
Y Ddolen
7 Tachwedd 2021
Gŵyl Saint Cymru | Ail Sul y Deyrnas
Y Sul hwn, a thrwy gydol yr wythnos nesaf rydym yn gweddïo am:
Ardal Weinidogaeth
Bro Eifionydd
gan gynnwys y rhai sy’n gwasanaethu yno:
- Y Parchg Kim Williams
- Y Parchg Nick Golding
- Y Parchg Peter Kaye
- Y Parchg Susan Owen
- Y Parchg Sue Williams
- Darllenydd Bronwen Laycok
Gofynnir am ein gweddïau yn arbennig am:
- ffordd ffrwythlon ymlaen gyda phrosiect cenhadaeth Porthmadog wrth i ni geisio gwasanaethu'r gymuned ehangach yn well
- ein timau Agor y Llyfr wrth iddynt baratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf
- gweledigaeth newydd, obeithiol ar gyfer dyfodol Bro Eifionydd wrth i ni ymgysylltu â'r byd ar ôl y pandemig

Dyddiadur
18 Tachwedd
Lansiad adnoddau digwyddiadau bywyd
Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi bod yn cyfarfod ac yn cefnogi pobl yn ystod adegau allweddol yn eu bywydau ers dros 100 mlynedd. Mae'r digwyddiadau bywyd yma yn rhan greiddiol o'n cenhadaeth a'n gweinidogaeth.
Cysylltu â Thŷ'r Esgob
Yn anffodus nid yw'r llinellau ffôn yn Nhŷ'r Esgob yn gweithio ar hyn o bryd. Gyrrwch unrhyw gyfathrebiad drwy law Robert Jones, cynorthwy-ydd yr Esgob.

Esgob Newydd i Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu
Dewiswyd Archddiacon Wrecsam, John Lomas, yn 10fed Esgob Abertawe ac Aberhonddu, esgobaeth sy’n ymestyn hyd arfordir Penrhyn Gŵyr i’r de a thua’r gogledd ac yn cynnwys rhan helaeth o Ganolbarth Cymru.
Cyhoeddwyd penodiad John yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu ar Ddydd Iau (4 Tachwedd) gan esgobion yr Eglwys yng Nghymru. Mae’n dilyn ymddeoliad Archesgob Cymru, John Davies, ym mis Mai, oedd hefyd yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu.
Cadarnheir y penodiad ar 22 Tachwedd mewn cyfarfod o Synod Cysegredig Esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn Eglwys San Silyn, Wrecsam.
Cadwch yr Esgob-Ethol ac Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu yn eich gweddïau.
I ddarllen rhagor am y penodiad gweler yma.

Cyfarfod Grŵp Cadfan
Bu i Grŵp Cadafn (o Arweinwyr Ardaloedd Gweinidogaeth a Ficeriaid ar y Cyd) gwrdd yn Nant Gwrtheyrn yr wythnos hon. Dyma'r dogfennaeth a ddefnyddiwyd yno.

