minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Llong fordeithio a fferi yng Nghaergybi | Cruise ship and ferry at Holyhead
English

Y Ddolen


30 Gorffennaf 2023

Yr Wythfed Sul wedi'r Drindod


Y Sul hwn a thrwy gydol yr wythnos gweddïwn dros

weithgareddau'r haf ar draws yr esgobaeth

Gweddïwn yn enwedig:

  • cenadaethau traeth
  • grwpiau plant bach a phlant
  • y rhai sy'n cynnig bwyd a chymrodoriaeth
  • ein gweinidogaeth a'n cenhadaeth gyda phobl ar eu gwyliau

Nant Gwrtheyrn

Neges oddi wrth y Parchg James Tout, Caplan i Archesgob Cymru

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae Cyngor yr Esgob wedi bod ar encilio yn Nant Gwrtheyrn, cyfle i fyfyrio, gweddïo, addoli a chynllunio gyda'i gilydd ar gyfer bywyd yr Esgobaeth.

Mae darlleniad yr Efengyl a osodwyd ar gyfer y Sul hwn yn rhoi pum dameg wahanol inni, ac ynddynt i gyd mae Iesu'n dweud, "Mae teyrnas nefoedd yn debyg i." Mae'n fy atgoffa o'r llu o ffyrdd yr ydym yn gweld Duw ar waith yn ein cymunedau ac o'u cwmpas, ond yn aml, ym mhwrlwm bywyd, gallwn golli'r rhain. Mae cymryd amser i adfywio, i encilio ac i weddïo, er mwyn dirnad ble mae Duw yn y gwaith a sut y gallwn gymryd rhan yn hynod bwysig.

Mae darlleniad yr Efengyl yn gorffen gyda Iesu'n annerch y disgyblion, "Ydych chi wedi deall hyn i gyd?" Atebasant, "Ie." Ac meddai wrthynt, "Am hynny y mae pob ysgrifennydd sydd wedi ei hyfforddi ar gyfer teyrnas nefoedd yn debyg i feistr tŷ sy'n dwyn allan o'i drysor yr hyn sy'n newydd a'r hyn sy'n hen. Ar yr adeg hon o'r flwyddyn pan fydd y tymheredd yn gynhesach, a'r tywydd yn well (i fod i fod yn well beth bynnag!) a gaf eich annog i gymryd amser i adnewyddu eich hunain, i weddïo, i fyw gyda Duw, a chwilio lle mae Duw eisoes ar waith, gan ddod â'r trysor sy'n newydd ac yn hen allan.

Gyda phob bendith

James


...a thiroedd glas Boduan
y maes prydfertha’ fu

Fel yr ydych yn ymwybodol bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â ardal Llŷn ac Eifionydd ac yn fwy penodol Boduan. O 5 - 12 Awst bydd yr ardal hon o Esgobaeth Bangor yn fwrlwm o liw, cerddoriaeth, llenyddiaeth a chymreictod. Mae’r paratodadau yn mynd rhagddi gyda’r ffyrdd a'r pentrefi o amgylch y dalgylch wedi eu haddurno yn wych.

Dewch i ddweud helo

Bydd gan Esgobaeth Bangor gynrychiolaeth ar faes yr Eisteddfod eleni ar ffurf pabell ‘Pererin’. Pererin yw enw’r ffrwd pererindod, sy'n rhan o'r prosiect esgobaethol ehangach ‘Llan’. Efallai eich bod eisoes yn ymwybodol o lwybr pererindod deheuol newydd o'r enw Llwybr Cadfan. Rydym yn lansio y llwybr hwn fel rhan o ffrwd Pererin. Bydd y stondin ar faes yr Eisteddfod yn arddangos gwybodaeth am y llwybr, ynghyd â pherfformiadau barddoniaeth a cherddoriaeth gan y Prosiect Llenyddol Cymraeg, Llwybr Cadfan.

Bydd y ddrama ‘Cymeriad Cadfan’, gyda’r actor amryddawn Llion Williams yn portreadu’r Sant yn cael ei pherfformio ar y maes. Digwyddiad hwyliog ac unigryw arall sydd wedi cael ei drefnu ar ddydd Mawrth yw ŵyl yw ‘Pererindod y maes’; lle bydd beirdd preswl y prosiect llenyddol Llwybr Cadfan ynghyd â Twm Morys, Gwyneth Glyn-ac ambell i wyneb cyfarwydd arall; yn ein harwain o amgylch y maes dan ganu ac adrodd eu cerddi. Bydd y beirdd hefyd yn cymryd rhan mewn sesiwn ym mhabell y cymdeithasau ddydd Mercher. Digwyddiad hwyliog eto fydd hwn yn olrhain dechreuad y prosiect unigryw yma ac yn gyfle i glywed peth o’r ffrwyth gwaith gan y beirdd eu hunain.

Bydd Archesgob Cymru, Y Parchedicaf Andrew John hefyd yn bresenol sawl diwrnod ar faes y brifwyl. Bydd yn rhan o Oedfa’r Eisteddfod ar y bore Sul cyntaf. Yn ogystal mae’n gyfrifol am wylnos heddwch ym mhabell Cytûn ar y nos Lun ac yn cael ei urddo er anrhydedd i Orsedd y Beirdd ar fore Gwener yr Eisteddfod.

O Fangor i Foduan…

Digwyddiad arbennig arall sydd yn rhan o arlwy’r Eisteddfod yw Gwasanaeth arbennig o Gymun Bendigaid ar Gân. Bydd côr Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor yn ymweld ag Eglwys Pedr Sant ym Mhwllheli a hynny ar nos Wener 11 Awst am 6.00pm. Bydd Is-Ddeon y Gadeirlan y Canon Siôn Rhys Evans yn pregethu.

