minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Y Ddolen


20 Awst 2023

Yr Unfed Sul ar Ddeg wedi'r Drindod


Gweddi gasgl yr Unfed Sul ar Ddeg wedi'r Drindod

Hollalluog Dduw, yr anfonodd dy Fab Iesu Grist ei apostolion i wneud disgyblion o bob cenedl: cynorthwya ni i gyhoeddi Efengyl dy gariad, fel y bo i bawb a’i clywo gael eu cymodi â thi; trwy’r un Iesu Grist ein Harglwydd.


Neges gan Esgob Bangor ac Archesgob Cymru

Annwyl gyfeillion

Mae cyfnod yr haf nid yn unig yn gyfle i gael gwyliau ond dyma'r adeg pan fydd digwyddiadau chwaraeon mawr yn cael eu cynnal. Wrth i mi ysgrifennu, mae Awstralia yn chwarae Lloegr mewn pêl-droed am le yn rownd derfynol Cwpan y Byd yn erbyn Sbaen. Yn ddiweddarach y mis hwn bydd Pencampwriaeth Athletau'r Byd yn cael ei chynnal yn Budapest. I gefnogwyr dyma nefoedd chwaraeon.

Cystadleuaeth sydd wrth wraidd cymaint o fywyd. Yn bresennol mewn gemau chwaraeon, mewn amgylcheddau academaidd, mewn masnach a hyd yn oed esblygiad rhywogaethau, mae'r elfen o gystadleuaeth wrth wraidd datblygiad – er lles neu er gwaeth. Ac mae’r traddodiad Cristnogol yn gwybod y deinameg hwn hefyd: anogodd Sant Paul i ni redeg y ras er mwyn ennill (1 Corinthiaid 9:24) ac anogodd awdur yr Hebreaid ddyfalbarhad a ffocws (Hebreaid 12:1). Mae nodyn arall i’w seinio yma fodd bynnag a dyna’r ddyletswydd i ofalu am y rhai sy’n methu neu’n cwympo: yn nhermau chwaraeon, os mynnwch, y rhai sy’n cael eu diraddio neu eu bwrw allan. A hynny oherwydd ein bod yn rhwymedig i ofalu am y gwan ac eiddil. Mae’r egwyddor hon yn gorwedd y tu ôl i un o’r straeon enwocaf a adroddwyd gan yr Arglwydd Iesu Grist (Luc 10:25f). Dyna sut mae Duw wedi ymateb i ni hefyd wrth gwrs – gyda thrugaredd ac amynedd a dyma’r ffordd fwyaf cymhellol o hyd o ddangos cariad Duw i fyd sy’n methu. Rwy’n bwriadu dychwelyd at y thema o garu’r byd yn ddiweddarach yn y flwyddyn ond yn y cyfamser, gobeithio y byddwch i gyd yn gallu mwynhau’r olaf o gyfnod yr haf.

Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw

+Andrew Cambrensis


Cyhoeddiadau o swyddi newydd 

Cyhoeddwyd ar ddydd Sul 13 Awst bod y Parchg Steve Leyland yn gadael Ardal Weinidogaeth Bro Cyngar yn Archddiaconiaeth Môn ac yn symud i fod yn Offeiriad ar y cyd yn Ardal Weinidogaeth Bro Arwystli yn Archddiaconiaeth Meirionnydd.

Cyhoeddwyd hefyd ar ddydd Sul 13 Awst bod y Parchg Eryl Parry wedi’i benodi’n Offeiriad ar y cyd yn Ardal Weinidogaeth Bro Gwydyr yn Archddiaconiaeth Bangor.

Bydd rhagor o fanylion am wasanaethau sefydlu a thrwyddedu yn cael eu rhannu yn yr wythnosau nesaf.


Digwyddiad ar y cyd gydag Esgobaeth Llanelwy | A joint event with the Diocese of Saint Asaph

Fforwm newydd ar gyfer archwilio galwedigaeth

Pwrpas y fforwm yw dod ag unigolion ynghyd o bob rhan o esgobaethau Bangor a Llanelwy sy’n dymuno archwilio sut y gallai Duw fod yn eu galw a chreu gofod ar gyfer cydgefnogaeth ac anogaeth wrth i ni ddirnad gyda’n gilydd.

Cynhelir y digwyddiad cyntaf ar 31 Awst am 7.00pm gyda Canon Trystan Owain Hughes, Cyfarwyddwr Taleithiol Datblygu Weinidogaeth yn siarad.

