
Y Ddolen
Rhifyn y Pedwerydd Sul ar Ddeg wedi'r Drindod | 5 Medi 2021

Neges oddi wrth yr Esgob
Annwyl gyfeillion
Dechreuodd Llythyr wythnosol yr Esgob ar ddechrau’r pandemig. Mae wedi tyfu dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf i ddod yn fodd gwerthfawr o rannu newydd am ein bywyd ar y cyd fel esgobaeth.
Wrth inni ddechrau ar dymor newydd, rwy'n awyddus inni barhau i gyfathrebu'n dda ac yn aml, ac i hysbys wythnosol ddod yn rhan gynaliadwy o'n bywyd esgobaethol.
Rwy’n falch felly y bydd cyfathrebiad wythnosol newydd, Y Ddolen, yn cael ei gyhoeddi, wedi ei gydlynu gan aelodau Tîm Deiniol, a gyda mewnbwn uniongyrchol gen i ac aelodau eraill o Gyngor yr Esgob yn ôl yr angen.
Bydd Y Ddolen yn ymddangos ar y wefan, gydag e-bost i'n hatgoffa, yn wythnosol ar ddydd Gwener. Bydd yn parhau i ddechrau gyda ffocws ar gyfer gweddi o fywyd yr esgobaeth, a bydd yn ein diweddaru ni oll am ddigwyddiadau, gweithgareddau, canllawiau a newydd da. Bydd hefyd yn cynnwys eitemau mwy myfyriol o bryd i'w gilydd.

Mae'n defnydd o Y Ddolen yn atgyfodi hen deitl o fywyd yr esgobaeth - sef ein cylchgrawn chwarterol rai blynyddoedd yn ôl - ar gyfer yr oes ddigidol hon. Y bwriad nawr, fel bryd hynny, yw helpu i'n gwau ni gyda'n gilydd fel esgobaeth mewn gwaith a gweddi ar y cyd.
Bu i mi ddiweddu pob un o Lythyra'r Esgob â gair am fy ngweddïau beunyddiol drosoch chi a'ch teuluoedd. Wrth i ni nawr ddechrau ar dymor arall, yn wynebu heriau newydd ac yn llawn gobaith o'r newydd, gwyddoch fod fy ngweddi drosoch yn parha'n gyson. Gweddïwch hefyd gyda mi dros ein hesgobaeth ac am bopeth y mae Duw yn ei wneud ac y bydd yn ei wneud yn ein plith dros y misoedd i ddod.
Os hoffech ailedrych ar unrhyw un o lythyrau'r Esgob gallwch ddod o hyd iddynt yma.

Cyd-weddïwn
Yn ein gweddïau y Sul hwn a thrwy gydol yr wythnos nesaf rydym yn cofio:
Ardal Weinidogaeth Bro Cyfeiliog a Mawddwy
Y rhai sy’n gwasanaethu yno:
- y Parchg Miriam Beecroft (Arweinydd Ardal Weinidogaeth)
- y Parchg Jen Evans
- y Parchg Peter Ward
- Ceri Sheppard (Efengylydd Lleyg Trwyddedig)
Cofiwn yn enwedig am:
- y tîm bugeiliol
- y rhai sy’n bryderus ac yn nerfus am fod allan yn y gymuned neu am ddod yn ôl i’r eglwys
- y berthynas barhaus gyda phawb sydd wedi cael cysylltiad â’r eglwys trwy brofedigaeth neu wasanaethau ar lein
- busnesau a chymunedau’r ardal

Dyddiadur
14-16 Medi
Cynhadledd Glerigol
14 Medi: Cymun Bendigaid yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandudno am 11am, ac yna cinio a chynnulliad yng Ngwesty San Sion yn Llandudno tan 2.30pm | Parcio rhad ac am ddim yn Eglwys y Drindod Sanctaidd
15 a 16 Medi: 9.30am-3.30pm ar Zoom | Egwyl am ginio 12.45pm-2pm
27 Medi
Cynhadledd yr Esgobaeth ar Zoom
2 Hydref
Cynhadledd yr Esgobaeth yn y Gadeirlan
Cymorth Cristnogol | Diolch a Diweddaru
Mae Cymorth Cristnogol yn cynnal dwy sesiwn i'w cefnogwyr ledled Cymru i edrych yn ôl a dathlu rhai o lwyddiannau wythnos Cymorth Cristnogol, ac i edrych ymlaen at y Cynhaeaf a'r uwchgynhadledd hinsawdd COP26.
Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal ar Zoom.
Cynhelir sesiwn Gymraeg ar 14 o Fedi am 10.30am
Bydd sesiwn Saesneg yn cael ei chynnal ar 15 o Fedi am 7pm

