
Ordinasiwn 2020
Oherwydd y pandemig, mae'r gwasanaethau Ordeinio yr haf hwn yn digwydd ledled yr esgobaeth, yn hytrch nac yn yr Eglwys Gadeiriol. Bydd y rhai sydd i'w hordeinio'n ddiacon ac offeiriad yn cael eu hordeinio gan yr Esgob mewn eglwys yn Ardal Weinidogaeth lle byddant yn arfer eu gweinidogaeth newydd.
Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth ymarferol bwysig ar gyfer Ardaloedd Gweinidogaeth sy'n croesawu un o'r defodau a'r rhai sydd i'w hordeinio.
Cynhaliwch bawb i'w ordeinio yn eich gweddïau yn ystod y dyddiau nesaf.
Hollalluog a thragwyddol Dduw, sydd trwy dy Ysbryd yn llywodraethu ac yn sancteiddio holl gorff yr Eglwys: gwrando ein gweddi a offrymwn dros dy holl bobl ffyddlon, iddynt allu dy wasanaethu mewn sancteiddrwydd a gwirionedd yn eu galwedigaeth a’u gweinidogaeth er gogoniant i’th enw; trwy ein Harglwydd a’n Hiachawdwr Iesu Grist, sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân, yn un Duw, yn awr ac am byth. Amen.

Dyddiadau'r gwasanaethau
Mae angen gwahoddiad i fynychu'r gwasanaethau
3pm Dydd Llun 10 Awst
Eryl Parry i’w ordeinio’n offeiriad yn Eglwys Celynnin Sant, Llangelynnin yn Ardal Weinidogaeth Bro Celynnin
4pm Dydd Mawrth 11 Awst
Martyn Lewis i’w ordeinio’n offeiriad yn Eglwys Sant Pedr, Pwllheli yn Ardal Weinidogaeth Bro Enlli
3pm Dydd Mercher 12 Awst
Andy Hughes i’w ordeinio’n offeiriad yn Eglwys Sant Mihangel, Gaerwen yn Ardal Weinidogaeth Bro Cadwaladr
6pm Dydd Sadwrn 15 Awst
Siôn Rhys Evans i’w ordeinio’n offeiriad yn Eglwys Tudno Sant, ar y Gogarth yn Ardal Weinidogaeth Llandudno
9.30am Dydd Sul 16 Awst
Steve Rollins i’w ordeinio’n offeiriad yn Eglwys Cadfan Sant, Tywyn yn Ardal Weinidogaeth Bro Ystumanner
11.30am Dydd Sul 16 Awst
George Williams i’w ordeinio’n ddiacon yn Eglwys Cynon Sant, y Friog yn Ardal Weinidogaeth Bro Ystumanner
2pm Dydd Sul 16 Awst
Pam Odam i’w ordeinio’n ddiacon yn Eglwys Sant Ioan yr Efengylydd, y Bermo yn Ardal Weinidogaeth Bro Ardudwy

