
Y Ddolen
30 Ionawr 2022
Gŵyl Fair y Canhwyllau
Y Sul hwn, a thrwy gydol yr wythnos nesaf rydym yn gweddïo am:
Bro Seiriol
- Canon Robert Townsend
- Y Parchg Lesley Rendle
- Cyngor yr Ardal Weinidogaeth
Gofynnir am ein gweddïau yn enwedig dros:
- y paratoadau ar gyfer yr haf ym Miwmares
- datblygiad o'r prosiect ynghŷd â Llan yn Eglwys Seiriol Sant, Penmon
- adnewyddiad Eglwys Llaniestyn
- twf yn yr eglwys

Dyddiadur
5 Chwefror
Cynhadledd Galwedigaethau
8 Chwefror
Grŵp Elen
7.30pm
Rhwydwaith yr esgobaeth ar gyfer pawb sy'n gweithio gyda plant, pobl ifanc a theuluoedd.
Cysylltwch â Naomi Wood am ragor o fanylion neu i gofrestru
14-15 Chwefror
Synodau
14 Chwefror 10am - Meirionydd
14 Chwefror 7pm - Ynys Môn
15 Chwefror 10am - Bangor
26 Chwefror
Cysegriad Esgob Mary Stallard ac Esgob John Lomas
2.30pm
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
1 Mawrth
Gwasanaeth o Gymun Bendigaid i groesawu Esgob Mary Stallard
2.30pm
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor

Esgob Cynorthwyol i'n Hesgobaeth
Ar ddydd Mercher 26 Ionawr gwnaethom ni rhannu’r newyddion bod yr Archesgob wedi penodi Archddiacon Bangor, Mary Stallard, yn Esgob Cynorthwyol yn Esgobaeth Bangor.
Bydd ein Hesgob Cynorthwyol newydd yn cymryd yr awenau o fewn Esgobaeth Bangor mewn nifer o feysydd allweddol, er mwyn sicrhau parhad mewn arweinyddiaeth esgobol ofalus ac effeithiol o fewn yr esgobaeth a chynrychiolaeth yr esgobaeth o fewn y dalaith, tra’n galluogi’r Archesgob i ymgymryd â’i gyfrifoldebau arwyddocaol newydd ledled yr Eglwys yng Nghymru.
Gellir gweld y cyhoeddiad llawn yma.

Llong drugaredd yng Nghonwy
Bydd Island Reach yn dod yn ‘long drugaredd’ i Fadagascar, gyda gwasanaethau meddygol a deintyddol. Ond yn gyntaf mae angen ei baratoi cyn ei drawsnewidiad mawr, felly mae'n 'ddechrau ymarferol'. Mae tîm ifanc o Wlad Belg, Ffrainc a’r Swistir wedi ymuno â’r ymdrech fel rhan o’u Hysgol Hyfforddi Disgyblaeth YWAM. Fe fyddan nhw yng Nghonwy tan ddiwedd mis Chwefror, dan arweiniad eu harweinydd tîm Caroline Bastenie.
Byddwn yn ymweld â'r llong ymhen ychydig wythnosau er mwyn rhannu rhagor o'r stori yma.
I ddarllen y stori llawn mor belled clicwch yma.
Oedfa gwrth-caethwasiaeth
Ar ddydd Sul 30 Ionawr am 12pm bydd gwasanaeth yn cael ei ddarlledu ar BBC Radio Cymru yn tynnu sylw at gaethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl. Gwasanaeth Cymraeg fydd hwn a bydd ar gael ar BBC Sounds am gyfnod o amser wedyn.

Adnoddau'r Grawys
Mae'r Grawys yn amser i edifeirwch a myfyrio. Mae na gynifer o adnoddau buddiol eleni fydd o gymorth i gade Grawys o ddifri:
- Adolygodd The Church Times nifer o lyfrau a chyrsiau gwahanol yn y rhifyn diwethaf (21 Ionawr). I weld y rhestr cliciwch yma.
- Adnodd arall y byddem yn ei ganmol yw'r Sylwebaeth Weledol ar yr Ysgrythur a ryddhaodd ei Becyn Adnoddau Grŵp ar gyfer eleni o'r enw 'In the Wilderness'. Mae’r cwrs hwn yn cynnwys 6 sesiwn sy’n edrych ar ddarnau o Genesis, Exodus, Eseia, Joel, a’r Efengylau a hefyd gweithiau celf yn amrywio o lawysgrifau goleuedig canoloesol i luniadau ffoto-realistig o’r 21ain ganrif. I gofrestru eich diddordeb yn y cwrs hwn, e-bostiwch Y Sylwebaeth Weledol ar yr Ysgrythur.
- Mae yna lyfr o'r enw 40 Diwrnod gyda'r Seintiau Celtaidd ar gael o Gwales hefyd.
- Mae na adnodd hollol newydd ar y ffordd gan Cyhoeddiadau'r Gair ar y we hefyd - 40 myfyrdod dyddiol, yn dilyn syniad Coeden Jesse, sef Jesus Tree - wedi ei ddatblygu gan ficer yn Worcester ar gyfer eleni. Maent am gynhyrchu rhain yn Gymraeg ac ar ei tudalen Facebook a'u rhannu yn ddyddiol.

