minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Archddiacon Mary Stallard | Archdeacon Mary Stallard
English

Y Ddolen


26 Ionawr 2022

Rhifyn arbennig


Esgob Cynorthwyol newydd ar gyfer ein hesgobaeth

Rydym wrth ein bodd yn rhannu’r newyddion bod yr Archesgob wedi penodi Archddiacon Bangor, Mary Stallard, yn Esgob Cynorthwyol yn Esgobaeth Bangor.

Bydd ein Hesgob Cynorthwyol newydd yn cymryd yr awenau o fewn Esgobaeth Bangor mewn nifer o feysydd allweddol, er mwyn sicrhau parhad mewn arweinyddiaeth esgobol ofalus ac effeithiol o fewn yr esgobaeth a chynrychiolaeth yr esgobaeth o fewn y dalaith, tra’n galluogi’r Archesgob i ymgymryd â’i gyfrifoldebau arwyddocaol newydd ledled yr Eglwys yng Nghymru.

Bydd hyn yn newid sylweddol i ni o fewn yr esgobaeth, wrth i’r Archddiacon gofleidio’r rôl newydd hon a'i phlethu â'i gweinidogaeth fel Archddiacon, a fydd yn parhau. Bydd ein Hesgob Cynorthwyol yn cael ei chysegru mewn gwasanaeth taleithiol ddiwedd mis Chwefror, ochr yn ochr ag Esgob newydd Abertawe ac Aberhonddu (a fydd o reidrwydd yn ddigwyddiad â thocynnau mynediad). Ar 1 Mawrth, bydd gwasanaeth esgobaethol yng Nghadeirlan Deiniol Sant, lle bydd pawb o bob cwr o’r esgobaeth yn gallu croesawu’r Esgob Cynorthwyol newydd, a’i sicrhau o’n gweddïau dros ei gweinidogaeth newydd yn ein plith.

Isod fe welwch destun llawn cyhoeddiad y penodiad a wneir gan yr Eglwys yng Nghymru y bore yma, yn ogystal â gwybodaeth bellach am ein cynlluniau cychwynnol oddi mewn i'w esgobaeth i gefnogi a chroesawu ein Hesgob Cynorthwyol newydd.


Archesgob Cymru yn cyhoeddi penodiad Esgob Cynorthwyol newydd

Enwebwyd Mary Stallard, a wasanaethodd fel Archddiacon Bangor am y pedair blynedd ddiwethaf, yn Esgob Cynorthwyol yn Esgobaeth Bangor. Bydd yn rhannu arweinyddiaeth yr esgobaeth tra bydd Esgob Bangor, Andrew John, yn gwasanaethu fel Archesgob Cymru. Caiff ei chysegru fel esgob yng Nghadeirlan Bangor ar 26 Chwefror.

Talodd yr Archesgob Andrew deyrnged i galon fugeiliol a gweledigaeth strategol Mary. Dywedodd,

Rwy’n hynod falch y cytunodd Mary gymryd cyfrifoldeb gweithredol am lawer o fywyd ein Hesgobaeth i fy nghynorthwyo tra byddaf yn rôl Archesgob Cymru. Mae gan Mary galon am weinidogaeth ac mae’n arwain gyda sensitifrwydd bugeiliol, cydymdeimlad a doethineb. Mae ganddi gyfoeth o brofiad, gan fod wedi gwasanaethu ym mhedair o chwech esgobaeth yr Eglwys ac ar draws ystod o arbenigeddau. Mae ei hymagwedd broffesiynol a’i gweledigaethol strategol yn hysbys iawn ac mae ei phenodiad yn gam cadarnhaol i esgobaeth Bangor.

