minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Galluogydd y Gymraeg

Swydd allweddol fel rhan o'n prosiect Llan

Welsh Language Enabler

A key post as part of the Llan project

Dyddiad cau / Deadline: 07/10/2020, noon

Llan

Mae “Llan” yn brosiect saith mlynedd, gwerth £3m, a fydd yn gweld gweinidogaethau newydd yn datblygu ledled yr esgobaeth, wrth i ni ganolbwyntio ar estyn allan mewn ffyrdd newydd i’n cymunedau gyda chariad Duw yng Nghrist.

Bydd Llan yn ein galluogi i ddatblygu ein gweinidogaeth bererindod ym mhob cwr o’r esgobaeth, i dyfu cymuned eglwysig Gymraeg newydd a datblygu adnoddau efengylaidd yn Gymraeg, ac i lansio pedair menter gymdeithasol a fydd yn arloesi math newydd o bresenoldeb a thsytiolaethu Anglicanaidd mewn pedair o'n trefi a'n pentrefi. Cewch ddarllen mwy am Llan yma.

Ffrwd Iaith Llan

Ein gobaith yw y bydd buddsoddi mewn gweinidogaeth Gymraeg yn hwb efengylaidd obeithiol a sylweddol i’n canolbwynt strategol o ddatblygu gweinidogaethau newydd.

Môn a Gwynedd (y ddwy sir sy'n cwmpasu'r rhan fwyaf o diriogaeth Esgobaeth Bangor) yw'r unig ddwy sir yng Nghymru lle mae dros 50% o'r trigolion yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg.

Mae yna heriau, gan nad oes yna adnoddau Anglicanaidd cyson, Cymraeg, i gefnogi dysgu, addoli ac arloesi. Er fod yna lawer o gyrsiau a deunydd Saesneg ar gael yn hawdd, mae yna lawer llai ar gael yn y Gymraeg, o bob traddodiad Cristnogol, sy'n golygu mai dim ond ychydig o adnodau addas, cyfoes a sensitif sydd ar gael i gefnogi gweinidogaeth Anglicanaidd Gymraeg.

Mae ffrwd Iaith Llan yn rhagweld datblygu mynegiant newydd, ffres, drwy gyfrwng y Gymraeg yn y gymuned Gymraeg ei hiaith yn yr esgobaeth. Seilir y prosiect ar y model o fynegiant newydd sy’n dechrau gyda grŵp bychan, arloesol a fydd yn cychwyn ar ei weinidogaeth drwy wasanaethu a gwrando ar gymuned. Y grŵp arloesol hwn fydd y cnewyllyn cyntaf o bobl a fydd â’r egni i weithio ar, a datblygu, model newydd o fynegiant.

Mae ffrwd Iaith Llan yn rhagweld cyfuno mynegiant Cymraeg, newydd o Eglwys, ar y cyd â ffurfio cymuned breswyl "blwyddyn i ffwrdd" o Gymorthyddion Efengylaidd sy’n siarad Cymraeg. Gan ddysgu o lwyddiant cynlluniau Cymorthyddion Bugeiliol Eglwys Loegr, rhagwelir y bydd yna rhwng tri a phump o unigolion, sy’n ystyried eu dyfodol ac yn ystyried hefyd eu galwedigaeth i’r weinidogaeth Anglicanaidd, yn cael llety a chyflog am ddeuddeg mis er mwyn cyfannu a chymryd rhan mewn gweinidogaeth efengylaidd, flaengar trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr Eglwys yng Nghymru. Mae’r elfen hon yn rhan o ymrwymiad ehangach i feithrin galwadau ymysg siaradwyr a dysgwyr Cymraeg i’r offeiriadaeth ordeiniedig a gweinidogaethau trwyddedig eraill.

Bydd ffrwd Iaith Llan yn talu sylw i brinder adnoddau dysgu, addoli ac arloesi Cymraeg drwy alluogi datblygu adnoddau deniadol, o ansawdd da, Cymraeg ar gyfer efengylu, wedi'u targedu'n benodol at y grŵp 20-40 oed.


