
Y Ddolen
6 Awst 2023
Y Gweddnewidiad
Colect ar Sul y Gweddnewidiad
Hollalluog a thragwyddol Dduw, a ddatguddiaist ogoniant dy unig-anedig Fab, cyn ei Ddioddefaint, pan weddnewidiwyd ef ar y mynydd sanctaidd: caniatâ’n drugarog inni’r fath weledigaeth o’i ddwyfol fawredd, fel, wedi ein puro a’n nerthu gan dy ras, y newidir ni o ogoniant i ogoniant i fod yn gyffelyb iddo ef; trwy’r un Iesu Grist ein Harglwydd.

Neges gan Esgob Bangor ac Archesgob Cymru
Annwyl gyfeillion
Bydd rhai ohonoch wedi gwylio'r ddrama deledu 'The Sixth Commandment', stori wych ond annifyr. Mae'r gyfres yn portreadu marwolaethau'r athro Peter Farquhar ac Ann Moore-Martin. Er ei bod yn ddrama, mae'r digwyddiadau a ddisgrifir yn rhai go iawn. Yn y diwedd cafwyd Ben Fields, oedd hefyd yn dilyn galwedigaeth i’r weinidogaeth ordeiniedig, yn euog o lofruddio Peter Farquhar. Mae digwyddiadau fel hyn yn gwneud y penawdau wrth gwrs oherwydd eu bod yn ddramatig ac yn ofnadwy. Mae lefelau twyll a chreulondeb bron yn annirnadwy.
Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith diogelu a wneir yn yr eglwys yn llai amlwg na’r digwyddiadau rhyfeddol hyn ond yn hollbwysig. Mae gennym dîm ymroddedig o weithwyr proffesiynol sy'n cefnogi, cynghori, argymell a hyfforddi fel ein bod mewn sefyllfa well i ddarparu amgylchedd diogel ar draws yr eglwys. Mae’n hollbwysig felly ein bod yn cymryd diogelu o ddifrif ac yn cydweithredu’n llawn â’n cydweithwyr diogelu.
Byddaf yn cymeradwyo’r Sul Diogelu yn ddiweddarach yn y flwyddyn ond yn y cyfamser gofynnaf ichi sicrhau bod eich hyfforddiant eich hun a’r rhai o fewn eich Ardaloedd Gweinidogaeth yn gyfredol ac os oes gennych unrhyw bryderon i gysylltu â’n Tîm Diogelu.
Swyddog Diogelu Taleithiol Esgobaeth Bangor yw David Oliver. Wendy Lemon yw Rheolwr Diogelu yr Eglwys yng Nghymru.
Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw
+Andrew Cambrensis
Wythnos Carchardai
8-14 Hydref 2023
Mae Wythnos Carchardai am weld diwedd ar y dioddefaint dynol a achosir gan drosedd a charchar – i bawb yr effeithir arnynt. Bob mis Hydref maent yn casglu ynghyd eglwysi a sefydliadau o bob rhan o’r gymuned Gristnogol i gyhoeddi galwad i weddi am newid lle mae angen newid trwy ymgyrch wythnos o hyd gydag adnoddau print a digidol, sianeli cymdeithasol, digwyddiadau ac ymddangosiadau ar y cyfryngau.
Mae Wythnos Carchardai yn cael ei threfnu a’i chynnal gan 25 o sefydliadau sy’n dod ynghyd ddwywaith y flwyddyn fel Bwrdd Cyfeirio, a’r Gweithgorau llai sy’n cyfarfod yn fisol i gyflawni’r ymgyrchoedd galw-i-weddïo blynyddol.
I ymweld â'u gwefan ac i gael rhagor o wybodaeth cliciwch y botwm isod.