Canllawiau ar gyfer Arweinwyr Ardaloedd Gweinidogaeth
Fersiwn 29 Gorffennaf 2020
Litwrgi
- Mae drafft terfynol o drefn y gwasanaeth, sy'n dilyn Ordinal 2004 yr Eglwys yng Nghymru ac wedi ei addasu ar gyfer yr amgylchiadau persennol, ar gael yma
- Bydd llyfrynnau trefn gwasanaeth ar gyfer y gynulleidfa a’r rhai sy’n gweinyddu yn cael eu hargraffu’n ganolog, ac yn cael eu dwyn i’r eglwysi gan yr Esgob
- Bydd aelod o dîm yr esgobaeth yn bresennol gyda’r Esgob
- Lliw’r litwrgi yw gwyn
Cyn dechrau’r gwasanaeth
Yn syth cyn dechrau’r gwasanaeth, mae Arweinydd yr Ardal Weinidogaeth i:
- groesawu'r gynulleidfa
- rhannu hysbysiadau
- rhannu cyfarwyddiadau am orsafoedd Cymun, os oes rhai (gweler isod)
- cyflwyno cyfnod o ddistawrwydd
- gofyn i’r gynulleidfa sefyll ar gyfer yr orymdaith
Litwrgi’r gair
- Darlleniad o’r Testament Newydd: Aelod o’r gynulleidfa, wedi eu dewis gan Arweinydd yr Ardal Weinidogaeth
- Salm: Cael ei arwain gan yr Esgob
- Efengyl: Arweinydd yr Ardal Weinidogaeth i'w gyhoeddi
- Ni fydd yna bregeth
Defod Ordeinio
- Mae Arweinydd yr Ardal Weinidogaeth yn arwain y Litani
- Yr Esgob yn unig fydd yn arddodi dwylo
- Wrth ordeinio Offeiriad, gall offeiriaid cynorthwyol godi llaw mewn gweddi wrth i'r Esgob ardori dwylo, gan gynnal pellter cymdeithasol
- Arwisgo rhai i'w ordeinio'n ddiacon: Rhai i'w ordeinio i ddod a stôl wen eu hunain (os nad yw hynny'n bosibl, dylai'r Ardal Weinidogaeth ddarparu stôl ar gyfer y ddefod).
- Arwisgo rhai i'w ordeinio'n offeiriad: Yr Ardal Weinidogaeth i ddarparu casul a stôl wen (oni bai bod y rhai i'w hordeinio yn darparu rhai ei hunain)
- Bydd yr Esgob yn dod ag olew i eneinio
Defod y Cymun
- Diaconiaid: Bydd y diacon yn cyflwyno’r Clodydd Coffa yn ystod y weddi Ewcharistaidd, ac arwain yr Anfon Allan ar ddiwedd y gwasanaeth
- Offeiriad: Bydd yr offeiriad ordeiniedig newydd yn cyd-ddathlu â’r Esgob, gyda phaten ar wahân
- Yr Esgob yn unig fydd yn derbyn o’r ddau fath
- Gorsafoedd Cymun: Os bydd llai na 30 yn bresennol bydd yr Esgob yn gweinyddu i bawb o un orsaf. Pan fydd yna mwy na 30 yn bresennol bydd yn rhaid trefnu ail orsaf, gyda’r offeiriad newydd yn gweinyddu (ar gyfer diaconiaid bydd Arweinydd yr Ardal Weinidogaeth yn gweinyddu). Arweinydd yr Ardal Weinidogaeth i egluro symudiad i ddwy orsaf os oes angen yn ystod hysbysiadau
Asesiad risg
- Mae angen asesiad risg ar gyfer addoliad cyhoeddus os nad oes gan yr eglwys un eisoes
- Mae angen adolygu asesiad risg cyfredol os y rhagwelir cynulleidfa fwy yn yr ordinasiwn
- Nid oes angen i’r asesiad ystyried y gweithredoedd litwrgaidd yn ystod ddefod Ordeinio
- Dylai Arweinydd yr i gymryd cyfrifoldeb am gyfathrebu unrhyw gamau lliniaru risg y mae’n rhaid i’r gynulleidfa fod yn ymwybodol ohonynt cyn iddynt fynychu
Presenoldeb
- Mae presenoldeb cynulleidfaol a chan gleigion cynorthwyol trwy wahoddiad, wedi'i gydlynu gan Arweinydd yr Ardal Weinidogaeth
I'w ddarparu gan yr eglwys / Ardal Weinidogaeth
- Paten, ciborium a chwpan Cymun. Bydd angen ail baten ar gyfer ordeinio offeiriaid
- Lliain allor
- Bara offeiriad (dau ar gyfer offeiriaid, a fydd yn cael ei fwyta gan yr Esgob / yr un newydd ei ordeinio yn unig), bara’r gynulleidfa, gwin Cymun a dŵr. Nid oes angen lavabo
- Diheintydd dwylo ar gyfer yr Esgob
- Cadair yr Esgob (y bydd yn llywyddu litwrgi’r gair a’r ddefod Ordeinio ohono), a ddylai ei leoli yn ganolog a mor agos at fwrdd yr allor â phosibl
- Prie-dieu (os na, hassoc mawr) i’r un sy’n cael ei ordeinio, wedi ei roi o flaen cadair yr Esgob
- Gweler hefyd y nodyn parthed arwisgo
I'w ddarparu gan yr Esgob
- Llyfrynnau trefn gwasanaeth
- Olew ar gyfer eneinio
- Ei urddwisgoedd ei hun, gan gynnwys stôl a chasul
Ffotograffiaeth
- Rhaid i ffotograffiaeth ar ôl y gwasanaeth ddilyn canllawiau pellhau cymdeithasol
- Ni fydd ffotograffydd swyddogol yn bresennol
Treuliau
- Gellir hawlio unrhyw gost resymol a ddaw i’r Ardal Weinidogaeth yn ôl trwy Ysgrifennydd yr Esgobaeth

