
Y Ddolen
19 Medi 2021
Yr Unfed Sul ar Bymtheg wedi'r Drindod
Yn ein gweddïau y Sul hwn a thrwy gydol yr wythnos nesaf rydym yn cofio:
Ardal Weinidogaeth
Bro Ardudwy
Y rhai sy’n gwasanaethu yno:
- y Parchg Tony Hodges (Arweinydd Ardal Weinidogaeth)
- y Parchg Pam Odam
- Canon Tony Beacon
- Canon Stephanie Beacon
- y Parchg Linda Baily
- y Parchg Dominic Mc Clean
Cofiwn yn enwedig am:
- y grŵp Eiddo a Chyllid
- y tîm cynllunio gweledigaeth
- yr adegau anodd wrth iddynt ystyried cau adeiladau
- y Cynllun Cenhadaeth

Dyddiadur
26 Medi
Gwasanaeth i ddathlu gweinidogaethau newydd yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Yn yr oedfa Gosber hon yn y Gadeirlan, bydd y Cyfarwyddwr Cerdd, Gweinidog Teulu a'r Is-Ddeon newydd yn cael eu trwyddedu, a bydd Canoniaid newydd yn cael eu gosod, ochr yn ochr â Chlerc newydd y Cabidwl, a'r Cofrestrydd Esgobaethol a'r Dirprwy Gofrestrydd a benodwyd yn ddiweddar.
27 Medi
Cynhadledd yr Esgobaeth ar Zoom
Ceir dogfennaeth newydd ar gyfer y cyfarfod wrth ddilyn y ddolen.
2 Hydref
Cynhadledd yr Esgobaeth yn y Gadeirlan
Mae aelodaeth ffurfiol Cynhadledd yr Esgobaeth i gynnwys tri chynrychiolydd lleyg o bob Ardal Weinidogaeth, hyd at dri gweinidog lleyg trwyddedig o bob Ardal Weinidogaeth, a phob clerig trwyddedig. Fodd bynnag, mae croeso cynnes i unrhyw aelod yng nghymundeb yr esgobaeth fynychu. | Ceir dogfennaeth newydd ar gyfer y cyfarfod wrth ddilyn y ddolen.

Cynhadledd Glerigol
Cynhaliwyd Cynhadledd Glerigol eleni yr wythnos ddiwethaf hon - yn rhannol yn gorfforol yn Llandudno, ac yn rhannol ar Zoom. Rydym yn ddiolchgar i'r tîm yn Ardal Weinidogaeth Bro Tudno am eu croeso yn Eglwys y Drindod Sanctaidd.
Yn ei anerchiad i Gynhadledd Glerigol eleni fe ofynnodd yr Esgob,
"Mewn gwirionedd, mae angen i ni ymdrin â'r hyn y mae ein haddoliad yn ei gynnwys eleni. Nid wyf yn credu ei bod yn gynaliadwy nac yn iach inni gynnig y pecyn blaenorol o wasanaethau sydd bron yn union yr un fath ar draws Ardal y Weinyddiaeth. Rwyf yn rhoi caniatâd ac yn annog cydweithwyr i weithredu (er eich mwyn eich hun yn ogystal â lles yr eglwys) ac i ganolbwyntio ar yr hyn sy'n rhoi bywyd mewn gwirionedd a'r hyn sy'n gynaliadwy. Sut gall addoli flodeuo yn lle'r ydych chi?"
Gellir dod o hyd i'r sgript llawn ar safle 'blog' yr Esgob yma.
Gellir hefyd lawrlwytho llawlyfr y gynhadledd yma.

