minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Arweinydd Cymuned Arloesol

Swydd allweddol fel rhan o'n prosiect Llan

Pioneer Community Leader

A key post as part of the Llan project

Dyddiad cau / Deadline: 07/10/2020, noon

Llan

Mae “Llan” yn brosiect saith mlynedd, gwerth £3m, a fydd yn gweld gweinidogaethau newydd yn datblygu ledled yr esgobaeth, wrth i ni ganolbwyntio ar estyn allan mewn ffyrdd newydd i’n cymunedau gyda chariad Duw yng Nghrist.

Bydd Llan yn ein galluogi i ddatblygu ein gweinidogaeth bererindod ym mhob cwr o’r esgobaeth, i dyfu cymuned eglwysig Gymraeg newydd a datblygu adnoddau efengylaidd yn Gymraeg, ac i lansio pedair menter gymdeithasol a fydd yn arloesi math newydd o bresenoldeb a thsytiolaethu Anglicanaidd mewn pedair o'n trefi a'n pentrefi. Cewch ddarllen mwy am Llan yma.

Ffrwd Iaith Llan

Ein gobaith yw y bydd buddsoddi mewn gweinidogaeth Gymraeg yn hwb efengylaidd obeithiol a sylweddol i’n canolbwynt strategol o ddatblygu gweinidogaethau newydd.

Môn a Gwynedd (y ddwy sir sy'n cwmpasu'r rhan fwyaf o diriogaeth Esgobaeth Bangor) yw'r unig ddwy sir yng Nghymru lle mae dros 50% o'r trigolion yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg.

Mae yna heriau, gan nad oes yna adnoddau Anglicanaidd cyson, Cymraeg, i gefnogi dysgu, addoli ac arloesi. Er fod yna lawer o gyrsiau a deunydd Saesneg ar gael yn hawdd, mae yna lawer llai ar gael yn y Gymraeg, o bob traddodiad Cristnogol, sy'n golygu mai dim ond ychydig o adnodau addas, cyfoes a sensitif sydd ar gael i gefnogi gweinidogaeth Anglicanaidd Gymraeg.

Mae ffrwd Iaith Llan yn rhagweld datblygu mynegiant newydd, ffres, drwy gyfrwng y Gymraeg yn y gymuned Gymraeg ei hiaith yn yr esgobaeth. Seilir y prosiect ar y model o fynegiant newydd sy’n dechrau gyda grŵp bychan, arloesol a fydd yn cychwyn ar ei weinidogaeth drwy wasanaethu a gwrando ar gymuned. Y grŵp arloesol hwn fydd y cnewyllyn cyntaf o bobl a fydd â’r egni i weithio ar, a datblygu, model newydd o fynegiant.

Mae ffrwd Iaith Llan yn rhagweld cyfuno mynegiant Cymraeg, newydd o Eglwys, ar y cyd â ffurfio cymuned breswyl "blwyddyn i ffwrdd" o Gymorthyddion Efengylaidd sy’n siarad Cymraeg. Gan ddysgu o lwyddiant cynlluniau Cymorthyddion Bugeiliol Eglwys Loegr, rhagwelir y bydd yna rhwng tri a phump o unigolion, sy’n ystyried eu dyfodol ac yn ystyried hefyd eu galwedigaeth i’r weinidogaeth Anglicanaidd, yn cael llety a chyflog am ddeuddeg mis er mwyn cyfannu a chymryd rhan mewn gweinidogaeth efengylaidd, flaengar trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr Eglwys yng Nghymru. Mae’r elfen hon yn rhan o ymrwymiad ehangach i feithrin galwadau ymysg siaradwyr a dysgwyr Cymraeg i’r offeiriadaeth ordeiniedig a gweinidogaethau trwyddedig eraill.

Bydd ffrwd Iaith Llan yn talu sylw i brinder adnoddau dysgu, addoli ac arloesi Cymraeg drwy alluogi datblygu adnoddau deniadol, o ansawdd da, Cymraeg ar gyfer efengylu, wedi'u targedu'n benodol at y grŵp 20-40 oed.


