
Y Ddolen
13 Chwefror 2022
Y Trydydd Sul cyn y Grawys
Y Sul hwn, a thrwy gydol yr wythnos nesaf rydym yn gweddïo am:
ein canolbwynt esgobaethol o groesawu plant, pobl ifanc a theuluoedd
Gofynnir am ein gweddïau yn enwedig dros:
- Grŵp Elen - ein rhwydwaith ar gyfer y rhai sy'n gweithio ac yn gwrifoddoli gyda grwpiau plant, pobl ifanc a theuluoedd
- yr ysgolion yn ein hardaloedd
- grwpiau Agor y Llyfr
- gweithgareddau dros yr Wythnos Fawr a'r Pasg

Dyddiadur
14-15 Chwefror
Synodau
14 Chwefror 10am - Meirionydd
14 Chwefror 7pm - Ynys Môn
15 Chwefror 10am - Bangor
Cynhelir y cyfarfodydd ar Zoom. Gellir ymuno trwy glicio ar y linc yma ar ddechrau'r cyfarfod neu gan ddefnyddio'r côd isod
Meeting ID: 868 5823 8482
Passcode: 461221
26 Chwefror
Ordeiniad a Chysegriad Mary Stallard a John Lomas
2.30pm
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
Mae mynediad i'r gwasanaeth taleithiol hwn drwy docyn yn unig. Fods bynnag, bydd y gwasanaeth yn cael ei ffrydio yn fyw. Bydd manylion am wylio yn cael ei rhannu maes o law.
1 Mawrth
Gwasanaeth o Gymun Bendigaid i groesawu Mary Stallard yn Esgob Cynorthwyol Bangor
2.30pm
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor
Mae croeso cynnes i bawb
Ceir derbyniad wedi'r gwasanaeth. I hwyluso cynlluniau a wnewch chi cofrestru eich diddordeb trwy lenwi'r ffurflen ar y tudalen yma os gwelwch yn dda.
5 Mawrth
Lawnsiad Prosiect Llenyddol Llwybr Cadfan Sant
2pm
Eglwys Cadfan Sant, Tywyn
21-22 Mawrth
Grŵp Cadfan
Nant Gwrtheyrn
Nodwch y newid mewn dyddiad fel y cyhoeddwyd ar 23 Ionawr

40 mlynedd o weinidogaeth
Mae Archesgob Cymru ac Esgob Bangor heddiw yn cyhoeddi y bydd yr Hybarch Andy Herrick, Archddiacon Ynys Môn, yn ymddeol ym mis Gorffennaf.
Ordeiniwyd yr Archddiacon yn ddiacon ar 24 Gorffennaf 1982 a bydd wedi bod yn y weinidogaeth ordeiniedig ers 40 mlynedd, gyda’r mwyafrif helaeth ohono yn Esgobaeth Tyddewi. Symudodd Andy i Esgobaeth Bangor 4 blynedd yn ôl pan ddechreuodd ei rôl fel Archddiacon Ynys Môn.
Wrth siarad am ei ymddeoliad dywedodd Andy:
Mae dod i’r gogledd i Esgobaeth Bangor a gwasanaethu fel Archddiacon Ynys Môn am y pedair blynedd diwethaf wedi bod yn bleser ac yn fraint enfawr. Mae gweithio gyda Chyngor yr Esgob a’r tîm Clerigwyr ar draws Ynys Môn wedi bod yn uchafbwyntiau fy 40 mlynedd o weinidogaeth ordeiniedig. Mae pobl Môn, a’r esgobaeth gyfan, wedi bod mor groesawgar a chefnogol. Ni allaf feddwl am ffordd well o fod wedi treulio fy mlynyddoedd olaf yn y weinidogaeth gyflogedig. Rwy’n edrych ymlaen at ddychwelyd i Esgobaeth Tyddewi a dod o hyd i gyfleoedd gweinidogaethu newydd yn ystod fy ymddeoliad yno. Ond gadawaf esgobaeth Bangor gyda diolchgarwch aruthrol ac atgofion hyfryd o fod wedi chwarae rhan fechan yn unig yn y dulliau newydd cyffrous o genhadu ac addoli sydd ar ddod yn y rhan unigryw ac arbennig hon o’r Eglwys yng Nghymru.