Galluogydd y Gymraeg

Pwrpas y swydd

Bydd Galluogydd y Gymraeg yn gyfrifol am sefydlu adnoddau efengylu sylweddol er mwyn datblygu gweinidogaethau Cymraeg yn yr esgobaeth.

Cyfrifoldebau

  1. Galluogi a datblygu efengylu Cymraeg ym mhob Ardal Weinidogaeth yn yr esgobaeth drwy: (i) baratoi adnoddau cateceiddio a phroses efengylu newydd; (ii) cefnogi cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn Ardaloedd Gweinidogaeth yn enwedig drwy gyfrwng y we a chyfryngau cymdeithasol; (iii) datblygu, ar lefel esgobaeth, bresenoldeb efengylaidd Cymraeg; (iv) meithrin galwedigaethau Cymraeg i weinidogaethau ordeiniedig a thrwyddedig eraill.
  2. Datblygu, lansio a chynnal: (i) cwrs efengylu proses Alpha / Pilgrim trwy gyfrwng y Gymraeg; (ii) presenoldeb efengylaidd gadarn ar y cyfryngau cymdeithasol.
  3. Cyfrannu at rannu’r dysgu ledled Esgobaeth Bangor a’r Eglwys yng Nghymru ar sail: (i) cynyddu hyder yng ngweinidogaeth Efengylwyr, drwy gynnull cymuned arfer da egnïol; (ii) cynyddu galwedigaethau ordeiniedig a lleyg Cymraeg.
  4. Sefydlu tîm o bartneriaid TG i ddatblygu strategaeth ar gyfer cysylltu ar y cyfryngau cymdeithasol.
  5. Ar y cyd â’r Cyfarwyddwr a Chyfarwyddwr ar y Cyd Llan, datblygu cynigion ar gyfer ffurf tymor hirach y gweithgareddau i alluogi ac i gefnogi cenhadu ac efengylu trwy gyfrwng y Gymraeg.
  6. Cymryd rhan lawn mewn perthynasau rheolaeth llinell gyda Chyfarwyddwr Llan.

Manyleb person

  1. Yn angerddol dros hyrwyddo’r Gymraeg ac efengylu a hefyd dros annog dwyieithrwydd
  2. Yn gallu paratoi deunydd ysgrifenedig i’w gynhyrchu a’i rannu'n ddwyieithog
  3. Yn deall pwysigrwydd efengylu trwy gyfrwng y Gymraeg a sut i'w feithrin a’i ddatblygu orau
  4. Dealltwriaeth o bwysigrwydd cymuned Gristnogol, sut y gellir ail-frandio ffydd a gwahanol ffyrdd o ymchwilio ffydd
  5. Ymrwymiad i ddatblygiad ysbrydol ac emosiynol oedolion a phobl ifanc sydd yn newydd i ffydd
  6. Gwerthfawrogi natur a chenhadaeth Esgobaeth Bangor a’i gweledigaeth
  7. Profiad o weithio fel aelod o dîm.
  8. Deall litwrgi’n dda
  9. Aelod gweithgar o gymuned addolgar Gristnogol

Sgiliau sylfaenol

  1. Yn gallu trefnu a darparu cyrsiau hyfforddi, ac â'r gallu i addasu arddull addysgu yn ôl gwahanol ofynion dysgu
  2. Dawn weledol, yn talu sylw manwl i ddyluniad ac i fanylion
  3. Hunan-ysgogydd sy'n gallu gweithio ar ei liwt ei hun a rheoli llwyth gwaith yn dda
  4. Sgiliau cyfathrebu ardderchog ac yn hyderus yn cydlynu ar bob lefel
  5. Yn gallu sefydlu a chynnal partneriaethau adeiladol a pherthynasau cydweithredol gyda chleientiaid mewnol ac allanol
  6. Deall cyfrifiaduron yn dda
  7. Mae'n rhaid gallu siarad ac ysgrifennu Cymraeg yn dda ar gyfer y swydd hon