Gofal ein Gwinllan
Bydd Athrofa Padarn Sant yn ail ddechrau eu cyfres Hydref o sesiynau trafod Gofal ein Gwinllan ar 22 Medi. Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, ond bydd cyfieithiad ar gael i’r sawl sydd yn dymuno hynny.
Carchar Berwyn EM a'r Cyfeiriadur Croeso
Mae'r Cyfeiriadur Croeso yn gyfeiriadur cenedlaethol, aml-ffydd. Mae'n fan galw cyntaf ar gyfer caplaniaid pan yn cynghori carcharorion sy'n dymuno parhau â'u hymglymiad crefyddol ar ôl eu rhyddhau.
Mae'r Caplan Anglicanaidd yn ein carchar lleol, Carchar Berwyn EM, yn gwneud cais i bob eglwys sydd yn fodlon croesawu cyn-droseddwyr i ystyried cofrestru â'r Cyfeiriadur.
Ewch i The Welcome Directory i gael mwy o wybodaeth.
Cyfarwyddwr Cyfathrebu Newydd
Mae Naomi Wood wedi ei phenodi yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu fel rhan o Tîm Deiniol. Bydd Naomi yn gweithio yn y rôl hon ochr yn ochr â’i swydd fel Gweinidog Teulu yng Nghadeirlan Bangor. Bydd yn gyfrifol am Y Ddolen, ein gwefan esgobaethol a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol, ynghyd â’n strategaeth cyfathrebu cyffredinol.

Ennyd | Gofalu drosom ein hunain ac eraill
Amlygwyd yr angen i ofalu am ein lles a'n hiechyd meddwl ein hunain sawl tro yn ystod y pandemig.
Ar ddechrau pob mis bydd Y Ddolen yn cynnwys myfyrdod byr - ennyd i oedi - a rhywbeth ymarferol i roi cynnig arno.
Sut
wyt
ti?
Mae'n gwestiwn a ofynnir sawl gwaith y dydd mewn sgwrs achlysurol, cyfarfodydd ffurfiol a hyd yn oed fel cyfarchiad syml ar y stryd. Efallai y bydd gennym ddiddordeb gwirioneddol mewn gwybod, neu yn fodd i gychwyn sgwrs yn unig. Pan fyddwn yn ateb y cwestiwn ein hunain, yn aml nid ydym yn talu fawr o sylw i'n hymateb, gyda "iawn diolch, sut ydych chi?" cyn symud ymlaen i bynciau 'pwysicach'.
Beth fyddai'r ateb pe byddech chi wir wedi meddwl amdano? Cymerwch funud rwan i feddwl? Sut ydw i heddiw?
Beth wnaethoch chi sylwi arno? Sut mae'ch corff yn teimlo? Ble mae eich meddwl? Gallwch ysgrifennu'r pethau hyn i lawr os dymunwch.
Nid yw hwn yn ymarfer datrus problemau, efallai y byddwch chi'n teimlo wedi ymlacio, yn gyffrous neu'n obeithiol. Efallai y byddwch chi'n adnabod pryderon neu gwestiynau, neu'n gweld eich bodnyn canolbwyntio ar y gorffennol neu'r dyfodol. Bydd beth bynnag a deimlwch yn ddilys, eich profiad byw ydyw. Nid oes disgwyl i ddim newid ond mae sylwi, cydnabod a labelu yn ffactorau pwysig mewn hunanofal a lles.
Ceisiwch: ofyn i'ch hun ar ryw adeg bob dydd "sut ydw i ar hyn o bryd?" gan roi sylw i'ch canfyddiad.
Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Y Ddolen ac hysbysiadau esgobaethol eraill
Y Ddolen
The Fourteenth Sunday after Trinity edition | 5 September 2021

A message from the Bishop
Dear friends
The weekly Bishop’s Letter began at the start of the pandemic. It has grown over the past year and a half to become a valued means of sharing news about our common life as a diocese.
As we enter a new season, I am eager for us to continue to communicate well and often, and for a weekly communication to become a sustainable part of our diocesan life.
I’m therefore pleased that a new weekly communication, Y Ddolen, will be published, complied by members of Tîm Deiniol, and with direct input from me and other members of the Bishop’s Council as appropriate.
Y Ddolen will appear on the website, with a reminder email, weekly on Fridays. It will continue to begin with a focus for prayer from the life of the diocese, and will update us all about events, activities, guidance and good news. It will also include more reflective items from time to time.