Dywed yr Archesgob, sydd wedi adnabod yr Archddiacon yn bersonol ac yn broffesiynol ers blynyddoedd:
Mae Archddiacon Andy wedi bod yn weinidog ffyddlon ac ymroddedig yn eglwys Dduw trwy gydol ei 40 mlynedd o weinidogaeth yn yr Eglwys yng Nghymru. Mae wedi gwasanaethu ei holl weinidogaeth ordeiniedig yn yr Eglwys yng Nghymru. Ar hyd yr amser hwnnw mae wedi tystio i gariad trawsnewidiol Duw yn ei fywyd ei hun, wedi helpu llawer o bobl i ddod i wybod bod cariad tuag at eu hunain ac eraill yn dal i dyfu yn eu ffydd. Ym Mangor, ac yn arbennig Archddiaconiaeth Môn, rydym wedi elwa’n aruthrol o’i brofiad, ei frwdfrydedd a’i ddidwylledd. O’i adnabod yn dda, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd hyd yn oed ar ôl ymddeol yn parhau i fod yn rhan o waith parhaus Duw yn Esgobaeth Tyddewi. Dymunwn bob hapusrwydd iddo ef a Sara a’u sicrhau o’n cariad a’n cefnogaeth barhaus.
Bydd y broses o benodi Archddiacon newydd Ynys Môn yn dechrau yn ystod y Pasg ac yn cael ei harwain ar y cyd gan yr Archesgob ac Esgob Cynorthwyol Bangor.
Bydd Synod Môn yn ymgynnull i addoli ar faes sioe Mona ar gyfer eu dathliad blynyddol ar y cyd ar 19 Mehefin. Bydd yr Archesgob yn ymuno â hwn ac yn dweud diolch yn ffurfiol i’r Archddiacon am ei amser yn yr esgobaeth yn ystod y dathlu.
Dydd Sul olaf Andy yn yr esgobaeth fydd 24 Gorffennaf er y bydd digon o gyfleoedd i gydweithwyr a ffrindiau ffarwelio â fe a Sara dros y misoedd nesaf.

Deon Bro newydd i Archddiaconiaeth Bangor
Mae Archddiacon Bangor, heddiw, yn cyhoeddi bod Archesgob Cymru wedi penodi’r Canon Tracy Jones yn Ddeon Bro ac yn Is-Gadeirydd y Synod yn Archddiaconiaeth Bangor. Bydd Tracy yn cynorthwyo Archddiacon Bangor trwy ddarparu cefnogaeth fugeiliol a chenhadol i Arweinwyr Ardaloedd Gweinidogaeth a chlerigwyr y synod.
Meddai Archddiacon Bangor am yr apwyntiad,
Rwyf wrth fy modd bod Canon Tracy yn fodlon camu i'r rôl hon. Mae hi'n offeiriad gofalgar gyda chalon fugeiliol ddoeth, gweledigaeth gref am genhadaeth a llawer o brofiad yn y gwaith o ddirnad gweinidogaethau. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio’n agosach gyda hi ar draws Synod Bangor.
Yn dilyn ei hordeinio yn 2012 gwasanaethodd Tracy ei churadiaeth yn Archddiaconiaeth Ynys Môn. Yna bu’n Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Padrig cyn symud i Fro Deiniol yn 2018. Roedd ei gweinidogaeth yn canolbwyntio’n bennaf ar ddwy eglwys y ddinas ond yn ystod y cyfyngiadau symud, daeth eglwysi Bro Deiniol ynghyd a dechreuodd Tracy weithio gyda’r tair cynulleidfa, ar-lein a yn bersonol. Yn 2021 daeth yn Ganon ar gyfer Bywyd Cynulleidfaol yn Eglwys Gadeiriol Sant Deiniol, Bangor. Mae Tracy yn briod â Martin ac mae ganddi ddau o blant sydd wedi tyfu i fyny.
Fel rhan o’i gweinidogaeth Gadeiriol i’r Esgobaeth ehangach, bydd Tracy yn gallu cysegru 2 Sul y mis a pheth amser bob wythnos i’w gweinidogaeth yn yr Archddiaconiaeth.
Dywed Siôn Rhys Evans, Is-Ddeon Cadeirlan Deiniol Sant,
Rwy’n falch iawn, yn ogystal â’i dyletswydd fel Canon Preswyl yn y Gadeirlan, y bydd Tracy’n gallu cynnig y gefnogaeth hon i’r Archddiaconiaeth. Bydd Tracy yn gydweithiwr gwerthfawr i’r Archddiacon ym Mangor wrth iddi gymryd y cyfrifoldeb ychwanegol fel Esgob Cynorthwyol. Gwn y bydd yr Archddiaconiaeth ehangach hefyd yn gwerthfawrogi doethineb a diffiantrwydd Tracy, yr ydym yn elwa cymaint ohono yn y Gadeirlan.
