
Y Ddolen
14 Tachwedd 2021
Sul y Cofio
Duw heddwch a chariad, casglwn yn awr i gofio dioddefwyr rhyfel.
Cofiwn ger eich bron bawb a ddioddefodd, bawb a gollodd eu bywydau, pawb fu'n brwydro dros ryddid a chyfiawnder.
Cofiwn o'ch blaen y newidiadau a ddaeth yn sgil y rhyfeloedd hynny i'r byd a phob person oddi mewn iddo.
Cofiwn o'ch blaen y rhyfeloedd, y gwrthdaro a'r gweithredoedd terfysgaeth sy'n parhau i rwygo dy greadigaeth.
Cofiwn o'ch blaen popeth sy'n parhau i achosi gormes, trais ac ofn.
Cofiwn, O Dduw. Helpa ni i beidio ag anghofio.

Dyddiadur
18 Tachwedd
Lansiad adnoddau digwyddiadau bywyd
Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi bod yn cyfarfod ac yn cefnogi pobl yn ystod adegau allweddol yn eu bywydau ers dros 100 mlynedd. Mae'r digwyddiadau bywyd yma yn rhan greiddiol o'n cenhadaeth a'n gweinidogaeth.
Archebwch eich lle gan ddefnyddio y ddolen uchod.
25 Tachwedd
Cyngor yr Esgobaeth
Cysylltu â Thŷ'r Esgob
Yn anffodus nid yw'r llinellau ffôn yn Nhŷ'r Esgob yn gweithio o hyd. Gyrrwch unrhyw gyfathrebiad drwy law Robert Jones, cynorthwy-ydd yr Esgob.

Llongyfarchiadau Bro Moelwyn
Mae gardd sy'n ymroddedig i newyddion da a llonyddwch wedi ennill gwobr yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Penrhyndeudraeth.
Yn ddiweddar, cynhaliodd Ecclesiastical Insurance gystadleuaeth o newyddion da a stori. Gyda'r weledigaeth i greu gardd o lonyddwch y tu allan i'r eglwys, ymgeisiodd Eglwys y Drindod Sanctaidd i'r gystadleuaeth ac fe'u dewiswyd fel enillwyr rhanbarthol i Gymru. Byddant yn derbyn £1,500 ac yn ymuno â'r rownd derfynol lle bydd y cyhoedd yn pleidleisio dros yr enillwyr cyffredinol.
I ddarllen rhagor am y stori gweler yma.

Nerth bob dydd
Llyfryn syml sy'n cynnwys adnodau ar gyfer bob dydd gan ofyn am gymorth ac sy'n cyfarch addewidion Duw yw 'Nerth bob dydd'.
Maent ar gael mewn pecynnau o 10 am ddim trwy ddilyn y ddolen yma.
Apêl Nadolig Cymorth Cristnogol
Mae Apêl Nadolig Cymorth Cristnogol eleni yn ein gwahodd i gynnig cefnogaeth i famau mewn lleoedd o her enfawr yn ein dydd.
Bob dydd mae mamau yn brwydro i wneud penderfyniadau anodd yng ngwyneb yr argyfwng hinsawdd, ond mae’n penderfyniad ni i sefyll gyda nhw yn un hawdd.
Gall rhodd i Cymorth Cristnogol y Nadolig hwn helpu i durio am ddŵr glân, cyflenwi hadau ac offer ffermio a rhoi cyfle i famau sefydlu busnesau bach. Gyda dŵr glân, bwyd maethlon a ffyrdd o gynnal bywoliaeth ni fydd rhaid i famau wneud dewisiadau mor amhosib.
I ddarganfod rhagor am yr apêl gweler y linc yma.
Chwythwr organ a Caneuon Ffydd
Mae Ardal Weinidogaeth Bro Moelwyn yn chwilio am chwythwr organ bach am eu organ yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Penrhyndeudraeth. Os oes gan unrhyw un un ddi-waith, efallai ar ôl cau eglwys, cysylltwch â nhw. Yn yr un modd, os oes gan unrhyw un unrhyw lyfrau Caneuon Ffydd, nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach, byddent wrth eu bodd yn eu cael ac efallai y byddant hyd yn oed yn barod i dalu.
Cysylltwch â'r Parchg Roland Barnes ar 01766 831 550
Dyddiadau 2022
Synodau
Meirionydd - Dydd Llun
10am 14 Chwefror, 27 Mehefin, 10 Hydref
Ynys Môn - Dydd Llun 7pm
14 Chwefror, 27 Mehefin, 10 Hydref
Bangor - Dydd Mawrth 10am
15 Chwefror, 28 Mehefin, 11 Hydref
Grŵp Cadfan
Yn Nant Gwrtheyrn - Amser cinio i amser cinio
28 a 29 Mawrth
1 a 2 Rhagfyr
Cynhadledd Clerigion
12 i 15 Medi yn Rhydychen
Cymun y Crism
11 Ebrill - 11am yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Gwasanaeth Ordeinio
25 Mehefin - 11am yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Cynhadledd yr Esgobaeth
1 Hydref - 2pm yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Y Ddolen ac hysbysiadau esgobaethol eraill
Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Y Ddolen
14 November 2021
Remembrance Sunday
God of peace and love, we remember the victims of war.
We remember before you all who suffered, all who lost their lives, all who fought for freedom and justice.
We remember before you the changes those wars brought to the world and all peoples within it.
We remember before you the wars, conflicts and acts of terrorism that continue to rip your creation apart.
We remember before you all that continues to cause oppression, violence and fear.
We remember, O God. Help us not to forget.