Encil cyn-ordeinio
Mae Archddiacon Bangor yn arwain tair sesiwn encilio cyn yr Ordeinio ar Zoom. Maent yn cael eu trefnu'n uniongyrchol gyda'r rhai sydd i'w hordeinio, a'u trefnu'n hyblyg o amgylch ymrwymiadau eraill.
Ymarfer ordeinio
Mae "ymarfer" Zoom yn cael ei gynnal gan yr Esgob am 10am ddydd Sadwrn 8 Awst. Bydd hwn yn gyfle i'r rhai sy'n cael eu hordeinio ac Arweinwyr Ardaloedd Gweinidogaeth yr eglwysi cynnal gwasanaeth i "gerdded trwy'r" drefn gyda'r Esgob. Bydd manylion y cyfarfod yn cael eu cylchredeg yn uniongyrchol i'r cyfranogwyr.
2020 Ordinations
Due to the pandemic, Ordination services this summer are taking place across the diocese, instead of at the Cathedral. Those to be ordained deacon and priest will be ordained by the Bishop in a church within the Ministry Area in which they will be exercising their new ministry.
This page contains important practical information for host Ministry Areas and those to be ordained.
Please hold all to be ordained in your prayers during the coming days.
Almighty and everlasting God, by whose Spirit the whole body of the Church is governed and sanctified: hear our prayer which we offer for all your faithful people, that in their vocation and ministry they may serve you in holiness and truth to the glory of your name; through our Lord and Saviour Jesus Christ, who is alive and reigns with you in the unity of the Holy Spirit, God for ever and ever. Amen.
Dates of the services
Attendance at the services is by invitation
3pm Monday 10 August
Eryl Parry to be ordained priest at St Celynnin’s Church, Llangelynnin in the Ministry Area of Bro Celynnin
4pm Tuesday 11 August
Martyn Lewis to be ordained priest at St Peter’s Church, Pwllheli in the Ministry Area of Bro Enlli
3pm Wednesday 12 August
Andy Hughes to be ordained priest at St Michael’s Church, Gaerwen in the Ministry Area of Bro Cadwaladr
6pm Saturday 15 August
Siôn Rhys Evans to be ordained priest at St Tudno’s Church, on the Great Orme in the Ministry Area of Llandudno
9.30am Sunday 16 August
Steve Rollins to be ordained priest at St Cadfan’s Church, Tywyn in the Ministry Area of Bro Ystumanner
11.30am Sunday 16 August
George Williams to be ordained deacon at St Cynon’s Church, Fairbourne in the Ministry Area of Bro Ystumanner
2pm Sunday 16 August
Pam Odam to be ordained deacon at St John the Evangelist's Church, Barmouth in the Ministry Area of Bro Ardudwy

Guidance for Ministry Area Leaders
Version 29 July 2020
Liturgy
- The draft of the order of service, which follows the 2004 Ordinal of the Church in Wales and adapted for the present circumstances, is available here
- Orders of service for the congregation and officiants will be printed centrally, and be brought to the churches by the Bishop
- A member of the diocesan team will be present to accompany the Bishop
- The liturgical colour is white
Before the service
Immediately before the service begins, the Ministry Area Leader is to:
- welcome the congregation
- give notices
- any directions regarding Communion stations, if there are any (see below)
- introduce a period of silence
- ask the congregation are to stand for the procession
Liturgy of the word
- New Testament Reading: Member of the congregation to be selected by the Ministry Area Leader
- Psalm: Lead by the Bishop
- Gospel: Ministry Area Leader to proclaim
- No sermon will be given
Ordination rite
- The Ministry Area Leader leads the Litany
- The Bishop alone lays on hands
- At a priesting, assisting priests may rise their hands in prayer as the Bishop lays on hands, maintaining social distancing
- Vesting at deaconings: Those to be ordained to bring their own white stole (if not possible, the Ministry Area should provide a stole for the rite)
- Vesting at priestings: The Ministry Area to provide a white chasuble and stole for the rite (unless those to be ordained are bringing their own)
- Bishop will bring oil for anointing
Communion rite
- Deaconings: The deacon is to introduce the Memorial Acclamations during the Eucharistic prayer, and lead the dismissal at the conclusion of the service
- Priestings: The newly-ordained priest alone will concelebrate with the Bishop, with a separate paten for this purpose
- The Bishop alone will receive in both kinds
- Communion Stations: If fewer than 30 are present the Bishop will communicate everyone from one station. Where more than 30 present a second station will have to be arranged, with the newly ordained priest communicating (for deaconings the Ministry Area Leader will do so). Ministry Area Leader to explain movement to two stations if needed during notices
Risk assessment
- A risk assessment for public worship should be completed if the church has not already completed one
- An existing risk assessment should to be reviewed if a larger congregation is envisaged for the ordination
- The assessment does not need to take account of the liturgical acts during the rite of Ordination
- Ministry Area Leader to take responsibility for communicating any risk mitigation actions that the congregation need to be aware of before they attend
Attendance
- Attendance of the congregation and assisting clergy is by invitation, coordinated by the Ministry Area Leader
To be provided by the church / Ministry Area
- Paten, ciborium and chalice; second paten needed for priestings
- Altar linen
- Priest's host (two for priestings; these hosts will be consumed by the Bishop / newly ordained priest alone), congregation hosts, wine and water. No lavabo is needed
- Hand sanitiser for use by the Bishop
- Chair for the Bishop (from which he will preside the liturgy of the word and the ordination rite), to be placed centrally and as close to the altar table as possible
- Prie-dieu (if not, a large hassock) for the one being ordained to be placed in front of the Bishop’s chair
- See also the note regarding vesting
To be brought by the Bishop
- Orders of service
- Oil for anointing
- His own vestments, including chasuble and stole
Photography
- Photography following the service must follow social distancing guidelines
- No official photographer will be present
Expenses
- Any reasonable cost incurred by the Ministry Areas can be claimed back via the Diocesan Secretary

Pre-ordination retreat
The Archdeacon of Bangor is leading three Zoom pre-ordination retreat sessions. They are being organised directly with those to be ordained, and arranged flexibly around other commitments.
Ordination rehearsal
A Zoom "rehearsal" is being held by the Bishop at 10am on Saturday 8 August. This will be an opportunity for those to be ordained and Ministry Area Leaders of host churches to "walk through" the service with the Bishop. Details for the meeting will be circulated directly to participants.