Nodweddion dymunol

  1. Profiad ymarferol o weithio mewn eglwys
  2. Gwybodaeth o bwysigrwydd cymunedau Cymraeg yn yr Eglwys yng Nghymru
  3. Gwybodaeth o adnoddau a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol Cymraeg
  4. Profiad o ddatblygu a gweithredu deunyddiau ac adnoddau newydd gyda chynulleidfa ehangach
  5. Profiad o ddatblygu a chynnal presenoldeb ar lein ar draws gwahanol lwyfannau cyfryngau cymdeithasol

Diogelu

Mae'r swydd yn gofyn i ymgeiswyr ddangos ymrwymiad i ddiogelu plant ac oedolion bregus a bod ag ymwybyddiaeth dda o'r polisïau a’r gweithdrefnau, y ddeddfwriaeth a’r canllawiau statudol perthnasol. Bydd gofyn am ddatganiad uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Prif delerau

  • Mae hon yn swydd llawn amser wedi'i hariannu am 5 mlynedd. Bydd yr oriau gwaith o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am-5pm.
  • Mae’r swydd yn cael ei gynnig o dan y telerau ac amodau cyflogaeth sy’n gymwys i apwyntiadau lleyg eraill gan Fwrdd Cyllid Esgobaeth Bangor.
  • Cynigir cyflog gystadleuol, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad, yn ogystal â chyfraniad pensiwn hael.
  • Bydd hawl i 28 niwrnod o wyliau y flwyddyn, yn ogystal â gwyliau cyhoeddus statudol.

Proses recriwtio

  • Dylid ymgeisio erbyn hanner dydd ar dydd Mercher 7 Hydref 2020.
  • I ymgeisio, anfonwch eich CV ynghyd â llythyr cais at Gyfarwyddwr Llan, James Tout.
  • Dylai’ch CV gynnwys enwau dau ganolwr, a dylai un ohonynt fod yn gyflogwr presennol / mwyaf diweddar. Ni fyddwn yn cysylltu â chanolwyr heb geisio eich caniatâd.
  • Dylai’ch llythyr cais fod ddim hirach na day ochr o bapur A4, a dylai ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y rôl.
  • Disgwylir i gyfweliadau gael eu cynnal ar 19 a 26 Hydref 2020.
  • Mae croeso i chi gysylltu â Chyfarwyddwr Llan, James Tout, am sgwrs anffurfiol cyn ymgeisio.
Cymraeg

Llan

“Llan” is a £3m, seven-year project that will see the development of new ministries across the diocese focused on reaching out in new ways to our communities with the love of God in Christ.

Llan will enable us to develop our pilgrimage ministry across the diocese, to grow a new Welsh-language church community and to develop Welsh-language evangelistic resources, and to launch four social enterprises pioneering a new sort of Anglican presence and witness in four of our towns and villages. You can read more about Llan here.

The Language stream of Llan

Investment in Welsh-language ministry has the potential to deliver a hopeful and substantial evangelistic boost to our strategic priority of growing new ministries.

Anglesey and Gwynedd (the two counties that cover the vast majority of the Diocese of Bangor’s territory) are the only two counties in Wales in which over 50% of residents can speak, read and write in Welsh.

There are challenges presented by the absence of consistent Welsh-language Anglican resources to support learning, worship and innovation. Whereas a number of English- language courses and materials are easily available, far fewer are available in Welsh from across all Christian traditions, meaning that only a limited supply of appropriate, current, sensitive resources is available to support Welsh-language Anglican ministry.

The Language stream of Llan envisages a Welsh-language fresh expression of Church being developed in a Welsh-speaking community in the diocese. The project is based on the emergent fresh expressions model that starts with a small pioneer group that begins its ministry by serving and listening to a community. This pioneer group provides an initial core of people with energy to work through the development of the fresh expressions model.

The Language stream of Llan envisages combining the development of a Welsh-language fresh expression of Church with the formation of a small “gap year” residential community of Welsh-speaking Evangelist Assistants. Drawing on the success of the Pastoral Assistant schemes in the Church of England, it is envisaged that between three and five individuals, discerning their future and potentially exploring their vocation for Anglican ministry, are accommodated and salaried for twelve months so that they might encounter and contribute to an evangelistic and pioneeringly-focused Welsh-language ministry of the Church in Wales. This component sits alongside a broader commitment to nurture vocations among Welsh-speakers and Welsh-language learners to ordained and other licensed ministries.

