minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Llanidloes Market Hall
Neuadd y Farchnad yn Llanidloes, Bro Arwystli | The Market Hall in Llanidloes, Bro Arwystli
English

Y Ddolen


2 Ionawr 2022

Ail Sul y Nadolig


Y Sul hwn, a thrwy gydol yr wythnos nesaf rydym yn gweddïo am:

Ardal Weinidogaeth
Bro Arwystli

gan gynnwys y rhai sy’n gwasanaethu yno:
  • Y Parchg Alison Gwalchmai
  • Y Parchg Jon Price
  • Y Parchg Beth Weston
  • Debbie Peck - Gweinidog Arloesol
  • Julia Schultz
  • Christoph Schultz
  • Lauris Palshis
  • Penny Pearce
  • Liz Green
Gofynnir am ein gweddïau yn arbennig am:
  • y clerigion sydd wedi ymddeol ond sydd yn helpu yn achlysurol
  • yr ailddechreuad o ddigwyddiadau yn Llanidloes
  • perthnasau parhaus gyda'r ysgolion yn yr ardal, gweithgareddau ar ôl ysgol a'r clwb ieuenctid

Calendr Digidol

Dyddiadur

21 Ionawr
Plygain Esgobaethol

7pm
Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandudno
Pe gallech chi ddod i gymryd rhan neu allu cael grŵp at ei gilydd o'ch Ardal Weinidogaeth, rhowch wybod i Ganon Robert Townsend, os gwelwch yn dda neu os oes gennych unrhyw gwestiwn, peidiwch ag oedi cysylltu (ebost neu 07789 625225)

14-15 Chwefror
Synodau

14 Chwefror 10am - Meirionydd
14 Chwefror 7pm - Ynys Môn
15 Chwefror 10am - Bangor


Mapiau a data Ardaloedd Gweinidogaeth

Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi creu mapiau o bob Ardal Weinidogaeth gyda gwybodaeth am bob un gan gynnwys data cyfrifiad a mapiau amddifadedd.

Gellir dod o hyd i'r rhain yma ac maent yn ffynhonnell ddata ragorol i lywio ein cenhadaeth a'n gweinidogaeth.


Cristnogion yn y Lan Orllewinol, Gaza, Israel a Gwlad yr Iorddonen

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Patriarchiaid a Phenaethiaid yr Eglwysi yn Jerwsalem ddatganiad am erledigaeth Cristnogion yn Jerwsalem a rhannau eraill o'r Tir Sanctaidd.

Ewch i wefan Cyfeillion y Tir Sanctaidd i ddarllen adlewyrchiad gan Esgob Michael Langrish, Noddwr Cyfeillion y Tir Sanctaidd, am waith y sefydliad hwnnw i 

"sefyll, a gweithredu, mewn undod gyda'n brodyr a'n chwiorydd yng Nghrist, er gwaethaf yr holl ymdrechion i'w pylu, y gall canhwyllau ffydd, gobaith a chariad, pob un wedi'i oleuo a'i gynnal gan olau Crist, barhau i ddisgleirio'n llachar yn nhywyllwch tlodi, eiddilwch, ansicrwydd, ymyleiddio ac anobaith sy'n gysgod ar lawer yn y Tir Sanctaidd ar hyn o bryd."

Ennyd | Gofalu am ein hunain ac eraill


Amlygwyd yr angen i ofalu am ein lles a'n hiechyd meddwl ein hunain sawl tro yn ystod y pandemig.

Ar ddechrau pob mis mae Y Ddolen yn cynnwys myfyrdod byr - ennyd i oedi - a rhywbeth ymarferol i roi cynnig arno.


Newid yn y flwyddyn newydd

Wrth i ni ddechrau blwyddyn galendr newydd rydym ni, unwaith eto, yn gweld y traddodiad o wneud addunedau blwyddyn newydd.

Efallai bod pobl yn meddwl am eu hiechyd a'u lles ac eisiau bod yn fwy egnïol, gwella eu diet neu roi'r gorau i arfer gwael. Efallai mai yn eu gwaith maen nhw'n ystyried newid - i fod yn fwy trefnus, ail-gydbwyso gwaith ac amser personol, neu ddod â syniad newydd i fodolaeth. Neu efallai mai yn eu bywyd personol yr hoffent weld rhywbeth yn wahanol - treulio mwy o amser gyda'r teulu, gweld ffrindiau'n fwy neu godi hobi neu sgil newydd.