Diary
18 November
Launch of life events resources
The Church in Wales has been meeting and supporting people during key moments in their lives for over 100 years. These life events represent a core part of our mission and ministry.
Please use the link above to book your place.
25 November
Diocesan Council
Contacting Tŷ'r Esgob
Unfortunately the phone lines at Tŷ'r Esgob are still not working. Please direct any communication through Robert Jones, the Bishop's assistant.

Congratulations to Bro Moelwyn
A garden dedicated to good news and tranquility has won an award at Holy Trinity Church, Penrhyndeudraeth.
Ecclesiastical Insurance recently ran a good news and story competition. With a vision to creating a garden of tranquility outside the church, Holy Trinity Church entered the competition and have been chosen as regional winners for Wales. They will receive £1,500 and are entered into the final round in which the public will vote for the overall winners.
Click here to read more about this story.

Daily Strength
A simple booklet which contains verses for each day asking for God's help and which tell God's promises.
They are freely available in packs of 10 by clicking on this link.
Christian Aid Christmas Appeal
Christian Aid's Christmas Appeal this year invites us to offer support to mothers in places of great challenge in our day.
Mums on the frontline of the climate crisis face impossible choices every day, but our decision to stand with them is an easy one.
Gifts to Christian Aid this Christmas could help build more boreholes, provide seeds and farming tools, and give mums the chance to set up small businesses. With clean water, nutritious food and ways to earn money, mums won’t have to make such impossible choices.
To find out more about the appeal please click here.
Organ blowers and Caneuon Ffydd
Bro Moelwyn Ministry Area are looking for a small organ blower for their organ in Holy Trinity Church, Penrhyndeudraeth. If any one has a redundant one, perhaps following a church closure, please do get in touch. Likewise if any one has any Caneuon Ffydd hymn books, no longer in use, they would love to have them and might even be willing to pay.
Please contact the Revd Roland Barnes on 01766 831 550
Dates 2022
Synods
Meirionydd - Monday 10am
14 February, 27 June, 10 October
Anglesey - Monday 7pm 14
February, 27 June, 10 October
Bangor - Tuesday 10am
15 February, 28 June, 11 October
Grŵp Cadfan
At Nant Gwrtheyrn - Lunch time to lunch time
28 - 29 March
1 - 2 December
Clergy Conference
12 to 15 September in Oxford
Chrism Eucharist
11 April - 11am in Saint Deiniol's Cathedral
Ordination Service
25 June - 11am in Saint Deiniol's Cathedral
Diocesan Conference
1 October - 2pm in Saint Deiniol's Cathedral
Subscribe to receive email notification of Y Ddolen and other diocesan announcements
Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.