I ymuno â’r digwyddiad, sy’n cael ei gynnal ar Zoom, defnyddiwch y manylion isod:

https://us05web.zoom.us/j/6103455175?pwd=OaIbuIrtlJeM2NKSk9n7CaalC92amo.1

ID y cyfarfod: 610 345 5175 | Cod pas: VocF1


Eglwys Llanbadrig | Llanbadrig church

Gweddïau Padrig

Wedi’i ysgrifennu gan y Parchg Janet Fletcher ar gyfer Ardal Weinidogaeth Bro Padrig, a’i argraffu gyda chymorth grant o gronfa leol, mae llyfr dwyieithog newydd wedi’i ddarlunio â lluniau lliw o Eglwys Llanbadrig a’i lleoliad ar ben y clogwyn, ac yn cyflwyno gweddïau a myfyrdodau wedi'i ysbrydoli gan stori Sant Padrig. Mae ar gael o Eglwys Llanbadrig, Oriel Cemaes a’r Parchg Naomi Starkey.

Mae'r llyfr yn costio £5 ynghyd â chostau postio.


Eglwys y Santes Gwenfaen, Rhoscolyn | Saint Gwenfaen's Church, Rhoscolyn

Penwythnos Celf a Chrefft

Dros benwythnos gŵyl banc mis Awst (26-28 Awst) mae Eglwys Santes Gwenfaen, Rhoscolyn ym Mro Cybi yn cynnal penwythnos celf a chrefft.
Mae’n cael ei chynnal yn Neuadd Rhoscolyn o 10.30am - 5.30pm ac mae mynediad am ddim. Bydd gan 20 o artistiaid a chrefftwyr lleol stondinau yn gwerthu eu gwaith.

Mae arian yn cael ei godi ar gyfer adfer ffenestri lliw yn Eglwys Santes Gwenfaen ac i gefnogi Banc Bwyd Ynys Môn. Mae’r digwyddiad tridiau hwn yn cynnig cyfle gwych i bawb brynu eitemau unigryw wedi’u creu gan artistiaid a chrefftwyr lleol.


Wythnos Feiblaidd Llŷn

Mae’r Wythnos Feiblaidd Llŷn yn rhedeg ym mis Awst o Nos Lun 28 hyd Nos Iau 31 am 7.30pm gyda'r thema 'Yr Efengyl a'r diwylliant Cyfoes'. Trwy edrych ar ddarnau yn llyfr yr Actau bydd y siaradwr, Tony Watkins, yn ystyried sut y mae’r efengyl yn berthnasol i ddiwylliant heddiw.

Cliciwch ar y botwm isod am ragor o wybodaeth.


Archwilio cyfanrwydd ac iachâd

Dydd Sadwrn 9 Medi
10.00am - 4.30pm yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy

Mae tocynnau am ddim bellach ar gael i’w harchebu trwy Eventbrite ar gyfer y digwyddiad hwn a drefnwyd gan Grŵp Ysbrydolrwydd Esgobaeth Llanelwy. Mae’n gyfle i ddarganfod mwy am y weinidogaeth iacháu, i elwa ohoni ar y diwrnod, ac i gael eich annog i’w hymarfer. Mae gan weinidogaeth iachâd bryder llawer ehangach nag adferiad unigolyn o salwch corfforol - mae'n cynnwys iechyd meddwl, iechyd ysbrydol, ac iachâd cymunedau.

Gallwch ddarganfod mwy a chadw eich lle gan ddefnyddio'r botwm isod.


Gŵyl Flodau ym Mhenrhyndeudraeth

Rhwng dydd Llun 21 Awst a dydd Llun 28 Awst mae gŵyl flodau yn Eglwys y Drindod Sanctaidd ym Mhenrhyndeudraeth.
Bydd yr eglwys ar agor o 10.00am nes 4.00pm gydag arddangosfeydd blodau gan eglwysi Ardal Weinidogaeth Bro Moelwyn a mudiadau lleol.


Dyddiadur

26-29 Awst
Encil ar Enlli
Dyma penllanw prosiect llenyddol Cymraeg Llwybr Cadfan

31 Awst
Fforwm yr Alwad
7.00pm ar Zoom
Gweler uchod am ragor o fanylion

1 Hydref
Sefydlu Archddiaconiaid newydd
3.30pm
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor


Rhannu Gwybodaeth

Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Naomi Wood erbyn diwedd y ddydd Mercher cyn iddi gael ei gyhoeddi.


Cymraeg

Y Ddolen


20 August 2023

The Eleventh Sunday after Trinity


Collect for the Eleventh Sunday after Trinity

Almighty God, whose Son Jesus Christ sent his apostles to make disciples of all nations; help us to proclaim the Gospel of your love, that all who hear it may be reconciled to you; through the same Jesus Christ our Lord. 


A message from the Bishop of Bangor and Archbishop of Wales

Dear friends

The summer period carries with it not only the opportunity for holidays but is the time when major sporting events take place. As I write, Australia are playing England in football for a place in the final of the World Cup against Spain. Later this month the World Championship Athletics will take place in Budapest. For fans this is sporting heaven.