Arweinydd Cymuned Arloesol

Pwrpas y swydd

Bydd yr Arweinydd Cymuned Arloesol yn gyfrifol am sefydlu cymuned breswyl o Gymhorthyddion Efengylaidd ac am ddatblygu cymuned eglwysig Gymraeg.

Cyfrifoldebau

  1. Canfod cartref i weithgareddau'r gymuned. Helpu i ddarganfod a datblygu adeilad addas yn gartref i’r gymuned breswyl. (ii) Arwain wrth wasanaethu a gwrando ar y gymuned Gymraeg leol.
  2. Datblygu rhaglen gytbwys o gyfleoedd dysgu a phrofiadau ymarferol ar gyfer y gymuned o Gymorthyddion Efengylaidd. Bydd y rhaglen yn cael ei daprau dros gyfnod o flwyddyn, yn seiliedig ar gymunedau lled fynachaidd yn yr Eglwys yng Nghymru ac ar arfer da o gynlluniau Cymorthyddion Bugeiliol yn Eglwys Loegr. (i) Datblygu a chynnal presenoldeb cryf, a fydd yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd, ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch y prosiect. (ii) Gweithio mewn partneriaeth gyda Galluogydd y Gymraeg. (iii) Canolbwyntio’n gyffredinol ar gynyddu nifer y galwedigaethau ordeiniedig a lleyg ymysg siaradwyr Cymraeg.
  3. Cynllunio proses recriwtio rhwng tri a phump Cymhorthydd Efengylaidd ar gyfer y gymuned breswyl am un flwyddyn. (i) Dilyn arfer da o gynlluniau Cymhorthyddion Bugeiliol yn Eglwys Loegr. (ii) Blaengynllunio i ddenu eraill i ymgeisio ac ymuno yn y flwyddyn / blynyddoedd i ddod. (iii) .Chwilio am ffyrdd i annog galwedigaethau ymysg Cristnogion ifanc.
  4. Creu cymuned Anglicanaidd ffurfiannol ac addolgar wedi’i gwreiddio yn y diwylliant Cymraeg ac yn rhannu'r hyn a ddysgir gyda'r Eglwys yng Nghymru. (i) Datblygu cymuned addoli egnïol a bywiog a fydd yn cynyddu hyder yng ngweinidogaeth yr Cymorthyddon Efengylaidd. (ii) Arwain, deall a meithrin talentau pawb o bobl Duw yn y gymuned newydd.
  5. Gweithio mewn partneriaeth gyda Chyfarwyddwr a Chyfarwyddwr ar y Cyd Llan ac Arweinydd yr Ardal Weinidogaeth leol i ddatblygu cynigion ar gyfer sicrhau cynaliadwyedd y cymunedau preswyl ac addoli yn y tymor hir.
  6. Cymryd rhan lawn mewn perthynas arolygol gyda Chyfarwyddwr Llan.

Manyleb person

  1. Angerdd dwfn dros efengylu a’r Gymraeg 
  2. Gallu dangos profiad amlwg o efengylu 
  3. Bod mewn safle i gael ei th/drwyddedu i weinidogaeth offeiriadol yn yr Eglwys yng Nghymru
  4. Gwerthfawrogi natur a chenhadaeth Esgobaeth Bangor a’i gweledigaeth
  5. Deall pwysigrwydd efengylu trwy gyfrwng y Gymraeg a sut i feithrin twf a datblygiad hynny orau 
  6. Profiad o weithio gyda phobl, fel unigolion ac fel rhan o dîm, a mewn sefyllfaoedd cyfryngu, i ddatrys problemau a chael canlyniadau positif
  7. Yn addasu i gyfleodd newydd ac i heriau annisgwyl sy’n gallu codi mewn bywyd eglwysig
  8. Gwybodaeth o fodelau lled-fynachaidd a sut y gellir eu datblygu i fod yn berthnasol heddiw
  9. Dealltwriaeth o bwysigrwydd y gymuned Gristnogol ac o wahanol ffyrdd o archwilio ffydd
  10. Ymrwymiad i ddatblygiad ysbrydol ac emosiynol oedolion a phobl ifanc heb brofiad o ffydd

