Y Ddolen
24 Medi 2023
Yr Unfed Sul ar Bymtheg wedi'r Drindod
Gweddi gasgl
O Arglwydd, erfyniwn arnat
yn drugarog wrando gweddïau dy bobl sy’n galw arnat;
a chaniatâ iddynt ddeall a gwybod
y pethau y dylent eu gwneuthur,
a chael hefyd ras a gallu
i’w cyfl anwi’n ffyddlon;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi,
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.
Neges gan y Parchg James Tout, Caplan at Archesgob Cymru
Ffrindiau annwyl,
Tua diwedd mis Awst, cefais y fraint aruthrol o weithio gyda BBC Radio 4 a Chôr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru ar gyfer Sunday Worship, a ddarlledwyd fore Sul diwethaf. Ynddo, gwnaethom dynnu ar themâu defnyddio llais, naill ai ar lafar neu ar ffurf canu, a'r pŵer sydd gan ein lleisiau pan fyddwn yn codi sain i ddathlu, mewn protest neu mewn canmoliaeth.
Un o'r darnau o gerddoriaeth a gafodd ei chanu mor rhyfeddol gan Gôr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru oedd Even When He Is Silent gan Kim André Arnesen, darn o gerddoriaeth sy'n defnyddio testun a ddarganfuwyd ar y wal mewn gwersyll crynhoi, a ddywedodd "Rwy'n credu yn yr haul hyd yn oed pan nad yw'n disgleirio. Rwy'n credu mewn cariad hyd yn oed pan nad ydw i'n teimlo hynny. Rwy'n credu yn Nuw hyd yn oed pan fydd yn dawel." Mae enghreifftiau niferus yn yr ysgrythur ac yn y byd o'n cwmpas o bobl yn defnyddio eu lleisiau ond heb eu clywed, neu'n siarad gwirionedd i rym ond iddo gael ei daflu o'r neilltu fel niwsans, ac mae yna rai na allant ddefnyddio eu llais oherwydd nad ydynt bellach yn gallu gwneud hynny.
Dydd Iau diwethaf (21 Medi) oedd Diwrnod Alzheimer'r Byd. Yn fyd-eang, mae tua 50 miliwn o bobl yn byw gyda dementia, ac mae'r Gymdeithas Alzheimer's yn ceisio cydweithio i rannu arfer gorau, nid yn unig ar lefel ymchwil ond ar lefel ymarferol gyda meddygon, cleifion a gofalwyr. Defnyddio eu llais gyda'i gilydd lle na all eraill mwyach.
Mae Cristnogion dros y milenia wedi bod ar flaen y gad o ran codi eu lleisiau gyda'i gilydd; Salm 82:3-4 yn dweud "Amddiffyn hawliau'r tlodion a'r plant amddifad; Byddwch yn deg i'r anghenus a'r diymadferth. achubwch hwy o afael pobl ddrwg."
Tybed beth mae Duw wedi'i roi ar eich calon i godi eich llais amdano?
Yr Eiddoch yng Nghrist,
James
Ymunwch â ni yng Nghadeirlan Deiniol Sant i groesawu ein Archddiaconiaid newydd

Yn y Gosber ar Gân am 3.30pm ar 1 Hydref, bydd Archddiaconiaid, Canoniaid a chlerigion newydd yn cael eu gosod yn eu seddau ym mhresenoldeb Archesgob Cymru.
Byddem wrth ein bodd pe gallech ymuno â ni wrth i ni ddod at ein gilydd fel esgobaeth i gynnig croeso cynnes i'n Archddiaconiaid, Canoniaid a chlerigwyr newydd, a fydd yn cael eu gosod yn eu seddau ym mhresenoldeb Archesgob Cymru.
Edrychwn ymlaen at weld cynifer o'n clerigwyr â phosibl. Mae'r gwasanaeth ar agor i bawb, felly estynnwch wahoddiad i aelodau'ch eglwys.
Cynhadledd Esgobaethol
Mae Gosod Archddiaconiaid yn ddigwyddiad esgobaethol pwysig a llawen. Mae’r Archesgob yn gobeithio y bydd llawer o bob rhan o’r esgobaeth yn bresennol. Er mwyn galluogi hyn, rydym yn newid y trefniadau ar gyfer Cynhadledd yr Esgobaeth ar gyfer mis Hydref sydd i ddod, gan adeiladu hefyd ar brofiad blynyddoedd blaenorol, ac arbrofi gyda ffyrdd newydd o weithio.
Yn lle sesiwn gyllid Zoom a chyfarfod personol, cynhelir Cynhadledd yr Esgobaeth gyfan ar-lein, o 6.00pm - 7.30pm ddydd Llun 2 Hydref.
Cadwch y noson honno'n glir o ymrwymiadau eraill. Bydd manylion cofrestru yn dilyn yn ddiweddarach.
Encil Enlli
Daeth ein encil tri diwrnod ar Ynys Enlli yn noddfa i'n heneidiau lle ffynnodd cymdeithas Gristnogol ac adnewyddiad ysbrydol.
Elin Owen, arweinydd prosiect Llwybr Cadfan, a dau gyd-bererin, Mali Brynach ac Andrew Edwards sy'n dweud mwy wrthym am eu profiad bythgofiadwy.