Ennyd | Gofalu am ein hunain ac eraill
Amlygwyd yr angen i ofalu am ein lles a'n hiechyd meddwl ein hunain sawl tro yn ystod y pandemig.
Ar ddechrau pob mis mae Y Ddolen yn cynnwys myfyrdod byr - ennyd i oedi - a rhywbeth ymarferol i roi cynnig arno.
Gwnewch y peth iawn
Gwnewch y peth iawn. Mae'n beth mor hawdd i'w ddweud. Ond beth mae'n ei olygu mewn gwirionedd?
Pwy sy'n cael penderfynu beth yw 'y peth iawn', a sut? Beth sy'n ein helpu i benderfynu beth yw'r peth iawn i'w wneud? Mae atebion di-rif i'r cwestiynau hyn ac nid oes yr un ohonynt yn 'iawn'. Felly, sut ydym ni'n dewis neu'n penderfynu'n unigol?
Mae llawer o ffactorau'n cyfrannu at ein dewisiadau a'n penderfyniadau. Mewn gwahanol gyd-destunau efallai y byddwn yn cymryd camau gwahanol ond, un ffactor pwysig i'w ystyried yw ein Gwerthoedd. Er eu bod yn gysylltiedig â chredoau ac egwyddorion, mae gwerthoedd yn llawer mwy na hynny. Maent yn strwythurau seicolegol mewnol sy'n gallu llywio camau gweithredu.
Dyma ein dyheadau dyfnaf am y ffordd yr ydym am ymddwyn a sut rydym yn rhyngweithio â ni ein hunain, pobl eraill a'r byd o'n cwmpas. Yn y bôn, maent yn cyfeirio at y math o berson yr ydym am fod ac maent yn llunio ein safbwynt ar yr hyn sy'n 'iawn'. Nid ydym byth yn cyflawni ein gwerthoedd ond gallant ein harwain a'n hysgogi tuag at ymddywyn mewn modd penodol.
Mae'r ffordd yr ydym yn byw ein bywydau yn hanfodol i'n hymdeimlad o les. Pan fydd ein dewisiadau a'n gweithredoedd yn cael eu arwain gan ein gwerthoedd craidd rydym yn fwy tebygol o elwa ar ymdeimlad o les, boddhad a bodlonrwydd. I'r gwrthwyneb pan fyddwn yn ymddwyn mewn ffyrdd sy'n gwrthdaro â'r hyn sy'n wirioneddol bwysig i ni, rydym yn amlygu ein hunain i amrywiaeth o deimladau anghyfforddus gan gynnwys euogrwydd, pryder, straen a dicter. Mae'n hanfodol, felly, i wybod beth mewn gwirionedd yw ein gwerthoedd, fel y gallwn wneud penderfyniadau ymwybodol ynghylch sut yr ydym yn dewis ymddwyn, ym mywyd bob dydd ac mewn sefyllfaoedd heriol.
Cyfeirir at werthoedd personol, proffesiynol, tîm a sefydliadol yn ein bywydau o ddydd i ddydd ac rwy'n siŵr y gallem i gyd restru pethau sy'n bwysig i ni. Ond, a ydym yn gwybod yn iawn beth yw ein gwerthoedd craidd dyfnaf? A ydym yn ymwybodol o'r hyn sy'n ein gyrru a'n cyfarwyddo yn ein dewisiadau a'n hymddygiad? A ydym yn gwybod pam ein bod yn penderfynu mai rhywbeth yw'r peth iawn i'w wneud? I lawer ohonom, wrth wynebu'r cwestiwn hwn, yr ateb syml yw "ddim mewn gwirionedd". Felly sut allwn ni gael gwybod?
Un ffordd o ddechrau nodi gwerthoedd yw ystyried y cwestiwn yn ofalus, "Pe bai pobl yn siarad amdanaf, beth fyddwn i am iddynt ei ddweud?" Gall eich atebion i'r cwestiwn hwn ddweud wrthych am y person rydych am fod: eich gwerthoedd. Rhowch gynnig arni i weld beth fydd eich ymatebion.
Dyddiadau 2022
Synodau
Meirionydd - Dydd Llun
10am 14 Chwefror, 27 Mehefin, 10 Hydref
Ynys Môn - Dydd Llun 7pm
14 Chwefror, 27 Mehefin, 10 Hydref
Bangor - Dydd Mawrth 10am
15 Chwefror, 28 Mehefin, 11 Hydref
Grŵp Cadfan
Yn Nant Gwrtheyrn - Amser cinio i amser cinio
28 a 29 Mawrth
1 a 2 Rhagfyr
Cynhadledd Clerigion
12 i 15 Medi yn Rhydychen
Cymun y Crism
11 Ebrill - 11am yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Gwasanaeth Ordeinio
25 Mehefin - 11am yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Cynhadledd yr Esgobaeth
1 Hydref - 2pm yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Y Ddolen ac hysbysiadau esgobaethol eraill
Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Y Ddolen
7 November 2021
The Feast of the Saints of Wales | The Second Sunday of the Kingdom
This Sunday and through the week we pray for:
the Ministry Area of Bro Eifionydd
including those who serve there:
- The Revd Kim Williams
- The Revd Nick Golding
- The Revd Peter Kaye
- The Revd Susan Owen
- The Revd Sue Williams
- Reader Bronwen Laycock
Our prayers in particular are asked for:
- a fruitful way forward with the Porthmadog mission project as we seek to better serve the wider community
- our Open the Book teams as they prepare for the next academic year
- a renewed, hopeful vision for the future of Bro Eifionydd as we engage with the post-pandemic world

Diary
18 November
Launch of life events resources
The Church in Wales has been meeting and supporting people during key moments in their lives for over 100 years. These life events represent a core part of our mission and ministry.
Contacting Tŷ'r Esgob
Unfortunately the phone lines at Tŷ'r Esgob are not working at present. Please direct any communication through Robert Jones, the Bishop's assistant.

