
Y Ddolen
Rhifyn y Pymthegfed Sul wedi'r Drindod | 12 Medi 2021
Yn ein gweddïau y Sul hwn a thrwy gydol yr wythnos nesaf rydym yn cofio:
Ardal Weinidogaeth Bro Tudno
Y rhai sy’n gwasanaethu yno:
- y Parchg Andrew Sully (Arweinydd Ardal Weinidogaeth)
- yr Hybarch Mary Stallard
- y Parchg Siôn Rhys Evans
- Christine Jones (Gweinidog Arloesol)
- Vicky Ford (Gweinidog Bugeiliol)
- Roz Harrison (Gweinidog Teulu)
Cofiwn yn enwedig am:
- weithrediad adroddiad Ezra
- y cwrs 'Croeso i Bawb' a holiadur y plwyf
- y cysylltiadau ag Ysgol VA San Siôr
- y côr iau newydd
- datblygiad Eglwys Sant Tudno fel eglwys pererindod
Wrth yr Esgob:
Cariad yw ffordd Duw
Yn fy Anerchiad Lywyddol i'r Corff Llywodraethol yn gynharach yr wythnos hon, dyfynnais waith yr awdur, Mark Jarman. Gan ddefnyddio'r argyhoeddiad bod Duw ar waith yn y byd, mae'n ysgrifennu y gallai
"bywyd tragwyddol fod yn dod yn ôl i'r byd hwn, wedi'i berffeithio a heb eich caniatâd."
Os credwn fod y gwynt yn chwythu lle mae'n ewyllysio, a'n bod ni yn clywed ei sain ond nad ydym yn gwybod o ble y daw neu'n mynd (Ioan 3:8), mae angen i ni fod yn fyw i alwad Duw. Oddi wrthym ni, pobl Duw ynghŷd yn Eglwys Dduw, mae'r weledigaeth hon o Dduw yng Nghrist yn mynnu ein bod yn dirnad, yn ymddiddan ac yn gweddïo am adnewyddu dealltwriaeth sy’n fyw, o'r cyfan y mae Duw yn ei wneud yn ein plith.
Bu cyfarfod y Corff Llywodraethol yr wythnos hon yn ymwneud â dirnadaeth ac ymddiddan ddifrifol ynglŷn â chynnal gwasanaeth Bendith yn dilyn Partneriaeth Sifil neu Briodas rhwng dau berson o'r un rhyw.
Yn dilyn diwrnod o drafod gweddïgar, cytunodd y Corff Llywodraethol awdurdodi defod arbrofol o Fendith.
Yr wyf yn falch ein bod, fel Eglwys, wedi cymryd y cam bach ond arwyddocaol hwn i ganiatáu inni fod yn onest ac yn agored wrth ddathlu cariad ac ymrwymiad dau berson â’i gilydd (un y byddant eisoes wedi'i wneud mewn cyfraith sifil) ac i wahodd bendith Duw ar eu partneriaeth.
Gwn y bydd rhai o fewn ein teulu esgobaethol sy'n anghytuno. Mae'r Esgobion yn deall bod derbyn partneriaethau o'r un rhyw yn parhau i fod yn bwnc dadleuol, a bod rhai Cristnogion sy'n teimlo na allant ddarllen Ysgrythur a Thraddodiad yn y ffordd y mae'r ddefod arbrofol yn amlinellu. O ganlyniad, ni fydd yn ofynnol i unrhyw glerig weithredu yn erbyn eu cydwybod a chymryd rhan mewn dathliad o'r ddefod; a lle bydd clerig yn teimlo na all weithredu’r ddefod hon, bydd y cyfrifoldeb arnaf i geisio gofal a darpariaeth amgen i'r cwpl dan sylw.
Bydd canllawiau manylach am y ddefod, sydd wedi ei hawdurdodi i'w defnyddio o 1 Hydref ymlaen, yn cael eu dosbarthu gan Fainc yr Esgobion i glerigion ddydd Llun. Gallwch ddarllen mwy am ddadl y Corff Llywodraethol yma, a fy Anerchiad Lywyddol yma.
"Cariad yw ffordd Duw," meddai ein defod newydd. Gadewch i ni yn yr esgobaeth hon fod yn unedig yn ein gweddi y gallem wybod ffordd gariadus Duw - i'r rhai sy'n dod i'n Heglwys yn ceisio bendith Duw, i'r rhai sy'n llawenhau ac mewn poen ar hyn o bryd, ac am ein bywyd gyda'n gilydd fel dilynwyr yr un y mae Duw i'w adnabod, ei berffeithio a'i gofleidio ynddo.
Y Gwir Barchg Andy John
Esgob Bangor