Sgiliau sylfaenol

  1. Hunan-ysgogydd sy'n gallu gweithio ar ei liwt ei hun a rheoli llwyth gwaith yn dda
  2. Cyfathrebydd medrus a hyderus ar bob lefel, a phrofiad o siarad cyhoeddus
  3. Deall cyfrifiaduron yn dda
  4. Mae'n rhaid gallu siarad ac ysgrifennu Cymraeg yn dda ar gyfer y swydd hon

Nodweddion dymunol

  1. Profiad ymarferol o weithio mewn eglwys
  2. Gallu gweithio’n hyblyg wrth ymateb i galendr a digwyddiadau eglwysig
  3. Profiad o ddatblygu a gweithredu deunyddiau ac adnoddau newydd i gynulleidfa ehangach
  4. Yn gallu trefnu a darparu cyrsiau hyfforddi, ac â'r gallu i addasu arddull addysgu yn ôl gwahanol ofynion dysgu

Diogelu

Mae'r swydd yn gofyn i ymgeiswyr ddangos ymrwymiad i ddiogelu plant ac oedolion bregus a bod ag ymwybyddiaeth dda o'r polisïau a’r gweithdrefnau, y ddeddfwriaeth a’r canllawiau statudol perthnasol. Bydd gofyn am ddatganiad uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Prif delerau

Mae hon yn swydd sy'n ddarostyngedig i delerau gwasanaeth clerigion yr Eglwys yng Nghymru.

Proses recriwtio

  • Dylid ymgeisio erbyn hanner dydd ar dydd Mercher 7 Hydref 2020.
  • I ymgeisio, anfonwch eich CV ynghyd â llythyr cais at Gyfarwyddwr Llan, James Tout.
  • Dylai’ch CV gynnwys enwau dau ganolwr, a dylai un ohonynt fod yn gyflogwr presennol / mwyaf diweddar. Ni fyddwn yn cysylltu â chanolwyr heb geisio eich caniatâd.
  • Dylai’ch llythyr cais fod ddim hirach na day ochr o bapur A4, a dylai ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y rôl.
  • Disgwylir i gyfweliadau gael eu cynnal ar 19 a 26 Hydref 2020.
  • Mae croeso i chi gysylltu â Chyfarwyddwr Llan, James Tout, am sgwrs anffurfiol cyn ymgeisio.
Cymraeg

Llan

“Llan” is a £3m, seven-year project that will see the development of new ministries across the diocese focused on reaching out in new ways to our communities with the love of God in Christ.

Llan will enable us to develop our pilgrimage ministry across the diocese, to grow a new Welsh-language church community and to develop Welsh-language evangelistic resources, and to launch four social enterprises pioneering a new sort of Anglican presence and witness in four of our towns and villages. You can read more about Llan here.

The Language stream of Llan

Investment in Welsh-language ministry has the potential to deliver a hopeful and substantial evangelistic boost to our strategic priority of growing new ministries.

Anglesey and Gwynedd (the two counties that cover the vast majority of the Diocese of Bangor’s territory) are the only two counties in Wales in which over 50% of residents can speak, read and write in Welsh.

There are challenges presented by the absence of consistent Welsh-language Anglican resources to support learning, worship and innovation. Whereas a number of English- language courses and materials are easily available, far fewer are available in Welsh from across all Christian traditions, meaning that only a limited supply of appropriate, current, sensitive resources is available to support Welsh-language Anglican ministry.

The Language stream of Llan envisages a Welsh-language fresh expression of Church being developed in a Welsh-speaking community in the diocese. The project is based on the emergent fresh expressions model that starts with a small pioneer group that begins its ministry by serving and listening to a community. This pioneer group provides an initial core of people with energy to work through the development of the fresh expressions model.

The Language stream of Llan envisages combining the development of a Welsh-language fresh expression of Church with the formation of a small “gap year” residential community of Welsh-speaking Evangelist Assistants. Drawing on the success of the Pastoral Assistant schemes in the Church of England, it is envisaged that between three and five individuals, discerning their future and potentially exploring their vocation for Anglican ministry, are accommodated and salaried for twelve months so that they might encounter and contribute to an evangelistic and pioneeringly-focused Welsh-language ministry of the Church in Wales. This component sits alongside a broader commitment to nurture vocations among Welsh-speakers and Welsh-language learners to ordained and other licensed ministries.