Dywedodd yr Archddiacon Mary,

Mae’r alwad i fod yn Gristion a gwasanaethu mewn gweinidogaeth ordeiniedig fel diacon ac offeiriad yn un a gefais bob amser yn gyffrous a hefyd yn un a all godi ychydig o fraw. Mae’r cyfle newydd hwn i ymchwilio a chynnig rhoddion eraill arweinyddiaeth fel esgob cynorthwyol gyda’r tîm gwych ym Mangor yn teimlo fel buddsoddiad mawr o ymddiriedaeth. Gwnaf fy ngorau i ymateb i’r galwad newydd hwn ac i anrhydeddu’r ymddiriedaeth honno, gan geisio adeiladu ar y gwaith a ddechreuwyd eisoes i addoli Duw, tyfu’r eglwys a charu’r byd.

Yn hanu o Birmingham, cafodd yr Archddiacon Mary ei magu mewn rheithordy. Roedd ei thad yn ficer a’i mam yn wyddonydd sy’n golygu iddi gael ei magu mewn cartref lle anogwyd codi cwestiynau am fywyd a ffydd.

Bu Mary yn darllen Diwinyddiaeth yng Ngholeg Selwyn, Caergrawnt ac astudiodd i fod yn athrawes yn Llundain cyn hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg y Frenhines, Birmingham a Choleg Diwinyddol Tamil Nadu yn India. Gwasanaethodd fel ciwrad yng Nghasnewydd, cyn symud i Esgobaeth Tyddewi fel diacon-mewn-gofal a ficer Ysbyty Cynfyn, Eglwys Newydd a Llantrisant. Yn 2003 penodwyd Mary yn Ganon Preswyl yng Nghadeirlan Llanelwy ac yn Gaplan yr Esgob, gan wasanaethu hefyd fel Cyfarwyddwr Ordinandau yr Esgobaeth a Chadeirydd Bwrdd Gweinidogaeth yr Esgobaeth ac Ysgrifennydd Detholiad Taleithiol.

Rhwng 2011 a 2018 gwasanaethodd fel Caplan Anglicanaidd yn Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff, yn ogystal â bod yn Offeiriad Cyswllt yn Ardal Cenhadaeth Wrecsam. Roedd hefyd yn gyd-gyfarwyddwr Canolfan Addysg Grefyddol a Datblygu Ffydd San Silyn yn Wrecsam. Cafodd ei phenodi yn Archddiacon Bangor ac yn offeiriad cyswllt yn Llandudno yn 2018.

Mae gweinidogaeth darlledu sylweddol y Darpar Esgob Cynorthwyol Mary wedi ei gweld yn ymddangos ar BBC Radio Cymru fel arweinydd Yr Oedfa ac mae wedi cyfrannu at Bwrw Golwg, ar BBC Radio Wales yn all Things Considered, Celebration, Wednesday Word a Weekend Word, ac ar Radio 4 fel arweinydd The Daily Service a Sunday Worship ac fel awdur a chyflwynydd Prayer for the Day.

Mae Mary yn briod â’r Parch Andrew Sully, Arweinydd Ardal Gweinidogaeth Llandudno, ac mae ganddynt ddwy ferch sydd bellach yn oedolion. Mae ei hobïau yn cynnwys coginio, darllen a rhedeg.


Gwasanaeth o groeso

1 Mawrth 2.30pm

Ar Ddydd Gŵyl Dewi, bydd Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor yn cynnal dathliad arbennig o'r Cymun Bendigaid gyda'r Esgob Cynoprthwyl Newydd ac Archesgob yn Cymru yn cyd-lywyddu.

Rhennir rhagor o fanylion am y gwasanaeth dros yr wythnosau nesaf.

Bydd croeso cynnes i bawb o bob rhan o’r esgobaeth ddod i fod yn bresennol, i ddathlu ein bywyd esgobaethol a gweddïo gyda’r Esgob Cynorthwyol newydd.


Ymddiddan am frefniadau arolygiaeth esgobol newydd

Mae Arweinwyr Ardaloedd Gweinidogaeth, Ficeriaid ar y Cyd, Diaconiaid Ardaloedd Gweinidogaeth ac aelodau Cyngor yr Esgob eisoes yn cwrdd fel Grŵp Cadfan yn Nant Gwrtheyrn ar 21-22 Mawrth.

