minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Y Ddolen


23 Gorffennaf 2023

Y Seithfed Sul wedi'r Drindod


Y Sul hwn a thrwy gydol yr wythnos gweddïwn dros

holl blant a theuluoedd yr esgobaeth

Gweddïwn yn enwedig:

  • am gyfnod o ymlacio a mwynhau ar ôl blwyddyn academaidd brysur
  • heddwch i'r rhai sy'n aros am ganlyniadau arholiadau
  • y rhai sydd yn dechreu dosbarthiadau newydd, ysgolion, colegau, a phrifysgolion yn mis Medi, gan ddiolch am y cwbl a fu
  • y teuluoedd sy'n bryderus am wyliau'r haf a'r hyn y gallai hynny ei olygu'n ariannol

Rhufain | Rome

Neges oddi wrth Archesgob Cymru ac Esgob Bangor

Annwyl ffrindiau,

Ym 1123 datganodd y Pab Callixtus II fod dau ymweliad â Thyddewi yn cyfateb i un bererindod i Rufain.

Mae thema pererindod yn atseinio’n eithaf cryf gyda ni yn yr esgobaeth hon. Rydym wedi gweld bod y daith gorfforol yn gallu gwahodd taith ysbeidiol a phan fyddwn yn ymweld â lleoedd mae cyfle i gysylltu â Duw. Er y gallai hyn fod yn anghyfarwydd i rai ohonom, bydd y thema o 'daith' yn atseinio gyda phob un ohonom - a phan fyddwn yn gosod hyn yng nghyd-destun y daith tuag at dragwyddoldeb yn Iesu Grist mae'n cymryd arwyddocâd dyfnach.

Fy ngweddi drosom ni i gyd yn yr wythnosau nesaf yw y byddwn ni’n gallu darganfod Crist o’r newydd a darganfod llawenydd newydd wrth gerdded yn agosach gydag ef. Os byddwch i ffwrdd dros gyfnod yr haf gobeithio y cewch chi seibiant da a dod yn ôl wedi'ch adfywio.

Gyda fy nymuniadau gorau,

+Andrew Cambrensis


Esgobaeth Bangor yn yr Eisteddfod

Dros gyfnod yr Eisteddfod mae gan Esgobaeth Bangor stondyn ym mhabell Cytûn gydag ystod eang o weithgareddau ar y maes.

Mae croeso cynnes i bawb i ymweld â'r stondyn a chymryd rhan yn y gweithgareddau. Dyma flas ar y rhaglen:

Sul 6 Awst 3.00pm
Drama Mewn Cymeriad Cadfan gan Llion Williams

Llun 7 Awst 6.00pm
Gwylnos Heddwch gydag Archesgob Cymru 

Mawrth 8 Awst 12.00pm
Pererindod o gwmpas y maes

Mercher 9 Awst 1.00pm
Llwybr Cadfan - Dathliad mewn barddoniaeth a chân o leoliadau a gwaith y prosiect

Gwener 11 Awst 10.00am
Bydd Archesgob Cymru'n cael ei dderbyn i'r Orsedd

Gwener 11 Awst 2.30pm
Côr y Gadeirlan yn canu



Rhestr Gwylio'r Byd 2023

Ers rhai blynyddoedd mae Open Doors, elusen sy’n cefnogi’r eglwys sy’n cael ei herlid, wedi cyhoeddi ei ‘Rhestr Gwylio’r Byd’. Mae'n adnodd gwych i'n helpu ni i weddïo dros ein chwiorydd a’n brodyr sy’n wynebu bywyd go ansicr oherwydd eu ffydd yng Nghrist.

Mae’n addas ar gyfer unigolion, eglwysi, capeli, cyfarfodydd gweddi ac ati. Mae'r adnodd ar gael yn Gymraeg, yn rhad ac am ddim ac mae croeso i chi archebu hyd at 50 gopi o wefan Open Doors. 