Y Ddolen sees us resurrecting an old title from the life of the diocese - that of our quarterly magazine some years ago - for this digital age. The intention then, as now, is to help to knit us together as a diocese in common action and prayer.
I have ended every one of my Bishop’s Letters with the assurance of my daily prayers for you and your families. As we now begin another season, facing new challenges and renewed hope, please know that my prayer for you continues to be offered. Please pray with me for our diocese and for all that God is doing and will do among us over the months ahead.
If you'd like to revisit any of the Bishop's Letters, you can find them here.

Let us pray
In our prayers this Sunday and through the week we remember:
the Ministry Area of Bro Cyfeiliog a Mawddwy
Those who serve there:
- the Revd Miriam Beecroft (Ministry Area Leader)
- the Revd Jen Evans,
- the Revd Peter Ward,
- Ceri Sheppard (Licensed Lay Evangelist)
In particular we remember:
- the pastoral team
- the care of those anxious and nervous about being out in community or coming back to church
- continued relationships with all who have been connected to the church through bereavement or online services
- local businesses and community

Diary
14-16 September
Clergy Conference
14 September: Holy Eucharist at Holy Trinity Church, Llandudno at 11am, followed by lunch and time together at the St George's Hotel in Llandudno until 2.30pm | Free parking available at Holy Trinity Church
15 & 16 September: 9.30am-3.30pm on Zoom | Lunch break 12.45pm-2pm
27 September
Diocesan Conference on Zoom
2 October
Diocesan Conference at the Cathedral
Christian Aid | Thank you and Thinking Ahead
Christian Aid are hosting two sessions for their supporters across Wales to look back and celebrate some of the successes of Christian Aid week and to look forward to Harvest and the COP26 climate summit.
The sessions will be held on Zoom.
A Welsh-language session will be held on 14 September at 10.30am
An English-language session will be held on 15 September at 7pm

Gofal ein Gwinllan
St Padarn's Institute will be starting their Autumn series of Gofal ein Gwinllan discussion sessions on 22 September. The sessions will be held in Welsh but translation will be available to those that require it.
HMP Berwyn and the Welcome Directory
The Welcome Directory is a national multi-faith directory. It is the first port of call for prison chaplains when advising prisoners who wish to continue their religious involvement on their release.
The Anglican Chaplain at our local prison, HMP Berwyn, is asking churches in the diocese who would welcome ex-offenders to consider signing up to the Welcome Directory.
Please visit The Welcome Directory for more information.
A new Director of Communications
Naomi Wood has been appointed as Director of Communications as part of Tîm Deiniol. Naomi will work in this role alongside her role as Family Minister at Saint Deiniol's Cathedral, and will be responsible for Y Ddolen, our diocesan website and social media platforms, along with our overall communications strategy.

Pause | Minding myself and one another
Looking after our own wellbeing and mental health has been highlighted many times throughout the pandemic.
At the start of each month Y Ddolen will include a short reflection - an opportunity to pause - and something practical to try.
How
are
you?
It's a question asked many times a day in casual conversation, formal meetings and even as a simple greeting in the street. We might be genuinely interested to know, or simply starting a conversation. When we answer the same question ourselves, we often pay little attention to our response, with "fine thanks, how are you?" before swiftly moving on to 'more important' topics.
What would the answer be if you really thought about it? Take a minute now to check in with yourself? How am I today?
What did you notice? How does your body feel? Where is your mind? You can write these things down if you like.
This isn't a problem-seeking exercise, you might find yourself feeling relaxed, excited or hopeful. You might identify concerns or questions, or find your mind is focussed on the past or future. Whatever you find is valid, it is your lived experience. There is no expectation of change but noticing, acknowledging and labelling are important factors in self care and wellbeing.
To try: ask yourself "how am I right now" at some point each day and just notice what you find.
Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.