Gall gwybod beth yr hoffem ei newid fod yn hawdd - gall ei gwneud yn realiti, ar y llaw arall, fod yn stori hollol wahanol. Rydyn ni'n tueddu i fod yn greaduriaid o arfer, gan ei chael hi'n llawer haws syrthio yn ôl i hen ymddygiadau sy'n gyfarwydd, hawdd ac yn naturiol. Mae hyn yn aml yn cymryd llawer llai o ymdrech ac egni ac, felly, mae'n batrwm dealladwy yng nghyd-destun ein bywydau prysur. Ar ben hynny, gall ymrwymo i wneud rhywbeth gwahanol fod yn frawychus neu'n fygythiol, ac rydyn ni'n tueddu i gael ein cymell i osgoi teimlo'r pethau hyn. Efallai mai dyna pam mae llawer o bobl yn ei chael hi mor heriol gweithredu ar bethau yr hoffent eu gwneud - ofn methu neu ddiffyg argyhoeddiad y byddant yn llwyddiannus. Gall hyn atal pobl rhag cychwyn hyd yn oed neu gall roi caniatâd i roi'r gorau iddi neu fethu â ddychwelyd at eu hen ffyrdd. Un o'r ffactorau allweddol wrth wneud newid yw lefel ein hargyhoeddiad neu ein hyder yn ein gallu i lwyddo.

Felly, sut mae goresgyn hyn?

  1. Gwnewch nod realistig, efallai trwy ei rannu'n ddarnau llai y gellir eu cyflawni'n gyflymach neu'n haws.
  2. Cadwch gofnod o'r cynnydd sy'n cael ei wneud yn hytrach na chanolbwyntio ar yr agweddau sydd wedi bod yn fwy heriol. Mae hyn yn golygu, yn hytrach na gweld yr amseroedd nad ydyn nhw'n mynd cystal, rydyn ni'n sylwi ac yn cofnodi'r pethau sydd wedi bod yn llwyddiannus.
  3. Atgoffa ein hunain o lwyddiannau a nodi'r hyn a alluogodd i ni fod yn llwyddiannus yn y gorffennol. Gall hyn dynnu sylw at ein cryfderau, ein sgiliau a'n hadnoddau personol a'n hatgoffa o'r hyn y gallwn ei wneud.

Gall gwneud y newidiadau bach hyn yn ein ffordd o feddwl gynyddu ein synnwyr o hyder y byddwn yn llwyddo a thrwy hynny gynyddu'r tebygolrwydd o wneud a chynnal newidiadau cadarnhaol yn ein bywydau.

Mae newid yn anodd. Mae'n cymryd ymrwymiad, ymroddiad ac ymdrech barhaus. Nid yw'n ddigwyddiad 'unwaith-yn-unig' ond yn broses, rhywbeth sy'n digwydd dros amser , sy'n raddol ac yn gynyddrannol. Bydd heriau ar hyd y ffordd a lympiau yn y ffordd sy'n ein gwthio oddi ar y trywydd iawn. Fodd bynnag, mae'n bwysig cofio y gallwn fod yn llwyddiannus ym mron unrhyw beth os ydym yn bod yn realistig ac yn cadw meddylfryd optimistaidd lle rhagwelir a disgwylir llwyddiant.


Dyddiadau 2022

Synodau
Meirionydd - Dydd Llun 10am
10am 14 Chwefror, 27 Mehefin, 10 Hydref
Ynys Môn - Dydd Llun 7pm
14 Chwefror, 27 Mehefin, 10 Hydref
Bangor - Dydd Mawrth 10am
15 Chwefror, 28 Mehefin, 11 Hydref

Grŵp Cadfan
Yn Nant Gwrtheyrn - Amser cinio i amser cinio
28 a 29 Mawrth
1 a 2 Rhagfyr

Cynhadledd Clerigion
12 i 15 Medi yn Rhydychen

Cymun y Crism
11 Ebrill - 11am yng Nghadeirlan Deiniol Sant

Gwasanaeth Ordeinio
25 Mehefin - 11am yng Nghadeirlan Deiniol Sant

Cynhadledd yr Esgobaeth
1 Hydref - 2pm yng Nghadeirlan Deiniol Sant


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Y Ddolen ac hysbysiadau esgobaethol eraill

Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.