Bydd hyn yn rhoi cyfle cynnar i’r Esgob Cynorthwyol a’r Archesgob drafod y trefniadau goruchwylio esgobol sy’n deillio o benodiad yr Esgob Cynorthwyol gyda chydweithwyr o bob rhan o’r esgobaeth.


Hollalluog Dduw, rhoddwr pob dawn dda, trwy dy Ysbryd Glân gosodaist amryw raddau o weinidogion yn yr Eglwys: edrych yn drugarog ar dy wasanaethferch, Mary, a elwir yn awr i fod yn esgob; cadw i yn y gwirionedd ac adnewydda hi mewn sancteiddrwydd, fel, trwy air ac esiampl dda, bydd yn wasanaethu yn ffyddlon er gogoniant i’th enw ac er lles dy Eglwys; trwy haeddiannau ein Gwaredwr Iesu Grist sydd yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi yn undod yr Ysbryd Glân, Duw yn oes oesoedd.

Amen


Dyddiadau 2022

Synodau
Meirionydd - Dydd Llun 10am
14 Chwefror, 27 Mehefin, 10 Hydref
Ynys Môn - Dydd Llun 7pm
14 Chwefror, 27 Mehefin, 10 Hydref
Bangor - Dydd Mawrth 10am
15 Chwefror, 28 Mehefin, 11 Hydref

Grŵp Cadfan
Yn Nant Gwrtheyrn - Amser cinio i amser cinio
21 a 22 Mawrth
1 a 2 Rhagfyr

Cynhadledd Clerigion
12 i 15 Medi yn Rhydychen

Cymun y Crism
11 Ebrill - 11am yng Nghadeirlan Deiniol Sant

Gwasanaeth Ordeinio
25 Mehefin - 11am yng Nghadeirlan Deiniol Sant

Cynhadledd yr Esgobaeth
1 Hydref - 2pm yng Nghadeirlan Deiniol Sant


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Y Ddolen ac hysbysiadau esgobaethol eraill

Cymraeg

Y Ddolen


26 January 2022

Special edition


A new Assistant Bishop for our diocese

We're delighted to be able to share the news that the Archbishop has appointed the Archdeacon of Bangor, Mary Stallard, as an Assistant Bishop in the Diocese of Bangor.

Our new Assistant Bishop will take the lead within the Diocese of Bangor in a number of key areas, to ensure the continuity of careful and effective episcopal oversight within the diocese and representation of the diocese within the province, while enabling the Archbishop to undertake his significant new responsibilities across the Church in Wales.

This will be a significant change for us within the diocese, as the Archdeacon embraces this new role, which she will combine with that of Archdeacon of Bangor. Our new Assistant Bishop will be consecrated at a provincial service at the end of February, alongside the new Bishop of Swansea & Brecon (which will necessarily be a ticketed event). On 1 March, there will be a diocesan service at Saint Deiniol's Cathedral, at which all from across the diocese will be able to welcome the new Assistant Bishop, and to assure her of our prayers for her new ministry among us.

Below you will find the full text of the announcement of the appointment being made by the Church in Wales this morning, as well as further information about our initial plans within the diocese to support and welcome our new Assistant Bishop.


The Archbishop of Wales announces the appointment of a new Assistant Bishop

Mary Stallard, who has served as Archdeacon of Bangor for the past four years, has been nominated as Assistant Bishop in the Diocese of Bangor. She will share the leadership of the diocese while the Bishop of Bangor, Andrew John, serves as Archbishop of Wales. She will be consecrated as a bishop at Bangor Cathedral on February 26.

Archbishop Andrew paid tribute to Mary’s pastoral heart and strategic vision. He said,

I am delighted that Mary has agreed to take on operational responsibility for much of the life of our Diocese to assist me while I take on the role of Archbishop of Wales. Mary has a heart for ministry and leads with pastoral sensitivity, empathy and wisdom. She has a wealth of experience, having served in four of the Church’s six dioceses, and across a range of specialisms. Her professional approach and strategic vision is well known and her appointment is a positive step for the diocese of Bangor.