Competition is at the root of so much life. Present in sporting fixtures, in academic environments, in commerce and even the evolution of species, the element of competition lies at the root of development – for good or for ill. And the Christian tradition knows this dynamic too: Saint Paul urged us to run the race so as to win (1Corinthians 9:24) and the writer to the Hebrews urged perseverance and focus (Hebrews 12:1). There is another note to be sounded here however and that is the duty to care for those who fail or fall: in sporting terms, if you like, those who are relegated or knocked out. And that is because we are obliged to care for the weak and frail. This principle lies behind one of the most famous stories told by the Lord Jesus Christ (Luke 10:25f). It is how God has responded to us of course too – with mercy and patience and it remains the most compelling way of showing the love of God to a failing world. I intend to return to the theme of loving the world later in the year but in the meantime, hope you are all able to enjoy the last of the summer period.

Grace to you and peace from God

+Andrew Cambrensis


New post announcements

It was announced on Sunday 13 August that the Revd Steve Leyland is to leave the Ministry Area of Bro Cyngar in the Archdeaconry of Anglesey and move to be Associate Priest in the Ministry Area of Bro Arwystli in the Archdeaconry of Meirionnydd.

Also announced on Sunday 13 August was the appointment of the Revd Eryl Parry as Associate Priest in the Ministry Area of Bro Gwydyr in the Archdeaconry of Bangor.

Further details of induction and licensing services will shared in the coming weeks.


Digwyddiad ar y cyd gydag Esgobaeth Llanelwy | A joint event with the Diocese of Saint Asaph

A new forum for exploring vocation

The purpose of the forum is to bring together individuals from across the dioceses of Bangor and Saint Asaph who wish to explore how God might be calling them and to create a space for mutual support and encouragement as we discern together.

The first event is on 31 August at 7.00pm with Canon Trystan Owain Hughes, the Provincial Director of Ministry Development speaking. 

To join the event which is being held on Zoom please use the details below:

https://us05web.zoom.us/j/6103455175?pwd=OaIbuIrtlJeM2NKSk9n7CaalC92amo.1

Meeting ID: 610 345 5175 | Passcode: VocF1


Eglwys Llanbadrig | Llanbadrig church

Padrig Prayers

Written by the Revd Janet Fletcher for the Ministry Area of Bro Padrig, and printed with the help of a grant from a local fund, a new bilingual book is illustrated with colour photos of Llanbadrig Church and its cliff top setting, and presents prayers and reflections inspired by the story of Saint Patrick. It is available from Llanbadrig Church, Oriel Cemaes and the Revd Naomi Starkey.

The book costs £5 plus p&p.


Traeth Rhoscolyn | Rhoscolyn beach

Art and craft weekend

Over the August bank holiday weekend (26-28 August) Saint Gwenfaen's Church, Rhoscolyn in Bro Cybi are hosting an art and craft weekend.
It is being held in Rhoscolyn Hall 10.30am - 5.30pm and entry is free. 20 local artists and craftspeople will have stalls selling their work.

Funds are being raised for the restoration of stained glass windows in Saint Gwenfaen’s Church and to support the Anglesey Food Bank. This three day event offers a great opportunity for everyone to buy unique items created by local artists and craftspeople.  


Llŷn Bible Week

The Llŷn Bible Week runs in August from Monday 28 to Thursday 31 at 7.30pm with the theme 'The Gospel and Contemporary Culture'. By looking at the books in the book of Acts the symbol, Tony Watkins, will consider how the time relates to today.

Click the button below for more information.


Exploring Wholeness and Healing

Saturday 9 September
10.00am - 4.30pm at Saint Asaph Cathedral

Free tickets are now available to book via Eventbrite for this event organised by the Diocese of Saint Asaph's Spirituality Group. It is an opportunity to find out more about the healing ministry, to benefit from it on the day, and to be encouraged to practise it. Healing ministry has a much wider concern than an individual recovery from physical illness - it includes mental health, spiritual health, and the healing of communities.

You can find out more and reserve your space using the button below.


Flower festival in Penrhyndeudraeth

From Monday 21 August until Monday 28 August, Holy Trinity Church in Penrhyndeudraeth in the Ministry Area of Bro Moelwyn are hosting a flower festival. The church will be open from 10.00am until 4.00pm daily with displays by the churches of Bro Moelwn and other local organisation and clubs.


Diary

26-29 August
Enlli retreat
This is the pinnacle of the Llwybr Cadfan Literary project.

31 August
The Calling forum
7.00pm on Zoom
See above for more details

1 October
Installation of new Archdeacons
3.30pm
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor


Sharing information

If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Naomi Wood by the end of day on Wednesday before you would like it published.