Coed am ddim
Mae Coed Cadw am weld coed a mannau gwyrdd yn agos ac fewn cyrraedd pawb, ac i'r perwyl hwnnw, am roi cyfle i bawb yng Nghymru blannu coeden.
Mae angen miliynau yn fwy o goed ar y DU i gyrraedd ei tharged carbon-sero erbyn 2050. Gan fod gan eglwysi ddigonedd o dir sy'n hygyrch i'r cyhoedd, dyma'r lle perffaith i ddechrau. Y newyddion da yw, mae hi'n hawdd i bawb gymryd rhan. Er mwyn darganfod mwy ewch at wefan yr Egwlys yng Nghymru.
Dyddiadau 2022
Synodau
Meirionydd - Dydd Llun
10am 14 Chwefror, 27 Mehefin, 10 Hydref
Ynys Môn - Dydd Llun 7pm
14 Chwefror, 27 Mehefin, 10 Hydref
Bangor - Dydd Mawrth 10am
15 Chwefror, 28 Mehefin, 11 Hydref
Grŵp Cadfan
Yn Nant Gwrtheyrn - Amser cinio i amser cinio
28 a 29 Mawrth
1 a 2 Rhagfyr
Cynhadledd Clerigion
12 i 15 Medi yn Rhydychen
Cymun y Crism
11 Ebrill - 11am yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Gwasanaeth Ordeinio
25 Mehefin - 11am yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Cynhadledd yr Esgobaeth
1 Hydref - 2pm yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Y Ddolen ac hysbysiadau esgobaethol eraill
Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Y Ddolen
19 September 2021
The Sixteenth Sunday after Trinity
In our prayers this Sunday and through the week we remember:
the Ministry Area of Bro Ardudwy
Those who serve there:
- the Revd Tony Hodges (Ministry Area Leader)
- the Revd Pam Odam
- Canon Tony Beacon
- Canon Stephanie Beacon
- the Revd Linda Baily
- the Revd Dominic McClean
In particular we remember:
- the Property and Finance Group
- the Vision planning team
- the difficult times ahead as they consider the closure of buildings
- the Mission Plan

Diary
26 September
A service to celebrate the new ministries at Saint Deiniol's Cathedral
At this service of Evening Prayer at the Cathedral, the new Director of Music, Family Minister and Sub-Dean will be licensed, and new Canons will also be installed, alongside the new Chapter Clerk and the recently appointed Diocesan Registrar and Deputy Registrar.
27 September
Diocesan Conference on Zoom
New documentation for the meeting is available from following the link.
2 October
Diocesan Conference at the Cathedral
The formal membership of the Diocesan Conference includes three lay representatives from each Ministry Area, up to three licensed lay ministers from each Ministry Area, and all licensed clerics. However, there is a warm welcome for any communicant member of the diocese to attend. | New documentation for the meeting is available from following the link.

Clergy Conference
This year's Clergy Conference took place this past week - in part in-person in Llandudno, and in part on Zoom. We are grateful to the team in the minsitry Area of Bro Tudno for their welcome at Holy Trinity.
During his address at this year's Clergy Conference the Bishop asked,
"We do, in truth, need to attend to what our worship consists of this year. I do not believe it is either sustainable or healthy for us to offer the previous package of virtually identical services across the Ministry Area. I want to offer both my permission and urge action (for your own sake as well as for the church) to focus on what is really life giving and what is sustainable. How can worship flourish where you are?"
The full text of the address can be found here.
You can also download the conference handbook here.

Free trees
Coed Cadw wants to see trees and green spaces close to everyone, and to that end, wants to give everybody in Wales the chance to plant a tree.
The UK needs millions more trees to reach its carbon net-zero target by 2050. And as churches often have plenty of publicly accessible land, they are the perfect place to start. The good news is, it couldn’t be easier to get involved.
For more information go to the website of the Church in Wales
Dates 2022
Synods
Meirionydd - Monday 10am
14 February, 27 June, 10 October
Anglesey - Monday 7pm 14
February, 27 June, 10 October
Bangor - Tuesday 10am
15 February, 28 June, 11 October
Grŵp Cadfan
At Nant Gwrtheyrn - Lunch time to lunch time
28 - 29 March
1 - 2 December
Clergy Conference
12 to 15 September in Oxford
Chrism Eucharist
11 April - 11am in Saint Deiniol's Cathedral
Ordination Service
25 June - 11am in Saint Deiniol's Cathedral
Diocesan Conference
1 October - 2pm in Saint Deiniol's Cathedral
Subscribe to receive email notification of Y Ddolen and other diocesan announcements
Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.