Digwyddiad yr Eglwys Eco
Mae Isabel Losada, awdur The Joyful Environmentalist yn dod i Gaergybi ddydd Sadwrn 7 Hydref am 7.00 p.m. yn Eglwys Gatholig y Santes Fair.
Bydd hyn o ddiddordeb arbennig i unrhyw eglwys sy'n meddwl am Eglwys Eco a gofal amgylcheddol,
Tocynnau am ddim ar gael ar Eventbrite

Dyddiadur
29 Medi
10.30am Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
Gwasanaeth Goffa a Gobaith ar gyfer Mis Adferiad Cenedlaethol
1 Hydref
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
Yn y Gosber ar Gân am 3.30pm ar 1 Hydref, bydd Archddiaconiaid, Canoniaid a chlerigion newydd yn cael eu gosod yn eu seddau ym mhresenoldeb Archesgob Cymru.
5 Hydref
7pm, Zoom. Ebost Canon David Morris
Yr Alwad: Ymunwch â'r Alwad - fforwm ar-lein i bawb sy'n dirnad galwedigaeth i'r weinidogaeth Gristnogol.
12 - 15 Hydref
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
Tarannon: Gŵyl Cred a’r Celfyddydau. Pedwar diwrnod byrlymus ym mis Hydref sy’n gyforiog o gerddoriaeth, barddoniaeth, celf, hanes, addoliad, trafodaeth a sgwrs yng nghanol Bangor.
Rhannu Gwybodaeth
Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Matt Batten erbyn diwedd y ddydd Mercher cyn iddi gael ei gyhoeddi.
Y Ddolen
24 September 2023
The Sixteenth Sunday after Trinity
Collect
O Lord,
we beseech you mercifully to hear the prayers
of your people who call upon you;
and grant that they may both perceive and know
what things they ought to do,
and also may have grace and power
faithfully to fulfil them;
through Jesus Christ your Son our Lord,
who is alive and reigns with you,
in the unity of the Holy Spirit,
one God, now and for ever.
A message from the Revd James Tout, Chaplain to the Archbishop of Wales
Dear friends,
Towards the tail end of August, I had the immense privilege to work with BBC Radio 4 and the National Youth Choir of Wales for Sunday Worship, which broadcast last Sunday morning. In it, we drew upon the themes of using one’s voice, either in spoken or sung form, and the power that our voices hold when we raise them up in celebration, in protest or in praise.
One of the pieces of music that was sung so wonderfully by the National Youth Choir of Wales, was Even When He is Silent by Kim André Arnesen, a piece of music which uses text found on the wall at a concentration camp, which said “I believe in the sun even when it’s not shining. I believe in love even when I feel it not. I believe in God even when He is Silent.”. There are countless examples in scripture and in the world around us, of people using their voices but not being heard, or speaking truth to power only for it to be cast aside as a nuisance, and there are those who cannot use their voice because they are no longer able.
This last Thursday (21 September) was World Alzheimer’s Day. Globally, there are around 50 million people living with dementia, and the Alzheimer’s Society strives to work together to share best practice, not only on a research level but on a practical level with doctors, patients and carers. Using their voice collectively where others can’t anymore.
Christians over the millennia have been at the forefront of raising their voices together; Psalm 82:3-4 says “Defend the rights of the poor and the orphans; be fair to the needy and the helpless. Rescue them from the power of evil people.”
I wonder what God has put on your heart to raise your voice about?
Yours in Christ
James
Join us at Saint Deiniol's Cathedral to welcome our new Archdeacons

On the 1st of October at 3:30 pm, Saint Deiniol's Cathedral in Bangor will host a special Choral Evensong for the installation of our two new Archdeacons David Parry and Robert Townsend.
We would be delighted if you could join us as we come together as a diocese to offer a warm welcome to our new Archdeacons, Canons, and clergy, who will be officially installed in the presence of the Archbishop of Wales.
We look forward to see as many of our clergy as possible. The service is open to all so please do extend an invitation to your church members.
Diocesan Conference
The Installation of Archdeacons is an important and joyous diocesan event. The Archbishop hopes that many from across the diocese will attend. To enable this, we’re changing arrangements for the Diocesan Conference for this coming October, building also on the experience of previous years, and experimenting with new ways of working.
Instead of a Zoom finance session and in-person meeting, the totality of Diocesan Conference will take place online, from 6.00pm - 7.30pm on Monday 2 October. Registration details will follow shortly.
Please keep that evening clear of other commitments.
A Bardsey Retreat
From swimming with seals to poetry and spiritual reflection, a group of pilgrims on a three day retreat on Bardsey Island had a life changing experience.
Llwybr Cadfan project lead Elin Owen and two fellow pilgrims, Mali Brynach and Andrew Edwards tell us more about their unforgettable experience.

Eco Church event
Isabel Losada, the author of The Joyful Environmentalist is coming to Holyhead on Saturday 7 October at 7.00 p.m. at St. Mary’s Roman Catholic Church.
This will be of particular interest to any one thinking about Eco Church and environmental care.
Book free tickets on Eventbrite.

Diary
29 September
Service of Remembrance and Hope for National Recovery Month
10.30am at Saint Deiniol's Cathedral in Bangor
1 October
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor
At Choral Evensong at 3.30pm on 1 October, new Archdeacons, Canons and clergy will be installed in the presence of the Archbishop of Wales.
Thursday 5 October
Yr Alwad. An online forum for all who are discerning a vocation to Christian ministry. 7pm on Zoom. Email Canon David Morris
12 October to 15 October
Tarannon: A Festival of Religion and the Arts. Four days of music, poetry, visual art, history, worship, discussion and conversation at Saint Deiniol's Cathedral in Bangor.
Sharing information
If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Matt Batten by the end of day on Wednesday before you would like it published.