno.
- If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Robert Jones.
August arrangements
This is the last scheduled Bishop’s Letter until my Letter for the Fourteenth Sunday after Trinity, 5 September. It is likely that new Coronavirus guidance will be issued in the meantime (as noted above), and I will be in touch again when this happens; and I will also share other significant news and updates as necessary.
I hope that, despite the restrictions, August will be a time of rejuvenation - bringing rest where it is possible to take a break, and new energy as we minister to all who will visit the diocese over coming weeks.
Representatives from the diocese will also be preparing during the coming weeks for the Electoral College to take place in early September to elect a new Bishop of Swansea & Brecon. Details of our diocesan representatives can be found on the Oversight page of the diocesan website. Please keep the electors, our colleagues in Swansea & Brecon, and all who are discerning God’s call at this time, in your prayers over coming weeks.
Please remember you are prayed for each day in Ty’r Esgob: you, your families and Ministry Areas. Grace and peace to you all.
The Rt Revd Andy John
Bishop of Bangor