A new Bishop for the Diocese of Swansea and Brecon
The Archdeacon of Wrexham, John Lomas, has been chosen as the 10th Bishop of Swansea and Brecon, a diocese which stretches south to the coast of the Gower and north into much of mid-Wales.
The announcement of John’s appointment as Bishop of Swansea and Brecon was made Thursday 4 November by the Church in Wales bishops. It follows the retirement in May of the Archbishop of Wales, John Davies, who was also the Bishop of Swansea and Brecon.
The appointment will be confirmed on 22 November at a meeting of the Sacred Synod of Church in Wales Bishops at St Giles’ Church, Wrexham. Archdeacon John’s consecration as Bishop will take place at a date yet to be fixed.
Please keep the Bishop-Elect and the Diocese of Swansea and Brecon in your prayers.
Click here to read more about this appointment.

Grŵp Cadfan gathering
Grŵp Cadfan (Ministry Area Leaders and Associate Vicars) met this week at Nant Gwrtheyrn. Here are the documents that were used there.

Pause | Minding myself and others
Looking after our own wellbeing and mental health has been highlighted many times throughout the pandemic.
At the start of each month Y Ddolen includes a short reflection - an opportunity to pause - and something practical to try.
Do the right thing
Do the right thing. It's such an easy thing to say.
But what does it actually mean?
Who gets to decide what ‘the right thing’ is, and how? What helps us to decide whether something is the right thing to do? There are countless answers to these questions and none of them are ‘right’. So, how do we individually choose or decide?
Many factors contribute to our choices and decisions. In different contexts we may find ourselves taking different actions. One important factor to consider is our Values. Although they are linked with beliefs and principles, values are much more than that. They are internal psychological structures that can guide actions. They are our deepest desires for how we want to behave and how we interact with ourselves, other people and the world around us. Essentially they refer to the type of person we want to be and they shape our perspective on what is ‘right’. We don’t ever achieve our values but they can guide and motivate us towards particular behaviours.
The way in which we are living our lives is fundamental to our sense of wellbeing. When our choices and actions are directed by our core values, i.e. we do the right thing, we are more likely to benefit from a sense of wellbeing, satisfaction and contentment. In contrast when we behave in ways that conflict with what really matters to us, we expose ourselves to a range of uncomfortable feelings including guilt, anxiety, stress and anger. It is, therefore, essential to know what our values truly are, so that we can make conscious choices about how we choose to behave, both in every day life and in challenging situations.
Personal, professional, team and organisational values are all referred to causally in our day to day lives and I’m sure we could all list things that are important to us, but do we really know what our deep, core values are? Are we conscious of what drives and directs us in our choices and behaviours? Do we know why we decide that something is the right thing to do? For many of us, when confronted with this question the simple answer is “not really”. So how can we find out?
One way of beginning to identify values is to consider carefully the question, “If people were talking about me, what would I want them to say?” Your answers to this question can tell you about the person you want to be: your values. Give it a go and see what comes up for you.
Dates 2022
Synods
Meirionydd - Monday 10am
14 February, 27 June, 10 October
Anglesey - Monday 7pm 14
February, 27 June, 10 October
Bangor - Tuesday 10am
15 February, 28 June, 11 October
Grŵp Cadfan
At Nant Gwrtheyrn - Lunch time to lunch time
28 - 29 March
1 - 2 December
Clergy Conference
12 to 15 September in Oxford
Chrism Eucharist
11 April - 11am in Saint Deiniol's Cathedral
Ordination Service
25 June - 11am in Saint Deiniol's Cathedral
Diocesan Conference
1 October - 2pm in Saint Deiniol's Cathedral
Subscribe to receive email notification of Y Ddolen and other diocesan announcements
Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.