Cymraeg

Y Ddolen


2 January 2022

The Second Sunday of Christmas


This Sunday and through the week we pray for:

the Ministry Area of Bro Arwystli

including those who serve there:
  • The Revd Alison Gwalchmai
  • The Revd Jon Price
  • The Revd Beth Weston
  • Debbie Peck - Pioneer Minister
  • Julia Schultz
  • Christoph Schultz
  • Lauris Palshis
  • Penny Pearce
  • Liz Green
Our prayers in particular are asked for:
  • the retired clerics in the area who help out occasionally
  • the resumption of outreach events in Llanidloes
  • continued relations with the schools in the area, and after school activities and youth club

Paper Calendar

Diary

21 January
Diocesan Plygain

7pm
Holy Trinity Church, Llandudno
If you are able to come and take part or get a group together from your Ministry Area, please let Canon Robert Townsend know or if you have any questions please don't hesitate to get in touch (email or 07789 625225).

14-15 February
Synods

14 February 10am - Meirionydd
14 February 7pm - Anglesey
15 February 10am - Bangor


Maps and data for Ministry Areas

The Church in Wales has created maps of each Ministry Area with information about each including census data and deprivation maps.

These can be found here and are an excellent source of data to inform our mission and ministry.


Christians in the West Bank, Gaza, Israel and Jordan

The Patriarchs and Heads of the Churches in Jerusalem recently published a statement about the persecution of Christians in Jerusalem and other parts of the Holy Land.

Please visit the Friends of the Holy Land website to read a reflection by Bishop Michael Langrish, Patron of the Friends of the Holy Land, about the work of that organisation to:

"stand, and act, in solidarity with our brothers and sisters in Christ, that, despite all the efforts to dim them, the candles of faith, hope and love, all lit and sustained by the light of Christ, may continue to shine brightly into the darkness of poverty, frailty, insecurity, marginalisation and hopelessness that grips so many in the Holy Land right now."

Pause | Minding myself and others


Looking after our own wellbeing and mental health has been highlighted many times throughout the pandemic.

At the start of each month Y Ddolen includes a short reflection - an opportunity to pause - and something practical to try.


Change in the new year

As we enter a new calendar year we, once again, see the tradition of making new year resolutions.

Perhaps people are thinking about their health and wellbeing and want to be more active, improve their diet or give up an unhealthy habit. Maybe it is in their work that they are considering change - to be more organised, re-balancing work and personal time, or bringing a new idea into being. Or perhaps it is in their personal life that they would like to see something being different - spending more time with family, seeing friends more or picking up a new hobby or skill.

Knowing what we would like to change can be easy - making it a reality, on the other hand, can be an entirely different story. We tend to be creatures of habit, finding it much easier to fall back to old behaviours that are familiar, easy and natural. This often takes much less effort and energy and is, therefore, an understandable pattern in the context of our busy lives. Furthermore, committing to actually doing something different can be scary, intimidating or threatening, and we tend to be motivated to avoid feeling these things. This may be why many people find it so challenging to act on things they would like to - a fear of failure or a lack of conviction that they will be successful. This can prevent people from even getting started or can give permission to quit or default to their norm. One of the key factors in making a change is our level of conviction or confidence in our ability to succeed.

So, how do we overcome this?

  1. Make a goal realistic, perhaps by breaking it down into smaller chunks that can be achieved more quickly or easily.
  2. Keep a log of the progress being made rather than focussing on the aspects that have been more challenging. This means, rather than seeing the times that don't go so well we notice and record the things that have been successful.
  3. Remind ourselves of successes and identify what it was that enabled us to be successful in the past. This can highlight our strengths, skills and personal resources and remind us of what we are capable of.

Making these small shifts in our thinking can increase our sense of confidence that we will succeed and thereby directly increase the likelihood of making and sustaining positive changes in our lives.

Change is hard. It takes commitment, dedication and sustained effort. It is not a one-off event but a process, something that occurs over time and is gradual and incremental. More often than not there will be challenges along the way and bumps in the road that push us off course. It is, though, important to remember that we can be successful in almost anything if we are being realistic and keeping an optimistic mind-set in which success is anticipated and expected. 


Dates 2022

Synods
Meirionydd - Monday 10am
14 February, 27 June, 10 October
Anglesey - Monday 7pm
14 February, 27 June, 10 October
Bangor - Tuesday 10am
15 February, 28 June, 11 October

Grŵp Cadfan
At Nant Gwrtheyrn - Lunch time to lunch time
28 - 29 March
1 - 2 December

Clergy Conference
12 to 15 September in Oxford

Chrism Eucharist
11 April - 11am in Saint Deiniol's Cathedral

Ordination Service
25 June - 11am in Saint Deiniol's Cathedral

Diocesan Conference
1 October - 2pm in Saint Deiniol's Cathedral


Subscribe to receive email notification of Y Ddolen and other diocesan announcements

Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.