The Language stream of Llan also seeks to address the lack of contemporary Welsh- language learning, worship and innovation resources by enabling the development of engaging, high-quality, Welsh-language resources for evangelism, particularly targeted at the 20-40 age group.



Pioneer Community Leader

Job purpose

The Pioneer Community Leader is responsible for setting up a residential community of Evangelist Assistants and developing a Welsh-language church community.

Responsibilities

  1. Develop a base for the community's activities. (i) Help identify and develop a suitable property to house the residential community. (ii) Take a lead in serving and listening to the local Welsh-language community.
  2. Develop a codified program of learning opportunities together with practical experiences for a community of Evangelist Assistants. This will be delivered over a period of a year based on the learnings from neo-monastic communities within the Church in Wales and best practice from Pastoral Assistant schemes in the Church of England. (i) Develop and sustain a strong social media presence about the project that is regularly updated. (ii) Working in partnership with the Welsh Language Enabler. (iii) An overall focus of increasing the number of ordained and lay Welsh-language vocations.
  3. Recruitment and selection process of 3-5 Evangelist Assistants placed in the residential community for a year. (i) Following best practice from Pastoral Assistant schemes within the Church of England. (ii) Planning ahead to attract others to apply and join the following year(s). (iii) Seek ways to encourage vocations among younger Christians.
  4. The creation of a formational and worshipping Anglican community enculturated in young, Welsh-language culture, and the sharing of learnings from that inculturation with the Church in Wales. (i) Develop an energetic and vibrant worshipping community, that will grow confidence in the ministry of Evangelist Assistants. (ii) Lead, discern and foster the gifts of all God’s people within this new community.
  5. Work in partnership with the Director of Llan, Associate Director of Llan and local Ministry Area Leader to develop proposals for the long-term sustainability of the residential and worshipping communities.
  6. Engage fully in supervisory relationship with the Director of Llan.

Person specification

  1. A deep passion for evangelism and the Welsh language
  2. Be able to demonstrate actively engagement in evangelism
  3. In a position to be licenced to priestly ministry in the Church in Wales
  4. Appreciation of the role of the Diocese of Bangor and its vision
  5. Understanding the importance of Welsh-language evangelism and how best to nurture its growth and development 
  6. Experience of working with people, individually and as part of a team, mediating situations, in order to overcome issues and achieve positive outcomes
  7. Adaptable to new opportunities and unexpected challenges that can occur in church life
  8. A knowledge of neo-monastic community models and how this can be achieved and developed to be relevant today 
  9. An understanding of the importance of the Christian community and different ways of exploring faith 
  10. Committed to the spiritual and emotional development of adults and young people who are new to faith

Basic skills

  1. A self-starter able to work on their own initiative and manage their own workload well
  2. Excellent communication skills and confident in liaising on all levels as well as experience of public speaking
  3. High degree of computer literacy
  4. High levels of written and spoken Welsh are essential for this position

Desirable aptitudes

  1. Practical experience of working in a church
  2. Ability to work flexibly responding to church calendar and events
  3. Experience of developing and implementing new resource material to a wider audience
  4. Able to organise and deliver training courses, with the ability to adapt teaching style to meet different learning requirements

Safeguarding

The role requires applicants to demonstrate a commitment to safeguarding children and vulnerable adults and have good awareness of relevant policies and procedures, statutory legislation and guidance. An enhanced DBS declaration will be required.

Principle terms

The post is subject to clergy terms of service within Church in Wales.

Recruitment process

  • Applications must be received by 12 noon on Wednesday 7 October 2020.
  • To apply, please send your CV together with a letter of application to the Director of Llan, James Tout.
  • Your CV should include the names of two referees, one of whom should be your current / most recent employer. We will not contact referees without seeking your permission.
  • Your letter of application should be no longer than 2 sides of A4, and must provide evidence of your suitability for this role.
  • Interviews are scheduled to take place on 19 and 26 October 2020.
  • You are welcome to contact the Director of Llan, James Tout, for an informal conversation about the role prior to applying.