Cliciwch ar y llun am fersiwn mwy

Y Parchg J. Lloyd Jones

Darlith er cof am Y Parchg J. Lloyd Jones

"Dringo'r ail fynydd: y dyfodol i eciwmeniaeth yng Nghymru?"

Bydd y Parchg Siôn Brynach, Prif Weithredwr Cytûn, yn rhoi darlith er cof am y Parchg Lloyd Jones, cyn Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Beuno Sant Uwch Gwyrfai, a fu farw yn anffodus ym mis Rhagfyr 2020.

Dydd Mercher 9 Awst, 7.00pm yn Eglwys Beuno Sant, Clynnog Fawr

Does dim rhaid archebu sedd, ond os hoffech wneud cysylltwch â eglwysiBSUG@cinw.org.uk.




Dyddiadur

5-12 Awst
Eisteddfod Genedlaethol Cymru

26-29 Awst
Encil ar Enlli
Dyma penllanw prosiect llenyddol Cymraeg Llwybr Cadfan

1 Hydref
Sefydlu Archddiaconiaid newydd
3.30pm
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor


Rhannu Gwybodaeth

Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Naomi Wood erbyn diwedd y ddydd Mercher cyn iddi gael ei gyhoeddi.


Cymraeg

Y Ddolen


30 July 2023

The Eighth Sunday after Trinity


This Sunday and through the week we pray for

summer activities across the diocese

We pray in particular for

  • beach missions
  • toddler and children's groups
  • those offering food and fellowship
  • our ministry and mission with holiday makers

Nant Gwrtheyrn

A message from the Revd James Tout, Chaplain to the Archbishop of Wales

During this last week, the Bishop’s Council have been on retreat in Nant Gwrtheyrn, an opportunity to reflect, pray, worship and plan together for the life of the Diocese.

The Gospel reading set for this Sunday gives us five different parables, and in all of them Jesus says, “The kingdom of heaven is like…” It reminds me of the myriad of ways that we see God at work in and around our communities, but often, in the hustle and bustle of life, we can miss these. Taking time to refresh, to retreat, to pray, in order to discern where God is at work and how we can get involved is hugely important.

The Gospel reading finishes with Jesus addressing the disciples ‘Have you understood all this?’ They answered, ‘Yes.’ And he said to them, “Therefore every scribe who has been trained for the kingdom of heaven is like the master of a household who brings out of his treasure what is new and what is old.” At this time of year when the temperature is warmer, and the weather is better (supposed to be better anyway!) can I encourage you to take time to refresh yourselves, to pray, to dwell with God, and seek where God is already at work, bringing out the treasure that is new and old.

With every blessing

James


...and the pastures of Boduan
a beautiful field have been

As you may be aware, the National Eisteddfod will visit the Llŷn and Eifionydd area and more specifically Boduan. From 5 - 12 August this area of the Diocese of Bangor will be bursting with colour, music, literature and 'welshness'. The preparations are going ahead with the roads and villages around the area being wonderfully decorated.

Come and say hello...

The Diocese of Bangor will be represented at this year's Eisteddfod in the form of a 'Pilgrim' tent. The pilgrimage stream is called Pererin, part of the wider diocesan project 'Llan'. You may already be aware of a new southern pilgrimage route called the Cadfan Trail. We launch this route as part of the Pilgrim stream. The stand at the Eisteddfod field will showcase information about the route, along with poetry and music performances by the Welsh Literary Project, Llwybr Cadfan.

The play 'Cadfan's Character', starring actor Llion Williams portraying the Saint, will be performed on the 'maes'. Another fun and unique event that has been organised on Tuesday is a pilgrimage; where the resident poets of the literary project, Llwybr Cadfan, along with Twm Morys, Gwyneth Glyn and a few other familiar faces lead us around the field singing and reciting their poems. The poets will also take part in a session in the societies tent on Wednesday. This will be a fun event again tracing the beginnings of this unique project and an opportunity to hear some of the work from the poets themselves.

The Archbishop of Wales, The Most Reverend Andrew John, will also be present for several days of the festival. He will be part of Oedfa'r Eisteddfod on the first Sunday morning. He is also responsible for a peace vigil in the Cytûn tent on the Monday evening and will be invested into the 'Gorsedd y Beirdd' on the Friday morning of the Eisteddfod.

From Bangor to Boduan...

Another special event that is part of the Eisteddfod's offering is a Service of Choral Holy Eucharist. The choir of Saint Deiniol's Cathedral in Bangor will visit Saint Peter's Church in Pwllheli on Friday 11 August at 6.00pm. The Sub-Dean of the Cathedral Canon Siôn Rhys Evans will preach.

Click on the image for a larger version

The Revd J. Lloyd Jones

Lecture in memory of the Revd J. Lloyd Jones

“Climbing the second mountain: the future for ecumenism in Wales?”

The Revd Siôn Brynach, Chief Executive of Cytûn, will be giving a lecture in memory of the Revd Lloyd Jones, former Ministry Area Leader of Bro Beuno Sant Uwch Gwyrfai, who sadly died in December 2020.

Wednesday 9 August at 7.00pm in Saint Beuno's Church, Clynnog Fawr, 

There is no need to reserve a seat, but if you would like to please contact eglwysiBSUG@cinw.org.uk



Diary

5-12 August
National Eisteddfod

26-29 August
Enlli retreat
This is the pinnacle of the Llwybr Cadfan Literary project.

1 October
Installation of new Archdeacons
3.30pm
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor


Sharing information

If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Naomi Wood by the end of day on Wednesday before you would like it published.