
Y Ddolen
5 Rhagfyr 2021
Ail Sul yr Adfent
Y Sul hwn, a thrwy gydol yr wythnos nesaf rydym yn gweddïo am:
Ardal Weinidogaeth
Bro Celynnin
gan gynnwys y rhai sy’n gwasanaethu yno:
- Y Parchg David Parry
- Y Parchg Eryl Parry
- Y Parchg Susan Blagden
- Heather Thompson - Darllenydd
Gofynnir am ein gweddïau yn arbennig am:
- adferiad economaidd twristiaeth ac amaethyddiaeth
- galwedigaethau a gweinyddiaethau newydd (ar lawr gwlad ac ar-lein)
- gwaith Ysgol Porth y Felin ac Ysgol Llangelynnin
- darparu cyfleusterau cenhadaeth newydd yn adeiladau ein heglwysi

Dyddiadur
6-8 Rhagfyr
Coleg Ethol i ethol yr Archesgob nesaf
I ddarllen rhagor am y cyfarfod gweler Ethol Archesgob Cymru ar wefan yr Eglwys yng Nghymru
11 Rhagfyr
Byddwch yn Gorydd y Nadolig
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
10am - 12.30pm i blant rhwng 6 ac 8 oed
2pm - 4.30pm i blant rhwng 9 a 12 oed
14 Rhagfyr
7.30pm
Perfformiad o'r Meseia
gan Côr y Gadeirlan
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
Cymorth Cristnogol
Carol Arbennig Apêl y Nadolig
Mae Cymorth Cristnogol wedi paratoi carol arbennig sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Felly gall cynulleidafoedd ei defnyddio i ddangos cefnogaeth i famau sydd yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd mewn bywyd.
Gweler wefan Cymorth Cristnogol i lwytho'r pecyn adnoddau.
Cerdyn Nadolig
Yn dilyn COP26 mae Cymroth Cristnogol yn ein hannog ni i anfon cerdyn nadolig at Boris Johnson yn galw arno i gadw at ei addewidion.
Ceir rhagor o wybodaeth yma ar wefan Cymorth Cristnogol am sut i gymryd rhan.
Oddi wrth yr Esgob
Llinell Ffôn Tŷ'r Esgob
Mae'r llinell ffôn yn Nhŷ'r Esgob wedi ei hadfer ac yn medru cael ei defnyddio unwaith eto.
Dyddiadur yr Esgob
Dydd Sul 5 Rhagfyr
9.30am a 10.30am - Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandudno
Dydd Sul 12 Rhagfyr
11am - Penmachno, Bro Gwydyr
Dydd Sul 19 Rhagfyr
9.30am - Offeren Saesneg, Eglwys y Santes Fair, Bro Peblig
11am - Offeren Cymraeg, Eglwys Llanbeblig, Bro Peblig
Noswyl Nadolig
11.30pm - Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
Dydd Nadolig
9.15am a 11.00am - Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
Dydd Sul 26 Rhagfyr
10am - Llanfaethlu, Bro Padrig
Cymun yn y ddau fath
Wrth i'r Nadolig nesáu, mae'r esgobion yn ymwybodol iawn mai arfer a dysg Anglicanaidd yw "nad yw cwpan yr Arglwydd i'w wrthod i bobl lleyg" (Erthygl XXX). Felly, rydym yn adolygu'n rheolaidd y gwaharddiad presennol ar rannu'r cwpan cyffredin, a osodwyd am resymau iechyd brys difrifol yn unig, ac yn wreiddiol ar gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru. Yn ddiweddar, rhoesom ganiatâd i Gymuno yn y ddau fath drwy ddiferu, wedi ei weinyddu gan yr offeiriad neu weinidog y Cymun yn unig, ond rydym yn ymwybodol nad dyma'r ateb gorau mewn gwirionedd.
Fodd bynnag, nid ydym yn teimlo bod y sefyllfa iechyd bresennol yn caniatáu adfer defnydd o'r cwpan cyffredin, ac yr ydym yn parhau i ddatgan na chaniateir defnyddio cwpanau cymun unigol. Mae hyn am resymau dros waredu ar ôl Cymuno gymaint ag unrhyw reswm arall, ond fe'n perswadiwyd y byddai cyflwyno cwpanau unigol yn gofyn am newid i gyfraith canon ar hyn o bryd.
Felly, gofynnwn i chi fod yn amyneddgar a pharhau yn y ddisgyblaeth bresennol. Rydym yn ymrwymo i adolygu hyn unwaith eto yn y flwyddyn newydd.