Dyddiadur
14-16 Medi
Cynhadledd Glerigol 2021 | Croes, Gobaith, Cenhadaeth
Gweler yma am raglen y gynhadledd a rhagor o wybodaeth
26 Medi
Gwasanaeth i ddathlu gweinidogaethau newydd yng Nghadeirlan Deiniol Sant
27 Medi
Cynhadledd yr Esgobaeth ar Zoom
2 Hydref
Cynhadledd yr Esgobaeth yn y Gadeirlan
Dyddiadau 2022
Synodau
Meirionydd - Dydd Llun
10am 14 Chwefror, 27 Mehefin, 10 Hydref
Ynys Môn - Dydd Llun 7pm
14 Chwefror, 27 Mehefin, 10 Hydref
Bangor - Dydd Mawrth 10am
15 Chwefror, 28 Mehefin, 11 Hydref
Grŵp Cadfan
Yn Nant Gwrtheyrn - Amser cinio i amser cinio
28 a 29 Mawrth
1 a 2 Rhagfyr
Cynhadledd Clerigion
12 i 15 Medi yn Rhydychen
Cymun y Crism
11 Ebrill - 11am yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Gwasanaeth Ordeinio
25 Mehefin - 11am yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Cynhadledd yr Esgobaeth
1 Hydref - 2pm yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Dathlu gweinidogaethau newydd yng Nghadeirlan Deiniol Sant, Bangor
Mae croeso cynnes i chi ymuno â ni i ddathlu gweinidogaethau newydd yng Nghadeirlan Deiniol Sant ac Ardal Weinidogaeth Bro Deiniol.
Yn yr oedfa Gosber hon yn y Gadeirlan, bydd y Cyfarwyddwr Cerdd, Gweinidog Teulu a'r Is-Ddeon newydd yn cael eu trwyddedu, a bydd Canoniaid newydd yn cael eu gosod, ochr yn ochr â Chlerc newydd y Cabidwl, a'r Cofrestrydd Esgobaethol a'r Dirprwy Gofrestrydd a benodwyd yn ddiweddar.

Digwyddiadau bywyd
Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi bod yn cyfarfod ac yn cefnogi pobl yn ystod adegau allweddol yn eu bywydau ers dros 100 mlynedd. Mae'r 'digwyddiadau bywyd' hyn yn rhan greiddiol o'n cenhadaeth a'n gweinidogaeth.
Crëwyd adnoddau newydd i gefnogi Ardaloedd y Weinyddiaeth yn eu gweinidogaeth Digwyddiadau Bywyd. Cafodd rhain eu lansio yng nghyfarfod diweddaraf y Corff Llywodraethol, byddant yn cael eu cyflwyno yn Esgobaeth Bangor ar Ddydd Iau 18 Tachwedd. Estynnir gwahoddiad i bob clerigwr esgobaethol a gweinidog lleyg i'r digwyddiad hwn.
Gweminar gwasnaethau cofio
Mae llefydd ar gael o hyd i fynychu gweminar nesaf Digwyddiadau Bywyd 'Gwasanaethau Cofio 2021' Eglwys Lloegr. Bydd Sandra Millar a Katy Tutt (Colled a Gobaith) yn ystyried sut y gall eglwysi barhau i gefnogi eu cymunedau yn nhymor Diwrnod yr Holl Eneidiau a Sul y Cofio.
Cymorth Cristnogol
Briffio yn ystod Brecwast COP26
Mae COP26 ar y gorwel ac mae'n foment mor enfawr ac yn gyfle i'r byd sefyll ynghŷd i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.
Mae gan yr eglwys yn y DU a ledled y byd rôl hollbwysig i'w chwarae wrth ddylanwadu ar arweinwyr gwleidyddol i fod yn uchelgeisiol wrth gymryd camau i ddod â'r argyfwng hinsawdd i ben. Ac i'r perwyl hwnnw, mae Cymorth Cristnogol dros y misoedd nesaf wedi llunio ambell i ddigwyddiad briffio brecwast ar gyfer arweinwyr eglwysi ledled y DU er mwyn hysbysu ac ennyn brwdfrydedd cyn COP26. Byddant i gyd ar Zoom 08.30-09.30am.
- 28 Medi: 'Rwy'n arweinydd eglwys - beth sydd gan COP i'w wneud â mi?'
- 26 Hydref: Lleisiau o'r eglwys fyd-eang – sut mae ein chwiorydd a'n brodyr yn ymateb
I ddarganfod mwy ac i archebu lle ewch ar wefan Cymorth Cristnogol yma.