The Language stream of Llan also seeks to address the lack of contemporary Welsh- language learning, worship and innovation resources by enabling the development of engaging, high-quality, Welsh-language resources for evangelism, particularly targeted at the 20-40 age group.



Welsh Language Enabler

Job purpose

The Welsh Language Enabler of is responsible for the creation of substantial evangelistic resources to grow new Welsh-language ministries within the diocese.

Responsibilities

  1. Enable and develop Welsh-language evangelism across all Ministry Areas in the diocese by: (i) producing new catechetical and process evangelism resources; (ii) supporting Welsh-language communication in Ministry Areas, especially by the use of the internet and social media; (iii) developing at a diocesan level an evangelistic Welsh-language online presence; (iv) nurturing Welsh-language vocations to ordained and other licensed ministries.
  2. Developing, launching and sustaining: (i) a Welsh-language Alpha/Pilgrim process evangelism course; (ii) a robust evangelistic social media presence.
  3. Contribute to shared learning throughout the Diocese of Bangor and the Church in Wales on the basis of: (i) growing confidence in the ministry of Evangelists, by convening an energetic community of practice; (ii) an increase in ordained and lay Welsh-language vocations.
  4. Establish a team of IT partners to develop a Welsh-language social media engagement strategy,
  5. In partnership with the Director and Associate Director of Llan, develop proposals for the longer-term shape of activates to enable and support Welsh-language mission and evangelism.
  6. Engage fully in a line management relationship with the Director of Llan. 

Person specification

  1. A passion for the promotion of the Welsh-language and evangelism, also the encouragement of bilingualism
  2. The ability to produce written material for production and dissemination in a bilingual format
  3. An understanding of the importance of Welsh-language evangelism and how best to nurture its growth and development
  4. An understanding of the importance of the Christian community, how faith can be ‘re-branded’ and different ways of exploring faith
  5. A commitment to the spiritual and emotional development of adults and young people who are new to faith
  6. An appreciation of the role of the Diocese of Bangor and its Vision Statement
  7. Experience of working as part of a team
  8. A high degree of liturgical literacy
  9. An active member of a Christian worshipping community

Basic skills

  1. Able to organise and deliver training courses, with the ability to adapt teaching style to meet different learning requirements
  2. An eye for design and great attention to detail
  3. A self-starter able to work on their own initiative and manage their own workload well
  4. Excellent communication skills and confident in liaising on all levels
  5. Able to build and maintain constructive partnerships and collaborative relationships with both internal and external clients
  6. High degree of computer literacy
  7. High levels of written and spoken Welsh are essential for this position

Desirable aptitudes

  1. Practical experience of working in a church
  2. Knowledge of the importance of Welsh speaking communities within the Church in Wales
  3. Knowledge of Welsh-language social media platforms and resources
  4. Experience of developing and implementing new resource material to a wider audience
  5. Experience of developing and sustaining an online presence across different social media platforms

Safeguarding

The role requires applicants to demonstrate a commitment to safeguarding children and vulnerable adults and have good awareness of relevant policies and procedures, statutory legislation and guidance. An enhanced DBS declaration will be required.

Principle terms

  • This is a full-time post funded for 5 years. The normal working hours will be Monday to Friday 9am-5pm.
  • The post is offered under terms and conditions of employment applicable to other lay appointments by the Bangor Diocesan Board of Finance.
  • A competitive salary is offered, dependent on qualifications and experience, in addition to a generous employer’s pension contribution.
  • Holiday entitlement will be 28 days per annum, plus statutory public holidays.

Recruitment process

  • Applications must be received by 12 noon on Wednesday 7 October 2020.
  • To apply, please send your CV together with a letter of application to the Director of Llan, James Tout.
  • Your CV should include the names of two referees, one of whom should be your current / most recent employer. We will not contact referees without seeking your permission.
  • Your letter of application should be no longer than 2 sides of A4, and must provide evidence of your suitability for this role.
  • Interviews are scheduled to take place on 19 and 26 October 2020.
  • You are welcome to contact the Director of Llan, James Tout, for an informal conversation about the role prior to applying.