Ennyd | Gofalu am ein hunain ac eraill
Amlygwyd yr angen i ofalu am ein lles a'n hiechyd meddwl ein hunain sawl tro yn ystod y pandemig.
Ar ddechrau pob mis mae Y Ddolen yn cynnwys myfyrdod byr - ennyd i oedi - a rhywbeth ymarferol i roi cynnig arno.
Y mis diwethaf, dechreuom feddwl am sut rydym ni'n ymddwyn a'r math o berson rydym ni eisiau bod. Deallasom nad oes unrhyw beth 'cywir' i'w wneud mewn llawer o sefyllfaoedd, a bod llawer o ffactorau'n dylanwadu ar y cysyniad o 'iawn' ar yr un pryd. Gall y ffactorau hyn gynnwys yr union sefyllfa neu'r cyd-destun yr ydym yn delio ag ef, gan gynnwys pwy neu beth sy'n gysylltiedig, yr hyn y gallem ei ennill neu golli o ganlyniad i'n gweithredoedd, a'n gwerthoedd personol ein hunain. Gofynnwyd y cwestiwn i ni'n hunain, 'pe bai pobl yn siarad amdanaf, beth fyddwn i eisiau iddynt ei ddweud?' Gall yr hyn yr ydym am i bobl eraill feddwl a chredu amdanom ddweud wrthym am y math o berson yr ydym eisiau bod, y ffordd yr ydym eisiau byw ein bywydau a'r pethau sy'n wirioneddol bwysig i ni.
Fodd bynnag, mae mwy i hyn na chael mewnolwg ar y pethau sy'n bwysig i ni. Nid yw hynny'n dweud wrthym beth yw ein gwerthoedd. Yr hyn sydd ei angen arnom mewn gwirionedd yw eu diffinio'n glir mewn termau penodol. Gallwn wneud hyn drwy ofyn i ni'n hunain "Beth mae hynny'n ei olygu?".
Er enghraifft, efallai y bydd rhywun yn nodi ei bod yn bwysig iddynt fod yn ffrind da. Mae hyn yn ddechrau gwych ond a yw hynny'n golygu'r un peth i bawb? Nac ydi wrth gwrs. Yn yr un modd â 'iawn', mae 'da' yn farn oddrychol, bersonol arall ac felly gall ymddygiad un person o fod yn ffrind 'da' edrych yn hollol wahanol i un arall. Er mwyn cael rhywfaint o eglurder o'r hyn y mae 'da' yn ei olygu i chi, rhowch gynnig ar y dasg hon a chwblhau'r frawddeg,
"Wrth fod yn ffrind da rwyf am ymddwyn gyda _______"
Bydd eich ymatebion yma yn adlewyrchiad o werthoedd.
Un ymateb cyffredin posibl i'r dasg uchod fyddai 'parch'. Gwych, rydym bellach yn adnabod y math o ffrind yr ydym am fod, un sy'n ymddwyn gyda pharch tuag at eraill. Ond, nid yw'r gwaith yn cael ei wneud o hyd. Er ei fod yn ddechrau gwych ac yn hanfodol i'r broses, nid yw'n ddigon i wybod beth yw ein gwerthoedd. Ni fydd hyn ynddo'i hun yn creu y person yr ydym am fod. Y cam nesaf yw diffinio'r ymddygiad yr ydym am eu cysylltu â'r werth. Ystyriwch y canlynol:
Sut fyddai'n edrych pe byddech chi'n ymddwyn gyda pharch tuag at eich ffrind? Beth fydden nhw'n ei weld/clywed/brofi? Beth allai pobl eraill ei weld?
Mae'r hyn yr ydym yn chwilio amdano yn dystiolaeth wrthrychol o'r gwerth hwnnw'n cael ei arddangos.
Gall hyn ymddangos fel llawer o waith ond mae'r manteision sy'n deillio o ymddwyn mewn ffordd sy'n gyson â'n gwerthoedd wedi ei nodi a'i gydnabod. Faint yn well fyddwn ni'n teimlo pan allwn ni edrych yn ôl ar y diwrnod a dweud wrth ein hunain ein bod yn ymddwyn gydag uniondeb, ein bod wedi gwneud y peth 'cywir'?
Dyddiadau 2022
Synodau
Meirionydd - Dydd Llun
10am 14 Chwefror, 27 Mehefin, 10 Hydref
Ynys Môn - Dydd Llun 7pm
14 Chwefror, 27 Mehefin, 10 Hydref
Bangor - Dydd Mawrth 10am
15 Chwefror, 28 Mehefin, 11 Hydref
Grŵp Cadfan
Yn Nant Gwrtheyrn - Amser cinio i amser cinio
28 a 29 Mawrth
1 a 2 Rhagfyr
Cynhadledd Clerigion
12 i 15 Medi yn Rhydychen
Cymun y Crism
11 Ebrill - 11am yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Gwasanaeth Ordeinio
25 Mehefin - 11am yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Cynhadledd yr Esgobaeth
1 Hydref - 2pm yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Y Ddolen ac hysbysiadau esgobaethol eraill
Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Y Ddolen
5 December 2021
The Second Sunday of Advent
This Sunday and through the week we pray for:
the Ministry Area of Bro Celynnin
including those who serve there:
- The Revd David Parry
- The Revd Eryl Parry
- The Revd Susan Blagden
- Heather Thompson - Reader
Our prayers in particular are asked for:
- the economic recovery of tourism and agriculture
- new vocations and ministries (on the ground and online)
- the work of Ysgol Porth y Felin and Ysgol Llangelynnin
- the provision of new mission facilities in our church buildings