Gofal ein Gwinllan
Bydd Athrofa Padarn Sant yn ail ddechrau eu cyfres Hydref o sesiynau trafod Gofal ein Gwinllan ar 22 Medi. Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, ond bydd cyfieithiad ar gael i’r sawl sydd yn dymuno hynny.
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Y Ddolen ac hysbysiadau esgobaethol eraill
Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Y Ddolen
The Fifteenth Sunday after Trinity edition | 12 September 2021
In our prayers this Sunday and through the week we remember:
the Ministry Area of Bro Tudno
Those who serve there:
- the Revd Andrew Sully (Ministry Area Leader)
- the Ven. Mary Stallard
- the Revd Siôn Rhys Evans
- Christine Jones (Pioneer Minister)
- Vicky Ford (Pastoral Minister)
- Roz Harrison (Family Minister)
In particular we remember:
- the implementation of the Ezra report
- the 'Everybody Welcome' course and parish questionnaire
- the links with San Siôr VA School
- the new junior choir
- the development of St Tudno's Church as a pilgrim church
From the Bishop:
Love is God’s way
In my Presidential Address to the Governing Body earlier this week, I quoted the author, Mark Jarman. Drawing on the conviction that God is at work in the world, he writes that
“eternal life may be coming back to this world, perfected and without your permission.”
If we believe that the wind blows where it wills, and that we hear its sound but do not know where it comes from or goes (John 3:8), we need to be alive to God’s beckoning. From us, God’s gathered people in God’s Church, this vision of God in Christ demands of us that we discern, confer and pray for a renewed, living understanding of all that God is doing in our midst.
The Governing Body meeting this week engaged in serious discernment and conferring about a service of Blessing following a Civil Partnership or Marriage between two people of the same sex.
Following a day of prayerful discussion, the Governing Body agreed to authorise an experimental rite of Blessing.
I am glad that we have, as a Church, taken this small but significant step to allow us to be honest and open in celebrating the love and commitment of two people to each other (one which they will have already made in civil law) and to invite upon their partnership God’s blessing.
I know that there will be some within our diocesan family who disagree. The Bishops understand that acceptance of same-sex partnerships remains a controversial view, and that there are Christians who feel unable to read Scripture and Tradition in the way the experimental rite outlines. Consequently, the rite does not carry with it any requirement on any cleric to act against their conscience and to participate in the celebration of the rite; and where a cleric feels unable to act in this way, the responsibility will fall upon me to seek alternative care and provision for the couple concerned.
More detailed guidance about the rite, which is authorised to be used from 1 October, will be circulated by the Bench of Bishops to clergy on Monday. You can read more about the Governing Body debate here, and my Presidential Address here.
“Love is God’s way,” says our new rite. Let us in this diocese be united in our prayer that we might know God’s way of love - for those who come to our Church seeking God’s blessing, for those who are rejoicing and hurting at this time, and for our life together as followers of the one in whom God’s love is known, perfected and proclaimed.
The Rt Revd Andy John
Bishop of Bangor

Diary
14-16 September
2021 Clergy Conference | Cross, Hope, Mission
See here for the conference programme and more information
26 September
A service to celebrate the new ministries at Saint Deiniol's Cathedral
27 September
Diocesan Conference on Zoom
2 October
Diocesan Conference at the Cathedral
Dates 2022
Synods
Meirionydd - Monday 10am
14 February, 27 June, 10 October
Anglesey - Monday 7pm 14
February, 27 June, 10 October
Bangor - Tuesday 10am
15 February, 28 June, 11 October
Grŵp Cadfan
At Nant Gwrtheyrn - Lunch time to lunch time
28 - 29 March
1 - 2 December
Clergy Conference
12 to 15 September in Oxford
Chrism Eucharist
11 April - 11am in St Deiniol's Cathedral
Ordination Service
25 June - 11am in St Deiniol's Cathedral
Diocesan Conference
1 October - 2pm in St Deiniol's Cathedral
Celebrating new ministries at St Deiniol's Cathedral, Bangor
You are warmly invited to celebrate new ministries at Saint Deiniol’s Cathedral and the Ministry Area of Bro Deiniol.
At this service of Evening Prayer at the Cathedral, the new Director of Music, Family Minister and Sub-Dean will be licensed, and new Canons will also be installed, alongside the new Chapter Clerk and the recently appointed Diocesan Registrar and Deputy Registrar.

Life events
The Church in Wales has been meeting and supporting people during key moments in their lives for over 100 years. These life events represent a core part of our mission and ministry.
New resources have been created to support Ministry Areas in their Life Events ministry. These were officially launched at the recent meeting of the Governing Body and will be shared in the Diocese of Bangor on Thursday 18 November. An invitation to this event is extended to all diocesan clergy and lay ministers.
Remembering services webinar
There are still places available to attend the Church of England's next Life Events webinar 'Remembering Services 2021'. Sandra Millar and Katy Tutt (Loss and Hope) will be considering how churches can continue to support their communities in the season of All Souls' Day and Remembrance Sunday.
Christian Aid
COP26 Breakfast Briefings
COP26 is just around the corner and is such a huge moment for the world to stand together in the fight against climate change.
The church in the UK and around the world has a crucial role to play in influencing political leaders to be ambitious in taking steps to end the climate crisis. And to that end, Christian Aid have put together a couple of UK-wide church leader breakfast briefing events over the next few months to inform and enthuse church leaders across the UK ahead of COP26. They will all be via Zoom 08.30-09.30am.
- 28 September: ‘I’m a church leader - what’s COP got to do with me?’
- 26 October: Voices from the global church – how our sisters and brothers are responding
To find out more and to book a place please visit the Christian Aid website here.

Gofal ein Gwinllan
St Padarn's Institute will be starting their Autumn series of Gofal ein Gwinllan discussion sessions on 22 September. The sessions will be held in Welsh but translation will be available to those that require it.
Subscribe to receive email notification of Y Ddolen and other diocesan announcements
Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.