Cristnogion yn Erbyn Tlodi
Lansiwyd canolfan ddyled Cristnogion yn Erbyn Tlodi (CAP) newydd ym Mangor ym mis Hydref 2021. Mae CAP yn darparu cymorth dyled am ddim a grwpiau cymunedol lleol ledled y Deyrnas Unedig. Mae eu gwasanaethau rhad ac am ddim, sy’n cael eu rhedeg gydag eglwysi lleol, yn darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol ac yn dangos i bobl fod gobaith bob amser.
Mae’r ganolfan newydd wedi’i lleoli yn Eglwys Mosaic ym Mangor ond mae’n gallu gweithio gyda chleientiaid ar draws cyrraedd ein hesgobaeth ac mae eisoes wedi cefnogi nifer o gleientiaid. Gyda chostau byw yn cynyddu yn ogystal ag effeithiau pandemig Covid-19 mae llawer o unigolion a theuluoedd yn ei chael hi'n anodd. Os oes yna deuluoedd neu unigolion y gwyddoch amdanynt sydd angen cymorth, sut bynnag y maent wedi dod i fod mewn dyled neu'n ei chael hi'n anodd, a fyddech cystal ag ystyried eu cyfeirio at CAP.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn, cysylltwch â Mark King, rheolwr y ganolfan ddyled. Mae cynlluniau i gynnal boreau coffi a chyfarfodydd rhannu gwybodaeth eraill. Bydd rhain yn cael eu rhannu yma, yn Y Ddolen, pan fydd y dyddiadau yn cael eu rhannu.
Oddi wrth yr Archesgob
Gofynnir i ni gweddïo am:
Amser da i ffwrdd o'r gwaith
Mae'r Archesgob yn cymryd cyfnod o wyliau yr wythnos hon. Gyrrwch unrhyw gyfathrebiad drwy law Robert Jones, cynorthwy-ydd yr Archesgob.
Caplan newydd i'r Archesgob
Mae hysbys wedi allan yn chwilio am Gaplan i'r Archesgob. Gweddïwch daw y person gorau ymlaen ac am y perthynas pwysig yma. Er mai apwyntiad mewnol bydd hwn gellir gweld manylion y swydd yma.
Dyddiadur yr Archesgob
Dydd Sul 30 Ionawr
Bro Dwylan
10am - Eglwys y Santes Fair a Christ, Llanfairfechan
Dydd Sul 13 Chwefror
Bro Eleth
Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn gweddïo dros:
6 Chwefror
Ein Hesgob Cynorthwyol newydd
13 Chwefror
Ein canolbwynt Esgobaethol o groesawi plant, pobl ifanc a theuluoedd
20 Chwefror
Ein canolbwynt esgobaethol o feithrin disgyblion
27 Chwefror
Ein canolbwynt esgobaethol o dyfu gweinidogaethau newydd
Dyddiadau 2022
Synodau
Meirionydd - Dydd Llun 10am
14 Chwefror, 27 Mehefin, 10 Hydref
Ynys Môn - Dydd Llun 7pm
14 Chwefror, 27 Mehefin, 10 Hydref
Bangor - Dydd Mawrth 10am
15 Chwefror, 28 Mehefin, 11 Hydref
Grŵp Cadfan
Yn Nant Gwrtheyrn - Amser cinio i amser cinio
21 a 22 Mawrth
1 a 2 Rhagfyr
Cynhadledd Clerigion
12 i 15 Medi yn Rhydychen
Cymun y Crism
11 Ebrill - 11am yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Gwasanaeth Ordeinio
25 Mehefin - 11am yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Cynhadledd yr Esgobaeth
1 Hydref - 2pm yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Y Ddolen ac hysbysiadau esgobaethol eraill
Y Ddolen
30 January 2022
Candlemas
This Sunday and through the week we pray for:
Bro Seiriol
- Canon Robert Townsend
- the Revd Lesley Rendle
- the Ministry Area Council
Our prayers are asked in particular for:
- preparations for summer activities in Beaumaris
- the development of the project with Llan at Saint Seiriol's Church, Penmon
- the renovation of Saint Iestyn's Church, Llaniestyn
- growth in the church