Ymchwilio cyfraniad yr Eglwys i ddiwylliant Cymru
Yn cynnwys 14 traethawd gan ysgolorion o fri, ffocws llyfr newydd yw dylanwad yr Eglwys dros gyfnod o 200-mlynedd rhwng cyfieithu’r Testament Newydd i’r Gymraeg yn 1567 a diwedd y 18fed ganrif.
Mae’r traethodau yn seiliedig ar sgyrsiau a roddwyd mewn cyfres o seminarau ar-lein a gynhaliwyd yn ystod y pandemig dan nawdd Sefydliad Padarn Sant. Caiff y llyfr, gyda’r teitl Gofal ein Gwinllan: Ysgrifau ar Gyfraniad yr Eglwys yng Nghymru i Lên, Hanes a Diwylliant Cymru, ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar 11 Awst.
Darlith er cof am Y Parchg J. Lloyd Jones
"Dringo'r ail fynydd: y dyfodol i eciwmeniaeth yng Nghymru?"
Bydd y Parchg Siôn Brynach, Prif Weithredwr Cytûn, yn rhoi darlith er cof am y Parchg Lloyd Jones, cyn Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Beuno Sant Uwch Gwyrfai, a fu farw yn anffodus ym mis Rhagfyr 2020.
Dydd Mercher 9 Awst, 7.00pm yn Eglwys Beuno Sant, Clynnog Fawr
Does dim rhaid archebu sedd, ond os hoffech wneud cysylltwch â eglwysiBSUG@cinw.org.uk
Dyddiadur
5-12 Awst
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
26-29 Awst
Encil ar Enlli
Dyma penllanw prosiect llenyddol Cymraeg Llwybr Cadfan
1 Hydref
Sefydlu Archddiaconiaid newydd
3.30pm
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
Rhannu Gwybodaeth
Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Naomi Wood erbyn diwedd y ddydd Mercher cyn iddi gael ei gyhoeddi.
Y Ddolen
6 August 2023
Transfiguration
Collect for Transfiguration Sunday
Almighty and everlasting God, who before the Passion of your only-begotten Son didst reveal his glory when he was transfigured on the holy mount: mercifully grant unto us such a vision of his divine majesty that, purified and strengthened by your grace, we may be transformed into his likeness from glory to glory; through the same Jesus Christ our Lord.

A message from the Bishop of Bangor and Archbishop of Wales
Dear friends
Some of you will have watched the TV drama 'The Sixth Commandment', a brilliant but disturbing story. The series portrays the deaths of teacher Peter Farquhar and Ann Moore-Martin. Although a drama, the events described are real. Ben Fields, also pursuing a vocation to the ordained ministry, was eventually convicted of murdering Peter Farquhar. Incidents like this make the headlines of course because they are dramatic and terrible. The levels of deceit and cruelty are almost unimaginable.
Most of the safeguarding work undertaken in the church is less obvious than these extraordinary occurences but is vitally important. We have a dedicated team of professionals who support, advise, recommend and train so that we are better equipped to provide a safe environment across the church. It is critical therefore that we take safeguarding seriously and co-operate fully with our safeguarding colleagues.
I will be commending Safeguarding Sunday later in the year but in the meantime ask that you ensure your own training and those within your Ministry Areas is current and should you have any concerns to contact our Safeguarding Team.
The Provincial Safeguarding Officer for the Diocese of Bangor is David Oliver. Wendy Lemon is the Church in Wales' Safeguarding Manager.
Grace to you and peace from God
+Andrew Cambrensis
Prisons Week
8-14 October 2023
Prisons Week wants to see an end to the human suffering caused by crime and imprisonment – for all those affected. Each October they gather together churches and organisations from across the Christian community to issue a call to prayer for change where change is needed through a week-long campaign with print and digital resources, social channels, events and media appearances.
Prisons Week is organised and run by 25 organisations that come together twice each year as a Board of Reference, and the smaller Working Groups who meet monthly to deliver the annual call-to-prayer campaigns.
To visit their website and to find out more information click the button below.

Church’s contribution to Welsh culture explored
Made up of 14 essays by renowed Welsh scholars, a new book focuses on the Church’s influence over a 200-year period, between the translation of the Welsh New Testament in 1567 and the end of the 18th century.
The essays are based on talks given in a popular series of online seminars held during the pandemic and hosted by St Padarn’s Institute. The book, titled, Gofal ein Gwinllan: Ysgrifau ar Gyfraniad yr Eglwys yng Nghymru i Lên, Hanes a Diwylliant Cymru, will be launched at the National Eisteddfod on August 11.
Lecture in memory of the Revd J. Lloyd Jones
“Climbing the second mountain: the future for ecumenism in Wales?”
The Revd Siôn Brynach, Chief Executive of Cytûn, will be giving a lecture in memory of the Revd Lloyd Jones, former Ministry Area Leader of Bro Beuno Sant Uwch Gwyrfai, who sadly died in December 2020.
Wednesday 9 August at 7.00pm in Saint Beuno's Church, Clynnog Fawr,
There is no need to reserve a seat, but if you would like to please contact eglwysiBSUG@cinw.org.uk
Diary
5-12 August
National Eisteddfod
26-29 August
Enlli retreat
This is the pinnacle of the Llwybr Cadfan Literary project.
1 October
Installation of new Archdeacons
3.30pm
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor
Sharing information
If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Naomi Wood by the end of day on Wednesday before you would like it published.