Mae’r Archesgob wedi penodi Tracy i olynu’r Parchg Lloyd Jones a fu farw yn anffodus ym mis Rhagfyr 2020.
Bydd Tracy yn cael ei thrwyddedu fel Ddeon Bro ac Is-gadeirydd Synod mewn gwasanaeth Cân Hwyrol ar Ddydd Sul 20 Chwefror am 3.30pm yng Nghadeirlan Sant Deiniol ym Mangor. Estynnir croeso cynnes i bawb.
Aelodau o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru
Ysgirfenna Archesgob Cymru:
Mae gan aelodau’r Gynhadledd Esgobaethol, sy’n pleidleisio drwy urddau, yr awdurdod i ethol dau aelod clerigol a phedwar aelod lleyg i wasanaethu am dymor o dair blynedd (2022-2024) fel aelodau o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru. Yr aelodau hynny y daw eu tymhorau i ben yn 2021, ac sy’n gymwys i gael eu henwebu, yw’r Parchg Ddr Kevin Ellis, Canon Dylan Williams, Selwyn Griffith, Geoffrey Howard, Suzi Stafford a Sandra Ward. Yn dilyn ymddiswyddiad Liz Perkins mae swydd wag y daw’r tymhorau i ben yn 2022 ac mae lle gwag ychwanegol. Mae pwerau a dyletswyddau’r Corff Llywodraethol a’r cymwysterau ar gyfer aelodaeth i’w gweld yma.
Trwy’r cyhoeddiad hwn yn Y Ddolen yr wyf yn gofyn yn ffurfiol am hysbysiad gan unrhyw unigolyn cymwysedig eu bod yn dymuno i’w henw gael ei roi gerbron i’w ethol yn ôl trefn briodol Cynhadledd yr Esgobaeth. Dylai unrhyw un sy’n dymuno rhoi ei enw ymlaen gysylltu â Robert Jones drwy e-bost erbyn 5pm ddydd Sul 27 Chwefror 2022.

Lawnsiad Prosiect Llenyddol Llwybr Cadfan
Rhwng Mawrth 2022 ac Awst 2023, bydd cyfle i ddod i adnabod yr eglwysi a’r cymunedau rhwng Tywyn ac Ynys Enlli ar Lwybr Cadfan Sant, sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd. Trwy gydol yr amser hwn bydd cyfres o ddigwyddiadau llenyddol yn cael eu cynnal mewn lleoliadau arwyddocaol ar hyd y llwybr.
Mae croeso cynnes i chi ymuno â ni am wasanaeth yn Eglwys Cadfan Sant, Tywyn, i lansio prosiect llenyddol Llan ar hyd y llwybr pererindod newydd, Llwybr Cadfan.
Bydd y gwasanaeth yng nghwmni’r beirdd preswyl Siôn Aled a Sian Northey. Bydd cefndir hanesyddol Cadfan yn cael ei gyflwyno gan yr Hybarch Andrew Jones, Archddiacon Meirionydd, ynghyd â chyfraniadau llenyddol a cherddorol gan Manon Steffan Ros, Twm Morys, Aled Lewis Evans, a Carwyn Siddall. Bydd bendith Duw yn cael ei ynganu gan Archesgob Cymru.
Os hoffech ymuno â'r gwasanaeth llenwch y ffurflen yma i archebu eich lle. Edrychwn ymlaen at eich croesawu yno.
Buchedd Bangor
Mae Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor yn cyhoeddi cylchgrawn tymhorol. Mae’r rhifyn diweddaraf yn gydymaith i’r cyfnod o Chwefror hyd y Tridiau Sanctaidd. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd. Gellir darllen Buchedd Bangor trwy glicio ar y llun uchod.
Bedydd Esgob
Yn ystod Gwylnos a Chymun Bendigaid Cyntaf y Pasg ar Gân ar 16 Ebrill am 8pm bydd yr Esgob Cynorthwyol yn conffyrmio ymgeiswyr yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor. Estynnir gwahoddiad i arweinwyr Ardaloedd Gweinidogaeth cysylltu â'r Is-Ddeon i drafod unrhyw ymgeiswyr sydd â ddiddordeb ymuno yn y gwasanaeth.
Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn gweddïo dros:
20 Chwefror
Ein canolbwynt esgobaethol o feithrin disgyblion
27 Chwefror
Ein canolbwynt esgobaethol o dyfu gweinidogaethau newydd
Dyddiadau eraill yn 2022
Cymun y Crism
11 Ebrill - 11am yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Gwasanaeth Ordeinio
25 Mehefin - 11am yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Cynhadledd Clerigion
12 i 15 Medi yn Rhydychen
Cynhadledd yr Esgobaeth
1 Hydref - 2pm yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Y Ddolen ac hysbysiadau esgobaethol eraill
Y Ddolen
13 February 2022
Third Sunday before Lent
This Sunday and through the week we pray for:
our diocesan priority of welcoming children, young people and families
Our prayers are asked in particular for:
- Grŵp Elen - our network for those who work with and volunteer at children's, young people's and families' groups
- the schools in our areas
- Open the Book groups
- activities during Holy Week and Easter

Diary
14-15 February
Synods
14 February 10am - Meirionydd
14 February 7pm - Anglesey
15 February 10am - Bangor
The meetings will be held on Zoom. You can access the meeting by clicking here at the start of the meeting or by using the codes below
Meeting ID: 868 5823 8482
Passcode: 461221
26 February
Ordination and consecration of Mary Stallard and John Lomas
2.30pm
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor
This provincial service is a ticketed event. This event will, however be Live Streamed. Details of how to watch will be shared over the coming days.
1 March
Service of Holy Eucharist to welcome Mary Stallard as Assistant Bishop of Bangor
2.30pm
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor
All are welcome
A reception follows the service. To help preparations please register your interest in attending the service here. Thank you.
5 March
Launch of the Literary project of Cadfan's Way
2pm
Saint Cadfan's Church, Tywyn
21-22 March
Grŵp Cadfan
Nant Gwrtheyrn
Please note the change in date as announced on 23 January

40 years of ministry
The Archbishop of Wales and Bishop of Bangor is today announcing that the Venerable Andy Herrick, Archdeacon of Anglesey, will be retiring in July.
Archdeacon Andy was ordained deacon on 24 July 1982 and will have been in ordained ministry for 40 years, the vast majority of which was in the Diocese of St David’s. Andy moved to the Diocese of Bangor 4 years ago when he began his role as Archdeacon of Anglesey.
Speaking about his retirement Andy says:
Coming north to the Diocese of Bangor and serving as Archdeacon of Anglesey for the past four years has been a delight and a huge privilege. Working with the Bishop’s Council and the Clergy team across Anglesey have been highlights of my 40 years of ordained ministry. The people of Anglesey, and the whole diocese, have been so welcoming and supportive. I can’t think of a better way to have spent my final years in paid ministry. I am looking forward to returning to the Diocese of St David’s and finding new ministry opportunities during my retirement there. But I shall leave Bangor diocese with enormous gratitude and wonderful memories of having played just a small part in the exciting new ways of mission and worship that are coming to be in this unique and special part of the Church in Wales.
The Archbishop, who has known the Archdeacon both personally and professionally for many years says:
Archdeacon Andy has been a faithful and dedicated minister in God’s church throughout his 40 years of ministry in the Church in Wales. He has served all his ordained ministry in the Church in Wales. Throughout that time he has borne witness to God’s transforming love in his own life, has helped many people to come to know that love for themselves and countless others still to grow in their faith. In Bangor, and particularly the Archdeaconry of Anglesey, we have benefitted enormously from his experience, enthusiasm and integrity. Knowing him well, I have no doubt that even in retirement he will continue to be part of God’s ongoing work in the Diocese of St David’s. We wish him and Sara every happiness and assure them of our ongoing love and support.
The process to appoint a new Archdeacon of Anglesey will begin during Eastertide and will be led jointly by the Archbishop and the Assistant Bishop of Bangor.
Anglesey Synod will be gathering together for worship at Mona showground for their annual joint celebration on 19 June. The Archbishop will be joining this and will say a formal thank you to the Archdeacon for his time in the diocese during the celebration.
Andy’s final Sunday in the diocese will be 24 July though there will be plenty of opportunities for colleagues and friends to say farewell over the coming months.

A new Area Dean for the Archdeaconry of Bangor
The Archdeacon of Bangor is, today, announcing that the Archbishop of Wales has appointed Canon Tracy Jones as Area Dean and Synod Vice Chair in the Archdeaconry of Bangor. Tracy will be assisting the Archdeacon of Bangor through providing pastoral and missional support to the Ministry Area Leaders and clergy of the synod.
