
Y Ddolen
28 Tachwedd 2021
Sul Cyntaf yr Adfent
Wrth i'r dyddiau fyrhau,
bydd, O Dduw, ein Goleuni.
Wrth i'r tymor newid, bydd yn ganllaw.
Gwylia drosom wrth i ni gamu i mewn i Adfent,
agor ein calonnau a'n meddyliau
i ddarganfod stori'r Geni;
gad i ni fod yn effro
ac yn wyliadwrus o'th presenoldeb
drwy'r croeso a'r gweinidogaethau a gynigiwn,
ar adegau o weddi a myfyrdod tawel,
ac yn ein gobaith o'r hyn sydd eto i ddod.
Yn y dyddiau Adfent hyn wrth i ni ddisgwyl
am yr Un sydd i ddod, Goleuni'r Byd,
ysbrydola ni o'r newydd fel y gallwn fod yn barod
i gyfarfod â llygaid newydd
a gwrando gyda chlustiau wedi'u hadnewyddu
i stori geni Iesu, Emaniwel.
Boed i ni ddefnyddio'r amser hwn
i fyw ein ffydd:
i'th addoli â chariad yn ein calonnau,
i garu'r byd mewn gair a gweithred,
ac i dyfu dy Eglwys mewn dirnadaeth barhaus.
Yn enw Duw, cynigiwn y weddi hon.
Amen

Dyddiadur
28 Tachwedd
5.30pm
Defod y Goleuni
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
14 Rhagfyr
19.30
Perfformiad o'r Meseia
gan Côr y Gadeirlan
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
Oddi wrth yr Esgob
Cymun yn y ddau fath
Wrth i'r Nadolig nesáu, mae'r esgobion yn ymwybodol iawn mai arfer a dysg Anglicanaidd yw "nad yw cwpan yr Arglwydd i'w wrthod i bobl lleyg" (Erthygl XXX). Felly, rydym yn adolygu'n rheolaidd y gwaharddiad presennol ar rannu'r cwpan cyffredin, a osodwyd am resymau iechyd brys difrifol yn unig, ac ar y dechrau, ar gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru. Yn ddiweddar, rhoesom ganiatâd i Gymuno yn y ddau fath drwy ddiferu, wedi ei weinyddu gan yr offeiriad neu weinidog y Cymun yn unig, ond yr ydym yn ymwybodol nad dyma'r gorau o atebion mewn gwirionedd.
Fodd bynnag, nid ydym yn teimlo bod y sefyllfa iechyd bresennol yn caniatáu adfer y cwpan cyffredin, ac yr ydym yn parhau i gyfarwyddo na chaniateir defnyddio cwpanau cymun unigol. Mae hyn am resymau dros waredu ar ôl Cymuno gymaint ag unrhyw reswm arall, ond fe'n perswadiwyd y byddai cyflwyno cwpanau unigol yn gofyn am newid i gyfraith canon ar hyn o bryd.
Felly, gofynnwn i chi gadw gyda ni yn y ddisgyblaeth bresennol. Rydym yn ymrwymo i adolygu hyn unwaith eto yn y flwyddyn newydd.
Byddwch yn Gorydd Nadolig
Ar ddydd Sadwrn 11 Rhagfyr mae yna weithdai yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor i blant cael dod ynghŷd i ganu carolau, gweud crefft a chwarae gemau.
- I blant rhwng 6 ac 8 oed mae'r sesiwn yn rhedeg o 10am i 12.30pm
- I blant rhwng 9 ac 12 oed mae'r sesiwn yn rhedeg o 2pm i 4.30pm
Am ragor o fanylion cysylltwch â Joe Cooper, Cyfarwyddwr Cerdd y Gadeirlan.
Synod Meirionnydd
Ni fydd y Synod a drefnwyd ar 30 Dachwedd yn digwydd. Mae dyddiad newydd ar gyfer synod CGE arall wedi ei drefnu ac mae arweinwyr yr Ardaloedd Weinidogaeth yn ymwybodol o'r dyddiad yma.
Diwrnod o weddi USPG
Mae USPG yn cynnal diwrnod o weddi ar 30 Tachwedd. Mae llwyth o adnoddau ar gael ar wefan USPG gan gynnwys trefn y dydd os hoffech chi ymuno.