Diary
5 February
Vocations Conference
8 February
Grŵp Elen
7.30pm
This is the diocesan network for anyone working with children, young people and families.
Contact Naomi Wood for more information or to register
14-15 February
Synods
14 February 10am - Meirionydd
14 February 7pm - Anglesey
15 February 10am - Bangor
26 February
Consecration of Bishop Mary Stallard and Bishop John Lomas
2.30pm
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor
1 March
Service of Holy Eucharist to welcome Bishop Mary Stallard
2.30pm
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor

An Assistant Bishop for our Diocese
On Wednesday 26 January we announced that the Archbishop has appointed the Archdeacon of Bangor, Mary Stallard, as an Assistant Bishop in the Diocese of Bangor.
Our new Assistant Bishop will take the lead within the Diocese of Bangor in a number of key areas, to ensure the continuity of careful and effective episcopal oversight within the diocese and representation of the diocese within the province, while enabling the Archbishop to undertake his significant new responsibilities across the Church in Wales.
To read the full announcement please click here.

Mercy ship in Conwy
Island Reach will become a ‘mercy ship’ bound for Madagascar, with medical and dental services. But first it needs preparation before its major transformation, so it’s ‘all hands on deck’. A young team from Belgium, France and Switzerland have joined the effort as part of their YWAM Discipleship Training School. They will be in Conwy until the end of February, led by their team leader Caroline Bastenie.
We will be visiting the ship in the weeks to come in order to share more about this story.
To read the story so far please click here.
Anti-slavery service
On Sunday 30 January at 12pm a service will be broadcast on BBC Radio Cymru highlighting modern slavery and human trafficking. This will be a Welsh language service and will be available on BBC Sounds for a period of time afterwards.

Lent material
Lent is a time for penitence and reflection. There are many good resources this year to support our keeping of a holy Lent:
- The Church Times reviewed several different books and courses in the last edition (21 January). To see the list please click here.
- Another commendable resource is the Visual Commentary on Scripture which released its Group Resource Pack for this year titled 'In the Wilderness'. This course has 6 sessions which look at passages from Genesis, Exodus, Isaiah, Joel, & the Gospels and also artworks ranging from medieval illuminated manuscripts to 21st-century photo-realistic drawing. To register your interest in this course please email The Visual Commentary on Scripture.
- A Welsh language resource called 40 Diwrnod gyda'r Seintiau Celtaidd (40 Days with the Celtic Saints) is available from Gwales.
- A brand new online resource from Cyhoeddiadau'r Gair is being developed. It will be a series of 40 daily refelctions follwing the Jesse Tree idea that was developed by a vicar in Worcester for this year. This will be produced in Welsh and shared daily on their Facebook page.

Christians Against Poverty
A new Christians Against Poverty ( CAP) debt centre was launched in Bangor in October 2021. CAP provides free debt help and local community groups across the UK. Their free services, run with local churches, provide practical and emotional support and show people that there is always hope.
The new centre is based in Mosaic Church in Bangor but is able to work with clients right across the reach of our diocese and has already supported several clients. With the cost of living increasing in addition to the effects of the Covid-19 pandemic many individuals and families are struggling. If there are families or individuals you know of that are in need of support, however they've come to be in debt or are struggling, please do consider pointing them towards CAP.
If you would like to find out more about this work please do contact Mark King, the debt centre manager. There are plans to host coffee mornings and other information sharing meetings. These will be shared here, in Y Ddolen, when the dates are shared.
From the Archbishop
This week we are asked to pray for:
A good time away
The Archbishop is taking a period of leave this week. Please direct any communication through Robert Jones, the Archishop's assistant.
A new Chaplain for the Archbishop
An advert for the Archbishop's Chaplain has been published this week. Please pray that the correct person comes forward and for this important relationship. Although this will be an interntal appointment you can see details of the role here.
The Archbishop's Diary
Sunday 30 January
Bro Dwylan
10am - St Mary's and Christ Church, Llanfairfechan
Sunday 13 February
Bro Eleth
Over the next few weeks we will be praying for:
6 February
Our new Assistant Bishop
13 February
Our diocesan priority of welcoming children, young people and families
20 February
Our diocesan priority of nurturing disciples
27 February
Our diocesan priority of growing new ministries
Dates 2022
Synods
Meirionydd - Monday 10am
14 February, 27 June, 10 October
Anglesey - Monday 7pm
14 February, 27 June, 10 October
Bangor - Tuesday 10am
15 February, 28 June, 11 October
Grŵp Cadfan
At Nant Gwrtheyrn - Lunch time to lunch time
21 - 22 March
1 - 2 December
Clergy Conference
12 to 15 September in Oxford
Chrism Eucharist
11 April - 11am in Saint Deiniol's Cathedral
Ordination Service
25 June - 11am in Saint Deiniol's Cathedral
Diocesan Conference
1 October - 2pm in Saint Deiniol's Cathedral