Sioe gerdd mewn diwrnod

Bydd Roger Jones o gerddoriaeth CMM yn Eglwys Sant Idloes, Llanidloes ar 16 Medi yn ymarfer ac yn perfformio 'Saints Alive, A Pentecost musical'. Mae sesiynau 'dewch i ganu' o 2.00pm gyda'r perfformiad am 7.00pm.

Os hoffech chi ymuno cysylltwch â Bernard ar 07979 830724 am fwy o wybodaeth a sgôr cerddorol.


Cliciwch ar y poster i ymweld â wefan Pythons Natur Cymru


Dyddiadur

5-12 Awst
Eisteddfod Genedlaethol Cymru

26-29 Awst
Encil ar Enlli
Dyma penllanw prosiect llenyddol Cymraeg Llwybr Cadfan

1 Hydref
Sefydlu Archddiaconiaid newydd
3.30pm
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor


Rhannu Gwybodaeth

Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Naomi Wood erbyn diwedd y ddydd Mercher cyn iddi gael ei gyhoeddi.


Cymraeg

Y Ddolen


23 July 2023

The Seventh Sunday after Trinity


This Sunday and through the week we pray for

the children and families of the diocese

We pray in particular for

  • a time of relaxation and enjoyment after a busy academic year
  • peace for those who are waiting for exam results
  • those who are beginning new classes, schools, colleges, and universities in September, giving thanks for all that has been
  • the families who are apprehensive about the summer holidays and what that may entail financially

Cadeirlan Dewi Sant, Sir Benfro | Saint Davids Cathedral, Pembrokeshire

A message from the Archbishop of Wales and Bishop of Bangor

In 1123 Pope Callixtus II declared that two visits to Saint Davids was equivalent to one pilgirmage to Rome.

The theme of pilgrimage resonates quite strongly with us in this diocese. We have seen that the physical journey can invite a spitirual journey and that when we visit places there is the opportunity to connect with God. Although this might be unfamiliar to some of us, the theme of journey will resonate with all of us. And when we set this in the context of the journey towards eternity in Jesus Christ it takes on deeper significance.

My prayer for us all in the next weeks is that we will be able to discover Christ afresh and discover new joy in a closer walk with him. If you are away over the summer period I hope you have a good break and come back refreshed.

With my best wishes

+Andrew Cambrensis


The Diocese of Bangor at the Eisteddfod

During the Eisteddfod the Diocese of Bangor has a stand in the Cytûn tent with a wide range of activities.

Everyone is very welcome to visit the stand and to take part in the activities. Here is a taste of the programme:

Sunday 6 August 3.00pm
A Cadfan Character Drama by Llion Williams

Monday 7 August 6.00pm
Peace Vigil with the Archbishop of Wales

March 8 August 12.00pm
Pilgrimage around the field

Wednesday 9 August 1.00pm
Cadfan Trail - A celebration in poetry and song of the project's locations and work

Friday 11 August 10.00am
The Archbishop of Wales will be received into Yr Orsedd

Friday 11 August 2.30pm
The Cathedral Choir perform



World Watch List

For some years Open Doors, a charity which supports the persecuted church, has published its 'World Watch List'. It is a great resource to help us pray for our sisters and brothers who are facing an uncertain life because of their faith in Christ.

It is suitable for individuals, churches, chapels, prayer meetings etc. The resource is free and you are welcome to order up to 50 copies from the Open Doors website.


A musical in a day

Roger Jones from CMM music will be in Saint Idloes Church, Llanidloes on 16 September rehearsing and performing Saints Alive, A Pentecost musical. There are 'come and sing' sessions from 2.00pm with the performance at 7.00pm.

If you would like to join in please contact Bernard on 07979 830724 for more information and a musical score.


Click on the poster to view Wales Nature Week website


Diary

5-12 August
National Eisteddfod

26-29 August
Enlli retreat
This is the pinnacle of the Llwybr Cadfan Literary project.

1 October
Installation of new Archdeacons
3.30pm
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor


Sharing information

If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Naomi Wood by the end of day on Wednesday before you would like it published.