Am 9.30am mi fydd fideo byr gan yr Eglwys yng Nghymru i'w wylio.
Dyddiadau 2022
Synodau
Meirionydd - Dydd Llun
10am 14 Chwefror, 27 Mehefin, 10 Hydref
Ynys Môn - Dydd Llun 7pm
14 Chwefror, 27 Mehefin, 10 Hydref
Bangor - Dydd Mawrth 10am
15 Chwefror, 28 Mehefin, 11 Hydref
Grŵp Cadfan
Yn Nant Gwrtheyrn - Amser cinio i amser cinio
28 a 29 Mawrth
1 a 2 Rhagfyr
Cynhadledd Clerigion
12 i 15 Medi yn Rhydychen
Cymun y Crism
11 Ebrill - 11am yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Gwasanaeth Ordeinio
25 Mehefin - 11am yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Cynhadledd yr Esgobaeth
1 Hydref - 2pm yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Y Ddolen ac hysbysiadau esgobaethol eraill
Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Y Ddolen
28 November 2021
The First Sunday of Advent
In the shortening of days,
O God be our Light.
In the changing of the season, be our guide.
Watch over us as we step into Advent,
open our hearts and minds
to the unfolding of the Nativity story;
may we be awake and alert to your presence
through the ministries we offer,
in times of prayerfulness and quiet reflection,
and in hope of that that is yet to come.
In these Advent days as we wait
for the One who is to come, the Light of the World,
inspire us anew so we may be ready and prepared
to encounter with new eyes
and listen with refreshed ears
to the story of Jesus’s birth, Emmanuel.
May we use this time
to live out our faith:
to worship you with love in our hearts,
to love the world in word and action,
and to grow your Church in ongoing discipleship.
In the name of God, we offer this prayer.
Amen

Diary
28 November
5.30pm
A Ceremony of Light
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor
14 December
19.30
Performance of Handel's Messiah
by the Cathedral Choir
St Deiniol's Cathedral in Bangor
From the Bishop
Communion in both kinds
As Christmas approaches, the bishops are very mindful that Anglican practice and teaching is that “the cup of the Lord is not to be denied to lay people” (Article XXX). We therefore regularly review the current prohibition on sharing the common cup, which has been imposed for severely urgent health reasons only, and at first, at the direction of the Welsh Government. We recently gave permission for Communion in both kinds by intinction, where the administration was by the priest or minister of Communion alone, but we are aware that this is not really the best of solutions.
However, we do not feel that the current health situation allows the restoration of the common cup, and we continue to direct that the use of individual communion cups is not permitted. This is for reasons of reverent disposal after Communion as much as any other reason, but we are persuaded that the introduction of individual cups would require a change to canon law at present.
We therefore ask you to bear with us in the current discipline. We undertake to review this once again in the new year.
Be a Christmas Chorister
On Saturday 11 December Saint Deiniol's Cathedral in Bangor are hosting workshops for children to gather and sing Christmas Carols, make craft and play games.
- Children who are 6 to 8 years old are invited to attend a session between 10am and 12.30pm
- Children who are 9 to 12 years old are invited to attend a session between 2pm and 4.30pm
For more information please contact Joe Cooper, Director of Music at the Cathedral.
Meirionnydd Synod
The Synod due to be held on 30 November will not take place. Another BMF synod has been arranged and Ministry Area Leaders have been informed of the date.
USPG Communion day of prayer
USPG are hosting a day of prayer on 30 November. The USPG website is being continually updated and includes joining information should you wish to find out more and get involved.
At 9.30am a short video from the Church in Wales will be shared.
Dates 2022
Synods
Meirionydd - Monday 10am
14 February, 27 June, 10 October
Anglesey - Monday 7pm 14
February, 27 June, 10 October
Bangor - Tuesday 10am
15 February, 28 June, 11 October
Grŵp Cadfan
At Nant Gwrtheyrn - Lunch time to lunch time
28 - 29 March
1 - 2 December
Clergy Conference
12 to 15 September in Oxford
Chrism Eucharist
11 April - 11am in Saint Deiniol's Cathedral
Ordination Service
25 June - 11am in Saint Deiniol's Cathedral
Diocesan Conference
1 October - 2pm in Saint Deiniol's Cathedral
Subscribe to receive email notification of Y Ddolen and other diocesan announcements
Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.