Speaking of the appointment the Archdeacon of Bangor says,
I am so delighted that Canon Tracy is willing to step into this role. She is a caring priest with a wise pastoral heart, a strong vision for mission and much experience in the work of discernment of ministries. I am really looking forward to working more closely with her across Bangor Synod.
Following her ordination in 2012 Tracy served her curacy in the Archdeaconry of Anglesey. She then becmae Ministry Area Leader of Bro Padrig before moving to Bro Deiniol in 2018. Her ministry was primarily focused on the two city churches but during lockdown, the churches of Bro Deiniol came together and Tracy began working with all three congregations, both online and in person. In 2021 she became Canon for Congregational Life in Saint Deiniol's Cathedral, Bangor. Tracy is married to Martin and has two grown up children.
As part of her Cathedral ministry to the wider Diocese, Tracy will be able to dedicate 2 Sundays a month and some time each week to her ministry in the Archdeaconry.
Siôn Rhys Evans, the Sub-Dean of Saint Deiniol’s Cathedral says,
I am very glad that in addition to her duty as Residentiary Canon at the Cathedral Tracy will be able to offer this support to the Archdeaconry. Tracy will be a valued colleague of the Archdeacon on Bangor as she takes on the additional responsibility as Assistant Bishop. I know that Tracy’s gentle wisdom and unflappability, from which we benefit so much at the Cathedral, will also be greatly appreciated within the broader Archdeaconry.
The Archbishop has appointed Tracy to succeed the Revd Lloyd Jones who sadly passed away in December 2020.
Tracy will be licensed as Area Dean and Synod Vice Chair at a service of Choral Evensong on Sunday 20 February at 3.30pm in Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor. A warm welcome is extended to all.
Members of the Governing Body of the Church in Wales
The Archbishop of Wales writes:
The members of the Diocesan Conference, voting by orders, are empowered to elect two clerical members and four lay members to serve a three-year term (2022-2024) as members of the Governing Body of the Church in Wales. Those members whose terms end in 2021, and who are eligible for renomination, are the Revd Dr Kevin Ellis, Canon Dylan Williams, Selwyn Griffith, Geoffrey Howard, Suzi Stafford and Sandra Ward. Following the resignation of Liz Perkins there is a vacancy which terms end in 2022 and there is an additional lay vacancy. The powers and duties of the Governing Body and the qualifications for membership can be found here.
By means of this announcement in Y Ddolen I am formally requesting notification from any suitably qualified individual that they wish their name to be put forward for election by the appropriate order of the Diocesan Conference. Anybody wishing to put their name forward should contact Robert Jones by email by 5pm on Sunday 27 February 2022.

Cadfan's Way Literature project
Between March 2022 and August 2023, there will be an opportunity to get to know the churches and communities between Tywyn and Bardsey Island on Saint Cadfan's Trail which is currently being developed. Throughout this time there will be a series of literary events held at significant locations along the route.
You are warmly invited to join us for a service at Saint Cadfan's Church, Tywyn, to launch Llan's literary project set along the new pilgrimage route, Llwybr Cadfan (Cadfan's Trail).
The service will be in the company of the resident poets Siôn Aled and Sian Northey. The historical background of Cadfan will be presented by the Venerable Andrew Jones, Archdeacon of Meirionydd, along with literary and musical contributions by Manon Steffan Ros, Twm Morys, Aled Lewis Evans, and Carwyn Siddall. God's blessing will be pronounced by the Archbishop of Wales.
If you wish to join the service please fill this form below to book your place. We look forward to welcoming you there.
Buchedd Bangor
Saint Deiniol's Cathedral in Bangor publish a termly magazine. This second edition is a companion to the period from February until the Sacred Triduum. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.
To read the magazine click on the image above.
Confirmation
During the Choral Vigil and First Holy Eucharist of Easter on 16 April at 8pm the Assistant Bishop will be confirming candidates at Saint Deiniol's Cathedral in Bangor. Ministry Area Leaders from across the diocese are warmly invited to contact the Sub-Dean to discuss any candidates who may wish to join the service.
Over the next few weeks we will be praying for:
20 February
Our diocesan priority of nurturing disciples
27 February
Our diocesan priority of growing new ministries
Other dates in 2022
Chrism Eucharist
11 April - 11am in Saint Deiniol's Cathedral
Ordination Service
25 June - 11am in Saint Deiniol's Cathedral
Clergy Conference
12 to 15 September in Oxford
Diocesan Conference
1 October - 2pm in Saint Deiniol's Cathedral