Diary
6-8 December
Electoral College meets to elect the next Archbishop
To read more about the meeting please see Election of the Archbishop of Wales on the Church in Wales website
11 December
Be a Christmas Chorister
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor
10am - 12.30pm for children aged 6 to 8
2pm - 4.30pm for children aged 9 to 12
14 December
7.30pm
Performance of Handel's Messiah
by the Cathedral Choir
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor

Christian Aid
Christmas Appeal
Christian Aid have prepared a special carol in both Welsh and English for congregations to use as they stand in solidarity with mums forced to make difficult decisions.
To download the resources pack please visit the Christian Aid website.
'The Proof is in the Pudding' Christmas Card
Following COP26 Christian Aid are encouraging us to send Christmas cards to Boris Johnson calling for him to uphold the pledges he made.
More information about getting involved can be found on the Christian Aid website
From the Bishop
Phone line at Tŷ'r Esgob
The phone line at Tŷ'r Esgob has been restored and can now be used again.
The Bishop's Diary
Sunday 5 December
9.30am and 10.30am - Holy Trinity Church, Llandudno
Sunday 12 December
11am - Penmachno, Bro Gwydyr
Sunday 19 December
9.30am - English Eucharist in St Mary's, Bro Peblig
11am - Offeren Gymraeg yn Llanbeblig, Bro Peblig
Christmas Eve
11.30pm - Saint Deiniol's Cathedral in Bangor
Christmas Day
9.15am and 11.00am - Saint Deiniol's Cathedral in Bangor
Sunday 26 December
10am - Llanfaethlu, Bro Padrig
Communion in both kinds
As Christmas approaches, the bishops are very mindful that Anglican practice and teaching is that “the cup of the Lord is not to be denied to lay people” (Article XXX). We therefore regularly review the current prohibition on sharing the common cup, which has been imposed for severely urgent health reasons only, and at first, at the direction of the Welsh Government. We recently gave permission for Communion in both kinds by intinction, where the administration was by the priest or minister of Communion alone, but we are aware that this is not really the best of solutions.
However, we do not feel that the current health situation allows the restoration of the common cup, and we continue to direct that the use of individual communion cups is not permitted. This is for reasons of reverent disposal after Communion as much as any other reason, but we are persuaded that the introduction of individual cups would require a change to canon law at present.
We therefore ask you to bear with us in the current discipline. We undertake to review this once again in the new year.

Pause | Minding myself and others
Looking after our own wellbeing and mental health has been highlighted many times throughout the pandemic.
At the start of each month Y Ddolen includes a short reflection - an opportunity to pause - and something practical to try.
Last month we began to think about how we behave and the type of person we want to be. We understood that in many situations there is no objective ‘right’ thing to do, and that the concept of ‘right’ is influenced by many variables simultaneously. These variables can include the exact situation or context we are dealing with, including who or what is involved, what we might stand to gain or lose as a consequence of our action, and our own personal values. We asked ourselves the question, ‘if people were talking about me, what would I want them to say?’ What we want other people to think and believe about us can tell us about the type of person we want to be, the way we want to live our lives and the things that really matter to us.
However, there is more to it than just having a broad insight into the things which matter to us. That doesn’t actually tell us what our values are. What we really need is to clearly define them in specific terms. We can do this by asking ourselves “What does that mean?”. For example, someone might identify that it is important to them to be a good friend. That’s a great start but does that mean the same thing to everyone? Of course not. Similarly to ‘right’, ‘good’ is another subjective, personal judgement and therefore one person’s behaviour of being a ‘good’ friend may look entirely different from another’s. To gain some clarity of what ‘good’ means to you try this sentence completion task,
“In being a good friend I want to behave with _______”
Your responses here will reflect values.
One possible common response to the task above might be 'respect'. Fantastic, we now know the type of friend we want to be, one who behaves with respect towards them. But, the work still isn’t done. Although it is a great start and essential to the process, it isn’t enough to simply know what our values are. This in itself will not bring us to being the person we want to be. The next step is to define the behaviours that we associate with the value. Consider the following:
What would it look like if you were behaving with respect towards you friend? What would they see/hear/experience? What might other people witness?
What we are looking for is observable, objective evidence of that value being demonstrated.
This might seem like a lot of work but the benefits that come from behaving in a way that is consistent with our values has been well documented and recognised. How much better do we feel when we can look back on the day and say to ourselves that we behaved with integrity, that we did the ‘right’ thing?
Dates 2022
Synods
Meirionydd - Monday 10am
14 February, 27 June, 10 October
Anglesey - Monday 7pm 14
February, 27 June, 10 October
Bangor - Tuesday 10am
15 February, 28 June, 11 October
Grŵp Cadfan
At Nant Gwrtheyrn - Lunch time to lunch time
28 - 29 March
1 - 2 December
Clergy Conference
12 to 15 September in Oxford
Chrism Eucharist
11 April - 11am in Saint Deiniol's Cathedral
Ordination Service
25 June - 11am in Saint Deiniol's Cathedral
Diocesan Conference
1 October - 2pm in Saint Deiniol's Cathedral
Subscribe to receive email notification of Y Ddolen and other diocesan announcements
Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.