Archdeacon Mary said,

The call to be a Christian and to serve in ordained ministry as a deacon and a priest is one I’ve always found both exciting and a bit daunting. This new opportunity to explore and offer gifts for leadership as assistant bishop with the great team in Bangor feels like a big investment of trust. I will do my best to respond to this new call and to honour that trust, seeking to build on the work already begun to worship God, grow the church and love the world.

Originally from Birmingham, Archdeacon Mary grew up in a vicarage. Her father was a vicar and her mother a scientist which meant she was raised in a home where asking questions about life and faith was encouraged.

Mary read Theology at Selwyn College, Cambridge and studied to be a teacher in London before training for ministry at Queen’s College, Birmingham and Tamil Nadu Theological Seminary in India. She served her curacy in Newport, before moving to the Diocese of St Davids as deacon-in-charge and vicar of Ysbyty Cynfyn, Eglwys Newydd and Llantrisant. In 2003, Mary was appointed Canon Residentiary at St Asaph Cathedral and Bishop’s Chaplain, serving also as Diocesan Director of Ordinands and Chair of the Diocesan Board of Ministry, and as Provincial Selection Secretary.

From 2011 to 2018 she served as Anglican Chaplain at St Joseph’s Catholic & Anglican High School, as well as being an Associate Priest in the Wrexham Mission Area. She was also co-director of the St Giles’ Centre for Religious Education & Faith Development in Wrexham.

She was appointed Archdeacon of Bangor and associate priest of Llandudno in 2018.

Archdeacon Mary’s substantial broadcasting ministry has seen her appear on BBC Radio Cymru as a leader of Yr Oedfa and contributor to Bwrw Golwg, on BBC Radio Wales’s All Things Considered, Celebration, Wednesday Word and Weekend Word, and on Radio 4 as a leader of The Daily Service and Sunday Worship and as the author and presenter of Prayer for the Day.

Mary is married to the Revd Andrew Sully, Ministry Area Leader of Llandudno, and they have two grown-up daughters. Her hobbies include cooking, reading and running.


Service of welcome

1 March 2.30pm

On St David's Day, Saint Deiniol's Cathedral in Bangor will host a special celebration of the Holy Eucharist at which both the new Assistant Bishop and the Archbishop of Wales will co-preside. 

Further details about the service will be shared over the coming weeks. 

There will be a warm welcome for all from across the diocese to come and be present, to celebrate our diocesan life and pray with the new Assistant Bishop.


Exploring new episcopal oversight arrangements

Ministry Area Leaders, Associate Vicars, Ministry Area Deacons and the members of the Bishop's Council are already scheduled to be meeting as Grŵp Cadfan at Nant Gwrtheyrn on 21-22 March. 

This will provide an early opportunity for the Assistant Bishop and the Archbishop to explore the episcopal oversight arrangements that flow from the Assistant Bishop's appointment with colleagues from across the diocese.


Almighty God, the giver of all good gifts, by your Holy Spirit you have appointed various orders of ministry in the Church: look with mercy on your servant, Mary, now called to be a bishop; maintain her in truth and renew her in holiness, that by word and good example she may faithfully serve you to the glory of your name and the benefit of your Church; through the merits of our Saviour Jesus Christ who is alive and reigns with you in the unity of the Holy Spirit, God for ever and ever.

Amen


Dates 2022

Synods
Meirionydd - Monday 10am
14 February, 27 June, 10 October
Anglesey - Monday 7pm
14 February, 27 June, 10 October
Bangor - Tuesday 10am
15 February, 28 June, 11 October

Grŵp Cadfan
At Nant Gwrtheyrn - Lunch time to lunch time
21 - 22 March
1 - 2 December

Clergy Conference
12 to 15 September in Oxford

Chrism Eucharist
11 April - 11am in Saint Deiniol's Cathedral

Ordination Service
25 June - 11am in Saint Deiniol's Cathedral

Diocesan Conference
1 October - 2pm in Saint Deiniol's Cathedral


Subscribe to receive email notification of Y Ddolen and other diocesan announcements